Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir gan awdurdodau ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “Cartref Abbeyfield” (“Abbeyfield Home”) yw sefydliad sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Abbeyfield gan gynnwys pob corff corfforaethol neu anghorfforaethol sydd â chyswllt â’r gymdeithas honno;

ystyr “absenoldeb mabwysiadu” (“adoption leave”) yw cyfnod o absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb mabwysiadu cyffredin neu ar absenoldeb mabwysiadu ychwanegol yn yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “ordinary adoption leave” neu “additional adoption leave” yn rhinwedd adran 75A neu 75B o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(1);

ystyr “TALlA” (“AFIP”) yw taliad annibyniaeth y lluoedd arfog sy’n daladwy yn unol â chynllun ar gyfer digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn, a sefydlwyd o dan adran 1(2) o Ddeddf y Lluoedd Arfog (Pensiynau a Digolledu) 2004(2);

ystyr “swm cymwysadwy” (“applicable amount”) yw—

(a)

mewn perthynas â phensiynwr, y swm a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 ac Atodlen 2; a

(b)

mewn perthynas â pherson nad yw’n bensiynwr, y swm a gyfrifir yn unol ag—

(i)

paragraffau 1 a 2 o Atodlen 6 ac Atodlen 7; neu

(ii)

paragraff 3 o Atodlen 6,

yn ôl fel y digwydd;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod;

ystyr “cais” (“application”) yw cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod;

ystyr “swyddfa briodol yr Adran Gwaith a Phensiynau” (“appropriate DWP office”) yw swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n ymdrin â chredyd pensiwn y wladwriaeth, neu swyddfa sydd fel arfer ar agor i’r cyhoedd ar gyfer cael hawliadau am gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith neu lwfans cyflogaeth a chymorth;

ystyr “cyfnod asesu” (“assessment period”) yw’r cyfnod a benderfynir—

(a)

mewn perthynas â phensiynwyr—

(i)

mewn perthynas ag enillion enillydd hunangyflogedig, yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 1 at y diben o gyfrifo enillion wythnosol y ceisydd; neu

(ii)

mewn perthynas ag unrhyw incwm arall, yn unol â pharagraff 11 o Atodlen 1 at y diben o gyfrifo incwm wythnosol y ceisydd;

(b)

mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr, y cyfryw gyfnod a bennir ym mharagraffau 10 i 12 o Atodlen 6 ar gyfer cyfrifo incwm;

ystyr “lwfans gweini” (“attendance allowance”) yw—

(a)

lwfans gweini o dan Ran 3 o DCBNC(3);

(b)

cynnydd mewn pensiwn anabledd o dan adran 104 neu 105 o DCBNC;

(c)

taliad yn rhinwedd erthygl 14, 15, 16, 43 neu 44 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(4) neu unrhyw daliad cyfatebol; neu

(d)

unrhyw daliad sy’n seiliedig ar yr angen am weini, a delir fel rhan o bensiwn anabledd rhyfel;

ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw awdurdod bilio y mae cynllun yn cael effaith mewn perthynas â’i ardal yn unol â rheoliad 12;

mae i “cyfradd sylfaenol” yr ystyr a roddir i “basic rate” gan Ddeddf Treth Incwm 2007(5);

ystyr “y Deddfau budd-dal” (“the benefit Acts”) yw DCBNC, Deddf Ceiswyr Gwaith 1995(6), Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(7) a Deddf Diwygio Lles 2007(8);

ystyr “prydau bwyd a llety” (“board and lodging accommodation”) yw llety a ddarperir i berson, neu, os yw’r person hwnnw’n aelod o deulu, i’r person hwnnw neu i unrhyw aelod arall o’i deulu, am dâl sy’n cynnwys darparu’r llety hwnnw ac o leiaf rai prydau bwyd wedi eu coginio neu’u paratoi, a bod y prydau bwyd hynny hefyd yn cael eu coginio neu’u paratoi (gan berson ac eithrio’r person y darperir y llety iddo neu aelod o’i deulu) ac yn cael eu bwyta yn y llety hwnnw neu fangre gysylltiedig;

mae i “cartref gofal” yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(9) ac yn yr Alban, yr ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(10) ac yng Ngogledd Iwerddon, yr ystyr a roddir i “nursing home” gan erthygl 11 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(11) neu’r ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o’r Gorchymyn hwnnw;

ystyr “Sefydliad Caxton” (“the Caxton Foundation”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol sydd â’r enw hwnnw, a sefydlwyd ar 28 Mawrth 2011 gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o hepatitis C a phersonau eraill sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 16 oed;

mae i “budd-dal plant” yr ystyr a roddir i “child benefit” gan adran 141 o DCBNC(12);

ystyr “credyd treth plant” (“child tax credit”) yw credyd treth plant o dan adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002(13);

ystyr “perthynas agos” (“close relative”) yw rhiant, rhiant-yng-nghyfraith, mab, mab-yng-nghyfraith, merch, merch-yng-nghyfraith, llys-riant, llysfab, llysferch, brawd, chwaer neu, os yw unrhyw un o’r personau blaenorol yn un aelod o gwpl, yr aelod arall o’r cwpl hwnnw;

ystyr “taliad consesiynol” (“concessionary payment”) yw taliad a wneir o dan drefniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad y Trysorlys, a godir naill ai ar y Gronfa Yswiriant Gwladol neu ar Bleidlais Gwariant Adrannol y codir arni fudd-daliadau neu daliadau credyd treth o dan y Deddfau budd-dal neu Ddeddf Credydau Treth 2002(14);

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol” (“contributory employment and support allowance”) yw lwfans cyfrannol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(15);

ystyr “budd-dal treth gyngor” (“council tax benefit”) yw budd-dal treth gyngor o dan Ran 7 o DCBNC;

mae i “cwpl” (“couple”) yr ystyr a roddir gan reoliad 4;

ystyr “swyddfa ddynodedig” (“designated office”) yw swyddfa awdurdod, a ddynodwyd ganddo ar gyfer cael ceisiadau—

(a)

drwy hysbysiad ar, neu ynghyd â, ffurflen a gyflenwyd gan yr awdurdod at y diben o wneud cais; neu

(b)

drwy gyfeiriad ar, neu ynghyd â, ffurflen o’r fath, at ryw ddogfen arall sydd ar gael gan yr awdurdod ac a anfonwyd drwy ddull electronig neu fel arall pan ofynnwyd amdani, a hynny yn ddi-dâl; neu

(c)

drwy unrhyw gyfuniad o’r darpariaethau a bennir ym mharagraffau (a) a (b);

ystyr “lwfans byw i’r anabl” (“disability living allowance”) yw lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o DCBNC(16);

mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” gan adran 3 o Ddeddf 1992;

mae i “enillion” (“earnings”) yr ystyr a roddir gan baragraffau 12, 14 a 15 o Atodlen 1 a pharagraff 14 neu 16 o Atodlen 6, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “Ymddiriedolaeth Eileen” (“the Eileen Trust”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol sydd â’r enw hwnnw, a sefydlwyd ar 29 Mawrth 1993 gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â’i darpariaethau;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(17);

mae “enillydd cyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “employed earner” yn adran 2(1)(a) o DCBNC(18) ac mae’n cynnwys hefyd berson sy’n derbyn taliad sy’n daladwy o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon ac yn cyfateb i dâl salwch statudol neu dâl mamolaeth statudol;

ystyr “y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter” (“the Employment, Skills and Enterprise Scheme”) yw cynllun o dan adran 17A (cynlluniau i gynorthwyo personau i gael cyflogaeth: cynlluniau “gweithiwch am eich budd-dal” etc.) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(19), a adwaenir wrth yr enw hwnnw ac a ddarparwyd yn unol â threfniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda’r bwriad o gynorthwyo hawlwyr lwfans ceisio gwaith i gael cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, ac yn achos unrhyw unigolyn, gall gynnwys gweithgaredd perthynol i waith (megis profiad gwaith neu chwilio am waith);

ystyr “parth cyflogaeth” (“employment zone”) yw ardal o fewn Prydain Fawr a ddynodwyd at ddibenion adran 60 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999(20) ac ystyr “rhaglen parth cyflogaeth” (“employment zone programme”) yw rhaglen a sefydlwyd ar gyfer ardal neu ardaloedd o’r fath gyda’r bwriad o gynorthwyo hawlwyr lwfans ceisio gwaith i gael cyflogaeth gynaliadwy;

ystyr “contractwr parth cyflogaeth” (“employment zone contractor”) yw person sy’n ymgymryd â darparu cyfleusterau mewn perthynas â rhaglen parth cyflogaeth ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau;

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys deddfiad sy’n gynwysedig mewn Deddf Senedd yr Alban neu Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn offeryn a wnaed o dan Ddeddf neu Fesur o’r fath;

ystyr “gostyngiad estynedig” (“extended reduction”) yw gostyngiad o dan gynllun y mae person yn gymwys ar ei gyfer o dan Ran 5 o Atodlen 1 a Rhan 5 o Atodlen 6;

ystyr “cyfnod gostyngiad estynedig” (“extended reduction period”) yw’r cyfnod pan fo person yn cael gostyngiad estynedig yn unol â pharagraff 33 o Atodlen 1 a pharagraff 35 o Atodlen 6 neu baragraff 40 o Atodlen 6;

ystyr “gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)” (“extended reduction (qualifying contributory benefits)”) yw gostyngiad o dan gynllun y mae person yn gymwys ar ei gyfer yn unol â pharagraff 32 o Atodlen 1 a pharagraff 39 o Atodlen 6;

mae i “teulu” (“family”) yr ystyr a roddir gan reoliad 6;

ystyr “y Gronfa” (“the Fund”) yw arian a roddir ar gael o bryd i’w gilydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â darpariaethau cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 24 Ebrill 1992 neu, yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;

mae “credyd gwarant” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(21);

ystyr “taliad incwm gwarantedig” (“a guaranteed income payment”) yw taliad a wneir o dan erthygl 15(1)(c) neu erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(22);

ystyr “budd-dal tai” (“housing benefit”) yw budd-dal tai o dan Ran 7 o DCBNC;

mae i “lwfans ceisio gwaith ar sail incwm” a “lwfans ceisio gwaith cyd-hawliad” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “an income-based jobseeker’s allowance” a “a joint-claim jobseeker’s allowance” gan adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(23);

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans ar sail incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007;

mae i “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”) yr ystyr canlynol—

(a)

yn Lloegr, ysbyty yn yr ystyr a roddir i “hospital” fel y’i diffinnir yn adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(24), nad yw’n ysbyty gwasanaeth iechyd yn yr ystyr a roddir i “health service hospital” fel y’i diffinnir yn yr adran honno;

(b)

yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “independent hospital” yn adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(25); ac

(c)

yn yr Alban, gwasanaeth gofal iechyd annibynnol yn yr ystyr a roddir i “independent healthcare service” fel y’i diffinnir yn adran 10F o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(26);

ystyr “y Gronfa Byw’n Annibynnol (2006)” (“the Independent Living Fund (2006)”) yw’r Ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd gan weithred ddyddiedig 10 Ebrill 2006 ac a wnaed rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar y naill ran a Margaret Rosemary Cooper, Michael Beresford Boyall a Marie Theresa Martin ar y rhan arall;

ystyr “cerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd” (“invalid carriage or other vehicle”) yw cerbyd a yrrir gan beiriant petrol neu bŵer trydanol, a gyflenwir ar gyfer ei ddefnyddio ar y ffordd a’i reoli gan y meddiannydd;

ystyr “Cronfa Gymorth Elusennol Bomiau Llundain” (“the London Bombings Relief Charitable Fund”) yw’r cwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 5505072), a’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw hwnnw a sefydlwyd ar 11 Gorffennaf 2005 at y diben (ymhlith pethau eraill) o liniaru salwch, anabledd neu angen ariannol dioddefwyr yr ymosodiadau terfysgol a gyflawnwyd yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005 (gan gynnwys teuluoedd neu ddibynyddion y dioddefwyr);

ystyr “unig riant” (“lone parent”) yw person nad oes partner ganddo, ac sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac yn aelod o’r un aelwyd â’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig)” (“the Macfarlane (Special Payments) Trust”) yw’r ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd ar 29 Ionawr 1990, yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o haemoffilia;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2)” (“the Macfarlane (Special Payments) (No 2) Trust”) yw’r ymddiriedolaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw, a sefydlwyd ar 3 Mai 1991, yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er budd personau penodol sy’n dioddef o haemoffilia a buddiolwyr eraill;

ystyr “Ymddiriedolaeth Macfarlane” (“the Macfarlane Trust”) yw’r ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd yn rhannol gyda chyllid a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Gymdeithas Haemoffilia, i liniaru tlodi neu drallod ymhlith rhai sy’n dioddef o haemoffilia;

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth pan fo’r cyfrifiad o’r swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r ceisydd yn cynnwys cydran o dan adran 2(1)(b) neu 4(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 2007(27) ac eithrio yn Rhan 1 o Atodlen 3;

ystyr “absenoldeb mamolaeth” (“maternity leave”) yw cyfnod pan fo benyw yn absennol o’i gwaith oherwydd ei bod yn feichiog neu wedi rhoi genedigaeth i blentyn, a chanddi hawl, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, i ddychwelyd i’w gwaith naill ai o dan delerau ei chontract cyflogaeth neu o dan Ran 8 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(28);

ystyr “uchafswm gostyngiad treth gyngor” (“maximum council tax reduction amount”) yw’r swm a benderfynir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 a pharagraff 4 o Atodlen 6;

ystyr “aelod o gwpl” (“aelod o gwpl”) yw aelod o gwpl priod neu ddibriod;

MFET Limited” (“MFET Limited”) yw’r cwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 7121661) sy’n dwyn yr enw hwnnw a sefydlwyd yn benodol at y diben o wneud taliadau, yn unol â threfniadau a wnaed gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, i bersonau a heintiwyd ag HIV oherwydd triniaeth gan y GIG gyda gwaed neu gynhyrchion gwaed;

ystyr “atodiad symudedd” (“mobility supplement”) yw—

(a)

mewn perthynas â phensiynwyr, atodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a)(vii) o Atodlen 3;

(b)

mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn bensiynwyr, atodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 13 o Atodlen 9;

ystyr “symudwr” (“mover”) yw ceisydd sy’n newid yr annedd y mae’n preswylio ynddi, ac y mae’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas â hi, o annedd yn ardal un awdurdod i annedd yn ardal ail awdurdod;

ystyr “enillion net” (“net earnings”) yw’r cyfryw enillion fel y’u cyfrifir yn unol â pharagraff 13 o Atodlen 1 neu baragraff 15 o Atodlen 6, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “elw net” (“net profit”) yw’r cyfryw elw fel y’i cyfrifir yn unol â pharagraff 23 o Atodlen 1 neu baragraff 24 o Atodlen 6, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “annedd newydd” (“new dwelling”), at ddibenion y diffiniad o “ail awdurdod”, a pharagraff 35 o Atodlen 1 a pharagraffau 37 a 42 o Atodlen 6, yw’r annedd y mae’r ceisydd wedi symud iddi, neu ar fin symud iddi, a lle y bydd y ceisydd yn preswylio ynddi;

mae i “annibynnydd” (“non-dependant”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9;

ystyr “cymorth achlysurol” (“occasional assistance”) yw unrhyw daliad neu ddarpariaeth a wneir gan awdurdod lleol, Gweinidogion Cymru neu Weinidogion yr Alban at ddibenion—

(a)

ddiwallu neu gynorthwyo i ddiwallu angen byrdymor taer—

(i)

sy’n deillio o ddigwyddiad eithriadol, neu amgylchiad eithriadol, neu

(ii)

y mae angen ei ddiwallu i osgoi risg i les unigolyn, a

(b)

galluogi unigolion cymwys i sefydlu neu gynnal cartref sefydlog, ac—

(i)

mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(29); a

(ii)

ystyr “unigolion cymwys” (“qualifying individuals”) yw unigolion sydd wedi bod neu y gallent fel arall, heb y cymorth, fod—

(aa)

mewn carchar, ysbyty, sefydliad sy’n darparu gofal preswyl neu sefydliad arall, neu

(bb)

yn ddigartref neu rywfodd arall yn dilyn ffordd ansefydlog o fyw;

ystyr “pensiwn galwedigaethol” (“occupational pension”) yw unrhyw bensiwn neu daliad cyfnodol arall o dan gynllun pensiwn galwedigaethol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw daliad disgresiynol allan o gronfa a sefydlwyd i liniaru caledi mewn achosion penodol;

mae i “cynllun pensiwn galwedigaethol” yr un ystyr a roddir i “occupational pension scheme” yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993(30);

ystyr “dillad ac esgidiau cyffredin” (“ordinary clothing and footwear”) yw dillad neu esgidiau ar gyfer defnydd beunyddiol arferol, ond nid yw’n cynnwys gwisgoedd ysgol nac ychwaith ddillad neu esgidiau a ddefnyddir yn unig ar gyfer gweithgareddau chwaraeon;

ystyr “partner” (“partner”), mewn perthynas â pherson, yw—

(a)

pan fo’r person hwnnw’n aelod o gwpl, yr aelod arall o’r cwpl hwnnw; neu

(b)

yn ddarostyngedig i baragraff (c), pan fo’r person hwnnw mewn priodas amlbriod â dau neu ragor o aelodau aelwyd y person hwnnw, unrhyw aelod o’r fath sy’n briod â’r person hwnnw; neu

(c)

pan fo’r person hwnnw mewn priodas amlbriod a chanddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol gyda’r parti arall i’r briodas gynharaf, sy’n parhau mewn bodolaeth, y parti arall hwnnw i’r briodas gynharaf;

ystyr “absenoldeb tadolaeth” (“paternity leave”) yw cyfnod o absenoldeb o’r gwaith gyda chaniatâd yn rhinwedd adran 80A neu 80B o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, neu o absenoldeb tadolaeth ychwanegol yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 80AA neu 80BB o’r Ddeddf honno(31);

ystyr “deiliad cronfa bensiwn” (“pension fund holder”), mewn perthynas â chynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn galwedigaethol, yw ymddiriedolwyr, rheolwyr neu weinyddwyr y cynllun, yn ôl fel y digwydd, y cynllun dan sylw;

mae i “oedran pensiynadwy” yr ystyr a roddir i “pensionable age” gan y rheolau ym mharagraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Pensiynau 1995(32);

mae i “pensiynwr” (“pensioner”) yr ystyr a roddir gan reoliad 3(a);

ystyr “person ar gymhorthdal incwm” (“person on income support”) yw person sy’n cael cymhorthdal incwm;

mae i “person nad yw’n bensiynwr” (“person who is not a pensioner”) yr ystyr a roddir gan reoliad 3(b);

mae i “personau a drinnir fel pe na baent ym Mhrydain Fawr” (“persons treated as not being in Great Britain”) yr ystyr a roddir gan reoliad 28;

mae i “taliad annibyniaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal independence payment” gan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(33);

ystyr “cynllun pensiwn personol” (“personal pension scheme”) yw—

(a)

cynllun pensiwn personol yn yr ystyr a roddir i “personal pension scheme” fel y’i diffinnir gan adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiynau 1993(34);

(b)

contract blwydd-dal neu gynllun ymddiriedolaeth a gymeradwywyd o dan adran 620 neu 621 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988(35) neu gontract a amnewidiwyd yn yr ystyr a roddir i “the substituted contract” gan adran 622(3) o’r Ddeddf honno, ac a drinnir fel pe bai wedi dod yn gynllun pensiwn cofrestredig yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004(36);

(c)

cynllun pensiwn personol a gymeradwywyd o dan Bennod 4 o Ran 14 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988 ac a drinnir fel pe bai wedi dod yn gynllun pensiwn cofrestredig yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004;

ystyr “polisi yswiriant bywyd” (“policy of life insurance”) yw unrhyw offeryn sy’n sicrhau y telir arian ar achlysur marwolaeth (ac eithrio marwolaeth drwy ddamwain yn unig) neu ar achlysur unrhyw hapddigwyddiad sy’n dibynnu ar oes ddynol, neu unrhyw offeryn sy’n tystio i gontract sy’n amodol ar dalu premiymau am dymor sy’n dibynnu ar oes ddynol;

ystyr “priodas amlbriod” (“polygamous marriage”) yw unrhyw briodas y mae rheoliad 5 yn gymwys iddi;

mae “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yn cynnwys unrhyw berson y mae ei swyddogaethau yn swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

ystyr “oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth” (“qualifying age for state pension credit”) yw (yn unol ag adran 1(2)(b) a (6) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002)(37)

(a)

yn achos benyw, oedran pensiynadwy; neu

(b)

yn achos gwryw, yr oedran sy’n oedran pensiynadwy yn achos benyw a anwyd ar yr un diwrnod â’r gwryw;

ystyr “budd-dal cyfrannol cymwys” (“qualifying contributory benefit”) yw—

(a)

lwfans anabledd difrifol;

(b)

budd-dal analluogrwydd;

(c)

lwfans cyflogaeth a chymorth cyfrannol;

ystyr “budd-dal cymwys ar sail incwm” (“qualifying income-related benefit”) yw—

(a)

cymhorthdal incwm;

(b)

lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(c)

lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;

ystyr “person cymwys” (“qualifying person”) yw person y gwnaed taliad mewn perthynas ag ef o’r Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton neu Gronfa Gymorth Elusennol Bomiau Llundain;

ystyr “wythnos ostyngiad” (“reduction week”) yw cyfnod o saith niwrnod olynol, sy’n dechrau gyda dydd Llun ac yn diweddu gyda dydd Sul;

ystyr “perthynas” (“relative”) yw perthynas agos, taid, nain, ŵyr, wyres, ewythr, modryb, nai neu nith;

ystyr “wythnos berthnasol” (“relevant week”), mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol, yw’r wythnos y mae’r diwrnod dan sylw yn digwydd ynddi;

mae i “gwaith am dâl” (“remunerative work”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10;

ystyr “rhent” (“rent”) yw’r “eligible rent” y cyfeirir ato yn rheoliad 12 o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(38), llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas ag annibynyddion sy’n ddyladwy o dan baragraff 3 o Atodlen 1 a pharagraff 5 o Atodlen 6 (didyniadau annibynyddion) o dan gynllun awdurdod;

mae i “preswylydd” yr ystyr a roddir i “resident” gan Ran 1 o Ddeddf 1992;

mae “credyd cynilion” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “savings credit” gan adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(39);

ystyr “cynllun” (“scheme”) yw cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor fel a ragnodir yn Rhannau 2 i 5 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “ail awdurdod” (“second authority”) yw’r awdurdod y mae symudwr yn atebol i wneud taliadau iddo ar gyfer annedd newydd;

mae “enillydd hunangyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “self-employed earner” gan adran 2(1)(b) o’r DCBNC;

ystyr “llwybr hunangyflogaeth” (“self-employment route”) yw cymorth i geisio cyflogaeth fel enillydd hunangyflogedig tra’n cymryd rhan mewn—

(a)

rhaglen parth cyflogaeth;

(b)

rhaglen a ddarperir gan neu o dan drefniadau a wnaed yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(40) (swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(41) (swyddogaethau mewn perthynas â hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth, etc); neu

(c)

y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter;

ystyr “grŵp defnyddwyr gwasanaeth” (“service user group”) yw grŵp o unigolion yr ymgynghorir ag ef gan neu ar ran—

(a)

Bwrdd Iechyd, Bwrdd Iechyd Arbennig neu’r Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin ar gyfer Iechyd yr Alban, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 2B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(42),

(b)

awdurdod landlord(43), o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 105 o Ddeddf Tai 1985(44),

(c)

awdurdod cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 49A o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995(45),

(d)

awdurdod cyhoeddus, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (dyletswydd gyffredinol awdurdod cyhoeddus)(46),

(e)

awdurdod gwerth gorau, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(47),

(f)

awdurdod gwella Cymreig, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 5 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(48),

(g)

landlord awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 53 o Ddeddf Tai (Yr Alban) 2001(49),

(h)

corff Cymreig perthnasol neu gorff Seisnig perthnasol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 242 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(50),

(i)

Bwrdd Iechyd Lleol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adran 183 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(51),

(j)

y Comisiwn Ansawdd Gofal, wrth arfer swyddogaeth o dan adrannau 4 neu 5 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008(52),

(k)

y rheoleiddiwr neu ddarparwr cofrestredig preifat tai cymdeithasol, o ganlyniad i swyddogaeth o dan adrannau 98, 193 neu 196 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008(53), neu

(l)

awdurdod cyhoeddus neu awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr, o ganlyniad i swyddogaeth a roddwyd o dan unrhyw ddeddfiad arall,

at y diben o fonitro a chynghori ar bolisi’r corff neu’r awdurdod hwnnw sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar bersonau yn y grŵp, neu at y diben o fonitro neu gynghori ar wasanaethau a ddarperir gan y corff neu’r awdurdod hwnnw ac a ddefnyddir (neu y mae’n bosibl y’u defnyddir) gan y personau hynny;

ystyr “ceisydd sengl” (“single applicant”) yw ceisydd nad oes ganddo bartner ac nad yw’n unig riant;

ystyr “Cronfa Skipton” (“the Skipton Fund”) yw’r cynllun taliadau ex gratia a weinyddir gan Skipton Fund Limited, a gorfforwyd ar 25 Mawrth 2004, er budd personau penodol sy’n dioddef o hepatitis C a phersonau eraill sy’n gymwys i gael taliadau yn unol â darpariaethau’r cynllun;

ystyr “dyfarniad chwaraeon” (“sports award”) yw dyfarniad a wnaed gan un o’r Cynghorau Chwaraeon a enwir yn adran 23(2) o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc 1993 allan o symiau a ddyrannwyd iddo i’w dosbarthu o dan yr adran honno(54);

ystyr “DCBNC” (“the SSCBA”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(55);

mae i “credyd pensiwn y wladwriaeth” yr ystyr a roddir i “state pension credit” o dan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(56);

mae i “myfyriwr” (“student”) yr ystyr a ragnodir ym mharagraff 1 o Atodlen 11;

ystyr “lwfans cynhaliaeth” (“subsistence allowance”) yw lwfans y mae contractwr parth cyflogaeth wedi cytuno i’w dalu i berson sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth;

ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw cyfnod sy’n cychwyn gyda 6 Ebrill mewn un flwyddyn ac yn diweddu gyda 5 Ebrill yn y flwyddyn nesaf;

ystyr “lwfans hyfforddi” (“training allowance”) yw lwfans (boed ar ffurf grantiau cyfnodol neu fel arall) sy’n daladwy—

(a)

allan o arian cyhoeddus gan adran o’r Llywodraeth neu gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, Prif Weithredwr Ariannu Sgiliau neu Weinidogion Cymru;

(b)

i berson am gynhaliaeth y person hwnnw neu mewn perthynas ag aelod o deulu’r person hwnnw; ac

(c)

am y cyfnod, neu ran o’r cyfnod, pan fo’r person hwnnw’n dilyn cwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir gan yr adran honno, neu’n unol â threfniadau a wnaed gyda’r adran honno, neu a gymeradwywyd ganddi mewn perthynas â’r person hwnnw, neu a ddarparwyd neu a gymeradwywyd felly gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd neu Weinidogion Cymru,

ond nid yw’n cynnwys lwfans a delir gan unrhyw adran y Llywodraeth i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson oherwydd bod y person hwnnw’n dilyn cwrs addysg amser llawn, ac eithrio o dan drefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(57), neu’n dilyn hyfforddiant athrawon;

ystyr “yr Ymddiriedolaethau” (“the Trusts”) yw Ymddiriedolaeth Macfarlane, Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) ac Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2);

mae i “credyd cynhwysol” yr ystyr a roddir i “universal credit” gan adran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(58);

ystyr “sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yw corff, ac eithrio awdurdod cyhoeddus neu awdurdod lleol, nas cyflawnir ei weithgareddau er mwyn gwneud elw;

ystyr “pensiwn anabledd rhyfel” (“war disablement pension”) yw unrhyw dâl neu bensiwn neu lwfans ymddeoliad sy’n daladwy mewn perthynas ag anabledd o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(59);

ystyr “pensiwn rhyfel” (“war pension”) yw pensiwn anabledd rhyfel, pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

ystyr “pensiwn rhyfel gwraig weddw” (“war widow’s pension”) yw unrhyw bensiwn neu lwfans sy’n daladwy i fenyw fel gweddw o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003, mewn perthynas â marwolaeth neu anabledd unrhyw berson;

ystyr “pensiwn rhyfel gŵr gweddw” (“war widower’s pension”) yw unrhyw bensiwn neu lwfans sy’n daladwy i ddyn fel gweddw neu i bartner sifil sy’n goroesi o dan offeryn a bennir yn adran 639(2) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 mewn perthynas â marwolaeth neu anabledd unrhyw berson;

ystyr “taliadau dŵr” (“water charges”) yw—

(a)

o ran Cymru a Lloegr, unrhyw daliadau dŵr a charthffosiaeth o dan Bennod 1 o Ran 5 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(60),

(b)

o ran yr Alban, unrhyw daliadau dŵr a charthffosiaeth a sefydlwyd gan Scottish Water o dan gynllun taliadau a wnaed o dan adran 29A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr (Yr Alban) 2002(61),

i’r graddau y mae a wnelo’r cyfryw daliadau â’r annedd a feddiennir gan berson fel ei gartref;

mae i “credyd treth gwaith” yr ystyr a roddir i “working tax credit” o dan adran 10 o Ddeddf Credydau Treth 2002(62);

ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person sy’n dod o fewn y diffiniad o “qualifying young person” yn adran 142 o DCBNC(63).

(2Yn y Rheoliadau hyn, pan fo swm i gael ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf, rhaid diystyru ffracsiwn o geiniog os yw’n llai na hanner ceiniog, ac fel arall rhaid ei drin fel pe bai’n geiniog gyfan.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar unrhyw ddiwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, ac ar unrhyw ddiwrnod—

(a)y mae’r person hwnnw’n bodloni’r amodau hawlogaeth am lwfans ceisio gwaith ar sail incwm mewn perthynas ag ef, ond na thelir y lwfans oherwydd gostyngiad yn unol ag adran 19 neu 19A neu reoliadau a wnaed o dan adran 17A neu 19B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(64) (amgylchiadau pan nad yw lwfans ceisio gwaith yn daladwy);

(b)sy’n ddiwrnod aros yn yr ystyr o “waiting day” at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno ac sy’n digwydd yn union cyn diwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, neu y byddai’n daladwy i’r person hwnnw oni bai am adran 19 neu 19A neu reoliadau a wnaed o dan adran 17A neu 19B o’r Ddeddf honno; neu

(c)y byddai lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef oni bai am gyfyngiad a osodwyd yn unol ag adran 6B, 7, 8 neu 9 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001(65) (darpariaethau colli budd-dal).

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm ar unrhyw ddiwrnod y mae lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, ac ar unrhyw ddiwrnod—

(a)y mae’r person hwnnw’n bodloni’r amodau hawlogaeth am lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm mewn perthynas ag ef, ond na thelir y lwfans, yn unol ag adran 18 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(66) (anghymhwyso); neu

(b)sy’n ddiwrnod aros yn yr ystyr o “waiting day” at ddibenion paragraff 2 o Atodlen 2 (lwfans cyflogaeth a chymorth: darpariaethau atodol) i’r Ddeddf honno, ac sy’n digwydd yn union cyn diwrnod y mae lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm yn daladwy mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw, neu y byddai’n daladwy i’r person hwnnw oni bai am adran 18 o’r Ddeddf honno.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid peidio ag ystyried bod dau berson wedi ymddieithrio onid yw’r ymddieithriad yn gyfystyr â thoriad o’r berthynas rhyngddynt.

(6Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at unrhyw berson sy’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth yn cynnwys person a fyddai’n cael credyd pensiwn y wladwriaeth oni bai am reoliad 13 o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(67) (symiau bach o gredyd pensiwn y wladwriaeth).

Ystyr “pensiynwr” a “person nad yw’n bensiynwr”

3.  Yn y Rheoliadau hyn, mae person—

(a)yn “pensiynwr” (“pensioner”)—

(i)os yw’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; a

(ii)os nad yw’r person hwnnw, ac, os oes gan y person hwnnw bartner, os nad yw partner y person hwnnw—

(aa)yn berson ar gymhorthdal incwm, ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu

(bb)yn berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol; a

(b)yn “person nad yw’n bensiynwr” (“person who is not a pensioner”)—

(i)os nad yw’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(ii)os yw’r person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth, a’r person hwnnw, neu, os oes gan y person hwnnw bartner, partner y person hwnnw—

(aa)yn berson ar gymhorthdal incwm, ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu

(bb)yn berson sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol.

Ystyr “cwpl”

4.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cwpl” (“couple”) yw—

(a)dau o bobl sydd naill ai’n briod â’i gilydd, neu’n bartneriaid sifil i’w gilydd, ac sy’n aelodau o’r un aelwyd;

(b)dau o bobl sy’n byw gyda’i gilydd fel pe baent yn gwpl priod.

Priodasau amlbriod

5.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn unrhyw achos—

(a)pan fo person yn ŵr neu’n wraig yn rhinwedd priodas yr ymunwyd ynddi o dan gyfraith sy’n caniatáu amlbriodas; a

(b)pan fo gan y naill barti i’r briodas neu’r llall, am y tro, unrhyw briod yn ychwanegol at y parti arall.

(2At ddibenion rheoliad 4, rhaid peidio ag ystyried bod y naill barti i’r briodas na’r llall yn aelod o gwpl.

Ystyr “teulu”

6.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “teulu” (“family”) yw—

(a)cwpl;

(b)cwpl ynghyd ag aelod o’r un aelwyd, y mae un aelod o’r cwpl neu’r ddau yn gyfrifol amdano ac sy’n blentyn neu’n berson ifanc; neu

(c)person nad yw’n aelod o gwpl ynghyd ag aelod o’r un aelwyd, y mae’r person hwnnw yn gyfrifol amdano ac sy’n blentyn neu’n berson ifanc.

(2Mae’r cyfeiriadau at blentyn neu berson ifanc ym mharagraff (1)(b) ac (c) yn cynnwys plentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC(68) yn gymwys iddo at ddibenion hawlogaeth am fudd-dal plant, ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan adran 145A(1).

(3Nid yw’r cyfeiriadau at berson ifanc ym mharagraff (1)(b) ac (c) yn cynnwys person ifanc sydd—

(a)ar gymhorthdal incwm, ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu ar lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol; neu

(b)person y mae adran 6 (eithrio rhag cael budd-daliadau) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000(69) yn gymwys iddo.

Amgylchiadau pan fo person i gael ei drin fel un sy’n gyfrifol neu ddim yn gyfrifol am berson arall

7.—(1Rhaid trin person fel un sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda’r person hwnnw, gan gynnwys plentyn neu berson ifanc y mae rheoliad 6(2) yn gymwys iddo.

(2Os yw plentyn neu berson ifanc yn treulio cyfnodau cyfartal o amser ar wahanol aelwydydd, neu os cwestiynir ar ba aelwyd y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn byw, rhaid trin y plentyn neu berson ifanc at ddibenion paragraff (1) fel pe bai’n byw fel arfer gydag—

(a)y person sy’n cael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu

(b)os nad oes person o’r fath—

(i)os gwnaed un hawliad yn unig am fudd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw, y person a wnaeth yr hawliad hwnnw, neu

(ii)mewn unrhyw achos arall, y person sy’n bennaf cyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae plentyn neu berson ifanc yn gyfrifoldeb i un person yn unig yn ystod unrhyw wythnos ostyngiad, a rhaid trin unrhyw berson, ac eithrio’r person a drinnir fel un sy’n gyfrifol am y plentyn neu berson ifanc o dan y rheoliad hwn, fel un nad yw’n gyfrifol felly.

Aelwydydd

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid trin ceisydd ac unrhyw bartner ac, os trinnir y ceisydd neu bartner y ceisydd (yn rhinwedd rheoliad 7) fel un sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, y plentyn neu berson ifanc hwnnw ac unrhyw blentyn y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, fel aelodau o’r un aelwyd hyd yn oed os oes unrhyw rai ohonynt yn absennol dros dro o’r aelwyd honno.

(2Rhaid peidio â thrin plentyn neu berson ifanc fel aelod o aelwyd y ceisydd os yw’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw—

(a)wedi ei leoli gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd gan awdurdod lleol o dan adran 22C neu 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989(70) neu gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o’r Ddeddf honno, neu, yn yr Alban, wedi ei letya gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd o dan ddeddfiad perthnasol; neu

(b)wedi ei leoli, neu yn yr Alban, wedi ei letya, gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd cyn ei fabwysiadu; neu

(c)wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(71) neu Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Yr Alban) 2009(72), neu Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987(73).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw paragraff (1) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc nad yw’n byw gyda’r ceisydd ac—

(a)sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu, yn yr Alban, sydd yng ngofal awdurdod lleol, o dan ddeddfiad perthnasol; neu

(b)sydd wedi ei leoli, neu yn yr Alban, wedi ei letya, gyda pherson ac eithrio’r ceisydd, cyn ei fabwysiadu; neu

(c)wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 neu Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Yr Alban) 2009, neu Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987.

(4Rhaid i awdurdod drin plentyn neu berson ifanc y mae paragraff (3)(a) yn gymwys iddo fel aelod o aelwyd y ceisydd mewn unrhyw wythnos ostyngiad—

(a)os yw’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw yn byw gyda’r ceisydd am ran neu’r cyfan o’r wythnos ostyngiad honno; a

(b)os yw’r awdurdod o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny, gan ystyried natur ac amlder ymweliadau’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

(5Yn y paragraff hwn, ystyr “deddfiad perthnasol” (“relevant enactment”) yw—

(a)Deddf y Fyddin 1955(74);

(b)Deddf y Llu Awyr 1955(75);

(c)Deddf Disgyblaeth y Llynges 1957(76);

(d)Deddf Achosion Priodasol (Plant)1958(77);

(e)Deddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(78);

(f)Deddf Diwygio Cyfraith Teulu 1969(79);

(g)Deddf Plant a Phobl Ifanc 1969(80);

(h)Deddf Achosion Priodasol 1973(81);

(i)Deddf Plant 1975(82);

(j)Deddf Achosion Domestig a Llysoedd Ynadon 1978(83);

(k)Deddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007(84);

(l)Deddf Cyfraith Teulu 1986(85);

(m)Deddf Plant 1989(86);

(n)Deddf Plant (Yr Alban) 1995(87);

(o)Deddf y Lluoedd Arfog 2006(88); a

(p)Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012(89).

Annibynyddion

9.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “annibynnydd” (“non-dependant”) yw unrhyw berson, ac eithrio rhywun y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, sydd fel arfer yn preswylio gyda cheisydd neu y mae ceisydd fel arfer yn preswylio gydag ef.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)unrhyw aelod o deulu’r ceisydd;

(b)os yw’r ceisydd mewn priodas amlbriod unrhyw bartner i’r ceisydd ac unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n aelod o aelwyd y ceisydd ac y mae’r ceisydd neu un o bartneriaid y ceisydd yn gyfrifol amdano;

(c)plentyn neu berson ifanc sy’n byw gyda’r ceisydd ond nad yw’n aelod o aelwyd y ceisydd yn rhinwedd rheoliad 8 (aelwydydd);

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (3), unrhyw berson sydd, ynghyd â’r ceisydd, yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd ar gyfer unrhyw ddiwrnod o dan adrannau 6 neu 7 o Ddeddf 1992(90) (personau sy’n atebol i dalu treth gyngor);

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (3), unrhyw berson sy’n atebol i wneud taliadau ar sail fasnachol i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd mewn perthynas â meddiannu’r annedd;

(f)person sy’n byw gyda’r ceisydd er mwyn gofalu am y ceisydd neu bartner i’r ceisydd, ac a gymerwyd ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol sy’n codi ffi ar y ceisydd neu bartner y ceisydd am y gwasanaethau a ddarperir gan y person hwnnw.

(3Ac eithrio personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) i (c) ac (f), mae person y mae unrhyw un o’r is-baragraffau canlynol yn gymwys iddo yn annibynnydd—

(a)person (P) sy’n preswylio gyda’r person (O) y mae P yn atebol i wneud taliadau iddo mewn perthynas â’r annedd, pan fo naill ai—

(i)O yn berthynas agos neu’n bartner i P; neu

(ii)y denantiaeth neu’r cytundeb arall sydd rhyngddynt ar sail ac eithrio sail fasnachol;

(b)person y mae’n ymddangos i’r awdurdod fod ei atebolrwydd i wneud taliadau mewn perthynas â’r annedd wedi ei greu er mwyn manteisio ar gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, ac eithrio rhywun a oedd, am unrhyw gyfnod o fewn yr wyth wythnos cyn creu’n cytundeb a oedd yn achosi’r atebolrwydd i wneud y cyfryw daliadau, yn atebol rywfodd arall i wneud taliadau o rent mewn perthynas â’r un annedd;

(c)person sy’n dod yn atebol, ar y cyd â’r ceisydd a hefyd yn unigol, am dreth gyngor mewn perthynas â’r annedd ac a oedd, am unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o wyth wythnos cyn iddo ddod yn atebol felly, yn annibynnydd o un neu ragor o’r preswylwyr eraill yn yr annedd honno sy’n atebol felly am y dreth, ac eithrio pan nad yw’r newid sy’n achosi’r atebolrwydd newydd wedi ei wneud er mwyn manteisio ar gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor.

Gwaith am dâl

10.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, rhaid trin person fel un sy’n ymgymryd â gwaith am dâl at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw’r person hwnnw’n ymgymryd â gwaith y telir amdano, neu y disgwylir tâl amdano, am o leiaf 16 awr yr wythnos, neu 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd os yw oriau gwaith y person hwnnw’n amrywio.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), wrth benderfynu nifer yr oriau y mae person yn ymgymryd â gwaith pan fo’i oriau gwaith yn amrywio, rhaid rhoi sylw i nifer cyfartalog yr oriau a weithir dros gyfnodau fel a ganlyn—

(a)os oes cylch gwaith adnabyddadwy, dros gyfnod un cylch cyflawn (ac os oes cyfnodau mewn cylch pan nad yw’r person yn ymgymryd â gwaith, dylid cynnwys y cyfnodau hynny, ond diystyru unrhyw absenoldebau eraill);

(b)mewn unrhyw achos arall, dros y cyfnod o 5 wythnos yn union cyn dyddiad y cais, neu pa bynnag gyfnod arall a allai, yn yr achos penodol dan sylw, alluogi canfod oriau gwaith wythnosol cyfartalog y person yn fwy cywir.

(3At ddibenion paragraff (2)(a), os yw cylch adnabyddadwy gwaith person mewn ysgol, sefydliad addysgol arall neu fan cyflogaeth arall yn un flwyddyn ac yn cynnwys cyfnodau o wyliau ysgol neu wyliau cyffelyb pan nad yw’r person hwnnw’n gweithio, rhaid diystyru’r cyfnodau hynny ac unrhyw gyfnodau eraill, nad ydynt yn ffurfio rhan o wyliau o’r fath pan nad yw’n ofynnol bod y person hwnnw’n gweithio, wrth ganfod yr oriau cyfartalog pan fo’r person hwnnw’n ymgymryd â gwaith.

(4Os nad oes cylch adnabyddadwy wedi ei ganfod mewn perthynas â’r gwaith a wneir gan berson, rhaid rhoi sylw i nifer yr oriau, neu, os yw’r oriau hynny yn amrywio, nifer cyfartalog yr oriau, y disgwylir i’r person hwnnw eu gweithio mewn wythnos.

(5Rhaid trin person fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n absennol o waith y cyfeirir ato ym mharagraff (1), os yw’n absennol naill ai heb reswm da neu oherwydd gŵyl gydnabyddedig neu arferol neu ŵyl arall.

(6Rhaid trin person sydd ar gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm am fwy na 3 diwrnod mewn unrhyw wythnos ostyngiad fel pe na bai mewn gwaith am dâl am yr wythnos honno.

(7Rhaid peidio â thrin person fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl ar unrhyw ddiwrnod pan fo’r person hwnnw ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu, neu’n absennol o’r gwaith oherwydd ei fod yn sâl.

(8Rhaid peidio â thrin person fel pe bai’n ymgymryd â gwaith am dâl ar unrhyw ddiwrnod pan fo’r person hwnnw’n ymgymryd â gweithgaredd—

(a)y mae gwobr chwaraeon wedi ei dyfarnu, neu i gael ei dyfarnu, mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw; a

(b)na wnaed, ac ni ddisgwylir y gwneir, unrhyw daliad arall mewn perthynas ag ef i’r person hwnnw.

RHAN 2Cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor

Cynlluniau

11.  Mae awdurdod yng Nghymru yn gorff penodedig at ddibenion adran 13A(4)(a) o Ddeddf 1992.

Dyletswydd ar awdurdodau i wneud cynlluniau ac arfer swyddogaethau

12.—(1Rhaid i bob awdurdod yng Nghymru wneud cynllun a fydd yn pennu’r gostyngiadau a gymhwysir i’r symiau o dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau y mae’r cynllun yn gymwys iddynt mewn perthynas ag anheddau a leolir yn ardal yr awdurdod.

(2Ni chaiff y swyddogaeth o wneud cynllun, fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod o dan drefniadau gweithredol.

(3Nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(91) (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (1).

(4Yn y rheoliad hwn, mae i’r cyfeiriadau at “gweithrediaeth” a “trefniadau gweithredol” yr un ystyron a roddir, yn eu trefn i “executive” ac “executive arrangements” gan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(92) neu offeryn a wnaed o dan y Rhan honno o’r Ddeddf honno.

Blwyddyn ariannol gyntaf y cynlluniau

13.  Rhaid i bob awdurdod yng Nghymru wneud cynllun erbyn 31 Ionawr 2014 fan bellaf, a rhaid i’r flwyddyn ariannol sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2014 fod yn flwyddyn ariannol gyntaf y bydd y cynllun hwnnw’n ymwneud â hi.

Gofynion cynlluniau o ran dosbarthiadau o bersonau

14.  Rhaid i gynllun—

(a)datgan pa ddosbarthiadau o bersonau sydd â hawl i gael gostyngiad;

(b)cynnwys y dosbarthiadau hynny o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 22 i 25;

(c)peidio â chynnwys y dosbarthiadau hynny o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31.

Gofynion cynlluniau o ran gostyngiadau

15.—(1Rhaid i gynllun bennu’r gostyngiad y bydd hawl gan bersonau ym mhob dosbarth i’w gael.

(2Bydd hawl o dan gynllun, gan y dosbarthiadau o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 22 a 23, i’r gostyngiadau a ragnodir yn Rhan 3 o Atodlen 1 (pensiynwyr).

(3Bydd hawl o dan gynllun, gan y dosbarthiadau o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 24 a 25, i’r gostyngiadau a ragnodir yn Rhan 3 o Atodlen 6 (personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Gofynion gweithdrefnol cynlluniau

16.  Rhaid i gynllun ddatgan—

(a)y weithdrefn y caiff person wneud cais am ostyngiad o dan gynllun yn unol â hi;

(b)y weithdrefn y caiff person apelio yn unol â hi, yn erbyn penderfyniad awdurdod mewn perthynas ag—

(i)hawl person i gael gostyngiad o dan gynllun; neu

(ii)swm unrhyw ostyngiad y mae hawl gan y person i’w gael.

(c)y weithdrefn y caiff person wneud cais i awdurdod yn unol â hi am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992.

Paratoi cynllun

17.—(1Cyn gwneud cynllun rhaid i’r awdurdod—

(a)cyhoeddi cynllun drafft yn y cyfryw ffurf yr ystyria’n briodol, a

(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill yr ystyria’n debygol bod ganddynt ddiddordeb yng ngweithrediad ei gynllun.

(2Ar ôl gwneud cynllun, rhaid i’r awdurdod gyhoeddi’r cynllun hwnnw yn y cyfryw ffurf yr ystyria’n briodol.

Diwygio ac amnewid cynlluniau

18.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod ystyried a ddylai ddiwygio ei gynllun neu ei amnewid gan gynllun arall.

(2Rhaid i awdurdod wneud unrhyw ddiwygiad yn ei gynllun, neu unrhyw gynllun a amnewidir, ddim hwyrach na 31 Ionawr yn y flwyddyn ariannol sy’n rhagflaenu’r flwyddyn ariannol pan fo’r diwygiad neu’r cynllun a amnewidir i gael effaith.

(3Os bydd unrhyw ddiwygiad mewn cynllun, neu unrhyw gynllun a amnewidir, yn cael yr effaith o leihau neu ddiddymu gostyngiad y mae hawl gan unrhyw ddosbarth o bersonau i’w gael, rhaid i’r diwygiad neu’r cynllun a amnewidir gynnwys pa bynnag ddarpariaeth drosiannol a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod mewn perthynas â’r diwygiad neu’r diddymiad hwnnw.

(4Mae rheoliad 17 yn gymwys i awdurdod pan fo’n diwygio cynllun fel y mae’n gymwys i awdurdod pan fo’n gwneud cynllun.

(5Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at gynllun yn cynnwys cynllun a amnewidir.

Hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru

19.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i awdurdod yng Nghymru sy’n ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod yn cyflenwi iddynt ba bynnag wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad ac y gofynnir amdani ganddynt hwy at y diben o arfer, neu benderfynu a ddylid arfer, unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â chynlluniau.

(2Rhaid i’r awdurdod gyflenwi’r wybodaeth y gofynnir amdani os yw’r wybodaeth yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, a rhaid iddo wneud hynny yn y cyfryw ffurf a modd ac yn y cyfryw amser a bennir yn yr hysbysiad.

(3Os yw awdurdod yn methu â chydymffurfio â pharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaeth ar sail pa bynnag ragdybiaethau ac amcangyfrifon yr ystyriant yn briodol.

(4Wrth arfer, neu benderfynu a ddylid arfer, unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â chynlluniau, caiff Gweinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth hefyd unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael, o ba bynnag ffynhonnell, pa un a gafwyd yr wybodaeth honno o dan ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw Ddeddf neu a wnaed odanynt, ai peidio.

Cyflenwi dogfennau

20.  Yn ddarostyngedig i reoliad 19, caiff awdurdod godi tâl rhesymol am gyflenwi copïau o ddogfennau sy’n ymwneud â’i gynllun.

RHAN 3Dosbarthiadau rhagnodedig o bersonau y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod

Dosbarthiadau o bersonau y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun

21.  Mae’r dosbarthiadau o bersonau a ddisgrifir yn rheoliadau 22 i 25 yn ddosbarthiadau rhagnodedig o bersonau at ddibenion paragraff 3(1)(a) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992(93) ac y mae’n rhaid eu cynnwys yng nghynllun awdurdod a rhoi iddynt yr hawl i ostyngiad o dan y cynllun.

Dosbarth A: pensiynwyr â’u hincwm yn llai na’r swm cymwysadwy

22.  Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth A yn cynnwys unrhyw berson sy’n bensiynwr—

(a)sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)nad yw, yn ddarostyngedig i reoliad 26 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31 ac a eithrir rhag hawlogaeth o dan gynllun;

(e)nad yw ei incwm (os oes incwm) ar gyfer yr wythnos berthnasol yn fwy na swm cymwysadwy y person hwnnw, a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 1 ac Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr); ac

(f)sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod.

Dosbarth B: pensiynwyr â’u hincwm yn fwy na’r swm cymwysadwy

23.  Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth B yn cynnwys unrhyw berson sy’n bensiynwr—

(a)sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)nad yw, yn ddarostyngedig i reoliad 26 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31 ac a eithrir rhag hawlogaeth o dan gynllun;

(e)y mae ei incwm ar gyfer yr wythnos berthnasol yn fwy na swm cymwysadwy y person hwnnw, a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 1 ac Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr);

(f)y mae swm A yn fwy na swm B mewn perthynas ag ef, os—

(i)swm A yw uchafswm y gostyngiad treth gyngor ar gyfer y diwrnod yn achos y person hwnnw; a

(ii)swm B yw 26/7 y cant o’r gwahaniaeth rhwng incwm y person hwnnw am yr wythnos berthnasol a swm cymwysadwy y person hwnnw; ac

(g)sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod.

Dosbarth C: personau nad ydynt yn bensiynwyr, â’u hincwm yn llai na’r swm cymwysadwy

24.  Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth C yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n bensiynwr—

(a)sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)nad yw, yn ddarostyngedig i reoliad 26 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31 ac a eithrir rhag hawlogaeth o dan gynllun;

(e)y mae ei incwm (os oes incwm) ar gyfer yr wythnos berthnasol yn llai na swm cymwysadwy y person hwnnw, a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 6 ac Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr); ac

(f)sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod.

Dosbarth D: personau nad ydynt yn bensiynwyr, â’u hincwm yn fwy na’r swm cymwysadwy

25.  Ar unrhyw ddiwrnod mae dosbarth D yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n bensiynwr—

(a)sydd, ar gyfer y diwrnod hwnnw, yn atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae’r person hwnnw’n preswylio ynddi;

(b)nad yw, yn ddarostyngedig i reoliad 26 (cyfnodau o absenoldeb o annedd), yn absennol o’r annedd drwy gydol y diwrnod;

(c)y gellir cyfrifo uchafswm gostyngiad treth gyngor mewn perthynas ag ef;

(d)nad yw’n perthyn i ddosbarth o bersonau a ragnodir yn rheoliadau 28 i 31 ac a eithrir rhag hawlogaeth o dan gynllun;

(e)y mae ei incwm ar gyfer yr wythnos berthnasol yn fwy na swm cymwysadwy y person hwnnw, a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 6 ac Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr);

(f)y mae swm A yn fwy na swm B mewn perthynas ag ef, os—

(i)swm A yw uchafswm y gostyngiad treth gyngor ar gyfer y diwrnod yn achos y person hwnnw; a

(ii)swm B yw 26/7 y cant o’r gwahaniaeth rhwng incwm y person hwnnw am yr wythnos berthnasol a swm cymwysadwy y person hwnnw; ac

(g)sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod.

Cyfnodau o absenoldeb o annedd

26.—(1Nid yw person yn absennol o annedd mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod sy’n digwydd o fewn cyfnod o absenoldeb dros dro o’r annedd honno.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “cyfnod o absenoldeb dros dro” (“period of temporary absence”) yw—

(a)cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 13 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf pan fo person yn preswylio mewn llety preswyl a phan fo, a chyhyd â bo—

(i)y person hwnnw’n preswylio yn y llety hwnnw;

(ii)y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod; a

(iii)y cyfnod hwnnw o absenoldeb ddim yn rhan o gyfnod hwy o absenoldeb o’r annedd am fwy na 52 wythnos,

a’r person hwnnw wedi symud i’r llety at y diben o ganfod a yw’r llety’n addas ar gyfer ei anghenion, a chyda’r bwriad o ddychwelyd i’r annedd os daw’n amlwg nad yw’r llety’n addas ar gyfer ei anghenion;

(b)cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 13 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf o absenoldeb o’r annedd pan fo, a chyhyd â bo—

(i)y person yn bwriadu dychwelyd i’r annedd;

(ii)y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod; a

(iii)y cyfnod hwnnw’n annhebygol o fod yn hwy na 13 wythnos; ac

(c)cyfnod o absenoldeb o ddim mwy na 52 wythnos, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod cyfan cyntaf o’r absenoldeb hwnnw pan fo, a chyhyd â bo—

(i)y person yn bwriadu dychwelyd i’r annedd;

(ii)y rhan o’r annedd lle mae’r person hwnnw’n preswylio fel arfer heb ei gosod neu ei his-osod;

(iii)y person yn berson y mae paragraff (3) yn gymwys iddo; a

(iv)y cyfnod o absenoldeb yn annhebygol o fod yn hwy na 52 wythnos neu, mewn amgylchiadau eithriadol, yn annhebygol o fod yn sylweddol hwy na’r cyfnod hwnnw.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson—

(a)a gedwir yn y ddalfa ar remánd tra’n disgwyl treial, neu y gwneir yn ofynnol, fel amod mechnïaeth, ei fod yn preswylio—

(i)mewn annedd ac eithrio’r annedd y cyfeirir ati ym mharagraff (1), neu

(ii)mewn mangre a gymeradwyir o dan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007(94),

neu a gedwir yn y ddalfa tra’n disgwyl dedfryd ar ôl ei gollfarnu;

(b)sy’n preswylio mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb, fel claf;

(c)sy’n cael, neu y mae’i bartner neu blentyn dibynnol yn cael, triniaeth feddygol neu gyfnod gwella a gymeradwywyd yn feddygol, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, mewn llety ac eithrio llety preswyl;

(d)sy’n dilyn cwrs hyfforddi, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;

(e)sy’n ymgymryd â gofal, a gymeradwywyd yn feddygol, person sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;

(f)sy’n ymgymryd â gofal plentyn y mae’i riant neu’i warcheidwad yn absennol dros dro o’r annedd a feddiennir fel arfer gan y rhiant neu’r gwarcheidwad hwnnw at y diben o gael gofal a gymeradwywyd yn feddygol neu driniaeth feddygol;

(g)sydd, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, yn cael gofal a gymeradwywyd yn feddygol, mewn llety ac eithrio llety preswyl;

(h)sy’n fyfyriwr;

(i)sy’n cael gofal a ddarperir mewn llety preswyl ac nad yw’n berson y mae paragraff (2)(a) yn gymwys iddo; neu

(j)sydd wedi gadael yr annedd y mae’r person yn preswylio ynddi oherwydd ei fod yn ofni trais, naill ai yn yr annedd honno neu gan berson a oedd gynt yn aelod o deulu y person hwnnw.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson—

(a)a gedwir yn y ddalfa tra’n disgwyl dedfryd ar ôl ei gollfarnu neu o dan ddedfryd a osodwyd gan lys (ac eithrio person a gedwir mewn ysbyty o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl 1983(95), neu, yn yr Alban, o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003(96) neu Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(97) neu, yng Ngogledd Iwerddon, o dan erthygl 4 neu 12 o Orchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon)1986(98)); a

(b)wedi ei ryddhau dros dro o’r ddalfa yn unol â Rheolau a wnaed o dan ddarpariaethau Deddf Carchardai 1952(99) neu Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989(100).

(5Pan fo paragraff (4) yn gymwys i berson, yna, ar gyfer unrhyw ddiwrnod pan fo’r person hwnnw yn rhydd dros dro—

(a)os digwyddodd cyfnod o absenoldeb dros dro o dan baragraff (2)(b) neu (c) yn union cyn y cyfryw ryddhad dros dro, rhaid trin y person hwnnw at ddibenion paragraff (1) fel pe bai’r person hwnnw’n parhau i fod yn absennol o’r annedd, er gwaethaf unrhyw ddychweliad i’r annedd;

(b)at ddibenion paragraff (3)(a), rhaid trin y person hwnnw fel pe bai’n parhau yn y ddalfa;

(c)os nad yw’r person hwnnw’n dod o fewn is-baragraff (a), rhaid peidio ag ystyried y person hwnnw’n berson sy’n atebol i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd lle mae’r person hwnnw’n breswylydd.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “a gymeradwywyd yn feddygol” (“medically approved”) yw ardystiedig gan ymarferydd meddygol;

ystyr “claf” (“patient”) yw person sy’n cael triniaeth feddygol neu driniaeth arall fel claf mewnol mewn unrhyw ysbyty neu sefydliad cyffelyb;

ystyr “llety preswyl” (“residential accommodation”) yw llety a ddarperir mewn—

(a)

cartref gofal;

(b)

ysbyty annibynnol;

(c)

Cartref Abbeyfield; neu

(d)

sefydliad a reolir neu a ddarperir gan gorff a gorfforwyd gan Siarter Brenhinol neu a gyfansoddwyd gan Ddeddf Seneddol, ac eithrio awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol;

ystyr “cwrs hyfforddi” (“training course”) yw cwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan, neu ar ran, neu’n unol â threfniadau a wnaed gyda, neu a gymeradwywyd gan neu ar ran, Datblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban, Menter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, adran o’r llywodraeth, Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

RHAN 4Dosbarthiadau rhagnodedig o bersonau na chaniateir eu cynnwys mewn cynllun awdurdod

Dosbarthiadau o bersonau na chaniateir eu cynnwys mewn cynllun

27.  Mae’r dosbarthiadau o bersonau a ddisgrifir yn rheoliadau 28 i 31 yn ddosbarthiadau o bersonau a ragnodir at ddibenion paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992(101) ac y mae’n rhaid peidio â’u cynnwys mewn cynllun awdurdod, na rhoi hawl iddynt gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod.

Personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr

28.—(1Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson sydd i’w drin fel rhywun nad yw ym Mhrydain Fawr.

(2Ac eithrio pan fo person yn dod o fewn paragraff (5) neu (6), rhaid trin person fel rhywun nad yw ym Mhrydain Fawr os nad yw’r person hwnnw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon.

(3Rhaid peidio â thrin person fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon onid oes gan y person hwnnw hawl i breswylio yn un o’r lleoedd hynny.

(4At ddibenion paragraff (3), nid yw hawl i breswylio yn cynnwys hawl sy’n bodoli yn rhinwedd, neu yn unol ag—

(a)rheoliad 13 o’r Rheoliadau AEE neu Erthygl 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor Rhif 2004/38/EC(102);

(b)rheoliad 14 o’r Rheoliadau AEE, ond hynny yn unig mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw oherwydd bod y person—

(i)yn geisiwr gwaith at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau hynny, neu

(ii)yn aelod o deulu (o fewn ystyr “family member” yn rheoliad 7 o’r Rheoliadau hynny) o’r cyfryw geisiwr gwaith;

(c)Erthygl 45 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (mewn achos pan fo person yn ceisio gwaith yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth yr Iwerddon); neu

(d)rheoliad 15A(1) o’r Rheoliadau AEE, ond hynny yn unig mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw oherwydd bod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff (4A) o’r rheoliad hwnnw neu Erthygl 20 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (mewn achos pan fo’r hawl i breswylio yn codi oherwydd, fel arall, yr amddifedid dinesydd Prydeinig o wir fwynhau ei hawliau fel dinesydd yr Undeb Ewropeaidd)(103).

(5Mae person yn dod o fewn y paragraff hwn os yw—

(a)yn berson cymwys at ddibenion rheoliad 6 o’r Rheoliadau AEE fel gweithiwr neu berson hunangyflogedig;

(b)yn aelod o deulu person y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn yr ystyr a roddir i “family member” gan reoliad 7(1)(a), (b) neu (c) o’r Rheoliadau AEE;

(c)yn berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o’r Rheoliadau AEE;

(d)yn berson a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel ffoadur yn yr ystyr a roddir i “refugee” gan y diffiniad yn Erthygl 1 o’r Confensiwn ynghylch Statws Ffoaduriaid a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951, fel y’i hestynnwyd gan Erthygl 1(2) o’r Protocol ynghylch Statws Ffoaduriaid a fabwysiadwyd yn Efrog Newydd ar 31 Ionawr 1967;

(e)yn berson y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi, y tu allan i ddarpariaethau’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(104), ar ôl gwrthod ei hawliad am loches;

(f)yn berson sydd â diogelwch dyngarol a roddwyd o dan y rheolau hynny;

(g)yn berson nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn yr ystyr a roddir i “subject to immigration control” gan adran 115(9) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(105) ac sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo neu ddiarddel y person hwnnw neu ei symud yn orfodol drwy gyfraith rywfodd arall, o wlad arall i’r Deyrnas Unedig;

(h)yn berson ym Mhrydain Fawr sydd wedi gadael tiriogaeth Montserrat ar ôl 1 Tachwedd 1995 oherwydd effaith echdoriad folcanig ar y diriogaeth honno;

(i)yn berson sydd—

(i)wedi cyrraedd Prydain Fawr ar neu ar ôl 28 Chwefror 2009 ond cyn 18 Mawrth 2011;

(ii)wedi bod yn preswylio yn Zimbabwe yn union cyn cyrraedd Prydain Fawr; a

(iii)cyn gadael Zimbabwe wedi derbyn cynnig, a wnaed gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, i gynorthwyo’r person hwnnw i symud i’r Deyrnas Unedig ac i setlo yno; neu

(j)yn berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

(6Mae person yn dod o fewn y paragraff hwn os yw’n was y Goron neu’n aelod o luoedd Ei Mawrhydi a leolwyd dramor.

(7Mae person a grybwyllir ym mharagraff (6) wedi ei leoli dramor os yw’n cyflawni dyletswyddau gwas y Goron neu aelod o luoedd Ei Mawrhydi dramor ac yntau, yn union cyn y lleoliad neu’r cyntaf o leoliadau olynol, yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

(8Yn y rheoliad hwn—

mae i “hawliad am loches” yr un ystyr a roddir i “claim for asylum” yn adran 94(1) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(106);

ystyr “Rheoliadau AEE” (“EEA Regulations”) yw Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006(107).

Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo

29.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.

(2Nid yw person sy’n wladolyn o wladwriaeth sydd wedi cadarnhau y Confensiwn Ewropeaidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol (a fabwysiadwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953) neu wladwriaeth sydd wedi cadarnhau Siarter Gymdeithasol Cyngor Ewrop (a arwyddwyd yn Turin ar 18 Hydref 1961) ac sy’n bresennol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig yn berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo at ddibenion paragraff (1).

(3Mae i “person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo” yr ystyr a roddir i “person subject to immigration control” yn adran 115(9) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.

Personau y mae eu cyfalaf yn fwy nag £16,000

30.—(1Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson y mae ei gyfalaf yn fwy nag £16,000.

(2Rhaid cyfrifo cyfalaf at ddibenion paragraff (1) yn unol ag Atodlen 1 (pensiynwyr) neu Atodlen 6 (personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Myfyrwyr

31.—(1Mae’r dosbarth o bersonau a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yn cynnwys unrhyw berson sy’n fyfyriwr.

(2Yn y rheoliad hwn, mae i “myfyriwr” (“student”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 11.

(3Mae Atodlen 11, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â myfyrwyr, yn cael effaith.

RHAN 5Materion eraill y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod

Darpariaeth ar gyfer pensiynwyr

32.—(1Rhaid i gynllun wneud darpariaeth mewn perthynas â’r dosbarthiadau o bersonau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 22 a 23 (dosbarthiadau A a B).

(2Mae Atodlenni 1 i 5, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â’r dosbarthiadau hynny o bersonau, yn cael effaith.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r darpariaethau ym mharagraff 33 o Atodlen 1 (parhad cyfnod gostyngiad estynedig) yn ofynion sylfaenol.

Darpariaeth ar gyfer personau nad ydynt yn bensiynwyr

33.—(1Rhaid i gynllun wneud darpariaeth mewn perthynas â’r dosbarthiadau o bersonau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 24 a 25 (dosbarthiadau C a D).

(2Mae Atodlenni 6 i 10, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â’r dosbarthiadau hynny o bersonau, yn cael effaith.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r darpariaethau ym mharagraffau 35 (parhad cyfnod gostyngiad estynedig) a 40 (parhad cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)) o Atodlen 6 yn ofynion sylfaenol.

Darpariaeth ar gyfer pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr

34.—(1Rhaid i gynllun gynnwys y darpariaethau a bennir yn Atodlenni 12 i 14.

(2Rhaid i’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (1) fod yn gymwys i bob cais am ostyngiad o’r dreth gyngor oni ddarperir yn wahanol.

(3Mae Atodlenni 12 i 14, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â phob ceisydd am ostyngiad o’r dreth gyngor, yn cael effaith oni ddarperir yn wahanol.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r darpariaethau ym mharagraffau 3 a 4 o Atodlen 13 (ôl-ddyddio) yn ofynion sylfaenol.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r swm sydd i’w ddiystyru yn unol â pharagraff 1(a) a (b) o Atodlen 4 (symiau sydd i’w diystyru ar gyfer pensiwn anabledd rhyfel, pensiwn rhyfel gwraig weddw a phensiwn rhyfel gŵr gweddw: pensiynwyr) a pharagraff 20(a) a (b) o Atodlen 9 (symiau sydd i’w diystyru ar gyfer pensiwn anabledd rhyfel, pensiwn rhyfel gwraig weddw a phensiwn rhyfel gŵr gweddw: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn lleiafswm gofynnol.

RHAN 6Dirymu, darpariaethau trosiannol ac arbedion

Dehongli

35.  Yn y Rhan hon o’r Rheoliadau—

ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012(108);

ystyr “cynllun 2013” (“2013 Scheme”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod sy’n gweinyddu cynllun 2013 neu gynllun;

ystyr “cynllun” (“cynllun”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â’r Rheoliadau hyn neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2014 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Dirymu ac arbedion

36.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau 2012 wedi eu dirymu ar 1 Ebrill 2014.

(2Mae Rheoliadau 2012 yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw geisiadau a wnaed, ac unrhyw ostyngiadau a ddyfarnwyd, yn unol â darpariaethau cynllun 2013.

Personau sydd i’w trin fel pe baent wedi gwneud cais am ostyngiad

37.—(1Rhaid trin person sy’n dod o fewn un o’r categorïau o berson a ddisgrifir ym mharagraff (2) fel pe bai wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun ar 15 Chwefror 2014.

(2Mae person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn berson—

(a)sy’n cael gostyngiad o dan gynllun 2013 ar 15 Chwefror 2014;

(b)sydd wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun 2013 na phenderfynwyd arno yn union cyn 15 Chwefror 2014;

(c)sydd wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i awdurdod perthnasol ynghylch penderfyniad yr awdurdod mewn perthynas â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013, ac yn disgwyl penderfyniad yr awdurdod mewn cysylltiad â’r hysbysiad ysgrifenedig yn union cyn 15 Chwefror 2014;

(d)sydd wedi apelio at Dribiwnlys Prisio Cymru yn erbyn penderfyniad awdurdod perthnasol mewn perthynas â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013, ac yn disgwyl yr apêl neu’r penderfyniad mewn cysylltiad â’r apêl yn union cyn 15 Chwefror 2014;

(e)sydd wedi apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Prisio Cymru mewn perthynas â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013, ac yn disgwyl yr apêl yn union cyn 15 Chwefror 2014.

(3At ddibenion paragraff (2)(e), disgwylir apêl yn erbyn penderfyniad mewn cysylltiad â hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013—

(a)os yw’r apêl yn erbyn penderfyniad wedi ei dwyn ond heb ei phenderfynu; neu

(b)os yw’r cais am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei wneud ond heb ei benderfynu.

Ceisiadau a gafwyd rhwng 15 Chwefror 2014 a 31 Mawrth 2014

38.  Rhaid trin person sy’n gwneud hawliad am ostyngiad o dan gynllun 2013 ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 15 Chwefror 2014 ac yn gorffen ar 31 Mawrth 2014 fel pe bai wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun ar yr un diwrnod.

Dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith

39.—(1Pan fo person (P), yn rhinwedd rheoliad 37(1) neu 38, yn cael ei drin fel pe bai wedi gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun, ac—

(a)ar 15 Chwefror 2014, bod P yn berson y mae’r darpariaethau perthnasol yn gymwys iddo, neu, ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 15 Chwefror 2014 ac yn gorffen ar 31 Mawrth 2014, y daw P yn berson y mae’r darpariaethau hynny yn gymwys iddo; a

(b)bod y dyddiad effeithiol ar gyfer y newid yn yr amgylchiadau yn unol â’r darpariaethau perthnasol yn ddyddiad ar ôl 31 Mawrth 2014,

rhaid penderfynu’r cais fel pe bai’r newid yn yr amgylchiadau heb ddigwydd, ond rhaid ailbenderfynu’r cais ar y dyddiad effeithiol i gymryd i ystyriaeth y newid yn yr amgylchiadau.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “darpariaethau perthnasol” (“relevant provisions”) yw—

(a)darpariaeth yng nghynllun 2013 yn rhinwedd rheoliad 30(2) o Reoliadau 2012, a pharagraff 40(10) i (12) o Atodlen 1 iddynt (dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith: pensiynwyr);

(b)darpariaeth yng nghynllun 2013 yn rhinwedd rheoliad 31(2) o Reoliadau 2012, a pharagraff 46(10) i (12) o Atodlen 6 iddynt (dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith: personau nad ydynt yn bensiynwyr); neu

(c)paragraff 105(10) i (12) o’r cynllun a ragnodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofal) (Cymru) 2012(109) (dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith).

Hysbysu ynghylch newid yn yr amgylchiadau

40.  Pan fo person, yn rhinwedd rheoliad 37(1) neu 38, yn cael ei drin fel pe bai wedi gwneud cais o dan gynllun, nid yw’r darpariaethau canlynol mewn cynllun awdurdod perthnasol yn gymwys mewn perthynas â chais y person hwnnw—

(a)darpariaeth mewn cynllun yn rhinwedd rheoliad 33(3) o’r Rheoliadau hyn, a pharagraff 1(7) o Atodlen 13 iddynt (pwy gaiff wneud cais); neu

(b)paragraff 107(7) o’r cynllun a ragnodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofal) (Cymru) 2013 (pwy gaiff wneud cais).

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

27 Tachwedd 2013

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill