Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 16

ATODLEN 1Meini prawf ynglŷn â chyfansoddiad

1.  Cynnwys y mêl yn ei hanfod yw gwahanol siwgrau, sef ffrwctos a glwcos yn bennaf, yn ogystal â sylweddau eraill megis asidau organig, ensymau a gronynnau solet sy’n deillio o waith casglu mêl.

2.  Mae’r lliw yn amrywio o fod bron yn ddi-liw i frown tywyll.

3.  Gall y dwyster fod yn hylifol, yn ludiog neu’n rhannol neu’n gyfan gwbl risialog.

4.  Mae’r blas a’r aroglau’n amrywio ond maent yn deillio o darddiad y planhigyn.

5.  Nid oes cynhwysyn bwyd wedi ei ychwanegu, gan gynnwys unrhyw ychwanegyn bwyd.

6.  Nid oes ychwanegiadau eraill wedi eu gosod yn y mêl ac eithrio mêl arall.

7.  Rhaid iddo fod, cyn belled ag y bo modd, yn rhydd rhag deunyddiau organig neu anorganig sy’n estron i’w gyfansoddiad.

8.  Rhaid iddo beidio—

(a)â chynnwys unrhyw flas neu aroglau estron;

(b)â bod wedi dechrau eplesu;

(c)â bod ag asidedd a newidiwyd yn artiffisial;

(d)â bod wedi ei gynhesu yn y fath fodd fel bod yr ensymau naturiol naill ai wedi eu dinistrio neu wedi eu gwneud yn sylweddol anweithgar.

9.  Nid yw paragraff 8 yn gymwys i fêl pobydd.

10.  Ni chaniateir tynnu ohono baill neu gyfansoddyn sy’n neilltuol i fêl ac eithrio lle na ellir osgoi hyn wrth dynnu ohono ddeunydd anorganig neu organig estron.

11.  Nid yw paragraff 10 yn gymwys i fêl wedi ei hidlo.

12.  Mae’r meini prawf ansawdd ychwanegol a nodir yn y tabl a ganlyn yn gymwys—

Meini prawfSwm
Cynnwys siwgr

1.—(1Cynnwys ffrwctos a glwcos (cyfanswm y ddau)—

(a)

mêl blodau

dim llai na 60g/100g
(b)

mêl melwlith a chyfuniad o fêl melwlith â mêl blodau

dim llai na 45g/100g

(2Cynnwys swcros—

(a)

pob mêl ac eithrio mêl a bennir ym mharagraff (b) neu (c)

dim mwy na 5g/100g
(b)

mêl pren locust ffug (Robinia pseudoacacia), mêl alffalffa (Medicago sativa), mêl Banksia Menzies (Banksia menziesii), mêl gwyddfid Ffrainc (Hedysarum), mêl gwm coch (Eucalyptus camadulensis), mêl lledrwydden (Eucryphia lucida, Eucryphia milliganii), mêl Citrus spp.

dim mwy na 10g/100g
(c)

mêl lafant (Lavandula spp.), mêl tafod y fuwch (Borago officinalis)

dim mwy na 15g/100g
Cynnwys lleithder

2.  Cynnwys lleithder—

(a)

pob mêl ac eithrio mêl a bennir ym mharagraff (b), (c) neu (d)

dim mwy nag 20%
(b)

mêl o rug (Calluna)

dim mwy na 23%
(c)

mêl pobydd ac eithrio mêl pobydd o rug (Calluna)

dim mwy na 23%
(d)

mêl pobydd o rug (Calluna)

dim mwy na 25%
Cynnwys annhoddadwy mewn dŵr

3.  Cynnwys annhoddadwy mewn dŵr—

(a)

pob mêl ac eithrio mêl wedi ei wasgu

dim mwy na 0.1g/100g
(b)

mêl wedi ei wasgu

dim mwy na 0.5g/100g
Dargludedd trydanol

4.  Dargludedd trydanol—

(a)

pob mêl ac eithrio mêl grug clochog (Erica), mêl castan, mêl coeden ewcalyptws, mêl melwlith, mêl pisgwydden (Tilia spp.), mêl grug (Calluna vulgaris), mêl llwyn manwca neu jelly bush (Leptospermum), mêl mefusbren (Arbutus unedo) a mêl coeden de (Melaleuca spp.)

dim mwy na 0.8mS/cm
(b)

cyfuniadau o felau y mae paragraff (a) yn gymwys iddynt

dim mwy na 0.8mS/cm
(c)

mêl melwlith

dim llai na 0.8mS/cm
(d)

cyfuniadau o fêl melwlith ac eithrio cyfuniadau o’r mêl hwnnw â mêl grug clochog (Erica), mêl coeden ewcalyptws, mêl pisgwydden (Tilia spp.), mêl grug (Calluna vulgaris), mêl llwyn manwca neu jellybush (Leptospermum), mêl mefusbren (Arbutus unedo) a mêl coeden de (Melaleuca spp.)

dim llai na 0.8mS/cm
(e)

mêl castan

dim llai na 0.8mS/cm
(f)

cyfuniadau o fêl castan ac eithrio cyfuniadau o’r mêl hwnnw â mêl grug clochog (Erica), mêl coeden ewcalyptws, mêl pisgwydden (Tilia spp.), mêl grug (Calluna vulgaris), mêl llwyn manwca neu jellybush (Leptospermum), mêl mefusbren (Arbutus unedo) a mêl coeden de (Melaleuca spp.)

dim llai na 0.8mS/cm
Asid rhydd

5.  Asid rhydd—

(a)

pob mêl ac eithrio mêl pobydd

dim mwy na 50 mili-cyfwerthydd o asid am bob kg
(b)

mêl pobydd

dim mwy na 80 mili-cyfwerthydd o asid am bob kg
Gweithgarwch diastas a chynnwys hydroxymethylfurfural

6.  Gweithgarwch diastas a chynnwys hydroxymethylfurfural (HMF) a bennir ar ôl prosesu a chyfuno—

(a)

gweithgarwch diastas (graddfa Schade) —

(i)

pob mêl ac eithrio mêl pobydd a mêl a bennir yn is-baragraff (ii)

dim llai nag 8
(ii)

mêl sydd â chynnwys ensym naturiol isel (e.e. mêl sitrws) a chynnwys HMF o ddim mwy na 15mg/kg

dim llai na 3
(b)

HMF—

(i)

pob mêl ac eithrio mêl pobydd a mêl a bennir yn is-baragraff (ii)

dim mwy na 40mg/kg
(ii)

mêl o darddiad a ddatganwyd o ranbarth sydd â hinsawdd drofannol a chyfuniadau o’r melau hyn

dim mwy na 80mg/kg

Rheoliad 19

ATODLEN 2Cymhwyso ac addasu darpariaethau yn y Ddeddf

Colofn 1

Y ddarpariaeth yn y Ddeddf

Colofn 2

Addasiadau

Adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Honey (Wales) Regulations 2015”
Adran 10(1) a (2) (hysbysiadau gwella)

Yn lle is-adran (1) (hysbysiadau gwella) rhodder—

(1) If an authorised officer of a food authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any of regulations 6 to 17 of the Honey (Wales) Regulations 2015, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.

Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 19 of, and Schedule 2 to, the Honey (Wales) Regulations 2015,”
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy)Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 19 of, and Schedule 2 to, the Honey (Wales) Regulations 2015”
Adran 30(8) (tystiolaeth tystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)Yn lle “this Act” rhodder “the Honey (Wales) Regulations 2015”
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Honey (Wales) Regulations 2015”
Adran 35(1)(1) a (2)(2) (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 19 of, and Schedule 2 to, the Honey (Wales) Regulations 2015,”

Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 19 of, and Schedule 2 to, the Honey (Wales) Regulations 2015, shall be liable, on summary conviction, to a fine.

Yn is-adran (2) yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 19 of, and Schedule 2 to, the Honey (Wales) Regulations 2015,”
Adran 36 (troseddau corff corfforaethol)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 19 of, and Schedule 2 to, the Honey (Wales) Regulations 2015,”
Adran 36A(3)(troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 19 of, and Schedule 2 to, the Honey (Wales) Regulations 2015,”
Adran 37(1) a (6) (apelau)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of a food authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 19 of, and Schedule 2 to, the Honey (Wales) Regulations 2015, may appeal to a magistrates’ court.

Yn is-adran (6)—

(a)

yn lle “(3) neu (4)” rhodder “(1)”, a

(b)

ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”

Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 19 of, and Schedule 2 to, the Honey (Wales) Regulations 2015, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.

Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”

Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll)Yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Honey (Wales) Regulations 2015”

Rheoliad 21

ATODLEN 3Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

1.  Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2.  Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 5 (Y darpariaethau yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy ar ac ar ôl 13 Rhagfyr 2014)—

(a)yn y drydedd golofn, ar ddiwedd eitem rhif 26, mewnosoder “ac, o ran mêl, pwynt 4(b) o Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC ynglŷn â mêl (4)”; a

(b)yn y drydedd golofn, yn eitem rhif 27, yn lle “ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)” rhodder “, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac, o ran mêl, pwynt 4(b) o Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC”.

(1)

Diwygiwyd adran 35(1) gan baragraff 42 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) o ddyddiad sydd i’w benodi. Mae diwygiadau eraill i adran 35(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Diwygiwyd adran 35(2) gan O.S. 2015/664. Mae diwygiadau eraill i adran 35(2) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Mewnosodwyd adran 36A gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) a pharagraffau 7 ac 16 o Atodlen 5 iddi.

(4)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t 47, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2014/63/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif 164, 3.6.2014, t 1).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill