Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliadau 3 a 7

ATODLEN 1Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 1333/2008

Tabl 1

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1333/2008

Y pwnc

Erthygl 4.1 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 11.3 ac 11.4, 12, 13.2 a 18.1(a), 18.2 a 18.3)Gofyniad mai dim ond ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008 a osodir ar y farchnad fel y cyfryw, ac y’u defnyddir yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr Erthyglau hynny a’r Atodiad hwnnw.
Erthygl 4.2 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12, 13.2 a 18.3)Gofyniad mai dim ond ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad III i Reoliad 1333/2008 y caniateir eu defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maetholion a hynny o dan yr amodau defnyddio a bennir yn yr Atodiad hwnnw.
Erthygl 4.5Gofyniad bod rhaid i ychwanegion bwyd gydymffurfio â’r manylebau y cyfeirir atynt yn Erthygl 14 o Reoliad 1333/2008.
Erthygl 5Gwaharddiad ar osod ar y farchnad ychwanegion bwyd neu fwyd sy’n cynnwys ychwanegion bwyd, os nad yw defnyddio’r ychwanegyn bwyd yn cydymffurfio â Rheoliad 1333/2008.
Erthygl 11.2Gofyniad bod rhaid defnyddio ychwanegion bwyd yn unol ag egwyddor quantum satis pan nad oes lefel uchaf rhifiadol wedi ei phennu ar gyfer yr ychwanegyn o dan sylw.
Erthygl 15Gwaharddiad ar ddefnyddio ychwanegion bwyd mewn bwydydd nas prosesir ac eithrio fel y darperir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008.
Erthygl 16Gwaharddiad ar ddefnyddio ychwanegion bwyd mewn bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc (gan gynnwys bwydydd dietegol i fabanod a phlant ifanc at ddibenion meddygol arbennig) ac eithrio fel y darperir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008.
Erthygl 17Gofyniad bod rhaid defnyddio dim ond y lliwiau bwyd hynny a restrir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008, at ddibenion marcio iechyd ar gig neu gynhyrchion cig, lliwio addurniadol ar blisgyn wyau neu stampio plisgyn wyau.
Erthygl 18.1(b) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 18.2)Gofyniad na chaiff ychwanegion bwyd fod yn bresennol mewn bwyd yr ychwanegwyd ychwanegyn bwyd, ensym bwyd neu gyflasyn bwyd ato, onid yw’r ychwanegyn yn un a ganiateir yn yr ychwanegyn, yr ensym neu’r cyflasyn o dan Reoliad 1333/2008, ei fod wedi ei gludo drosodd i’r bwyd drwy gyfrwng yr ychwanegyn, yr ensym neu’r cyflasyn, ac nad oes iddo swyddogaeth dechnolegol yn y bwyd terfynol.
Erthygl 18.1(c) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 18.2)Gofyniad na chaiff ychwanegion bwyd fod yn bresennol mewn bwydydd sydd i’w defnyddio yn unig i baratoi bwyd cyfansawdd, oni fydd y bwyd cyfansawdd yn cydymffurfio â Rheoliad 1333/2008.
Erthygl 18.4Gofyniad na chaniateir defnyddio ychwanegion bwyd yn felysyddion mewn bwydydd cyfansawdd sydd heb siwgrau ychwanegol, bwydydd cyfansawdd ynni is sydd heb siwgrau ychwanegol, bwydydd cyfansawdd ynni is, bwydydd dietegol cyfansawdd a fwriedir ar gyfer dietau calorïau isel, bwydydd cyfansawdd gwrth-gariogenig a bwydydd cyfansawdd sydd ag oes silff estynedig, oni fydd y melysydd yn un a ganiateir yn unrhyw un o gynhwysion y bwyd cyfansawdd.
Erthygl 26.1Gofyniad bod rhaid i gynhyrchwyr a defnyddwyr ychwanegion bwyd hysbysu’r Comisiwn ar unwaith ynghylch unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar yr asesiad o ddiogelwch yr ychwanegyn bwyd o dan sylw.

Tabl 2

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1333/2008

Y pwnc

Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22)Gofyniad bod rhaid i ychwanegion bwyd na fwriedir eu gwerthu i’r defnyddwyr terfynol gael eu labelu, yn unol ag Erthygl 22 o Reoliad 1333/2008, yn weladwy, yn glir i’w darllen ac yn annileadwy mewn iaith a ddeellir yn hawdd gan y prynwyr.
Erthygl 23.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 23.2 and 23.5)Gwaharddiad ar farchnata ychwanegion bwyd, a werthir yn unigol neu’n gymysg â’i gilydd a/neu’n gymysg â chynhwysion bwyd eraill, ac y bwriedir eu gwerthu i’r defnyddwyr terfynol, oni ddangosir gwybodaeth benodedig ar eu pecynnau.
Erthygl 23.3 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 23.5)Gofyniad bod y labeli ar felysyddion pen-bwrdd sy’n cynnwys polyolau a/neu aspartame a/neu halen aspartame – acesulfame yn cynnwys rhybuddion penodedig
Erthygl 23.4Gofyniad bod rhaid i weithgynhyrchwyr melysyddion pen-bwrdd drefnu, drwy fodd priodol, fod yr wybodaeth ar gael sy’n angenrheidiol er mwyn i ddefnyddwyr eu defnyddio’n ddiogel.
Erthygl 24.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 24.2)Gofyniad y dylai labeli’r bwyd sy’n cynnwys y lliwiau a restrir yn Atodiad V gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir yn yr Atodiad hwnnw.
Erthygl 26.2Gofyniad bod cynhyrchwyr a defnyddwyr ychwanegion bwyd, ar gais y Comisiwn, yn ei hysbysu ynghylch y defnydd gwirioneddol o’r ychwanegyn bwyd o dan sylw

Rheoliadau 4 a 7

ATODLEN 2Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 1334/2008

Tabl 1

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1334/2008

Y pwnc

Erthygl 4Gofyniad bod rhaid i’r defnydd ar gyflasynnau bwyd neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn beidio â pheri risg i ddiogelwch na chamarwain y defnyddiwr.
Erthygl 5Gwaharddiad ar osod cyflasynnau nad ydynt yn cydymffurfio neu fwyd nad yw’n cydymffurfio ar y farchnad.
Erthygl 6.1 (fel y’i darllenir gyda Rhan A o Atodiad III)Gwaharddiad ar ychwanegu sylweddau penodol a bennwyd fel y cyfryw mewn bwydydd.
Erthygl 6.2 (fel y’i darllenir gyda Rhan B o Atodiad III)Gofyniad na ddylai sylweddau penodol sy’n bresennol yn naturiol mewn cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn fod yn uwch na lefelau penodedig mewn bwydydd cyfansawdd o ganlyniad i ddefnyddio cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn.
Erthygl 7.1 (fel y’i darllenir gyda Rhan A o Atodiad IV)Gwaharddiad ar ddefnyddio deunyddiau ffynhonnell penodol i gynhyrchu cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn.
Erthygl 7.2 (fel y’i darllenir gyda Rhan B o Atodiad IV)Cyfyngiadau ar ddefnyddio cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn a gynhyrchir o ddeunyddiau ffynhonnell penodol.
Erthygl 10Cyfyngiad ar osod ar y farchnad neu ddefnyddio cyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell sydd heb eu cynnwys ar restr yr Undeb.
Erthygl 19.2Gofyniad bod rhaid i gynhyrchydd neu ddefnyddiwr cyflasyn a gymeradwywyd sy’n cael ei baratoi drwy ddulliau cynhyrchu neu drwy ddefnyddio deunyddiau cychwynnol sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gynhwyswyd yn yr asesiad risg gyflwyno’r data angenrheidiol i’r Comisiwn i ganiatáu gwerthusiad o ran y dull cynhyrchu neu’r priodweddau diwygiedig cyn marchnata’r cyflasyn.
Erthygl 19.3Gofyniad ar weithredwyr busnesau bwyd i hysbysu’r Comisiwn ar unwaith os cânt wybod am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar asesiad diogelwch sylwedd cyflasu.

Tabl 2

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1334/2008

Y pwnc

Erthygl 14.1 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15 ac 16)Gofynion ynghylch labelu cyflasynnau na fwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol.
Erthygl 17 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15.1(a) ac (16)Gofynion ynghylch labelu cyflasynnau y bwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol.

Rheoliadau 5 a 7

ATODLEN 3Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 2065/2003

Tabl 1

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 2065/2003

Y pwnc

Erthygl 4.2Gwaharddiad ar farchnata cyflasyn mwg nad yw ar y rhestr o gyflasynnau mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o’r fath yn bresennol ynddo neu arno.
Erthygl 4.2Gwaharddiad ar farchnata cyflasyn mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o’r fath yn bresennol ynddo neu arno, ac eithrio yn unol ag unrhyw amodau defnyddio a osodwyd yn yr awdurdodiad.
Erthygl 5.1, yr is-baragraff cyntafGwaharddiad ar ddefnyddio pren wedi ei drin, oni ellir dangos drwy dystysgrif neu ddogfennaeth briodol nad yw’r sylwedd a ddefnyddir i drin y pren yn peri sylweddau a allai fod yn wenwynig wrth iddo ymlosgi.
Erthygl 5.1, yr ail is-baragraffGofyniad bod rhaid gallu dangos drwy ddogfennaeth neu dystysgrif y cydymffurfiwyd â’r gwaharddiad ym mharagraff cyntaf Erthygl 5.1
Erthygl 5.2, y frawddeg gyntafGofyniad bod rhaid cydymffurfio â’r amodau yn Atodiad 1 wrth gynhyrchu cynhyrchion sylfaenol (cyddwysiadau mwg sylfaenol neu ffracsiynau tar sylfaenol)
Erthygl 5.2, yr ail frawddegGwaharddiad ar ddefnyddio’r cyfnod olewaidd annhoddadwy mewn dŵr wrth gynhyrchu cyflasynnau mwg.
Erthygl 9.4Gofyniad bod rhaid i ddeiliad awdurdodiad neu unrhyw weithredydd busnes bwyd arall, sy’n defnyddio cynnyrch awdurdodedig, neu gyflasyn mwg deilliedig a gynhyrchir o gynnyrch awdurdodedig, gydymffurfio ag unrhyw amodau neu gyfyngiadau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodiad
Erthygl 9.5Gofyniad bod rhaid i ddeiliad awdurdodiad hysbysu’r Comisiwn am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy’n ymwneud â chynnyrch awdurdodedig, ac a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch y cynnyrch awdurdodedig hwnnw

Tabl 2

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 2065/2003

Y pwnc

Erthygl 13.1Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau y trosglwyddir yr wybodaeth benodedig i’r gweithredydd busnes bwyd sy’n derbyn y cynnyrch pan osodir y cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf
Erthygl 13.2Gofyniad, yn sgil gosod cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf, fod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sy’n gosod y cynhyrchion ar y farchnad drosglwyddo’r wybodaeth benodedig yn Erthygl 13.1 i’r gweithredwyr busnes bwyd sy’n derbyn y cynnyrch, bob tro y rhoddir y cynnyrch ar y farchnad

Rheoliadau 6 a 7

ATODLEN 4Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 1332/2008

Tabl 1

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1332/2008

Y pwnc

Erthygl 4Gofyniad na chaniateir gosod ensymau bwyd ar y farchnad fel y cyfryw na’u defnyddio mewn bwydydd oni bai eu bod yn ymddangos yn rhestr yr Undeb o ensymau awdurdodedig y darperir ar ei chyfer yn Erthygl 17 ac yn unol â’r manylebau a’r amodau defnyddio penodedig.
Erthygl 5Gwaharddiad ar osod ar y farchnad ensymau bwyd nad ydynt yn cydymffurfio neu fwydydd sy’n cynnwys ensymau o’r fath nad ydynt yn cydymffurfio â Rheoliad 1332/2008 a’i fesurau gweithredu.
Erthygl 14.1Gofyniad bod rhaid i gynhyrchydd neu ddefnyddiwr ensym bwyd hysbysu’r Comisiwn ar unwaith am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar ei asesiad diogelwch.
Erthygl 14.2Gofyniad bod rhaid i gynhyrchydd neu ddefnyddiwr ensym bwyd a gymeradwywyd sy’n cael ei baratoi drwy ddulliau cynhyrchu neu drwy ddefnyddio deunyddiau cychwynnol sy’n wahanol i’r rhai a gynhwyswyd yn yr asesiad risg gyflwyno’r data angenrheidiol i’r Comisiwn i ganiatáu gwerthusiad o ran y dull cynhyrchu neu’r priodweddau diwygiedig cyn marchnata’r ensym.

Tabl 2

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1332/2008

Y pwnc

Erthygl 10.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 11)Gofynion ynghylch labelu ensymau a pharatoadau bwyd na fwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol.
Erthygl 12.1Gofynion ynghylch labelu ensymau a pharatoadau bwyd y bwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol.

Rheoliad 21

ATODLEN 5Dirymu

Enw’r offeryn

Graddfa’r dirymu

Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 (O.S. 1993/1658)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) 1995 (O.S. 1995/1440)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/2257)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1849 (Cy.199))Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1350 (Cy.98))Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007 (O.S. 2007/2315 (Cy.186))Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ensymau Bwyd 2009 (O.S. 2009/3377 (Cy.299))Rheoliadau 3, 4, 5, 6, 7(2)(b) ac 8
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300))Pob darpariaeth ac eithrio rheoliadau 1, 2, 18(4) a 19
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/655 (Cy.93))Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011 (O.S. 2011/1450 (Cy.172))Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) a Thoddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) (O.S. 2012/1198 (Cy.148))Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2922 (Cy.243))Pob darpariaeth ac eithrio rheoliadau 1, 2 a 7.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill