Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu (Gwaddolion Addysgol) (Llandegley) (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1703 (Cy.221)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu (Gwaddolion Addysgol) (Llandegley) (Cymru) 2012

Gwnaed

27 Mehefin 2012

Yn dod i rym

1Awst 2012

Dangoswyd er boddhad i Weinidogion Cymru bod y Gwaddol yn cael ei ddefnyddio, neu wedi ei ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu addysg grefyddol yn unol â daliadau'r Eglwys yng Nghymru mewn ysgol wirfoddol o fewn ystyr “voluntary school” yn adran 32 o Ddeddf Addysg 1996, y peidiwyd â defnyddio ei mangre at ddibenion ysgol o'r fath, a bod gofynion adran 554(3) o Ddeddf Addysg 199(1)) wedi eu bodloni.

Mae cais i Weinidogion Cymru am Orchymyn i wneud darpariaeth newydd ar gyfer defnyddio'r Gwaddol wedi ei wneud gan Ymddiriedolaeth Esgobaethol Abertawe ac Aberhonddu, sef corff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn awdurdod priodol yr Eglwys yng Nghymru at y diben hwnnw.

Mae hysbysiad o'r Gorchymyn arfaethedig, ac o hawl personau sydd â buddiant i gyflwyno sylwadau, wedi ei roi yn unol â darpariaethau adran 555 o Ddeddf Addysg 1996.

Ni chyflwynwyd unrhyw sylwadau ynglŷn â'r Gorchymyn arfaethedig.

Mae asedau'r Sefydliad yn cynnwys y safle a ddaeth wedyn yn safle'r ysgol a thŷ'r ysgol uchod a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu, a'r adeiladau ar y safle hwnnw (neu'r enillion net o'u gwerthiant) yn ogystal ag unrhyw incwm a ddeilliodd o'r asedau hynny cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 554 a 556(2) o Ddeddf Addysg 1996 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu (Gwaddolion Addysgol) (Llandegley) (Cymru) 2012, a daw i rym ar 1 Awst 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “asedau'r Sefydliad” (“the Foundation assets”) yw'r asedau sy'n cynrychioli'r Gwaddol ar hyn o bryd;

ystyr “yr Esgobaeth” (“the Diocese”) yw Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, a rhaid dehongli “yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol” (“the Diocesan Trust”) yn unol â hynny;

ystyr “y Gwaddol” (“the Endowment”) yw'r gwaddol a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu;

ystyr “y Sefydliad” (“the Foundation”) yw'r sefydliad addysgol a adwaenid fel Sefydliad Ysgol Llandeglau (a adwaenid yn ddiweddarach fel Neuadd Bentref Llandeglau) a sefydlwyd gan y weithred Sefydlu;

ystyr “y weithred Sefydlu” (“the Founding deed”) yw'r weithred dyddiedig 11 March 1869 ac y credir iddi gael ei gwneud rhwng tenantiaid y clastir rheithorol a pherchnogion degymau i Reithor, Ficer a Wardeiniaid Eglwys Llandeglau;

mae i “ysgol sefydledig” (“foundation school”) yr ystyr a roddir i “foundation school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3); ac y

mae i “ysgol wirfoddol” (“voluntary school”) yr ystyr a roddir i “voluntary school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Ymddiriedolwr a breinio

3.—(1Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi'r Ymddiriedolaeth Esgobaethol i fod yn Ymddiriedolwr—

(a)y Sefydliad; a

(b)asedau'r Sefydliad.

(2Rhaid trosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth Esgobaethol yr holl gronfeydd sydd, yn union cyn dyddiad y Gorchymyn hwn, yn eiddo i'r Sefydliad, neu a ddelir mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y Sefydliad (ac eithrio unrhyw gronfeydd a ddelir eisoes gan yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol), a rhaid i unrhyw berson sy'n dal cronfeydd o'r fath gyflawni pob gweithred sy'n angenrheidiol at y diben o'u trosglwyddo.

Gweinyddu'r Sefydliad

4.—(1Awdurdodir yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol i werthu unrhyw eiddo rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol sy'n gynwysedig yn asedau'r Sefydliad, a rhaid iddi, hyd nes gwerthir eiddo o'r fath, ei osod a'i reoli fel arall yn unol â'r gyfraith gyffredinol sy'n gymwys i reolaeth eiddo a ddelir mewn ymddiriedolaeth at ddibenion elusennol.

(2Rhaid i'r Ymddiriedolaeth Esgobaethol ddal asedau'r Sefydliad ar yr ymddiriedolaethau statudol unffurf, er budd ysgolion gwirfoddol neu ysgolion sefydledig yr Eglwys yng Nghymru o fewn yr Esgobaeth.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “ymddiriedolaethau statudol unffurf” (“uniform statutory trusts”) yw'r ymddiriedolaethau a bennir yn yr Atodlen (sef yr ymddiriedolaethau statudol unffurf a bennir yn Atodlen 36 i Ddeddf Addysg 1996 fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag asedau'r Sefydliad.

Cyfuno

5.  Caniateir cyfuno asedau'r Sefydliad gydag unrhyw waddol presennol a ddelir at y dibenion a bennir yn yr Atodlen.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

27 Mehefin 2012

Erthygl 3(4)

YR ATODLEN

1.  Caiff yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol, ar ôl talu unrhyw dreuliau a achosir iddi mewn cysylltiad â gweinyddu'r Sefydliad, ddefnyddio cyfalaf ac incwm y Sefydliad at unrhyw rai o'r dibenion canlynol—

(a)ar gyfer prynu, neu tuag at brynu, safle ar gyfer, neu adeiladu, gwella neu ehangu mangre unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth;

(b)ar gyfer cynnal unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth;

(c)ar gyfer prynu, neu tuag at brynu, safle ar gyfer, neu adeiladu, gwella neu ehangu mangre unrhyw dŷ athro neu athrawes ar gyfer ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth; ac

(d)ar gyfer cynnal unrhyw dŷ athro neu athrawes ar gyfer ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth.

2.  Caiff yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol hefyd, ar ôl talu unrhyw dreuliau a achosir iddi mewn cysylltiad â gweinyddu'r Sefydliad, ddefnyddio incwm y Sefydliad at unrhyw rai o'r dibenion canlynol—

(a)ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, cyngor, arweiniad ac adnoddau (gan gynnwys deunyddiau) mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy'n ymwneud â rheolaeth unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth, neu'r addysg a ddarperir mewn unrhyw ysgol o'r fath;

(b)darparu gwasanaethau ar gyfer cynnal unrhyw arolygiad o unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth sy'n ofynnol o dan Ran 1 o Ddeddf Addysg 2005(4); ac

(c)talu'r gost o gyflogi staff neu eu cymryd ymlaen mewn cysylltiad ag—

(i)defnyddio incwm asedau'r Sefydliad ar gyfer y naill neu'r llall o'r dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b) uchod,

(ii)defnyddio cyfalaf ac incwm asedau'r Sefydliad ar gyfer unrhyw rai o'r dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 uchod.

3.  Ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw ysgol o'r math y cyfeirir ato yn erthygl 4(2).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi Ymddiriedolaeth Esgobaethol Abertawe ac Aberhonddu yn ymddiriedolwr gwaddol y sefydliad addysgol a adwaenid fel Sefydliad Ysgol Llandeglau (a adwaenid yn ddiweddarach fel Neuadd Bentref Llandeglau). Mae'n gwneud darpariaeth newydd sef bod yr ymddiriedolwr i ddal yr asedau sy'n cynrychioli'r gwaddol ar yr ymddiriedolaethau statudol unffurf, fel a bennir yn yr Atodlen, er budd ysgolion gwirfoddol a sefydledig yr Eglwys yng Nghymru yn yr Esgobaeth.

(1)

1996 p.56. Amnewidiwyd adran 554(1) gan baragraff 168(2) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.15). Amnewidiwyd adran 554(3)(a) gan baragraff 168(3) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Diwygiwyd adran 554(3)(b) gan baragraff 168(3)(b) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Diwygiwyd adran 556(2)(a) gan baragraff 169(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Diwygiwyd adran 556(2)(b) gan baragraff 169(b) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 554 a 556 o Ddeddf Addysg 1996 ac adran 5 o Ddeddf Dychweliad Safleoedd 1987 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/6722) ac wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill