Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 1 Hydref 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys—

(a)i geisiadau am ganiatâd cynllunio y tybir iddynt gael eu gwneud yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf 1990 (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi)(1), mewn cysylltiad â hysbysiad gorfodi a ddyroddir ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym; a

(b)i’r ceisiadau a’r ymweliadau safle canlynol a wneir ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(i)ceisiadau am ganiatâd cynllunio;

(ii)ceisiadau am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl(2);

(iii)ceisiadau o dan adran 191 o Ddeddf 1990 (tystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol)(3);

(iv)ceisiadau o dan adran 192 o Ddeddf 1990 (tystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad arfaethedig)(4);

(v)ceisiadau am ganiatâd i arddangos hysbysebion;

(vi)ceisiadau o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir, y cyfeirir atynt yn rheoliad 13;

(vii)ymweliadau safle â safle mwyngloddio neu safle tirlenwi;

(viii)ceisiadau o dan amod cynllunio; a

(ix)ceisiadau o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio)(5).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “caniatâd cynllunio amlinellol” (“outline planning permission”) yr un ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu;

ystyr “caniatâd mwynau” (“mineral permission”) yw unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n cynnwys—

(a)

cloddio a gweithio mwynau; neu

(b)

gollwng gwastraff mwynau;

ystyr “caniatâd tirlenwi” (“landfill permission”) yw unrhyw ganiatâd cynllunio—

(a)

ar gyfer datblygiad gweithredol tir y bwriedir ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel safle i waredu gwastraff drwy ollwng gwastraff ar y tir neu i mewn ynddo, neu

(b)

ar gyfer unrhyw newid defnydd sylweddol o safle o’r fath;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

mae “defnydd o dir” (“use of land”) yn cynnwys defnyddio tir ar gyfer cloddio a gweithio mwynau;

ystyr “y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir” (“the General Permitted Development Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(6);

ystyr “y Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu” (“the Development Management Procedure Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(7);

ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989(8);

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(9);

ystyr “safle mwyngloddio” (“mining site”) yw—

(a)

cyfanswm arwynebedd y tir y mae unrhyw ddau neu ragor o ganiatadau mwynau yn ymwneud ag ef pan fo cyfanswm arwynebedd y tir—

(i)

yn cael ei weithio fel safle sengl; neu

(ii)

yn cael ei drin fel safle sengl gan yr awdurdod cynllunio lleol at ddibenion Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (adolygu hen ganiatadau cynllunio mwynau)(10) neu Atodlen 14 i’r Ddeddf honno (adolygu yn gyfnodol hen ganiatadau cynllunio mwynau)(11); a

(b)

mewn unrhyw achos arall, y tir y mae caniatâd mwynau yn ymwneud ag ef;

ystyr “safle tirlenwi” (“landfill site”) yw’r tir y mae caniatâd tirlenwi yn ymwneud ag ef;

ystyr “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yw adeilad(12) a ddefnyddir fel tŷ annedd preifat sengl ac nas defnyddir ar gyfer unrhyw ddiben arall;

ystyr “tŷ gwydr” (“glasshouse”) yw adeilad—

(a)

sydd â dim llai na thri chwarter cyfanswm ei arwynebedd allanol yn cynnwys gwydr neu ddeunydd tryleu arall;

(b)

wedi ei gynllunio at y diben o gynhyrchu blodau, ffrwythau, llysiau, perlysiau neu gynhyrchion garddwriaethol eraill; ac

(c)

a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio, at ddibenion amaethyddiaeth yn unig;

ystyr “ymweliad safle” (“site visit”) yw awdurdod cynllunio lleol yn mynd i mewn i safle mwynau neu safle tirlenwi er mwyn—

(a)

canfod a oes unrhyw doriad rheolaeth gynllunio yn digwydd neu wedi digwydd ar y safle;

(b)

penderfynu a ddylid arfer, mewn perthynas â’r safle, unrhyw bwerau a roddwyd i’r awdurdod cynllunio lleol gan Ran 7 o Ddeddf 1990 (gorfodi)(13);

(c)

penderfynu sut y dylid arfer unrhyw bŵer o’r fath mewn perthynas â’r safle hwnnw; neu

(d)

canfod a fu unrhyw gydymffurfiad ag unrhyw ofyniad a osodwyd o ganlyniad i arfer unrhyw bŵer o’r fath mewn perthynas â’r safle.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn rheoliad 12 ac Atodlen 2, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn Rheoliadau 1992, yr ystyron a roddir i’r cyfystyron Saesneg hynny yn Rheoliadau 1992.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at awdurdod cynllunio lleol yn gyfeiriadau at awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru.

Ffioedd am geisiadau cynllunio

3.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 4 i 8, pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu tir neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw.

(2Cyfrifir y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais yn unol ag Atodlen 1.

(3Pan fo ffi’n daladwy mewn cysylltiad â chais, rhaid talu’r ffi i’r awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo, a rhaid ei chyflwyno ynghyd â’r cais.

(4Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â pharagraffau (1) i (3) yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid i’r awdurdod sy’n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(5Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais ar y sail ei fod yn annilys.

Eithriadau – mynediad a chyfleusterau ar gyfer personau anabl

4.—(1Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo fod y cais yn ymwneud yn unig ag—

(a)cyflawni gweithrediadau i addasu neu estyn tŷ annedd presennol; neu

(b)cyflawni gweithrediadau o fewn cwrtil tŷ annedd presennol (ac eithrio codi tŷ annedd),

at y diben, yn y naill achos a’r llall, o ddarparu mynedfa i’r tŷ annedd, neu oddi mewn i’r tŷ annedd, ar gyfer person anabl sy’n preswylio neu’n bwriadu preswylio yn y tŷ annedd hwnnw, neu o ddarparu cyfleusterau a fwriadwyd i sicrhau gwell diogelwch, iechyd neu gysur i’r person hwnnw.

(2Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo fod y cais yn ymwneud yn unig â chyflawni gweithrediadau at y diben o ddarparu mynedfa ar gyfer personau anabl i adeilad neu fangre y derbynnir aelodau’r cyhoedd iddynt (pa un ai am dâl ai peidio), neu oddi mewn i adeilad neu fangre o’r fath.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn anabl—

(a)os oes nam sylweddol ar olwg, clyw neu leferydd y person hwnnw;

(b)os oes gan y person hwnnw anhwylder meddyliol; neu

(c)os gwnaed y person hwnnw yn sylweddol anabl yn gorfforol gan unrhyw salwch, unrhyw nam a oedd yn bresennol o’i enedigaeth, neu rywfodd arall.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “anhwylder meddyliol” (“mental disorder”) yw unrhyw anhwylder neu anabledd y meddwl.

Eithriadau – pan nad yw caniatâd a roddir gan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn gymwys

5.—(1Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol—

(a)bod y cais yn ymwneud yn unig â datblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir(14); a

(b)nad yw’r caniatâd a roddir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwnnw (datblygu a ganiateir)(15) yn gymwys mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw oherwydd (ac yn unig oherwydd)—

(i)cyfarwyddyd a wnaed o dan erthygl 4 o’r Gorchymyn hwnnw (cyfarwyddiadau sy’n cyfyngu ar ddatblygu a ganiateir)(16) sydd mewn grym ar y dyddiad y gwnaed y cais; neu

(ii)gofynion amod a osodwyd ar ganiatâd a roddwyd, neu y tybir iddo gael ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 (rheolaeth dros ddatblygu)(17) rywfodd ac eithrio gan y Gorchymyn hwnnw.

(2Rhaid dehongli ceisiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) fel pe baent yn cynnwys ceisiadau am ganiatâd cynllunio i barhau’r defnydd o dir, neu gadw adeiladau neu weithfeydd, heb gydymffurfio ag amod y rhoddwyd caniatâd cynllunio blaenorol yn ddarostyngedig iddo, pan fo’r amod hwnnw’n gwahardd neu’n cyfyngu ar gyflawni unrhyw ddatblygiad o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir.

Eithriadau – cais mewn perthynas â’r un dosbarth defnydd yn angenrheidiol oherwydd amod

6.  Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol—

(a)bod y cais yn ymwneud yn unig â’r defnydd o adeilad, neu dir arall, at ddiben o unrhyw ddosbarth a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987(18);

(b)bod defnydd presennol yr adeilad neu’r tir arall hwnnw at ddiben arall o’r un dosbarth; ac

(c)bod gwneud cais am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â’r defnydd y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn angenrheidiol oherwydd (ac yn unig oherwydd) gofynion amod a osodwyd ar ganiatâd a roddwyd, neu y tybir iddo gael ei roi, o dan Ran 3 o Ddeddf 1990.

Eithriadau – cydgrynhoi caniatadau mwynau sy’n bodoli eisoes

7.  Nid yw rheoliad 3 yn gymwys mewn perthynas â chais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd i gyflawni datblygiad sy’n cynnwys cloddio a gweithio mwynau—

(a)pan fo’r cais am ganiatâd sy’n cydgrynhoi dau neu ragor o ganiatadau sy’n bodoli eisoes; a

(b)pan nad yw’r cais yn ceisio cael caniatâd ar gyfer datblygiad nas awdurdodir gan ganiatâd sy’n bodoli eisoes.

Esemptiadau – cais sy’n dilyn tynnu’n ôl gais cynharach neu wrthod caniatâd cynllunio etc.

8.—(1Pan fodlonir yr holl amodau a nodir ym mharagraff (2), nid yw rheoliad 3 yn gymwys i’r canlynol—

(a)cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn dilyn tynnu’n ôl (cyn dyroddi hysbysiad o benderfyniad) gais dilys am ganiatâd cynllunio a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd;

(b)cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn dilyn gwrthod caniatâd cynllunio (pa un ai gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, neu’n dilyn cyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru i’w benderfynu) ar gyfer cais dilys am ganiatâd cynllunio a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd;

(c)cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn dilyn apêl a wnaed i Weinidogion Cymru o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990(19) mewn perthynas â chais dilys am ganiatâd cynllunio a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd;

(d)cais am gymeradwyaeth ar gyfer un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl, a wneir yn dilyn tynnu’n ôl (cyn dyroddi hysbysiad o benderfyniad) gais dilys a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd am gymeradwyaeth ar gyfer yr un materion a gadwyd yn ôl mewn perthynas â’r un caniatâd cynllunio amlinellol;

(e)cais am gymeradwyaeth ar gyfer un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl, a wneir yn dilyn gwrthod cymeradwyaeth (pa un ai gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl) ar gyfer yr un materion a gadwyd yn ôl, a gyflwynwyd mewn cais dilys, a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd ac mewn perthynas â’r un caniatâd cynllunio amlinellol; neu

(f)cais am gymeradwyaeth ar gyfer un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl, a wneir yn dilyn apêl a wnaed i Weinidogion Cymru o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais dilys a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd am gymeradwyaeth ar gyfer yr un materion a gadwyd yn ôl mewn perthynas â’r un caniatâd cynllunio amlinellol.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)bod y cais wedi ei wneud o fewn 12 mis ar ôl—

(i)yn achos cais dilys cynharach a dynnwyd yn ôl, y dyddiad y cafwyd y cais hwnnw;

(ii)yn achos cais a wneir yn dilyn apêl a wnaed o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990, y dyddiad (yn rhinwedd erthygl 22 neu 23 o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu, yn ôl y digwydd) y daeth y cyfnod i ben ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad ar y cais dilys cynharach; neu

(iii)mewn unrhyw achos arall, dyddiad y gwrthodiad;

(b)bod y cais—

(i)yn achos cais am ganiatâd cynllunio, yn ymwneud â’r un safle ag yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef, neu â rhan o’r safle hwnnw, ac nid ag unrhyw dir arall ac eithrio tir a gynhwysir yn unig at y diben o ddarparu mynedfa wahanol i’r safle; neu

(ii)yn achos cais am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, yn ymwneud â’r un safle ag yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef, neu â rhan o’r safle hwnnw, (ac nid ag unrhyw dir arall);

(c)yn achos cais am ganiatâd cynllunio, y bodlonwyd yr awdurdod cynllunio lleol fod y cais yn ymwneud â datblygiad o’r un cymeriad neu ddisgrifiad â’r datblygiad yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef ( ac nid ag unrhyw ddatblygiad arall);

(d)yn achos cais am ganiatâd cynllunio nas gwneir mewn amlinell, nad oedd y cais cynharach ychwaith wedi ei wneud mewn amlinell;

(e)bod y ffi a oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais cynharach wedi ei thalu; ac

(f)nad oes unrhyw gais a wnaed gan neu ar ran y ceisydd, mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw ran o’r safle, wedi ei esemptio o reoliad 3 eisoes gan y rheoliad hwn.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “cais dilys” (“valid application”) yr un ystyr a roddir iddo yn erthygl 22(3) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

Ad-dalu ffioedd mewn perthynas â cheisiadau nas penderfynir o fewn cyfnodau penodedig

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid ad-dalu i’r ceisydd unrhyw ffi a delir gan y ceisydd mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, os digwydd i’r awdurdod cynllunio lleol fethu â phenderfynu’r cais o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraff (2).

(2Y cyfnodau penodedig yw—

(a)pan fo cais am ganiatâd cynllunio yn ymwneud â chategori o ddatblygiad sy’n dod o fewn categori 6 neu 7 yn y tabl a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1, 8 wythnos;

(b)mewn unrhyw achos arall, 16 wythnos.

(3Mae’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) yn dechrau pan ddaw’r cyfnod i ben, ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad ar y cais, a bennir yn erthygl 22(2) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru)(20) mewn perthynas â’r cais cyn bo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) wedi dod i ben;

(b)pan fo’r ceisydd wedi apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990 cyn bo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) wedi dod i ben; neu

(c)pan fo unrhyw berson a dramgwyddir gan unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r cais wedi gwneud cais i’r Uchel Lys cyn bo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) wedi dod i ben.

Ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau tybiedig

10.—(1Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “apelydd” (“appellant”) yw’r person sydd wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad gorfodi perthnasol;

(b)ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw’r awdurdod cynllunio lleol a ddyroddodd yr hysbysiad gorfodi; ac

(c)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y gwneir yr apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (8) a (9), pan dybir bod cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf 1990 (“cais tybiedig”), rhaid talu ffi i’r awdurdod perthnasol.

(3Nid oes ffi’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â chais tybiedig ac eithrio os fyddai ffi wedi bod yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn am gais am ganiatâd cynllunio a wnaed i’r awdurdod perthnasol ar y dyddiad perthnasol mewn cysylltiad â’r materion y datgenir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio.

(4Swm y ffi yw dwywaith y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy i’r awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â chais fel y disgrifir ym mharagraff (3).

(5Rhaid talu’r ffi mewn cysylltiad â’r cais tybiedig gan bob person sydd wedi gwneud apêl ddilys yn erbyn yr hysbysiad gorfodi ac nad yw ei apêl wedi ei thynnu’n ôl cyn y dyddiad y dyroddir hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (7).

(6Rhaid talu’r ffi i’r awdurdod perthnasol.

(7Rhaid talu’r ffi ar y cyfryw amser y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu yn yr achos penodol, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r apelydd.

(8Mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn gymwys i gais tybiedig, fel y maent yn gymwys i gais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol, gydag addasiadau fel a ganlyn—

(a)rhaid dehongli cyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a

(b)rhaid dehongli cyfeiriadau at y datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef fel cyfeiriadau at y defnydd o dir neu’r gweithrediadau y mae’r hysbysiad gorfodi perthnasol yn ymwneud ag ef.

(9Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r apelydd—

(a)cyn y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad gorfodi perthnasol, wedi gwneud cais i’r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ac wedi talu i’r awdurdod y ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais hwnnw; neu

(b)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gorfodi perthnasol fel y dyddiad y mae’r hysbysiad i gael effaith, wedi gwneud apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn gwrthodiad yr awdurdod cynllunio lleol i roi caniatâd o’r fath,

ac nad oedd y cais hwnnw wedi ei benderfynu neu, yn achos apêl, yr apêl honno wedi ei phenderfynu, ar y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad gorfodi perthnasol.

(10Rhaid ad-dalu i’r apelydd unrhyw ffi a dalwyd ganddo mewn cysylltiad â’r cais tybiedig os digwydd—

(a)bod Gweinidogion Cymru—

(i)yn gwrthod awdurdodaeth ar yr apêl berthnasol o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi)(21) ar y sail nad yw’n cydymffurfio ag un neu ragor o ofynion is-adrannau (1) i (3) o’r adran honno;

(ii)yn gwrthod yr apêl berthnasol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 176(3)(a) o Ddeddf 1990 ar y sail bod yr apelydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 174(4) o Ddeddf 1990 o fewn y cyfnod rhagnodedig; neu

(iii)yn caniatáu’r apêl berthnasol ac yn diddymu’r hysbysiad gorfodi perthnasol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 176(3)(b) o Ddeddf 1990;

(b)bod yr apêl berthnasol yn cael ei thynnu’n ôl o dan adran 174 o Ddeddf 1990, fel bod cyfnod o 21 diwrnod, o leiaf, rhwng y dyddiad y tynnwyd yr apêl yn ôl ac—

(i)y dyddiad (neu, os bu gohirio, y dyddiad diweddaraf) a bennwyd ar gyfer cynnal ymchwiliad i’r apêl honno; neu

(ii)yn achos apêl yr ymdrinnir â hi ar sail sylwadau ysgrifenedig, y dyddiad (neu, os bu gohirio, y dyddiad diweddaraf) a bennwyd ar gyfer arolygu’r safle y mae’r hysbysiad gorfodi’n ymwneud ag ef; neu

(c)bod yr awdurdod perthnasol yn tynnu’r hysbysiad gorfodi perthnasol yn ôl cyn iddo gael effaith, neu Weinidogion Cymru yn penderfynu bod yr hysbysiad gorfodi yn ddi-rym.

(11At ddibenion paragraff (10)(b) trinnir apêl fel pe bai wedi ei thynnu’n ôl ar y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad ysgrifenedig o dynnu’r apêl yn ôl.

(12Ac eithrio wrth benderfynu apêl pan fo Gweinidogion Cymru yn dyroddi tystysgrif o dan adran 191 o Ddeddf 1990 (tystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol)(22) yn unol ag adran 177(1)(c) o’r Ddeddf honno(23), rhaid ad-dalu i’r apelydd y ffi a dalwyd ganddo mewn cysylltiad â chais tybiedig os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi perthnasol ar—

(a)seiliau a nodir yn adran 174(2)(b) i (f) o Ddeddf 1990; neu

(b)y sail fod yr hysbysiad yn annilys, neu ei fod yn cynnwys diffyg, gwall neu gamddisgrifiad na ellir ei gywiro yn unol â phwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 176(1) o Ddeddf 1990(24).

(13Rhaid ad-dalu i’r apelydd hanner y ffi a dalwyd gan yr apelydd mewn cysylltiad â chais tybiedig os digwydd i Weinidogion Cymru ganiatáu’r apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi perthnasol ar y sail a nodir yn adran 174(2)(a) o Ddeddf 1990.

(14Yn achos cais tybiedig—

(a)pan amrywir hysbysiad gorfodi o dan adran 176(1) o Ddeddf 1990 rywfodd ac eithrio er mwyn cymryd i ystyriaeth caniatâd cynllunio a roddir o dan adran 177(1) o Ddeddf 1990; a

(b)pan fyddai’r ffi a gyfrifwyd yn unol â pharagraffau (3) a (4) wedi bod yn swm llai pe bai’r hysbysiad gwreiddiol wedi bod yn nhermau’r hysbysiad amrywiedig,

y ffi sy’n daladwy yw’r swm lleiaf hwnnw, a rhaid ad-dalu unrhyw swm dros ben a dalwyd eisoes.

(15Wrth benderfynu ffi o dan baragraff (14) ni chymerir i ystyriaeth unrhyw newid mewn ffioedd sy’n cael effaith ar ôl gwneud y cais tybiedig.

Ffioedd am geisiadau am dystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol o dan adran 191 neu 192 o Ddeddf 1990, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol fod y cais yn ymwneud yn unig â chyflawni gweithrediadau a bennir yn rheoliad 4 at y dibenion a bennir yn y rheoliad hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (9) y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo yw—

(a)yn achos cais o dan adran 191(1)(a) neu (b) (neu o dan y ddau baragraff), y swm a fyddai’n daladwy mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio i sefydlu’r defnydd neu gyflawni’r gweithrediadau a bennir yn y cais (neu gais am wneud y ddau beth, yn ôl y digwydd);

(b)yn achos cais o dan adran 191(1)(c), £190;

(c)yn achos cais o dan adran 192(1)(a) neu (b) (neu o dan y ddau baragraff), hanner y swm a fyddai’n daladwy mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio i sefydlu’r defnydd neu gyflawni’r gweithrediadau a bennir yn y cais (neu gais am wneud y ddau beth, yn ôl y digwydd).

(4Pan fodlonir pob un o’r amodau a nodir ym mharagraff (5), nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)cais o dan adran 191 neu 192 a wneir—

(i)yn dilyn tynnu cais dilys yn ôl (cyn dyroddi hysbysiad o benderfyniad), a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd;

(ii)yn dilyn gwrthod cais dilys (pa un ai gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl), a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd; neu

(b)cais a wneir yn dilyn apêl a wnaed i Weinidogion Cymru o dan adran 195(1)(b) o Ddeddf 1990(25) mewn perthynas â chais dilys a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd.

(5Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yw’r canlynol—

(a)y gwneir y cais o fewn 12 mis ar ôl—

(i)yn achos cais dilys cynharach a dynnwyd yn ôl, y dyddiad y cafwyd y cais hwnnw;

(ii)yn achos cais a wneir yn dilyn apêl o dan adran 195(1)(b) o Ddeddf 1990, y dyddiad, yn rhinwedd erthygl 28(10) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu, pan ddaeth y cyfnod i ben ar gyfer rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad ar y cais dilys cynharach; neu

(iii)mewn unrhyw achos arall, dyddiad y gwrthodiad;

(b)bod y cais yn ymwneud â’r un safle, neu â rhan o’r un safle, ag yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef, ac nad yw’n ymwneud ag unrhyw dir arall;

(c)bod yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud â defnydd, gweithrediad neu fater arall o’r un disgrifiad â’r defnydd, gweithrediad neu fater yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef ac nid ag unrhyw ddefnydd, gweithrediad neu fater arall;

(d)bod y ffi a oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais cynharach wedi ei thalu; ac

(e)nad oes cais, a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd, mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw ran o’r safle, eisoes wedi ei esemptio o’r rheoliad hwn gan baragraff (4).

(6Pan fo’r defnydd a bennir mewn cais o dan adran 191(1)(a) yn ddefnydd fel un neu ragor o dai annedd ar wahân, bydd y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r defnydd hwnnw fel a ganlyn—

(a)os y defnydd a bennir felly yw defnydd fel 50 neu nifer llai o dai annedd, £380 am bob tŷ annedd;

(b)os y defnydd a bennir felly yw defnydd fel mwy na 50 o dai annedd, £19,000 a swm ychwanegol o £100 am bob tŷ annedd dros 50, yn ddarostyngedig i uchafswm o £287,500.

(7Pan wneir cais o dan adran 191(1)(a) neu (b) (neu o dan y ddau baragraff) ac o dan adran 191(1)(c), y ffi sy’n daladwy yw cyfanswm y ffioedd a fyddai wedi bod yn daladwy pe byddid wedi gwneud cais o dan adran 191(1)(a) neu (b) (neu o dan y ddau baragraff, yn ôl y digwydd) a chais ar wahân o dan adran 191(1)(c).

(8Yn achos cais sy’n ymwneud â thir mewn ardaloedd dau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol, mae paragraff 8(2) o Ran 1 o Atodlen 1 yn gymwys at y diben o benderfynu’r swm taladwy fel y mae’n gymwys yn achos cais am ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â thir o’r fath.

(9Pan wneir cais gan neu ar ran cyngor cymuned, y ffi sy’n daladwy yw hanner y swm a fyddai, fel arall, yn daladwy yn unol â pharagraffau (3), (6) a (7).

(10Rhaid i’r ffi sy’n ddyladwy mewn cysylltiad â chais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo fynd gyda’r cais pan gyflwynir ef i’r awdurdod cynllunio lleol.

(11Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â’r rheoliad hwn yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid i’r awdurdod sy’n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(12Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais fel un annilys.

(13Yn y rheoliad hwn mae i “cais dilys” (“valid application”) yr un ystyr a roddir iddo yn erthygl 28(12) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

Ffioedd am geisiadau am ganiatâd ar gyfer hysbysebion

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) ac (11), pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol o dan reoliad 9 o Reoliadau 1992(26) am ganiatâd datganiedig i arddangos hysbyseb, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Pan fo’r cais yn ymwneud ag arddangos un hysbyseb yn unig, y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais yw’r swm a bennir yn y tabl yn Atodlen 2 ar gyfer y categori priodol.

(3Pan fo’r cais yn ymwneud ag arddangos mwy nag un hysbyseb ar yr un safle, mae ffi sengl yn daladwy mewn cysylltiad â’r holl hysbysebion sydd i’w harddangos ar y safle hwnnw ac a restrir yn y cais, ac—

(a)os yw’r holl hysbysebion o fewn yr un categori, y ffi daladwy yw’r swm a bennir ar gyfer y categori hwnnw;

(b)os yw’r holl hysbysebion o fewn categorïau 1 a 2, y ffi daladwy yw’r swm a bennir ar gyfer categori 1;

(c)os oes un neu ragor o’r hysbysebion o fewn categori 3, y ffi daladwy yw’r swm a bennir ar gyfer categori 3.

(4Pan fo’r cais yn ymwneud ag arddangos hysbysebion ar feteri parcio, biniau sbwriel, meinciau eistedd cyhoeddus neu lochesi bysiau o fewn ardal benodedig, rhaid trin yr ardal gyfan y mae’r cais yn ymwneud â hi fel un safle at ddiben y rheoliad hwn.

(5Pan fo’r cais yn ymwneud ag arddangos hysbysebion ar fwy nag un safle, y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais yw cyfanswm y symiau taladwy mewn cysylltiad ag arddangos hysbysebion ar bob safle o’r fath.

(6Pan wneir y cais gan neu ar ran cyngor cymuned, y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais yw hanner y swm a fyddai, fel arall, yn daladwy o dan y rheoliad hwn.

(7Rhaid i’r ffi sy’n ddyladwy mewn cysylltiad â chais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo fynd gyda’r cais pan gyflwynir ef i’r awdurdod cynllunio lleol.

(8Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â’r rheoliad hwn yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid i’r awdurdod sy’n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(9Pan fodlonir pob un o’r amodau a nodir ym mharagraff (10), nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)cais o dan reoliad 9 o Reoliadau 1992 a wneir yn dilyn tynnu’n ôl (cyn dyroddi hysbysiad o benderfyniad) gais dilys a wnaed gan neu ar ran yr un person; neu

(b)cais a wneir o dan y rheoliad hwnnw yn dilyn gwrthod caniatâd (pa un ai gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl) ar gyfer cais dilys am arddangos hysbysebion, a wnaed gan neu ar ran yr un person.

(10Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw’r canlynol—

(a)y gwneir y cais o fewn 12 mis ar ôl—

(i)yn achos cais dilys cynharach a dynnwyd yn ôl, y dyddiad y cafwyd y cais hwnnw; neu

(ii)mewn unrhyw achos arall, dyddiad y gwrthodiad;

(b)bod y cais yn ymwneud â’r un safle ag yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef, neu â rhan o’r safle hwnnw;

(c)bod yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud â hysbyseb o’r un disgrifiad â’r hysbyseb yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef;

(d)bod y ffi a oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais cynharach wedi ei thalu; ac

(e)nad oes cais blaenorol wedi ei wneud ar unrhyw adeg, gan neu ar ran yr un ceisydd, a oedd yn ymwneud ag—

(i)yr un safle â’r un yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef, neu ran o’r safle hwnnw; a

(ii)hysbyseb o’r un disgrifiad â’r hysbyseb (neu unrhyw un o’r hysbysebion) yr oedd y cais cynharach yn ymwneud â hwy,

ac a esemptiwyd o ddarpariaethau’r rheoliad hwn gan baragraff (9).

(11Nid oes ffi yn daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd i arddangos hysbyseb os ysgogir y cais gan gyfarwyddyd o dan reoliad 7 o Reoliadau 1992 (cyfarwyddiadau sy’n cyfyngu ar ganiatâd tybiedig) sy’n datgymhwyso rheoliad 6 o’r Rheoliadau hynny (caniatâd tybiedig ar gyfer arddangos hysbysebion)(27) mewn perthynas â’r hysbyseb (neu unrhyw un o’r hysbysebion) dan sylw.

(12Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais perthnasol fel un annilys.

Ffioedd am geisiadau penodol o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir

13.—(1Pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol am iddo benderfynu a fydd cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr awdurdod yn ofynnol mewn perthynas â datblygiad o dan Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir, rhaid talu ffi i’r awdurdod, mewn symiau fel a ganlyn—

(a)ar gyfer cais o dan Rannau 6 (adeiladau a gweithrediadau amaethyddol)(28), 7 (adeiladau a gweithrediadau coedwigaeth)(29) neu 31 (dymchwel adeiladau)(30) o’r Atodlen honno, £80; a

(b)ar gyfer cais o dan Ran 24 o’r Atodlen honno (datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebiadau electronig)(31), £380.

(2Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â’r rheoliad hwn yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid i’r awdurdod sy’n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(3Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais fel un annilys.

Ffioedd mewn cysylltiad â monitro safleoedd mwyngloddio a thirlenwi

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan wneir ymweliad safle, rhaid i weithredwr y safle dalu i’r awdurdod cynllunio lleol ffi sydd â’i swm fel a bennir ym mharagraffau (4) neu (5).

(2Y nifer mwyaf o ymweliadau safle ag unrhyw un safle o’r fath, y codir ffi amdanynt o dan y rheoliad hwn, yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda dyddiad yr ymweliad cyntaf yn ystod y cyfnod hwnnw, yw’r canlynol—

(a)pan fo’r safle yn safle gweithredol, wyth; neu

(b)pan fo’r safle yn safle anweithredol, un.

(3Os—

(a)y person sy’n atebol i dalu’r ffi mewn cysylltiad ag ymweliad safle yw perchennog y safle; a

(b)bod mwy nag un perchennog,

rhaid rhannu swm y ffi yn gyfartal â chyfanswm nifer y perchnogion, ac mae pob perchennog yn atebol i dalu un rhan o’r swm a rannwyd felly.

(4Pan fo’r cyfan neu ran o’r safle yn safle gweithredol, y ffi sy’n daladwy yw £330.

(5Pan fo’r safle yn safle anweithredol, y ffi sy’n daladwy yw £110.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw—

(a)

y person sy’n—

(i)

cyflawni gweithrediadau ar y tir sy’n cynnwys cloddio a gweithio mwynau;

(ii)

defnyddio’r tir ar gyfer gollwng gwastraff mwynau;

(iii)

cyflawni gweithrediadau ar y tir at ddibenion safle gwaredu gwastraff, neu ddefnyddio’r tir fel safle o’r fath, ar gyfer gollwng gwastraff ar y tir neu i mewn ynddo; neu

(iv)

cyflawni gweithiau eraill ar y tir y mae amod neu gyfyngiad a osodwyd ar ganiatâd mwynau neu ganiatâd tirlenwi yn ymwneud â hwy;

(b)

pan fo mwy nag un person yn cyflawni’r gweithrediadau, y gweithiau neu’n defnyddio’r tir yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (a), y person sydd â rheolaeth gyffredinol ar y safle; neu

(c)

pan nad oes unrhyw berson sy’n dod o fewn y disgrifiadau yn is-baragraff (a) neu (b), perchennog y safle;

ystyr “perchennog” (“owner”) yw—

(a)

y person sydd â hawl i denantiaeth o’r safle a roddwyd neu a estynnwyd am dymor sicr o flynyddoedd nad oes llai na saith mlynedd ohono’n weddill, ond nid yw’n cynnwys is-brydlesai; neu

(b)

pan nad oes unrhyw berson sy’n dod o fewn y disgrifiad yn is-baragraff (a), perchennog y safle mewn ffi syml;

ystyr “safle anweithredol” (“inactive site”) yw safle mwyngloddio neu safle tirlenwi, neu safle sy’n rhannol yn safle mwyngloddio a rhannol yn safle tirlenwi, nad yw’n safle gweithredol; ac

ystyr “safle gweithredol” (“active site”) yw’r cyfan neu ran o safle mwyngloddio neu safle tirlenwi, neu safle sy’n rhannol yn safle mwyngloddio a rhannol yn safle tirlenwi, lle—

(a)

y cyflawnir datblygiad y mae’r caniatâd mwynau neu ganiatâd tirlenwi perthnasol yn ymwneud ag ef, ar unrhyw raddfa sylweddol, ar y safle neu (yn ôl y digwydd) ar y rhan honno o’r safle; neu

(b)

y cyflawnir gweithiau eraill y mae amod a osodwyd ar ganiatâd o’r fath yn ymwneud â hwy, ar unrhyw raddfa sylweddol, ar y safle neu (yn ôl y digwydd) ar y rhan honno o’r safle.

Ffioedd am geisiadau a wneir o dan amod cynllunio

15.—(1Pan fo cais wedi ei wneud i awdurdod cynllunio lleol o dan erthygl 23 o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw fel a ganlyn—

(a)pan fo’r cais yn ymwneud â chaniatâd ar gyfer datblygiad sy’n dod o fewn categori 6 neu 7 a bennir yn y tabl a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1, £30 am bob cais;

(b)mewn unrhyw achos arall, £95 am bob cais.

(2Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd o dan y rheoliad hwn os yw’r awdurdod cynllunio lleol yn methu â phenderfynu’r cais o fewn cyfnod o 8 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad, a bennir yn erthygl 23 o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan ddigwydd un o’r canlynol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2)—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 mewn perthynas â’r cais;

(b)bod y ceisydd yn apelio at Weinidogion Cymru o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990; neu

(c)bod unrhyw berson a dramgwyddir gan unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r cais yn gwneud cais i’r Uchel Lys.

Ffioedd am geisiadau am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan wneir cais o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 rhaid talu’r ffi ganlynol i’r awdurdod cynllunio lleol—

(a)os yw’r cais yn gais deiliad tŷ, £30;

(b)ym mhob achos arall, £95.

(2Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â’r rheoliad hwn yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid i’r awdurdod sy’n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn rheoliadau 4 a 5.

(4Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais ar y sail ei fod yn annilys.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais i wneud newid mewn caniatâd cynllunio sy’n ymwneud ag—

(a)datblygu tŷ annedd presennol, neu

(b)datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath,

at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys cais am newid defnydd na chais am newid nifer yr anheddau mewn adeilad.

Dirymu, darpariaethau trosiannol ac arbedion

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae’r Rheoliadau a bennir yn y tabl yn Atodlen 3 wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

(2Rhaid dehongli cyfeiriad yn rheoliadau 8(2)(f), 11(5)(e) neu 12(10)(e) at y ffi am gais a esemptir o dan ddarpariaeth benodol o’r Rheoliadau hyn fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at esemptio’r cais rhag talu ffi o dan (yn ôl y digwydd) reoliad 8, 10A(3) ac 11(9) o Reoliadau 1989.

(3Mae darpariaethau perthnasol Rheoliadau 1989 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw gais am ganiatâd cynllunio y tybir iddo gael ei wneud yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf 1990 mewn cysylltiad â hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

6 Gorffennaf 2015

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill