Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 8, yr amod ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff 9 yw naill ai—

(a)bod y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd—

(i)yn cael un neu ragor o’r budd-daliadau canlynol: lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, TALlA, yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol o’r credyd treth gwaith fel y’u pennir yn rheoliad 20(1)(b) ac (f) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002(1), atodiad symudedd, budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC neu lwfans anabledd difrifol o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno, ond, yn achos budd-dal analluogrwydd hirdymor neu lwfans anabledd difrifol, hynny yn unig pan delir y budd-dal neu’r lwfans mewn perthynas â’r ceisydd; neu

(ii)wedi bod yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC pan beidiodd yr hawlogaeth i’r budd-dal hwnnw oherwydd talu pensiwn ymddeol o dan y Ddeddf honno, a bod y ceisydd yn y cyfamser wedi parhau â hawlogaeth ddi-dor i—

(aa)budd-dal treth gyngor (am y cyfnod hyd at 1 Ebrill 2013), neu

(bb)gostyngiad o dan gynllun awdurdod (am y cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2013), ac,

os oedd y budd-dal analluogrwydd hirdymor yn daladwy i bartner y ceisydd, bod y partner yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

(iii)wedi bod yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i’r anabl ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o DCBNC neu lleihawyd hwy fel arall oherwydd bod y ceisydd, neu bartner y ceisydd, wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 21(11)(i) o Atodlen 6 (trin costau gofal plant); neu

(iv)wedi bod yn cael taliad annibyniaeth bersonol, ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol ag adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 oherwydd bod y ceisydd wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 21 o Atodlen 6 (trin costau gofal plant); neu

(v)wedi bod yn cael TALlA ond ataliwyd taliadau ohono dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb; neu

(vi)wedi cael, gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(2), neu, yn yr Alban, o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3) (darparu gwasanaethau gan Weinidogion yr Alban), neu, yng Nghymru, o dan adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4) ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, neu, yng Ngogledd Iwerddon, wedi cael, gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan erthygl 30(1) o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu, yn cael taliadau ar ffurf grant, gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2006(5) (darparu cerbydau ar gyfer pobl anabl) neu, yn yr Alban, gan Weinidogion yr Alban o dan adran 46 o Ddeddf 1978; neu

(vii)yn ddall, ac o ganlyniad wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(6) (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994(7); neu

(b)bod y ceisydd—

(i)yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno; a

(ii)wedi bod yn analluog i weithio neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio am gyfnod di-dor o ddim llai nag—

(aa)yn achos ceisydd sy’n derfynol wael yn yr ystyr a roddir i “terminally ill” yn adran 30B(4) o DCBNC, 196 diwrnod;

(bb)mewn unrhyw achos arall, 364 diwrnod.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(a)(vi), yn achos person y peidiwyd â’i gofrestru fel person dall wedi iddo adennill ei olwg, rhaid ei drin, er gwaethaf hynny, fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir yn yr is-baragraff hwnnw am gyfnod o 28 wythnos yn dilyn y dyddiad y peidiwyd â chofrestru’r person felly.

(3At ddibenion is-baragraff (1)(b), unwaith y bydd y premiwm anabledd yn gymwysadwy i geisydd yn rhinwedd bodloni ohono’r amod ychwanegol a bennir yn y ddarpariaeth honno, os yw’r ceisydd wedyn, am gyfnod o 8 wythnos neu lai, yn peidio â chael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, neu’n peidio â bod yn analluog i weithio, yna, pan â’n analluog i weithio felly drachefn, rhaid ei drin ar unwaith wedyn fel pe bai’n bodloni’r amod yn is-baragraff (1)(b).

(4At ddibenion is-baragraff (1)(b), unwaith y bydd y premiwm anabledd yn gymwysadwy i geisydd yn rhinwedd bodloni ohono’r amod ychwanegol a bennir yn y ddarpariaeth honno, rhaid parhau i drin y ceisydd fel pe bai’n bodloni’r amod hwnnw am unrhyw gyfnod a dreulir gan y ceisydd yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant a ddarperir o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990 neu am unrhyw gyfnod pan fo’r ceisydd yn cael lwfans hyfforddi.

(5At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan wahenir unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau o analluedd gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod, rhaid trin y cyfnodau hynny fel un cyfnod di-dor.

(6At ddibenion y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson sydd, neu a oedd, yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor yn cynnwys person sydd neu a oedd yn cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd hafal i’r gyfradd hirdymor, yn rhinwedd adran 30B(4)(a) o DCBNC (budd-dal analluogrwydd byrdymor i berson sy’n derfynol wael), neu a fyddai’n cael neu wedi cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd o’r fath pe na bai cyfradd y budd-dal analluogrwydd byrdymor sydd eisoes yn daladwy i’r person hwnnw yn hafal i’r gyfradd hirdymor neu’n uwch, neu wedi bod yn hafal i’r gyfradd honno neu’n uwch.

(7Yn achos ceisydd sy’n fuddiolwr cynllun ‘o fudd-dal i waith’ (sef person y mae rheoliad 13A(1) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995(8) yn gymwys iddo ac sydd drachefn yn mynd yn analluog i weithio at ddibenion Rhan 12A o DCBNC) rhaid trin—

(a)y cyfeiriad at gyfnod o 8 wythnos yn is-baragraff (3); a

(b)y cyfeiriad at gyfnod o 56 diwrnod yn is-baragraff (5),

ill dau fel cyfeiriad at gyfnod o 104 wythnos.

(8Nid oes hawl gan geisydd i gael y premiwm anabledd os oes gan y ceisydd, neu os trinnir ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith.

(5)

Diwygiwyd is-baragraff (3) gan adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill