Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1305 (Cy. 111)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015

Gwnaed

6 Mai 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mai 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad” ac “asesu” (“assessment”) yw asesiad a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 19, 21 neu 24 o’r Ddeddf;

ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”) yw’r canlyniadau sydd wedi eu nodi mewn perthynas â pherson yn unol ag adran 19(4)(a), 21(4)(b) neu 24(4)(c) neu (d) o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cydgysylltu

2.  Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gynnal asesiad sicrhau bod unigolyn a enwir a chanddo’r swyddogaeth o gydgysylltu’r modd y mae’r asesiad yn cael ei gynnal.

Hyfforddiant, arbenigedd ac ymgynghori

3.—(1Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson sy’n cynnal asesiad—

(a)yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad o dan sylw, a

(b)wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.

(2Wrth gynnal asesiad, rhaid i awdurdod lleol ystyried a yw natur anghenion y person yn galw am ymglymiad person a chanddo sgiliau arbenigol, gwybodaeth arbenigol neu arbenigedd.

(3Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu bod galw am ymglymiad o’r fath, rhaid iddo naill ai ymgynghori â pherson a fyddai’n gallu darparu’r sgiliau hynny neu’r wybodaeth honno neu’r arbenigedd hwnnw neu drefnu i’r asesiad gael ei gynnal gan berson a chanddo’r sgiliau arbenigol, yr wybodaeth arbenigol neu’r arbenigedd sy’n ofynnol.

Ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt

4.  Wrth gynnal asesiad, rhaid i awdurdod lleol—

(a)asesu amgylchiadau’r person a rhoi sylw iddynt,

(b)rhoi sylw i’r canlyniadau personol,

(c)asesu unrhyw rwystrau i sicrhau’r canlyniadau hynny a rhoi sylw i’r rhwystrau hynny,

(d)asesu unrhyw risgiau i’r person ac i bersonau eraill os na chaiff y canlyniadau hynny eu sicrhau, a rhoi sylw i’r risgiau hynny, ac

(e)asesu cryfderau a galluoedd y person a rhoi sylw iddynt.

Cofnodion ysgrifenedig o asesiadau

5.—(1Pan fydd asesiad wedi ei gwblhau, rhaid i’r awdurdod lleol wneud cofnod ysgrifenedig o ganlyniadau’r asesiad a’r materion y mae’r awdurdod wedi rhoi sylw iddynt wrth gynnal yr asesiad.

(2Os yw’r awdurdod lleol, yng nghwrs cynnal yr asesiad, yn ystyried y gallai darparu gwasanaethau ataliol, darparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, neu faterion eraill, gyfrannu at gyflawni’r canlyniadau personol neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn yr asesiad, rhaid i’r cofnod ysgrifenedig—

(a)cynnwys manylion y ddarpariaeth honno neu’r materion hynny, a

(b)cynnwys manylion ynghylch sut y gallai’r ddarpariaeth honno neu’r materion hynny gyfrannu at gyflawni’r canlyniadau personol neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn yr asesiad.

Copïau o gofnodion

6.—(1Pan fo’r asesiad yn asesiad o anghenion oedolyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n oedolyn), rhaid i’r awdurdod lleol gynnig rhoi copi o’r cofnod i—

(i)yr oedolyn,

(ii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran yr oedolyn, a

(iii)pan na fo gan yr oedolyn alluedd i fedru gofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf yr oedolyn ym marn yr awdurdod lleol.

(2Pan fo’r asesiad yn asesiad o anghenion plentyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n blentyn), rhaid i’r awdurdod lleol gynnig rhoi copi o’r cofnod i—

(i)y plentyn,

(ii)unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â llesiant y plentyn,

(iii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y plentyn, a

(iv)pan na fo gan y plentyn alluedd neu pan na fo’n gymwys i ofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf y plentyn ym marn yr awdurdod lleol.

(3Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 7, mae person wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran oedolyn neu blentyn—

(a)os yw’r oedolyn neu’r plentyn wedi gofyn i’r person weithredu ar ei ran, neu

(b)os nad oes gan yr oedolyn neu’r plentyn alluedd a bod y person wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch asesu anghenion y person.

Adolygiadau

7.—(1Rhaid i awdurdod lleol adolygu asesiad os yw’n ymddangos iddo fod newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau’r person neu yn ei ganlyniadau personol.

(2Caiff y personau canlynol ofyn am adolygiad o asesiad—

(a)pan fo’r asesiad yn asesiad o anghenion oedolyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n oedolyn)—

(i)yr oedolyn;

(ii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran yr oedolyn;

(b)pan fo’r asesiad yn asesiad o anghenion plentyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n blentyn)—

(i)y plentyn;

(ii)unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

(iii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y plentyn.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais os yw wedi ei fodloni bod newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau’r person neu yn ei ganlyniadau personol.

(4Caiff yr awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â’r cais os yw wedi ei fodloni nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau’r person neu yn ei ganlyniadau personol ers i’r asesiad gael ei gwblhau.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

6 Mai 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adrannau 19, 21 a 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswyddau ar awdurdod lleol i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorth, anghenion plentyn am ofal a chymorth ac anghenion gofalwr am gymorth. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch asesiadau o’r fath.

Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cydgysylltu asesiadau. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyfforddiant ac arbenigedd personau sy’n cynnal asesiad.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y materion y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth gynnal asesiad.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodi asesiadau ac mae rheoliad 6 yn ymdrin â’r personau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynnig rhoi copi o’r cofnodion hynny iddynt.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu asesiad, gan gynnwys yr amgylchiadau lle y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r asesiad, y personau a gaiff ofyn am adolygiad o’r asesiad, yr amgylchiadau lle y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais hwnnw a’r amgylchiadau lle y caiff wrthod gwneud hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill