- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Tachwedd 2013.
(3) Daw effaith rheoliad 15 i ben ar 13 Rhagfyr 2014.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “sudd ffrwythau” (“fruit juice”) (oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 2.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “sudd ffrwythau o ddwysfwyd” (“fruit juice from concentrate”) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 3;
(b)ystyr “sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu” (“concentrated fruit juice”) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 4;
(c)ystyr “sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono” (“waterextractedfruit juice”) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 5; a
(d)ystyr “sudd ffrwythau dadhydredig” (“dehydrated fruit juice”) neu “sudd ffrwythau powdr” (“powderedfruit juice”) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 6.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “neithdar ffrwythau” (“fruit nectar”) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 7.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “blas” (“flavour”), ac eithrio ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a Rhan 2 o Atodlen 7, yw blas at adfer—
a geir wrth i ffrwythau gael eu prosesu drwy ddefnyddio prosesau ffisegol addas (gan gynnwys gwasgu, tynnu, distyllu, hidlo, arsugno, anweddu, ffracsiynu a dwysáu) er mwyn cael, diogelu, preserfio neu sefydlogi ansawdd y blas, a
sy’n olew sy’n cael ei wasgu yn oer o groen sitrws neu sy’n gyfansoddion o gerrig ffrwythau neu a geir o rannau bwytadwy’r ffrwyth;
ystyr “Cyfarwyddeb 2001/112/EC” (“Directive2001/112/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy’n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion penodol tebyg a fwriedir i bobl eu hyfed (1);
ystyr “cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig” (“authorised additional ingredient”) yw cynhwysyn ychwanegol a restrwyd yn Atodlen 8;
ystyr “cynnyrch rheoleiddiedig” (“regulated product”) yw unrhyw rai o’r canlynol—
sudd ffrwythau;
sudd ffrwythau o ddwysfwyd;
sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu;
sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono;
sudd ffrwythau dadhydredig;
sudd ffrwythau powdr; a
neithdar ffrwythau;
ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “ffrwyth” neu “ffrwythau” (“fruit”) yw unrhyw fath o ffrwyth (gan gynnwys tomatos) sy’n iach, yn briodol o aeddfed, ac yn ffres neu wedi ei breserfio drwy gyfrwng—
dull ffisegol, neu
triniaeth, gan gynnwys triniaeth ar ôl eu cynaeafu;
mae i “mêl” yr ystyr a roddir i “honey” ym mhwynt 1 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC sy’n ymwneud â mêl (2);
mae i “mewn masnach” yr un ystyr ag sydd i “in trade” yng Nghyfarwyddeb 2001/112/EC ac mae ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny
ystyr “mwydion neu gelloedd” (“pulp or cells”) yw—
o ran ffrwythau sitrws, y codenni sudd a geir o’r endocarp, neu
o ran unrhyw ffrwythau eraill, y cynhyrchion a geir o’r rhannau bwytadwy o’r ffrwyth heb dynnu’r sudd;
ystyr “piwrî ffrwythau” (“fruit purée”) yw’r cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a geir drwy brosesau ffisegol addas megis hidlo, malu neu felino’r rhan fwytadwy o’r ffrwyth cyfan neu’r ffrwyth wedi ei bilio heb dynnu’r sudd;
ystyr “piwrî ffrwythau wedi ei ddwysáu” (“concentrated fruit purée”) yw’r cynnyrch a geir o biwrî ffrwythau drwy dynnu cyfran benodol o’r dŵr sydd ynddo, ac, os oes blas wedi ei adfer iddo, y mae’r blas hwnnw wedi ei adennill o’r un rhywogaeth o ffrwyth;
ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Rheoliad1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n dirymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC(3);
ystyr “Rheoliad 1333/2008” (“Rheoliad 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd(4);
ystyr “siwgrau” (“sugars”) yw unrhyw rai o’r canlynol—
siwgrau fel y’u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy’n ymwneud â siwgrau penodol a fwriedir i bobl eu bwyta(5);
surop ffrwctos;
siwgrau sy’n deillio o ffrwythau;
ystyr “sylwedd ychwanegol awdurdodedig” (“authorised additional substance”) yw sylwedd ychwanegol a restrwyd yn Atodlen 9; ac
ystyr “triniaeth awdurdodedig” (“authorisedtreatment”) yw triniaeth a restrwyd yn Atodlen 10.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd arall sydd heb ei ddiffinio yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 2001/112/EC yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Gyfarwyddeb honno.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau’r UE a restrwyd yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygiwyd o dro i dro.
4.—(1) Rhaid i berson sy’n masnachu mewn sudd ffrwythau ddefnyddio’r enw “[x] juice” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y sudd ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn atal enw a restrwyd yng ngholofn 2 o Atodlen 11 rhag cael ei ddefnyddio fel enw ar sudd ffrwythau ar yr amod—
(a)bod yr enw yn yr iaith y darperir ar ei chyfer yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno, a
(b)bod y sudd ffrwythau yn bodloni’r gofynion ynglŷn â’r disgrifiad o’r cynnyrch cyfatebol yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno.
(3) Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “fruit juice”, neu “juice” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad sudd ffrwythau yw’r cynnyrch.
5.—(1) Rhaid i berson sy’n masnachu mewn sudd ffrwythau o ddwysfwyd ddefnyddio’r enw “[x] juice from concentrate” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y sudd ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.
(2) Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “fruit juice from concentrate”, neu “juice from concentrate” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad sudd ffrwythau o ddwysfwyd yw’r cynnyrch.
6.—(1) Rhaid i berson sy’n masnachu mewn sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu ddefnyddio’r enw “concentrated [x] juice” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y sudd ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.
(2) Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “concentrated fruit juice”, neu “concentrated juice” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu yw’r cynnyrch.
7.—(1) Rhaid i berson sy’n masnachu mewn sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono ddefnyddio’r enw “water extracted [x] juice” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y sudd ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.
(2) Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “water extracted fruit juice”, neu “water extracted juice” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono yw’r cynnyrch.
8.—(1) Rhaid i berson sy’n masnachu mewn cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r manylebau yn Atodlen 6 ddefnyddio’r enw “dehydrated [x] juice” neu “powdered [x] juice” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y sudd ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.
(2) Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “dehydrated fruit juice” neu “powdered fruit juice”, neu “dehydrated juice” neu “powdered juice” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad yw’r cynnyrch yn cydymffurfio â’r manylebau yn Atodlen 6.
9.—(1) Rhaid i berson sy’n masnachu mewn neithdar ffrwythau ddefnyddio’r enw “[x] nectar” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y neithdar ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn atal enw a restrwyd yng ngholofn 2 o Atodlen 12 rhag cael ei ddefnyddio fel enw ar neithdar ffrwythau ar yr amod—
(a)bod yr enw yn yr iaith y darperir ar ei chyfer yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno, a
(b)bod y neithdar ffrwythau yn bodloni’r gofynion ynglŷn â’r disgrifiad o’r cynnyrch cyfatebol yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno.
(3) Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “fruit nectar”, neu “nectar” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad neithdar ffrwythau yw’r cynnyrch hwnnw.
10.—(1) Rhaid i berson beidio â masnachu mewn cynnyrch rheoleiddiedig oni bai bod enw’r cynnyrch yn dangos y mathau o ffrwythau y daeth y cynnyrch ohonynt yn unol â pharagraffau (2) i (7).
(2) Os gweithgynhyrchir cynnyrch rheoleiddiedig o un fath o ffrwyth, rhaid rhoi enw’r ffrwyth hwnnw yn lle’r “[x]” yn enw’r cynnyrch.
(3) Os gweithgynhyrchir cynnyrch rheoleiddiedig o ddau fath o ffrwythau (heb gynnwys defnyddio un neu fwy o blith sudd lemon, sudd leim, sudd lemon wedi ei ddwysáu a sudd leim wedi ei ddwysáu yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 8), rhaid rhoi rhestr o enwau’r ffrwythau a ddefnyddiwyd yn lle “[x]” yn enw’r cynnyrch.
(4) Os gweithgynhyrchir cynnyrch rheoleiddiedig o dri neu fwy o fathau o ffrwythau (heb gynnwys defnyddio un neu fwy o blith sudd lemon, sudd leim, sudd lemon wedi ei ddwysáu a sudd leim wedi ei ddwysáu yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 8), yn lle “[x]” yn enw’r cynnyrch rhaid rhoi—
(a)rhestr o enwau’r ffrwythau a ddefnyddiwyd;
(b)y geiriau “several fruits” neu eiriau tebyg; neu
(c)nifer y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd.
(5) At ddibenion paragraff (3) a (4)(a), rhaid i’r rhestr o enwau’r ffrwythau gael ei nodi yn nhrefn ddisgynnol y suddoedd neu’r piwrïau a gynhwyswyd o bob math o ffrwyth, yn ôl eu cyfaint, fel y’u gwelir yn y rhestr cynhwysion.
(6) Pan ddefnyddir rhywogaeth o ffrwyth a restrwyd yng ngholofn 2 o Atodlen 13 wrth baratoi sudd ffrwythau, piwrî ffrwythau neu neithdar ffrwythau, yr enw y mae’n rhaid ei roi fel enw’r ffrwyth yn enw’r cynnyrch yn unol â gofynion y rheoliad hwn yw—
(a)enw cyffredin y ffrwyth a bennwyd yng ngholofn 1 o Atodlen 13, neu
(b)enw botanegol y ffrwyth a bennwyd yng ngholofn 2 o Atodlen 13.
(7) Yn achos unrhyw rywogaeth arall o ffrwyth a ddefnyddir wrth baratoi sudd ffrwythau, piwrî ffrwythau neu neithdar ffrwythau, yr enw y mae’n rhaid ei roi fel enw’r ffrwyth yn enw’r cynnyrch yn unol â gofynion y rheoliad hwn yw—
(a)enw cyffredin y ffrwyth, neu
(b)enw botanegol y ffrwyth.
(8) Yn y rheoliad hwn rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at “[x]” yn enw cynnyrch gan gymryd i ystyriaeth y darpariaethau ynglŷn ag enwau cynhyrchion yn rheoliadau 4 i 9.
11.—(1) Rhaid i berson beidio â masnachu mewn sudd ffrwythau yr ychwanegwyd mwydion neu gelloedd ychwanegol ato oni bai bod ei label yn dangos ychwanegiad o’r fath.
(2) Ym mharagraff (1), mae i “sudd ffrwythau” yr un ystyr ag sydd i “fruit juice” yn ail is-baragraff pwynt 5 o Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2001/112/EC.
12.—(1) Rhaid i berson beidio â masnachu mewn sudd ffrwythau sy’n cynnwys cymysgedd o sudd ffrwythau a sudd ffrwythau o ddwysfwyd oni bai bod ei label yn dwyn y geiriau “partially from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “partially from concentrates”.
(2) Rhaid i’r geiriad y mae paragraff (1) yn gofyn amdano ymddangos yn agos i enw’r cynnyrch mewn nodau sy’n eglur i’w gweld ac sy’n cyferbynnu’n dda â’r cefndir y mae’n ymddangos arno.
13. Rhaid i berson beidio â masnachu mewn sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu na fwriedir ei ddosbarthu i’r cwsmer terfynol oni bai ei fod yn dangos ar ei becyn, ar label sydd ynghlwm wrth ei becyn neu mewn dogfen sy’n cyd-fynd ag ef, fod unrhyw rai o’r canlynol yn bresennol ynddo a faint ohonynt sydd ynddo—
(a)sudd lemon ychwanegol,
(b)sudd leim ychwanegol,
(c)asiantau asideiddio a ganiateir gan Reoliad 1333/2008.
14.—(1) Rhaid i berson beidio â masnachu mewn neithdar ffrwythau oni bai bod labeli’r cynnyrch yn cydymffurfio â pharagraffau (2) i (8).
(2) Rhaid i labeli neithdar ffrwythau ddangos isafswm cynnwys y sudd ffrwythau, y piwrî ffrwythau neu’r cymysgedd o sudd ffrwythau a phiwrî ffrwythau y mae’n ei gynnwys, gan ddefnyddio’r geiriau “fruit content: [x]% minimum” gan roi’r ffigur priodol yn lle “[x]”.
(3) Rhaid i’r geiriad y mae paragraff (2) yn gofyn amdano gael ei leoli yn yr un maes gwelediad ag enw’r cynnyrch.
(4) Rhaid i labeli neithdar ffrwythau a gafwyd yn gyfan gwbl o un neu fwy o gynhyrchion wedi eu dwysáu ddwyn y geiriau “from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “from concentrates”.
(5) Rhaid i labeli neithdar ffrwythau a gafwyd yn rhannol o un neu fwy o gynhyrchion wedi eu dwysáu ddwyn y geiriau “partially from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “partially from concentrates”.
(6) Rhaid i’r geiriad y mae paragraffau (4) a (5) yn gofyn amdano ymddangos yn agos i enw’r cynnyrch mewn nodau sy’n eglur i’w gweld ac sy’n cyferbynnu’n dda â’r cefndir y mae’n ymddangos arno.
(7) Ni chaniateir gwneud honiad nad oes siwgrau wedi eu hychwanegu at neithdar ffrwythau, nac unrhyw honiad sy’n debyg o gyfleu’r un ystyr i’r defnyddiwr, oni bai nad yw’r cynnyrch yn cynnwys unrhyw fonosacaridau neu ddeusacaridau ychwanegol nac unrhyw fwyd arall a ddefnyddir oherwydd ei briodoleddau melysu, gan gynnwys melysyddion fel y’u diffinnir yn Rheoliad 1333/2008.
(8) Pan wneir honiad sy’n dweud nad oes siwgrau wedi eu hychwanegu at neithdar ffrwythau, neu unrhyw honiad sy’n debyg o gyfleu’r un ystyr i’r defnyddiwr, a bod siwgrau’n bresennol yn naturiol yn y neithdar ffrwythau, rhaid i’r geiriau “contains naturally occurring sugars” ymddangos ar y label hefyd.
15.—(1) Mae rheoliadau 35(1), 36(1), (5) a 38 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(6) (sy’n ymwneud â dull marcio neu labelu bwyd) yn gymwys i’r manylion y mae’n rhaid i gynnyrch rheoleiddiedig gael ei farcio neu ei labelu â hwy o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn a restrir ym mharagraff (2).
(2) Dyma’r darpariaethau—
(a)rheoliad 10(1);
(b)rheoliad 11(1);
(c)rheoliad 12(1);
(d)rheoliad 13;
(e)rheoliad 14(1), fel y’i darllenir gyda rheoliad 14(2), (4), (5) ac (8).
16. Dyletswydd pob awdurdod bwyd yw gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
17.—(1) Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn â’r addasiadau a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (1), rhodder—
“(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a provision of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013 specified in subsection (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;
(b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;
(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
(d)require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.
(1A) The provisions are—
(a)regulation 4(1), as read with regulation 4(2);
(b)regulation 4(3);
(g)regulation 9(1), as read with regulation 9(2);
(h)regulation 9(3);
(i)regulation 10(1);
(j)regulation 11(1);
(k)regulation 12;
(l)regulation 13;
(m)regulation 14(1);
(n)regulation 15.”.
18.—(1) Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelio) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn â’r addasiadau a ganlyn—
(a)yn lle is-adran (1), rhodder—
“(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 17 of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013, may appeal to the magistrates’ court.”; a
(b)yn is-adran (6) yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1)”.
(2) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelio yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn â’r addasiadau a ganlyn —
(a)yn lle is-adran (1), rhodder—
“(1) On an appeal against a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 17 of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013, the court may either cancel or affirm the notice, and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.”; a
(b)yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.
19. Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 14 yn gymwys â’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno at ddibenion y Rheoliadau hyn.
20.—(1) Dirymir y Rheoliadau a ganlyn—
(a)Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003(7);
(b)Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) (Diwygio) 2011(8).
(2) Dirymir rheoliad 9 o Reoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009(9).
21. Mae Atodlen 15 yn effeithiol.
22.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi beidio â chyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir ac fel y’i haddasir gan reoliad 17, cyn 28 Ebrill 2015—
(a)pe bai’r hysbysiad gwella’n cyfeirio at fwyd a gâi ei osod ar y farchnad, neu ei labelu, cyn 28 Hydref 2013, a
(b)pe na bai’r materion sy’n creu’r tramgwydd honedig wedi bod yn drosedd o dan Reoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 fel yr oeddent yn union cyn 28 Hydref 2013.
(2) Cyn 28 Hydref 2016, caniateir i’r gosodiad a ganlyn ymddangos ar label sudd ffrwythau, sudd ffrwythau o ddwysfwyd, sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu, sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono neu sudd ffrwythau dadhydredig neu sudd ffrwythau powdr, yn yr un maes gwelediad ag enw’r cynnyrch—
“from 28 April 2015 no fruit juices contain added sugars”(10).
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2013
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys