Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “Cartref Abbeyfield” (“Abbeyfield Home”) yw sefydliad sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Abbeyfield gan gynnwys pob corff corfforaethol neu anghorfforaethol sydd â chyswllt â’r gymdeithas honno;

ystyr “absenoldeb mabwysiadu” (“adoption leave”) yw cyfnod o absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb mabwysiadu cyffredin neu ar absenoldeb mabwysiadu ychwanegol yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “ordinary adoption leave” neu “additional adoption leave” yn rhinwedd adran 75A neu 75B o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(1);

ystyr “TALlA” (“AFIP”) yw taliad annibyniaeth y lluoedd arfog sy’n daladwy yn unol â chynllun ar gyfer digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, a sefydlwyd o dan adran 1(2) o Ddeddf y Lluoedd Arfog (Pensiynau a Digolledu) 2004(2);

ystyr “swm cymwysadwy” (“applicable amount”) yw—

(a)

mewn perthynas â phensiynwr, y swm a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 ac Atodlen 2; a

(b)

mewn perthynas â pherson nad yw’n bensiynwr, y swm a gyfrifir yn unol ag—

(i)

paragraffau 1 a 2 o Atodlen 6 ac Atodlen 7; neu

(ii)

paragraff 3 o Atodlen 6,

yn ôl fel y digwydd;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod;

ystyr “cais” (“application”) yw cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod;

ystyr “swyddfa briodol yr Adran Gwaith a Phensiynau” (“appropriate DWP office”) yw swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n ymdrin â chredyd pensiwn y wladwriaeth, neu swyddfa sydd fel arfer ar agor i’r cyhoedd ar gyfer cael hawliadau am gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith neu lwfans cyflogaeth a chymorth;

ystyr “cyfnod asesu” (“assessment period”) yw’r cyfnod a benderfynir—

(a)

mewn perthynas â phensiynwyr—

(i)

mewn perthynas ag enillion enillydd hunangyflogedig, yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 1 at y diben o gyfrifo enillion wythnosol y ceisydd; neu

(ii)

mewn perthynas ag unrhyw incwm arall, yn unol â pharagraff 11 o Atodlen 1 at y diben o gyfrifo incwm wythnosol y ceisydd;

(b)

mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr, y cyfryw gyfnod a bennir ym mharagraffau 10 i 12 o Atodlen 6 ar gyfer cyfrifo incwm;

ystyr “lwfans gweini” (“attendance allowance”) yw—

(a)

lwfans gweini o dan Ran 3 o DCBNC(3);

(b)

cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 neu 105 o DCBNC;

(c)

taliad yn rhinwedd erthygl 14, 15, 16, 43 neu 44 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(4) neu unrhyw daliad cyfatebol; neu

(d)

unrhyw daliad sy’n seiliedig ar yr angen am weini, a delir fel rhan o bensiwn anabledd rhyfel;

ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw awdurdod bilio y mae cynllun yn cael effaith mewn perthynas â’i ardal yn unol â rheoliad 12;

mae i “cyfradd sylfaenol” yr ystyr a roddir i “basic rate” gan Ddeddf Treth Incwm 2007(5);

ystyr “y Deddfau budd-dal” (“the benefit Acts”) yw DCBNC, Deddf Ceiswyr Gwaith 1995(6), Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(7) a Deddf Diwygio Lles 2007(8);

ystyr “prydau bwyd a llety” (“board and lodging accommodation”) yw llety a ddarperir i berson, neu, os yw’r person hwnnw’n aelod o deulu, i’r person hwnnw neu i unrhyw aelod arall o’i deulu, am dâl sy’n cynnwys darparu’r llety hwnnw ac o leiaf rai prydau bwyd wedi eu coginio neu’u paratoi, a bod y prydau bwyd hynny hefyd yn cael eu coginio neu’u paratoi (gan berson ac eithrio’r person y darperir y llety iddo neu aelod o’i deulu) ac yn cael eu bwyta yn y llety hwnnw neu fangre gysylltiedig;

mae i “cartref gofal” yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(9) ac yn yr Alban, yr ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(10) ac yng Ngogledd Iwerddon, yr ystyr a roddir i “nursing home” gan erthygl 11 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(11) neu’r ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o’r Gorchymyn hwnnw;

ystyr “Sefydliad Caxton” (“the Caxton Foundation”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol sydd â’r enw hwnnw, a sefydlwyd ar 28 Mawrth 2011 gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o hepatitis C a phersonau eraill sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 16 oed;

mae i “budd-dal plant” yr ystyr a roddir i “child benefit” gan adran 141 o DCBNC(12);

ystyr “credyd treth plant” (“child tax credit”) yw credyd treth plant o dan adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002(13);

ystyr “perthynas agos” (“close relative”) yw rhiant, rhiant-yng-nghyfraith, mab, mab-yng-nghyfraith, merch, merch-yng-nghyfraith, llys-riant, llysfab, llysferch, brawd, chwaer neu, os yw unrhyw un o’r personau blaenorol yn un aelod o gwpl, yr aelod arall o’r cwpl hwnnw;

ystyr “taliad consesiynol” (“concessionary payment”) yw taliad a wneir o dan drefniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad y Trysorlys, a godir naill ai ar y Gronfa Yswiriant Gwladol neu ar Bleidlais Gwariant Adrannol y codir arni fudd-daliadau neu daliadau credyd treth o dan y Deddfau budd-dal neu Ddeddf Credydau Treth 2002(14);

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” (“contributory employment and support allowance”) yw lwfans cyfrannol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(15);

ystyr “budd-dal treth gyngor” (“council tax benefit”) yw budd-dal treth gyngor o dan Ran 7 o DCBNC;

mae i “cwpl” (“couple”) yr ystyr a roddir gan reoliad 4;

ystyr “swyddfa ddynodedig” (“designated office”) yw swyddfa awdurdod, a ddynodwyd ganddo ar gyfer cael ceisiadau—

(a)

drwy hysbysiad ar, neu ynghyd â, ffurflen a gyflenwyd gan yr awdurdod at y diben o wneud cais; neu

(b)

drwy gyfeiriad ar, neu ynghyd â, ffurflen o’r fath, at ryw ddogfen arall sydd ar gael gan yr awdurdod ac a anfonwyd drwy ddull electronig neu fel arall pan ofynnwyd amdani, a hynny yn ddi-dâl; neu

(c)

drwy unrhyw gyfuniad o’r darpariaethau a bennir ym mharagraffau (a) a (b);

ystyr “lwfans byw i’r anabl” (“disability living allowance”) yw lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o DCBNC(16);

mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” gan adran 3 o Ddeddf 1992;

mae i “enillion” (“earnings”) yr ystyr a roddir gan baragraffau 12, 14 a 15 o Atodlen 1 a pharagraff 14 neu 16 o Atodlen 6, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “Ymddiriedolaeth Eileen” (“the Eileen Trust”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol sydd â’r enw hwnnw, a sefydlwyd ar 29 Mawrth 1993 gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(17);

mae “enillydd cyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “employed earner” yn adran 2(1)(a) o DCBNC(18) ac mae’n cynnwys hefyd berson sy’n derbyn taliad sy’n daladwy o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon ac yn cyfateb i dâl salwch statudol neu dâl mamolaeth statudol;

ystyr “y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter” (“the Employment, Skills and Enterprise Scheme”) yw cynllun o dan adran 17A (cynlluniau i gynorthwyo personau i gael cyflogaeth: cynlluniau “gweithiwch am eich budd-dal” etc.) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(19), a adwaenir wrth yr enw hwnnw ac a ddarparwyd yn unol â threfniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda’r bwriad o gynorthwyo hawlwyr lwfans ceisio gwaith i gael cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, ac yn achos unrhyw unigolyn, gall gynnwys gweithgaredd perthynol i waith (megis profiad gwaith neu chwilio am waith);

ystyr “parth cyflogaeth” (“employment zone”) yw ardal o fewn Prydain Fawr a ddynodwyd at ddibenion adran 60 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999(20) ac ystyr “rhaglen parth cyflogaeth” (“employment zone programme”) yw rhaglen a sefydlwyd ar gyfer ardal neu ardaloedd o’r fath gyda’r bwriad o gynorthwyo hawlwyr lwfans ceisio gwaith i gael cyflogaeth gynaliadwy;

ystyr “contractwr parth cyflogaeth” (“employment zone contractor”) yw person sy’n ymgymryd â darparu cyfleusterau mewn perthynas â rhaglen parth cyflogaeth ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau;

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys deddfiad sy’n gynwysedig mewn Deddf Senedd yr Alban neu Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn offeryn a wnaed o dan Ddeddf neu Fesur o’r fath;

ystyr “gostyngiad estynedig” (“extended reduction”) yw gostyngiad o dan gynllun y mae person yn gymwys ar ei gyfer o dan Ran 5 o Atodlen 1 a Rhan 5 o Atodlen 6;

ystyr “cyfnod gostyngiad estynedig” (“extended reduction period”) yw’r cyfnod pan fo person yn cael gostyngiad estynedig yn unol â pharagraff 33 o Atodlen 1 a pharagraff 35 o Atodlen 6 neu baragraff 40 o Atodlen 6;

ystyr “gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)” (“extended reduction (qualifying contributory benefits)”) yw gostyngiad o dan gynllun y mae person yn gymwys ar ei gyfer yn unol â pharagraff 32 o Atodlen 1 a pharagraff 39 o Atodlen 6;

mae i “teulu” (“family”) yr ystyr a roddir gan reoliad 6;

ystyr “y Gronfa” (“the Fund”) yw arian a roddir ar gael o bryd i’w gilydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â darpariaethau cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 24 Ebrill 1992 neu, yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;

mae “credyd gwarant” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(21);

ystyr “taliad incwm gwarantedig” (“a guaranteed income payment”) yw taliad a wneir o dan erthygl 15(1)(c) neu erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(22);

ystyr “budd-dal tai” (“housing benefit”) yw budd-dal tai o dan Ran 7 o DCBNC;

mae i “lwfans ceisio gwaith ar sail incwm” a “lwfans ceisio gwaith cyd-hawliad” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “an income-based jobseeker’s allowance” a “a joint-claim jobseeker’s allowance” gan adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(23);

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans ar sail incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007;

mae i “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”) yr ystyr canlynol—

(a)

yn Lloegr, ysbyty yn yr ystyr a roddir i “hospital” fel y’i diffinnir yn adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(24), nad yw’n ysbyty gwasanaeth iechyd yn yr ystyr a roddir i “health service hospital” fel y’i diffinnir yn yr adran honno;

(b)

yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “independent hospital” yn adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(25); ac

(c)

yn yr Alban, gwasanaeth gofal iechyd annibynnol yn yr ystyr a roddir i “independent healthcare service” fel y’i diffinnir yn adran 10F o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(26);

ystyr “y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006)” (“the Independent Living Fund (2006)”) yw’r Ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd gan weithred ddyddiedig 10 Ebrill 2006 ac a wnaed rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar y naill ran a Margaret Rosemary Cooper, Michael Beresford Boyall a Marie Theresa Martin ar y rhan arall;

ystyr “cerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd” (“invalid carriage or other vehicle”) yw cerbyd a yrrir gan beiriant petrol neu bŵer trydanol, a gyflenwir ar gyfer ei ddefnyddio ar y ffordd a’i reoli gan y meddiannydd;

ystyr “Cronfa Gymorth Elusennol Bomiau Llundain” (“the London Bombings Relief Charitable Fund”) yw’r cwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 5505072), a’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw hwnnw a sefydlwyd ar 11 Gorffennaf 2005 at y diben (ymhlith pethau eraill) o liniaru salwch, anabledd neu angen ariannol dioddefwyr yr ymosodiadau terfysgol a gyflawnwyd yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005 (gan gynnwys teuluoedd neu ddibynyddion y dioddefwyr);

ystyr “unig riant” (“lone parent”) yw person nad oes partner ganddo, ac sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac yn aelod o’r un aelwyd â’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig)” (“the Macfarlane (Special Payments) Trust”) yw’r ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd ar 29 Ionawr 1990, yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o haemoffilia;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2)” (“the Macfarlane (Special Payments) (No 2) Trust”) yw’r ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd ar 3 Mai 1991, yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o haemoffilia a buddiolwyr eraill;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane” (“the Macfarlane Trust”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Gymdeithas Haemoffilia, i liniaru tlodi neu drallod ymhlith rhai sy’n dioddef o haemoffilia;

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth pan fo’r cyfrifiad o’r swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r ceisydd yn cynnwys cydran o dan adran 2(1)(b) neu 4(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 2007(27) ac eithrio yn Rhan 1 o Atodlen 3;

ystyr “absenoldeb mamolaeth” (“maternity leave”) yw cyfnod pan fo benyw yn absennol o’i gwaith oherwydd ei bod yn feichiog neu wedi rhoi genedigaeth i blentyn, a chanddi hawl, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, i ddychwelyd i’w gwaith naill ai o dan delerau ei chontract cyflogaeth neu o dan Ran 8 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(28);

ystyr “uchafswm gostyngiad treth gyngor” (“maximum council tax reduction amount”) yw’r swm a benderfynir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 a pharagraff 4 o Atodlen 6;

ystyr “aelod o gwpl” (“aelod o gwpl”) yw aelod o gwpl priod neu ddibriod;

MFET Limited” (“MFET Limited”) yw’r cwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 7121661) sy’n dwyn yr enw hwnnw a sefydlwyd yn benodol at y diben o wneud taliadau, yn unol â threfniadau a wnaed gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, i bersonau a heintiwyd ag HIV oherwydd triniaeth gan y GIG gyda gwaed neu gynhyrchion gwaed;

ystyr “atodiad symudedd” (“mobility supplement”) yw—

(a)

mewn perthynas â phensiynwyr, atodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a)(vii) o Atodlen 3;

(b)

mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr, atodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 13 o Atodlen 9;

ystyr “symudwr” (“mover”) yw ceisydd sy’n newid yr annedd y mae’n preswylio ynddi, ac y mae’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas â hi, o annedd yn ardal un awdurdod i annedd yn ardal ail awdurdod;

ystyr “enillion net” (“net earnings”) yw’r cyfryw enillion fel y’u cyfrifir yn unol â pharagraff 13 o Atodlen 1 neu baragraff 15 o Atodlen 6, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “elw net” (“net profit”) yw’r cyfryw elw fel y’i cyfrifir yn unol â pharagraff 23 o Atodlen 1 neu baragraff 24 o Atodlen 6, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “annedd newydd” (“new dwelling”), at ddibenion y diffiniad o “ail awdurdod”, a pharagraff 35 o Atodlen 1 a pharagraffau 37 a 42 o Atodlen 6, yw’r annedd y mae’r ceisydd wedi symud iddi, neu ar fin symud iddi, a lle y bydd y ceisydd yn preswylio ynddi;

mae i “annibynnydd” (“non-dependant”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9;

ystyr “cymorth achlysurol” (“occasional assistance”) yw unrhyw daliad neu ddarpariaeth a wneir gan awdurdod lleol, Gweinidogion Cymru neu Weinidogion yr Alban at ddibenion—

(a)

ddiwallu neu gynorthwyo i ddiwallu angen byrdymor taer—

(i)

sy’n deillio o ddigwyddiad eithriadol, neu amgylchiad eithriadol, neu

(ii)

y mae angen ei ddiwallu i osgoi risg i les unigolyn, a

(b)

galluogi unigolion cymwys i sefydlu neu gynnal cartref sefydlog, ac—

(i)

mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(29); a

(ii)

ystyr “unigolion cymwys” (“qualifying individuals”) yw unigolion sydd wedi bod neu y gallent fel arall, heb y cymorth, fod—

(aa)

mewn carchar, ysbyty, sefydliad sy’n darparu gofal preswyl neu sefydliad arall, neu

(bb)

yn ddigartref neu rywfodd arall yn dilyn ffordd ansefydlog o fyw;

ystyr “pensiwn galwedigaethol” (“occupational pension”) yw unrhyw bensiwn neu daliad cyfnodol arall o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw daliad disgresiynol allan o gronfa a sefydlwyd i liniaru caledi mewn achosion penodol;

mae i “cynllun pensiwn galwedigaethol” yr un ystyr a roddir i “occupational pension scheme” yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993(30);

ystyr “dillad ac esgidiau cyffredin” (“ordinary clothing and footwear”) yw dillad neu esgidiau ar gyfer defnydd beunyddiol arferol, ond nid yw’n cynnwys gwisgoedd ysgol nac ychwaith ddillad neu esgidiau a ddefnyddir yn unig ar gyfer gweithgareddau chwaraeon;

ystyr “partner” (“partner”), mewn perthynas â pherson, yw—

(a)

pan fo’r person hwnnw’n aelod o gwpl, yr aelod arall o’r cwpl hwnnw; neu

(b)

yn ddarostyngedig i baragraff (c), pan fo’r person hwnnw mewn priodas amlbriod â dau neu ragor o aelodau aelwyd y person hwnnw, unrhyw aelod o’r fath sy’n briod â’r person hwnnw; neu

(c)

pan fo’r person hwnnw mewn priodas amlbriod a chanddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol gyda’r parti arall i’r briodas gynharaf, sy’n parhau mewn bodolaeth, y parti arall hwnnw i’r briodas gynharaf;

ystyr “absenoldeb tadolaeth” (“paternity leave”) yw cyfnod o absenoldeb o’r gwaith gyda chaniatâd yn rhinwedd adran 80A neu 80B o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, neu o absenoldeb tadolaeth ychwanegol yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 80AA neu 80BB o’r Ddeddf honno(31);

ystyr “deiliad cronfa bensiwn” (“pension fund holder”), mewn perthynas â chynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn galwedigaethol, yw ymddiriedolwyr, rheolwyr neu weinyddwyr y cynllun, yn ôl fel y digwydd, y cynllun dan sylw;

mae i “oedran pensiynadwy” yr ystyr a roddir i “pensionable age” gan y rheolau ym mharagraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Pensiynau 1995(32);

mae i “pensiynwr” (“pensioner”) yr ystyr a roddir gan reoliad 3(a);

ystyr “person ar gymhorthdal incwm” (“person on income support”) yw person sy’n cael cymhorthdal incwm;

mae i “person nad yw’n bensiynwr” (“person who is not a pensioner”) yr ystyr a roddir gan reoliad 3(b);

mae i “personau a drinnir fel pe na baent ym Mhrydain Fawr” (“persons treated as not being in Great Britain”) yr ystyr a roddir gan reoliad 28;

mae i “taliad annibyniaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal independence payment” gan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(33);

ystyr “cynllun pensiwn personol” (“personal pension scheme”) yw—

(a)

cynllun pensiwn personol yn yr ystyr a roddir i “personal pension scheme” fel y’i diffinnir gan adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiynau 1993(34);

(b)

contract blwydd-dal neu gynllun ymddiriedolaeth a gymeradwywyd o dan adran 620 neu 621 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988(35) neu gontract a amnewidiwyd yn yr ystyr a roddir i “the substituted contract” gan adran 622(3) o’r Ddeddf honno, ac a drinnir fel pe bai wedi dod yn gynllun pensiwn cofrestredig yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004(36);

(c)

cynllun pensiwn personol a gymeradwywyd o dan Bennod 4 o Ran 14 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988 ac a drinnir fel pe bai wedi dod yn gynllun pensiwn cofrestredig yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004;

ystyr “polisi yswiriant bywyd” (“policy of life insurance”) yw unrhyw offeryn sy’n sicrhau y telir arian ar achlysur marwolaeth (ac eithrio marwolaeth drwy ddamwain yn unig) neu ar achlysur unrhyw hapddigwyddiad sy’n dibynnu ar oes ddynol, neu unrhyw offeryn sy’n tystio i gontract sy’n amodol ar dalu premiymau am dymor sy’n dibynnu ar oes ddynol;

ystyr “priodas amlbriod” (“polygamous marriage”) yw unrhyw briodas y mae rheoliad 5 yn gymwys iddi;

mae “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yn cynnwys unrhyw berson y mae ei swyddogaethau yn swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

ystyr “oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth” (“qualifying age for state pension credit”) yw (yn unol ag adran 1(2)(b) a (6) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002)(37)

(a)

yn achos benyw, oedran pensiynadwy; neu

(b)

yn achos gwryw, yr oedran sy’n oedran pensiynadwy yn achos benyw a anwyd ar yr un diwrnod â’r gwryw;

ystyr “budd-dal cyfrannol cymwys” (“qualifying contributory benefit”) yw—

(a)

lwfans anabledd difrifol;

(b)

budd-dal analluogrwydd;

(c)

lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;

ystyr “budd-dal cymwys ar sail incwm” (“qualifying income-related benefit”) yw—

(a)

cymhorthdal incwm;

(b)

lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(c)

lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;

ystyr “person cymwys” (“qualifying person”) yw person y gwnaed taliad mewn perthynas ag ef o’r Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu Gronfa Gymorth Elusennol Bomiau Llundain;

ystyr “wythnos ostyngiad” (“reduction week”) yw cyfnod o saith niwrnod olynol, sy’n dechrau gyda dydd Llun ac yn diweddu gyda dydd Sul;

ystyr “perthynas” (“relative”) yw perthynas agos, taid, nain, ŵyr, wyres, ewythr, modryb, nai neu nith;

ystyr “wythnos berthnasol” (“relevant week”), mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol, yw’r wythnos y mae’r diwrnod dan sylw yn digwydd ynddi;

mae i “gwaith am dâl” (“remunerative work”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10;

ystyr “rhent” (“rent”) yw’r “eligible rent” y cyfeirir ato yn rheoliad 12 o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(38), llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas ag annibynyddion sy’n ddyladwy o dan baragraff 3 o Atodlen 1 a pharagraff 5 o Atodlen 6 (didyniadau annibynyddion) o dan gynllun awdurdod;

mae i “preswylydd” yr ystyr a roddir i “resident” gan Ran 1 o Ddeddf 1992;

mae “credyd cynilion” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “savings credit” gan adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(39);

ystyr “cynllun” (“scheme”) yw cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor fel a ragnodir yn Rhannau 2 i 5 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “ail awdurdod” (“second authority”) yw’r awdurdod y mae symudwr yn atebol i wneud taliadau iddo ar gyfer annedd newydd;

mae “enillydd hunangyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “self-employed earner” gan adran 2(1)(b) o’r DCBNC;

ystyr “llwybr hunangyflogaeth” (“self-employment route”) yw cymorth i geisio cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig tra’n cymryd rhan mewn—

(a)

rhaglen parth cyflogaeth;

(b)

rhaglen a ddarperir gan neu o dan drefniadau a wnaed yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(40) (swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(41) (swyddogaethau mewn perthynas â hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth, etc); neu

(c)

y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter;

ystyr “grŵp defnyddwyr gwasanaeth” (“service user group”) yw grŵp o unigolion yr ymgynghorir ag ef gan neu ar ran—

(a)

Bwrdd Iechyd, Bwrdd Iechyd Arbennig neu’r Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin ar gyfer Iechyd yr Alban, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 2B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(42),

(b)

awdurdod landlord(43), o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 105 o Ddeddf Tai 1985(44),

(c)

awdurdod cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 49A o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995(45),

(d)

awdurdod cyhoeddus, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (dyletswydd gyffredinol awdurdod cyhoeddus)(46),

(e)

awdurdod gwerth gorau, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(47),

(f)

awdurdod gwella Cymreig, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 5 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(48),

(g)

landlord awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 53 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 2001(49),

(h)

corff Cymreig perthnasol neu gorff Seisnig perthnasol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 242 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(50),

(i)

Bwrdd Iechyd Lleol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 183 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(51),

(j)

y Comisiwn Ansawdd Gofal, wrth arfer swyddogaeth o dan adrannau 4 neu 5 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008(52),

(k)

y rheoleiddiwr neu ddarparwr cofrestredig preifat tai cymdeithasol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adrannau 98, 193 neu 196 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008(53), neu

(l)

awdurdod cyhoeddus neu awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr, o ganlyniad i swyddogaeth a roddwyd o dan unrhyw ddeddfiad arall,

at y diben o fonitro a chynghori ar bolisi’r corff neu’r awdurdod hwnnw sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar bersonau yn y grŵp, neu at y diben o fonitro neu gynghori ar wasanaethau a ddarperir gan y corff neu’r awdurdod hwnnw ac a ddefnyddir (neu y mae’n bosibl y’u defnyddir) gan y personau hynny;

ystyr “ceisydd sengl” (“single applicant”) yw ceisydd nad oes ganddo bartner ac nad yw’n unig riant;

ystyr “Cronfa Skipton” (“the Skipton Fund”) yw’r cynllun taliadau ex gratia a weinyddir gan Skipton Fund Limited, a gorfforwyd ar 25 Mawrth 2004, er budd personau penodol sy’n dioddef o hepatitis C a phersonau eraill sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â darpariaethau’r cynllun;

ystyr “dyfarniad chwaraeon” (“sports award”) yw dyfarniad a wnaed gan un o’r Cynghorau Chwaraeon a enwir yn adran 23(2) o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc 1993 allan o symiau a ddyrannwyd iddo i’w dosbarthu o dan yr adran honno(54);

ystyr “DCBNC” (“the SSCBA”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(55);

mae i “credyd pensiwn y wladwriaeth” yr ystyr a roddir i “state pension credit” o dan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(56);

mae i “myfyriwr” (“student”) yr ystyr a ragnodir ym mharagraff 1 o Atodlen 11;

ystyr “lwfans cynhaliaeth” (“subsistence allowance”) yw lwfans y mae contractwr parth cyflogaeth wedi cytuno i’w dalu i berson sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth;

ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw cyfnod sy’n cychwyn gyda 6 Ebrill mewn un flwyddyn ac yn diweddu gyda 5 Ebrill yn y flwyddyn nesaf;

ystyr “lwfans hyfforddi” (“training allowance”) yw lwfans (boed ar ffurf grantiau cyfnodol neu fel arall) sy’n daladwy—

(a)

allan o arian cyhoeddus gan adran o’r Llywodraeth neu gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, Prif Weithredwr Ariannu Sgiliau neu Weinidogion Cymru;

(b)

i berson am gynhaliaeth y person hwnnw neu mewn perthynas ag aelod o deulu’r person hwnnw; ac

(c)

am y cyfnod, neu ran o’r cyfnod, pan fo’r person hwnnw’n dilyn cwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir gan yr adran honno, neu’n unol â threfniadau a wnaed gyda’r adran honno, neu a gymeradwywyd ganddi mewn perthynas â’r person hwnnw, neu a ddarparwyd neu a gymeradwywyd felly gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd neu Weinidogion Cymru,

ond nid yw’n cynnwys lwfans a delir gan unrhyw adran y Llywodraeth i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson oherwydd bod y person hwnnw’n dilyn cwrs addysg amser llawn, ac eithrio o dan drefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(57), neu’n dilyn hyfforddiant athrawon;

ystyr “yr Ymddiriedolaethau” (“the Trusts”) yw Ymddiriedolaeth Macfarlane, Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) ac Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2);

mae i “credyd cynhwysol” yr ystyr a roddir i “universal credit” gan adran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(58);

ystyr “sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yw corff, ac eithrio awdurdod cyhoeddus neu awdurdod lleol, nas cyflawnir ei weithgareddau er mwyn gwneud elw;

ystyr “pensiwn anabledd rhyfel” (“war disablement pension”) yw unrhyw dâl neu bensiwn neu lwfans ymddeoliad sy’n daladwy mewn perthynas ag anabledd o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(59);

ystyr “pensiwn rhyfel” (“war pension”) yw pensiwn anabledd rhyfel, pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

ystyr “pensiwn rhyfel gwraig weddw” (“war widow’s pension”) yw unrhyw bensiwn neu lwfans sy’n daladwy i fenyw fel gweddw o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003, mewn perthynas â marwolaeth neu anabledd unrhyw berson;

ystyr “pensiwn rhyfel gŵr gweddw” (“war widower’s pension”) yw unrhyw bensiwn neu lwfans sy’n daladwy i ddyn fel gweddw neu i bartner sifil sy’n goroesi o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 mewn perthynas â marwolaeth neu anabledd unrhyw berson;

ystyr “taliadau dŵr” (“water charges”) yw—

(a)

o ran Cymru a Lloegr, unrhyw daliadau dŵr a charthffosiaeth o dan Bennod 1 o Ran 5 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(60),

(b)

o ran yr Alban, unrhyw daliadau dŵr a charthffosiaeth a sefydlwyd gan Scottish Water o dan gynllun taliadau a wnaed o dan adran 29A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr (Yr Alban) 2002(61),

i’r graddau y mae a wnelo’r cyfryw daliadau â’r annedd a feddiennir gan berson fel ei gartref;

mae i “credyd treth gwaith” yr ystyr a roddir i “working tax credit” o dan adran 10 o Ddeddf Credydau Treth 2002(62);

ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person sy’n dod o fewn y diffiniad o “qualifying young person” yn adran 142 o DCBNC(63).

(2Yn y Rheoliadau hyn, pan fo swm i gael ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf, rhaid diystyru ffracsiwn o geiniog os yw’n llai na hanner ceiniog, ac fel arall rhaid ei drin fel pe bai’n geiniog gyfan.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar unrhyw ddiwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, ac ar unrhyw ddiwrnod—

(a)y mae’r person hwnnw’n bodloni’r amodau hawlogaeth am lwfans ceisio gwaith ar sail incwm mewn perthynas ag ef, ond na thelir y lwfans oherwydd gostyngiad yn unol ag adran 19 neu 19A neu reoliadau a wnaed o dan adran 17A neu 19B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(64) (amgylchiadau pan nad yw lwfans ceisio gwaith yn daladwy);

(b)sy’n ddiwrnod aros yn yr ystyr o “waiting day” at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno ac sy’n digwydd yn union cyn diwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, neu y byddai’n daladwy i’r person hwnnw oni bai am adran 19 neu 19A neu reoliadau a wnaed o dan adran 17A neu 19B o’r Ddeddf honno; neu

(c)y byddai lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef oni bai am gyfyngiad a osodwyd yn unol ag adran 6B, 7, 8 neu 9 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001(65) (darpariaethau colli budd-dal).

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm ar unrhyw ddiwrnod y mae lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, ac ar unrhyw ddiwrnod—

(a)y mae’r person hwnnw’n bodloni’r amodau hawlogaeth am lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm mewn perthynas ag ef, ond na thelir y lwfans, yn unol ag adran 18 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(66) (anghymhwyso); neu

(b)sy’n ddiwrnod aros yn yr ystyr o “waiting day” at ddibenion paragraff 2 o Atodlen 2 (lwfans cyflogaeth a chymorth: darpariaethau atodol) i’r Ddeddf honno, ac sy’n digwydd yn union cyn diwrnod y mae lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, neu y byddai’n daladwy i’r person hwnnw oni bai am adran 18 o’r Ddeddf honno.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid peidio ag ystyried bod dau berson wedi ymddieithrio onid yw’r ymddieithriad yn gyfystyr â thoriad o’r berthynas rhyngddynt.

(6Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at unrhyw berson sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth yn cynnwys person a fyddai’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth oni bai am reoliad 13 o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(67) (symiau bach o gredyd pensiwn y wladwriaeth).

(1)

1996 p.18. Mewnosodwyd adrannau 75A a 75B gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p.22) a diwygiwyd hwy gan baragraffau 33 a 34 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p.18).

(3)

1992 p.4. Gweler adrannau 64 i 67 o’r Ddeddf honno mewn perthynas â lwfans gweini.

(4)

O.S. 1983/686; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1984/1675, 2001/420.

(5)

2007 (p.3); mae adran 989 yn diffinio “basic rate” gan gyfeirio at adran 6(2) o’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 6(2) gan adran 5 o Ddeddf Cyllid 2008 (p.9) ac adran 6 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10) a pharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(9)

2000 p.14; diwygiwyd adran 3 gan baragraffau 1 a 4 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14).

(12)

Diwygiwyd adran 141 gan adran 1 o Ddeddf Budd-dal Plant 2005 (p.6).

(13)

2002 p.21; diddymwyd adran 8 gan adran 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5) a Rhan 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ond nid yw’r darpariaethau hynny eto mewn grym.

(14)

2002 p.21.

(15)

2007 p.5; mae Rhan 1 yn ymwneud â’r lwfans cyflogaeth a chymorth, a rhoddir cyfeiriadau at y diwygiadau perthnasol.

(16)

Diwygiwyd adran 71 gan adran 67(1) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30), a diddymwyd hi gan adran 90 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5) (nad yw eto mewn grym).

(17)

2000 p.7; diwygiwyd y diffiniad o “electronic communication” sy’n gynwysedig yn adran 15(1) gan adran 406 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p.21), a pharagraff 158 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.

(18)

Diwygiwyd adran 2(1)(a) gan baragraffau 169 a 171 o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1).

(19)

Mewnosodwyd adran 17A gan adran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 (p.24) a diwygiwyd hi gan baragraffau 1 a 4 o Atodlen 7 a Rhannau 1 a 3 o Atodlen 14 (nad ydynt eto mewn grym) o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5). Diddymwyd yr adran gan Ran 4 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno (nad yw eto mewn grym).

(20)

1999 p.30.

(21)

2002 p.16.

(23)

1995 p.18. Diwygiwyd adran 1(4) gan baragraffau 1 a 2(1) a (4) o Atodlen 7 i Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999; Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33); adran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 (p.24), a diddymir hi gan Ran 1 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Lles 2012 (nad yw eto mewn grym).

(24)

2006 p.41 Diwygiwyd y diffiniad o “health service hospital” gan baragraff 138 o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7).

(25)

2000 p.14; diwygiwyd adran 2 gan baragraffau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14).

(27)

Diwygir adran 2(1)(b) gan baragraff 24 (sydd mewn grym yn rhannol) o Atodlen 23 i Ddeddf Diwygio Lles 2012; diddymir adran 4 gan Ran 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno (nad yw eto mewn grym).

(28)

1996 p.18.

(29)

1972 p.70. Diwygiwyd y diffiniad hwn o “local authority” gan adran 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51) a pharagraff 8 o Atodlen 16 ac Atodlen 17 i’r Ddeddf honno. Gwnaed diwygiadau eraill i’r diffiniad hwnnw, ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(30)

1993 p.48. Amnewidiwyd y diffiniad o “occupational pension scheme” gan adran 239 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p.35) a diwygiwyd ef gan O.S. 2007/3014.

(31)

1996 p.18. Mewnosodwyd adrannau 80A ac 80B gan adran 1 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p.22) a mewnosodwyd adrannau 80AA ac 80BB gan adran 3 o Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p.18). Y rheoliadau perthnasol a wnaed o dan yr adrannau hyn yw O.S. 2002/2788 ac O.S. 2003/921 (a wnaed o dan adrannau 80A ac 80B) ac O.S. 2010/1055 ac O.S. 2010/1059 (a wnaed o dan adrannau 80AA ac 80BB).

(32)

1995 p.26 ; diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 39 o Atodlen 2 i Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p.16); paragraff 13 o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5); paragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf Pensiynau 2007 (p.22); ac adran 1 o Ddeddf Pensiynau 2011 (p.19).

(33)

2012 p.5.

(34)

1993 p.48; amnewidiwyd y diffiniad o “personal pension scheme” gan adran 239 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p.35) a diwygiwyd ef gan adrannau 70 a 114 o Ddeddf Cyllid 2007 (p.11) a pharagraff 23 o Atodlen 20 a pharagraff 3 o Atodlen 27 i’r Ddeddf honno.

(35)

1988 p.1.

(36)

2004 p.12.

(37)

2002 p.16.

(38)

O.S. 2006/214; diwygiwyd gan O.S. 2007/1356, 2007/2869.

(39)

2002 p.16. Diwygiwyd adran 3 gan baragraff 140 o Atodlen 24 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33), a chan O.S. 2002/1792.

(40)

1973 p.50. Amnewidiwyd adran 2 gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19) a diddymwyd hi yn rhannol gan Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38).

(41)

1990 p.35.

(42)

1978 p.29.

(43)

)Gweler y diffiniad o “landlord authority” yn adran 114 o Ddeddf Tai 1985 (p.68). Diwygiwyd adran 114 gan adran 83(4) o Ddeddf Tai 1988 (p.50) ; adrannau 129 ac 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) a pharagraff 10 o Atodlen 15 a Rhan IV o Atodlen 18 i’r Ddeddf honno; adran 222 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20) a pharagraffau 9 a 12 o Atodlen 22 i’r Ddeddf honno; O.S. 1996/2325; ac O.S. 2010/866.

(44)

1985 p.68; diwygiwyd adran 105 gan O.S. 1996/2325; gan baragraff 5 o Atodlen 8 a pharagraff 5 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), a chan O.S. 2010/866.

(45)

1995 p.50; mewnosodwyd adran 49A mewn perthynas â Gogledd Iwerddon gan erthygl 5 o O.S. 2006/312 (G.I.1).

(46)

2010 p.15.

(47)

1999 p.27; diwygiwyd adran 3 gan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28).

(50)

2006 p.41.

(51)

2006 p.42.

(52)

2008 p.14; diwygiwyd adran 4 gan adran 189 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7).

(53)

2008 p.17; diwygiwyd adran 193 gan baragraffau 1 a 4 o Atodlen 17 a Rhan 27 o Atodlen 25 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20); diwygiwyd adran 196 gan adran 26(4) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p.20) ac adrannau 178, 195 a 237 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac Atodlenni 19 a 25 i’r Ddeddf honno.

(54)

1993 p.39; diwygiwyd is-adran (2) gan O.S. 1996/3095 a 1999/1563.

(55)

1992 p.4.

(56)

2002 p.16.

(57)

1973 p.50; amnewidiwyd adran 2 gan adran 25 o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19), a diwygiwyd hi gan Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38).

(58)

2012 p.5.

(59)

2003 p.1; mewnosodwyd is-adran (2) gan adran 19 o Ddeddf Cyllid 2005 (p.7).

(60)

1991 p.56.

(61)

2002 dsa 3; amnewidiwyd adran 29, a mewnosodwyd adrannau 29A - 29G, gan adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Dŵr etc (Yr Alban) 2005 (dsa 3).

(62)

2002 p.21.

(63)

Diwygiwyd adran 142 gan adran 1 o Ddeddf Budd-dal Plant 2005 (p.6).

(64)

1995 p.18. Amnewidiwyd adran 19 (ynghyd ag adrannau 19A i 19C) gan adran 46 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5); diddymwyd adran 17A gan Ran 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Lles 2012 er nad yw’r ddarpariaeth honno eto mewn grym. Yn y cyfamser gwnaed diwygiadau i adran 17A gan adrannau 48 a 59 o’r Ddeddf honno ac Atodlenni 7 ac 14 iddi.

(65)

2001 p.11; diwygiwyd adran 6B gan adrannau 9, 24 a 58 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 (p.24) a pharagraffau 9 a 10 o Atodlen 2 a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; adrannau 31, 33, 113, 118, 119, 121 a 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.5) a pharagraffau 56 a 58 o Atodlen 2, paragraffau 15 ac 16 o Atodlen 3, a Rhannau 1 a 12 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ac o’r rheini y diwygiadau a wnaed gan adrannau 113(1)(b), 118(1) i (4) a 119 yn unig sydd mewn grym. Diwygiwyd adran 7 gan adran 14 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p.16) a Rhan 3 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno; adrannau 28 a 49 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) a pharagraff 23 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno; adrannau 9, 24 a 58 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 a pharagraffau 9 ac 11 o Atodlen 2, Rhan 1 o Atodlen 4 a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (nid yw’r diwygiadau a wnaed gan adrannau 9, 31 ac Atodlen 7 eto mewn grym); O.S. 2011/2298; adrannau 31, 33, 118, 119 a 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 56 a 59 o Atodlen 2, paragraffau 15 a 17 o Atodlen 3 a Rhan 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ac o’r rheini y diwygiadau a wnaed gan adrannau 118 a 119 yn unig sydd mewn grym. Diddymwyd adran 8 gan adran 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a Rhan 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ond nid yw’r diddymiad hwnnw eto mewn grym. Gwnaed diwygiadau hefyd gan adrannau 1, 24, a 58 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 a Rhan 1 o Atodlen 4 a Rhan 3 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; adrannau 31, 48, 113 a 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 56 a 60 o Atodlen 2, paragraff 12 o Atodlen 7 a Rhan 12 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ac o’r rheini y diwygiadau a wnaed gan adran 113 yn unig sydd mewn grym. Gwnaed diwygiadau i adran 9 gan adran 14 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 a Rhan 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno; adran 28 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 a pharagraff 23 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno; adrannau 9, 24 a 58 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, nad oes yr un ohonynt mewn grym; a chan adrannau 31, 113 a 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 56 a 61 o Atodlen 2 a Rhan 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno, ac o’r rheini, y diwygiadau a wnaed gan adran 113 yn unig sydd mewn grym.

(66)

2007 p.5.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill