- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y caiff awdurdod lleol benderfynu sy'n swm rhesymol i D ei dalu tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth (“uchafswm rhesymol”) (“maximum reasonable amount”) yw £50 yr wythnos.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), pan fo gan D anghenion asesedig a fodlonir gan ddarpariaeth ddeuol, £50 yr wythnos yw uchafswm cyfanredol y symiau y caiff awdurdod lleol wneud yn ofynnol bod D yn eu talu mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno, fel—
(a)ffi, a
(b)taliad.
(3) Pan fo awdurdod lleol yn cyfrifo'r uchafswm rhesymol y caniateir gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu—
(a)rhaid iddo ddiystyru cost sicrhau unrhyw wasanaeth y mae'n codi ffi unffurf amdano, a
(b)caiff osod y ffioedd mewn perthynas â gwasanaeth o'r fath yn ychwanegol at yr uchafswm rhesymol.
(4) Pan fo D yn cael taliad uniongyrchol i'w alluogi i brynu cyfarpar y byddai awdurdod lleol, fel arall, yn ei ddarparu—
(a)rhaid i'r awdurdod lleol ddiystyru cost prynu'r cyfarpar wrth gyfrifo'r uchafswm rhesymol y caniateir gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu, a
(b)caiff wneud yn ofynnol bod D yn talu swm dros ben ac yn ychwanegol at yr uchafswm rhesymol, tuag at y gost o sicrhau'r cyfarpar.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys