- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
9 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mawrth 2011
Yn dod i rym
11 Ebrill 2011
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Ebrill 2011.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Y swm y bydd awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 fydd £23.00 yr wythnos.
3. Dirymir drwy hyn reoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010(4).
4.—(1) Yn y Prif Reoliadau, ym mharagraff (2) o reoliad 20A (Terfyn cyfalaf – Cymru), yn lle'r ffigur “£22,000”, rhodder “£22,500”.
(2) Ar ôl paragraff (2) o reoliad 20A, mewnosoder y paragraff canlynol—
“(3) No resident is liable to pay for accommodation, or contribute to the cost of accommodation, from capital where the resident’s capital, calculated in accordance with regulation 21, does not exceed the amount specified in paragraph (2).”.
5.—(1) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion), ym mharagraff 10(1), yn lle “paragraphs 29 and 31, the amount specified in paragraph 15(1) of Schedule 9 to the Income Support Regulations (relevant payments) of”, rhodder “paragraph 29,”.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (darpariaethau arbennig mewn perthynas â thaliadau elusennol neu wirfoddol a rhai pensiynau)—
(a)hepgorer paragraff 30; a
(b)ym mharagraff 31, yn lle “paragraphs 10(1) and 11” rhodder “paragraph 11”.
6. Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (cyfalaf sydd i'w ddiystyru)—
(a)ar ôl paragraff 10, mewnosoder—
“(10A) Any amount which would be disregarded under paragraph 12A of Schedule 10 to the Income Support Regulations(personal injury payments) with the exception of any payment or any part of any payment that has been specifically identified by a court to deal with the cost of providing care.”; a
(b)yn lle paragraff 19(5) rhodder—
“Any amount which—
falls within paragraph 44(2)(a), and would be disregarded under paragraph 44(1)(a) or (b), of Schedule 10 to the Income Support Regulations; or
would be disregarded under paragraph 45(a) of that Schedule.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
9 Mawrth 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010 (“y Rheoliadau Anghenion Personol”) a Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”). Deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.
Mae rheoliad 2 yn diwygio'r swm sydd ei angen ar gyfer anghenion personol, fel bod y swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i'w ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ei angen ar breswylwyr mewn llety a drefnir o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ar gyfer anghenion personol, yn cynyddu i £23.00 yr wythnos.
Mae rheoliad 3 yn dirymu rhan o'r Rheoliadau Anghenion Personol.
Mae rheoliad 4 yn diwygio'r Prif Reoliadau fel bod y terfyn cyfalaf a bennir yn rheoliad 20A yn newid i £22,500, ac yn gwneud yn eglur na chaniateir gwneud yn ofynnol bod preswylydd yn talu am, nac yn cyfrannu at, gost llety allan o gyfalaf sydd islaw'r swm hwn.
Mae rheoliad 5 yn diwygio paragraffau 10, 30 a 31 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau, i ddarparu bod rhai taliadau elusennol a gwirfoddol o incwm i'w diystyru'n llawn wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion. Mae'r diwygiadau hyn yn adlewyrchu diwygiadau a wnaed i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967) (“y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm”). Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, i adlewyrchu diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm ynglŷn ag arian sydd i'w ddiystyru wrth gyfrifo cyfalaf preswylydd. Mae rheoliad 6(a) yn pennu bod unrhyw daliad a wneir i breswylydd neu'i bartner o ganlyniad i anaf corfforol i'w ddiystyru am gyfnod o hyd at 52 wythnos o'r dyddiad y ceir y taliad cyntaf, ac eithrio pan fo'r taliad hwnnw wedi ei fwriadu'n benodol i ddiwallu cost gofal. Mae rheoliad 6(b) yn galluogi diystyru rhai dyfarniadau o iawndal, pan ddelir y dyfarniadau hynny yn ddarostyngedig i orchymyn neu gyfarwyddyd gan y llys.
1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o “the minister” a “prescribed” yn y drefn honno ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a throsglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.
Mewnosodwyd paragraff 19 gan O.S. 1998/497, rheoliad 3.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys