- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
36.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (9), mae llywodraethwr yn dal ei swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o’r dyddiad yr etholir neu y penodir y person hwnnw.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sy’n bennaeth y ffederasiwn neu’n bennaeth ysgol ffederal, nac i unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a gaiff ddal swydd cyhyd ag y bo’r person hwnnw yn parhau yn y swydd y mae swydd y person hwnnw fel llywodraethwr yn deillio ohoni.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sefydledig y pennir cyfnod ei swydd gan y person a benododd y llywodraethwr hwnnw, hyd at bedair blynedd fan hwyraf.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr ychwanegol, llywodraethwr sefydledig ychwanegol nac aelod gweithrediaeth interim a benodir o dan adrannau 6, 7, 13 neu 14 o Ddeddf 2013, y pennir cyfnod ei swydd gan y person a benododd y llywodraethwr hwnnw, hyd at bedair blynedd fan hwyaf.
(5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr sydd i ddal swydd am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad penodi’r person hwnnw.
(6) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw riant-lywodraethwr ysgol feithrin a gynhelir sydd i ddal swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd o ddyddiad ethol neu benodi’r person hwnnw.
(7) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt sydd i ddal swydd am gyfnod o un flwyddyn o ddyddiad penodi’r person hwnnw. Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n rhwystro disgybl-lywodraethwr cyswllt rhag cael ei ailbenodi ar ddiwedd cyfnod y person hwnnw mewn swydd.
(8) Caiff dirprwy lywodraethwr ddal swydd hyd y cynharaf o’r canlynol—
(a)diwedd pedair blynedd o’r dyddiad y daw penodiad y person hwnnw i rym;
(b)y dyddiad y bydd y llywodraethwr gwreiddiol (onid yw wedi ei ddiswyddo o dan reoliad 38(2)) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu yn nodi y gall y person hwnnw weithredu fel llywodraethwr sefydledig a’i fod yn fodlon gwneud hynny; neu
(c)y dyddiad y bydd person ar wahân i’r llywodraethwr gwreiddiol yn cymryd y swydd y mae swydd y llywodraethwr sefydledig ex officio yn bodoli o’i herwydd.
(9) Nid yw’r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—
(a)cael ei ethol neu ei benodi am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;
(b)ymddiswyddo yn unol â rheoliad 37(1);
(c)cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 38 i 40; neu
(d)cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal neu barhau i ddal swydd.
(10) Yn y rheoliad hwn ystyr “y llywodraethwr gwreiddiol” (“the original governor”) yw’r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys