- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
42.—(1) Caniateir rhoi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw berson drwy—
(a)ei ddanfon i’r person;
(b)ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu
(c)ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.
(2) Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o’r fath—
(a)yn achos corff corfforaethol, i swyddog y corff hwnnw; neu
(b)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i bartner neu i berson sydd â rheolaeth ar, neu sy’n rheoli, busnes y bartneriaeth.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(1) (cyflwyno dogfennau drwy’r post) yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo yw—
(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
(b)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth;
(c)yn achos person y cyflwynir hysbysiad iddo gan ddibynnu ar baragraff (2), cyfeiriad priodol y corff corfforaethol neu’r bartneriaeth dan sylw; a
(d)mewn unrhyw achos arall, y cyfeiriad olaf sy’n hysbys ar gyfer y person dan sylw.
(4) Os yw person y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn wedi pennu cyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiad o’r fath, rhaid trin y cyfeiriad hwnnw hefyd, at ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, fel cyfeiriad priodol y person hwnnw.
(5) Os na ellir canfod enw neu gyfeiriad unrhyw feddiannydd mangre y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad drwy ei adael mewn man amlwg ynghlwm wrth adeilad neu wrthrych yn y fangre.
(6) Yn y rheoliad hwn—
(a)nid yw “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; a
(b)mae cyfeiriadau at gyflwyno’n cynnwys cyfeiriadau at ymadroddion tebyg (megis rhoi neu anfon).
43. Mae Atodlen 6 (diwygiadau canlyniadol ac atodol) yn cael effaith.
44. Mae Atodlen 7 (darpariaethau trosiannol – tystysgrifau) yn cael effaith.
45.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â lladd-dy sy’n gweithredu yn union cyn 1 Ionawr 2013, ond nid yw’n gymwys mewn perthynas ag—
(a)unrhyw lunwedd neu adeiladwaith newydd mewn lladd-dy o’r fath (neu walfeydd cysylltiedig) a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw; neu
(b)unrhyw gyfarpar newydd a ddefnyddir mewn lladd-dy o’r fath ac a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw.
(2) Mewn perthynas â lladd-dy y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, tan 8 Rhagfyr 2019—
(a)nid yw Erthygl 14(1) ac Atodiad II yn gymwys; a
(b)mae Atodlen 8 yn gymwys.
46. Mae’r offerynnau a’r deddfiadau canlynol wedi eu dirymu mewn perthynas â Chymru—
(a)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(2);
(b)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) 1999(3);
(c)rheoliad 10(3) o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2000(4) a Rhan 3 o Atodlen 8 i’r Rheoliadau hynny; a
(d)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) (Cymru) 2007(5).
O.S. 1995/731; yr offerynnau diwygio sy’n berthnasol o ran Cymru yw O.S. 1999/400, 2000/656 a 2007/2461 (Cy.208).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys