- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gwnaed
13 Rhagfyr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Rhagfyr 2012
Yn dod i rym
3 Ionawr 2013
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac yn dod i rym ar 3 Ionawr 2013.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 7 rhodder—
7. Y cyfraddau yn nhrydedd golofn yr Atodlen yw'r modiwleiddio gwirfoddol y cyfeirir ato yn Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 378/2007 sy'n pennu rheolau ar gyfer modiwleiddio yn wirfoddol y taliadau uniongyrchol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003(4) am y cyfnod 2009 i 2012 a'r addasiad gwirfoddol y cyfeirir ato yn Erthygl 10b o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009(5) ar gyfer 2013(6).”
(3) Yn yr Atodlen—
(a)yn y tabl â'r pennawd “Ar gyfer symiau hyd at a chan gynnwys £5,000” ar ôl y rhes sy'n ymwneud â 2012, mewnosoder—
“2013 | 0% | 6.5% | 6.5%”; |
(b)yn y tabl â'r pennawd “Ar gyfer symiau dros £5,000 a hyd at a chan gynnwys £300,000”, ar ôl y rhes sy'n ymwneud â 2012, mewnosoder—
“2013 | 10% | 1.5% | 11.5%” ; ac |
(c)yn y tabl â'r pennawd “Ar gyfer symiau dros £300,000”, ar ôl y rhes sy'n ymwneud â 2012, mewnosoder—
“2013 | 14% | 0% | 14%”. |
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1892) (Cy.185) (“y prif Reoliadau”) sy'n gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t 16), ac offerynnau cysylltiedig eraill yr UE, mewn perthynas â chynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin.
Mae rheoliad 2 yn diwygio'r prif Reoliadau i ddarparu ar gyfer didyniadau modiwleiddio ychwanegol a gaiff eu gwneud o'r taliadau uniongyrchol i ffermwyr ar gyfer 2013.
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd unrhyw effaith, nac unrhyw effaith sylweddol, ar y sectorau preifat, gwirfoddol na chyhoeddus.
Yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010, O.S. 2010/2690.
1972 p.68. Cafodd adran 2(2) ei diwygio gan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) 27(1)(a) a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7), Rhan 1 o'r Atodlen.
OJ Rhif L 95, 5.4.2007, t 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1231/2011 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 326, 8.12.2011, t 24).
OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t 16, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 671/2012 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 204, 31.7.2012, t 11).
Y cyfraddau yn yr ail golofn, a ddarperir er mwyn bod yn gyflawn, yw'r cyfraddau gorfodol modiwleiddio y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 7 o Reoliad y Cyngor 73/2009 am y cyfnod 2009 i 2012 a'r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 10a o Reoliad y Cyngor 73/2009 ar gyfer 2013.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys