Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 6Gorfodi

Arolygwyr

34.  Caiff yr awdurdod cymwys neu awdurdod lleol benodi arolygwyr at y diben o orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.

Pŵer i fynd i mewn i fangreoedd

35.—(1Caiff arolygydd, ar ôl rhoi cyfnod rhesymol o rybudd, fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol o’r dydd at y diben o weithredu neu orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn; ac yn y Rhan hon, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, sied, lloc, daliedydd neu gerbyd o unrhyw ddisgrifiad.

(2Nid yw’r gofyniad i roi rhybudd yn gymwys—

(a)pan fo’r gofyniad wedi ei hepgor gan y meddiannydd;

(b)pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu;

(c)pan fo arolygydd yn amau’n rhesymol y methir â chydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(d)pan fo arolygydd yn credu’n rhesymol y byddai rhoi rhybudd yn tanseilio’r diben o fynd i mewn; neu

(e)mewn argyfwng, pan yw’n ofynnol mynd i mewn ar frys.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat, oni roddir yr hawl i fynd i mewn gan warant a roddwyd o dan reoliad 36.

(4Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol.

(5Rhaid i arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn mynd i mewn iddi.

(6Caiff arolygydd fynd i mewn yng nghwmni’r canlynol—

(a)pa bynnag bersonau eraill yr ystyria’r arolygydd yn angenrheidiol; a

(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Gwarantau

36.—(1Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, ganiatáu i arolygydd fynd i mewn i fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen, os bodlonir yr ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol ar gyfer mynd i mewn i’r fangre honno at y diben o orfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a

(b)bod unrhyw un o’r amodau ym mharagraff (2) wedi ei fodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)byddai gofyn am ganiatâd i fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;

(c)ei bod yn ofynnol mynd i mewn ar frys; neu

(d)bod y fangre’n wag neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(3Mae gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn ddilys am dri mis.

Pŵer i arolygu ac ymafael

37.—(1Caiff arolygydd, a aeth i mewn i fangre at y dibenion o weithredu a gorfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, wneud y canlynol at y dibenion hynny—

(a)cyflawni unrhyw archwiliad, ymchwiliad neu brawf;

(b)gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi ar unrhyw weithrediad neu broses, gwneud unrhyw recordiadau neu dynnu unrhyw ffotograffau;

(c)arolygu a chwilio’r fangre;

(d)cymryd samplau (a’u hanfon i’w profi mewn labordy) o unrhyw anifail, carcas neu ran o garcas;

(e)ymafael mewn unrhyw garcas neu ran o garcas, a chadw’r cyfryw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;

(f)ymafael mewn unrhyw gyfarpar neu offeryn a’i gadw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;

(g)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig, ac arolygu a gwirio’r data sydd arnynt, a’u gweithrediad;

(h)ymafael mewn unrhyw gyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig, at y diben o gopïo data; ond hynny yn unig os yw’r arolygydd yn amau’n rhesymol fod trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni, ac ar yr amod y dychwelir y cyfrifiaduron a’r cyfarpar cysylltiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol;

(i)ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfen neu gofnod ac arolygu a gwneud copi neu echdynnu o’r cyfryw ddogfen neu gofnod; a

(j)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn darparu pa bynnag gymorth, gwybodaeth, cyfleusterau neu gyfarpar sy’n rhesymol.

(2Rhaid i arolygydd—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddarparu i’r person sy’n ymddangos yn gyfrifol am unrhyw eitemau yr ymafaelir ynddynt gan yr arolygydd o dan baragraff (1), dderbynneb ysgrifenedig sy’n nodi’r eitemau hynny; a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penderfynu nad oes angen yr eitemau hynny mwyach, eu dychwelyd, ac eithrio rhai sydd i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.

(3Pan fo arolygydd wedi ymafael mewn eitemau o dan baragraff (1) i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys ac yna—

(a)penderfynir yn ddiweddarach—

(i)na ddygir achos llys; neu

(ii)nad oes angen yr eitemau hynny bellach fel tystiolaeth mewn achos llys; neu

(b)cwblhawyd yr achos llys ac ni wnaed gorchymyn gan y llys mewn perthynas â’r eitemau hynny,

rhaid i’r arolygydd ddychwelyd yr eitemau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Hysbysiadau gorfodi

38.—(1Hysbysiad gorfodi yw hysbysiad ysgrifenedig sydd—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn lleihau’r gyfradd weithredu i ba bynnag raddau a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; neu

(c)yn gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd, proses neu weithrediad, neu ddefnyddio cyfleusterau neu gyfarpar, a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn.

(2Caiff arolygydd sydd o’r farn bod person wedi torri, neu ei fod yn torri, y Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, gyflwyno hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw.

(3Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)datgan bod yr arolygydd o’r farn honno;

(b)datgan dyddiad ac amser cyflwyno’r hysbysiad;

(c)enwi derbynnydd yr hysbysiad;

(d)pennu’r materion sy’n cyfansoddi’r toriad;

(e)pennu’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i unioni’r toriad;

(f)pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cymryd y camau hynny; ac

(g)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad.

(4Rhaid i berson y cyflwynir hysbysiad gorfodi iddo gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person hwnnw ei hunan.

(5Os na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi, caiff yr arolygydd drefnu i gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

(6Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad cwblhau os bodlonir yr arolygydd, ar ôl cyflwyno’r hysbysiad gorfodi, fod y person wedi cymryd y camau a bennwyd yn yr hysbysiad ar gyfer unioni’r toriad.

(7Os digwydd i arolygydd beidio â chael ei fodloni fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (6), caiff yr arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod cyflwyno hysbysiad cwblhau, a rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(8Mae hysbysiad gorfodi yn peidio â chael effaith pan ddyroddir hysbysiad cwblhau.

(9Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg, mewn ysgrifen, dynnu’n ôl neu amrywio hysbysiad gorfodi.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi

39.—(1Caiff person a dramgwyddwyd gan—

(a)penderfyniad arolygydd i gyflwyno hysbysiad gorfodi; neu

(b)penderfyniad arolygydd i wrthod dyroddi hysbysiad cwblhau,

apelio yn erbyn y penderfyniad.

(2Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.

(3Ni fydd hysbysiad gorfodi yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.

(4Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai ddiddymu neu gadarnhau’r hysbysiad gorfodi, gydag addasiadau neu hebddynt, neu wneud pa bynnag orchymyn yr ystyria’n briodol ynghylch gwrthodiad i gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Pŵer awdurdod lleol i erlyn

40.  Caiff awdurdod lleol erlyn am unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn.

Terfyn amser ar gyfer erlyniadau

41.—(1Er gwaethaf adran 127(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(1), caiff llys ynadon roi unrhyw wybodaeth ar brawf sy’n ymwneud â throsedd o dan y Rheoliadau hyn os rhoddir yr wybodaeth gerbron—

(a)cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflawni’r drosedd; a

(b)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n cychwyn gyda dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth a ystyrir yn ddigonol gan yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos.

(2At ddibenion paragraff (1)(b)—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac yn datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth o’r fath yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno; a

(b)rhaid trin tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni ei bod wedi ei llofnodi felly fel pe bai wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill