- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 2(3)
1. Neithdar ffrwythau yw’r cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a geir drwy ychwanegu dŵr at sudd a restrwyd ym mharagraff 2 naill ai gydag un o’r sylweddau a restrir ym mharagraff 3 neu hebddynt.
2. Dyma’r suddoedd—
(a)sudd ffrwythau;
(b)sudd ffrwythau o ddwysfwyd;
(c)sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu;
(d)sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono;
(e)sudd ffrwythau dadhydredig;
(f)sudd ffrwythau powdr;
(g)piwrî ffrwythau;
(h)piwrî ffrwythau wedi ei ddwysáu; neu
(i)unrhyw gymysgedd o’r cynhyrchion a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (h).
3. Dyma’r sylweddau—
(a)siwgrau, a
(b)mêl.
4. Rhaid i swm y siwgrau neu’r mêl, neu’r siwgrau a’r mêl, a ychwanegir at y cynnyrch yn unol â pharagraff 1 beidio â bod yn fwy nag 20% o gyfanswm pwysau’r cynnyrch gorffenedig.
5. Rhaid i’r cynnyrch gynnwys yr isafswm cynnwys sudd ffrwythau, piwrî ffrwythau, neu gymysgedd o’r sudd hwnnw a’r piwrî hwnnw, a bennir yn Rhan 2.
6. Pan fo’r cynnyrch yn cael ei weithgynhyrchu heb siwgr ychwanegol neu â gwerth egni gostyngedig, caniateir i siwgrau gael eu disodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysyddion yn unol â gofynion Rheoliad 1333/2008.
7. Yn ychwanegol at y cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 1, 2, 3, 5 a 6, caiff y cynnyrch gynnwys unrhyw rai o’r canlynol—
(a)cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig;
(b)sylwedd ychwanegol awdurdodedig;
(c)cyflas, mwydion a chelloedd wedi eu hadfer (neu unrhyw un neu fwy ohonynt) a gafwyd drwy ddull ffisegol addas o’r un rhywogaeth o ffrwyth; a
(d)melysyddion (y caniateir eu hychwanegu ar ben unrhyw siwgr neu fêl a ychwanegir yn unol â pharagraff 1 fel y’i darllenir gyda pharagraff 3).
8. Ni chaniateir defnyddio triniaeth, ac eithrio triniaeth awdurdodedig, wrth weithgynhyrchu cynnyrch.
Neithdarau ffrwythau a wnaed o | Isafswm cynnwys sudd, piwrî neu sudd a phiwrî (% yn ôl cyfaint y cynnyrch gorffenedig) |
---|---|
1. Neithdarau ffrwythau a wnaed o ffrwythau â sudd asidig sy’n annymunol yn y cyflwr naturiol | |
Bricyll | 40 |
Llus | 40 |
Mwyar duon | 40 |
Cyrains duon | 25 |
Llugaeron | 30 |
Eirin ysgaw | 50 |
Eirin Mair | 30 |
Lemonau a leimiau | 25 |
Mwyar Mair | 40 |
Ffrwyth y dioddefaint | 25 |
Eirin | 30 |
Quetsches | 30 |
Afalau cwins | 50 |
Quito naranjillos | 25 |
Mafon | 40 |
Cyrains cochion | 25 |
Egroes | 40 |
Criafol | 30 |
Aeron helygen y môr | 25 |
Eirin tagu | 30 |
Ceirios sur | 35 |
Ceirios eraill | 40 |
Mefus | 40 |
Cyrains gwynion | 25 |
Ffrwythau eraill sy’n perthyn i’r categori hwn | 25 |
2. Ffrwythau asid-isel, mwydionog neu gryf eu blas sydd â sudd sy’n annymunol yn y cyflwr naturiol | |
Azeroles (Merys Neapolitanaidd) | 25 |
Bananas | 25 |
Afalau cwstard | 25 |
Ffrwythau cashiw | 25 |
Gwafas | 25 |
Lytshis | 25 |
Mangos | 25 |
Papaias | 25 |
Pomgranadau | 25 |
Micasau sur | 25 |
Eirin Sbaen | 25 |
Afalau siwgr | 25 |
Wmbw | 25 |
Ffrwythau eraill sy’n perthyn i’r categori hwn | 25 |
3. Ffrwythau sydd â sudd sy’n ddymunol yn y cyflwr naturiol | |
Afalau | 50 |
Ffrwythau sitrws ac eithrio lemonau a Leimiau | 50 |
Eirin gwlanog | 50 |
Gellyg | 50 |
Pinafalau | 50 |
Tomatos | 50 |
Ffrwythau eraill sy’n perthyn i’r categori hwn | 50 |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys