- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Rhaid i berson sy'n rhedeg busnes gwelyau haul roi i berson, bob tro y mae'r person hwnnw yn ceisio defnyddio neu yn defnyddio gwely haul ar fangre gwelyau haul, yr wybodaeth ragnodedig am iechyd sydd wedi ei gosod yn Atodlen 1, a rhaid cynnwys yr wybodaeth honno mewn dogfen sy'n wastad ac yn betryal ac yn A4 o leiaf o ran maint ac wedi ei hargraffu mewn llythrennau duon, y gellir eu darllen yn rhwydd, ar gefndir melyn.
(2) Rhaid i berson sy'n rhedeg busnes gwelyau haul arddangos mewn man amlwg, lle y mae'n hawdd i berson ei weld bob tro y mae'r person hwnnw yn ceisio defnyddio neu yn defnyddio gwely haul ar fangre gwelyau haul, hysbysiad sydd—
(a)yn cynnwys yr wybodaeth ragnodedig am iechyd sydd wedi ei gosod yn Atodlen 2;
(b)yn A3 o leiaf o ran maint; ac
(c)wedi ei argraffu mewn llythrennau duon, o leiaf 20 milimetr eu maint, ar gefndir melyn.
(3) Bydd hysbysiad wedi ei arddangos mewn man amlwg lle y mae'n hawdd i berson ei weld bob tro y mae'r person hwnnw yn ceisio defnyddio neu yn defnyddio gwely haul ar fangre gwelyau haul os yw wedi ei osod yn y fath fodd ag i ddod i'w olwg ar unwaith wrth iddo fynd i mewn i'r fangre gwelyau haul ac wrth iddo fynd i mewn i bob parth dan gyfyngiad ar y fangre honno.
(4) Rhaid i berson sy'n rhedeg busnes gwelyau haul beidio â darparu nac arddangos unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys datganiadau sy'n ymwneud ag effeithiau gwelyau haul ar iechyd ac eithrio'r wybodaeth ragnodedig am iechyd o dan baragraffau (1) a (2).
(5) Ond nid yw paragraff (4) yn gymwys ar gyfer darparu neu arddangos unrhyw wybodaeth berthnasol am iechyd a diogelwch.
(6) Bydd person sy'n rhedeg busnes gwelyau haul ac sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (1), paragraff (2) neu baragraff (4) yn cyflawni tramgwydd.
(7) Mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y rheoliad hwn, mae'n amddiffyniad i berson sy'n rhedeg busnes gwelyau haul brofi ei fod ef (neu gyflogai neu asiant iddo) wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd hwnnw.
(8) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys