Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

Cyfnod swydd

36.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (9), mae llywodraethwr yn dal ei swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o’r dyddiad yr etholir neu y penodir y person hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sy’n bennaeth y ffederasiwn neu’n bennaeth ysgol ffederal, nac i unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a gaiff ddal swydd cyhyd ag y bo’r person hwnnw yn parhau yn y swydd y mae swydd y person hwnnw fel llywodraethwr yn deillio ohoni.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sefydledig y pennir cyfnod ei swydd gan y person a benododd y llywodraethwr hwnnw, hyd at bedair blynedd fan hwyraf.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr ychwanegol, llywodraethwr sefydledig ychwanegol nac aelod gweithrediaeth interim a benodir o dan adrannau 6, 7, 13 neu 14 o Ddeddf 2013, y pennir cyfnod ei swydd gan y person a benododd y llywodraethwr hwnnw, hyd at bedair blynedd fan hwyaf.

(5Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr sydd i ddal swydd am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad penodi’r person hwnnw.

(6Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw riant-lywodraethwr ysgol feithrin a gynhelir sydd i ddal swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd o ddyddiad ethol neu benodi’r person hwnnw.

(7Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt sydd i ddal swydd am gyfnod o un flwyddyn o ddyddiad penodi’r person hwnnw. Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n rhwystro disgybl-lywodraethwr cyswllt rhag cael ei ailbenodi ar ddiwedd cyfnod y person hwnnw mewn swydd.

(8Caiff dirprwy lywodraethwr ddal swydd hyd y cynharaf o’r canlynol—

(a)diwedd pedair blynedd o’r dyddiad y daw penodiad y person hwnnw i rym;

(b)y dyddiad y bydd y llywodraethwr gwreiddiol (onid yw wedi ei ddiswyddo o dan reoliad 38(2)) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu yn nodi y gall y person hwnnw weithredu fel llywodraethwr sefydledig a’i fod yn fodlon gwneud hynny; neu

(c)y dyddiad y bydd person ar wahân i’r llywodraethwr gwreiddiol yn cymryd y swydd y mae swydd y llywodraethwr sefydledig ex officio yn bodoli o’i herwydd.

(9Nid yw’r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—

(a)cael ei ethol neu ei benodi am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;

(b)ymddiswyddo yn unol â rheoliad 37(1);

(c)cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 38 i 40; neu

(d)cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal neu barhau i ddal swydd.

(10Yn y rheoliad hwn ystyr “y llywodraethwr gwreiddiol” (“the original governor”) yw’r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.