Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011

Yr uchafswm rhesymol o ad-daliad neu gyfraniad sy'n daladwy

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y caiff awdurdod lleol benderfynu sy'n swm rhesymol i D ei dalu tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth (“uchafswm rhesymol”) (“maximum reasonable amount”) yw £50 yr wythnos.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), pan fo gan D anghenion asesedig a fodlonir gan ddarpariaeth ddeuol, £50 yr wythnos yw uchafswm cyfanredol y symiau y caiff awdurdod lleol wneud yn ofynnol bod D yn eu talu mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno, fel—

(a)ffi, a

(b)taliad.

(3Pan fo awdurdod lleol yn cyfrifo'r uchafswm rhesymol y caniateir gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu—

(a)rhaid iddo ddiystyru cost sicrhau unrhyw wasanaeth y mae'n codi ffi unffurf amdano, a

(b)caiff osod y ffioedd mewn perthynas â gwasanaeth o'r fath yn ychwanegol at yr uchafswm rhesymol.

(4Pan fo D yn cael taliad uniongyrchol i'w alluogi i brynu cyfarpar y byddai awdurdod lleol, fel arall, yn ei ddarparu—

(a)rhaid i'r awdurdod lleol ddiystyru cost prynu'r cyfarpar wrth gyfrifo'r uchafswm rhesymol y caniateir gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu, a

(b)caiff wneud yn ofynnol bod D yn talu swm dros ben ac yn ychwanegol at yr uchafswm rhesymol, tuag at y gost o sicrhau'r cyfarpar.