- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Dirymir Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003(1), Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004(2) a Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004(3) mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
ystyr “cyfnod cyllido” (“funding period”) yw blwyddyn ariannol;
ystyr “y Cynllun Plant a Phobl Ifanc” (“the Children and Young People’s Plan”) yw cynllun sy'n ofynnol o dan reoliadau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004(4);
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(5);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(6);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(7);
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(8);
ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth sy'n cael addysg lawnamser neu ran-amser sy'n addas yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgol feithrin a gynhelir, ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, yn cynnwys ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) a fydd, ar ôl gweithredu cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol o dan unrhyw ddeddfiad, yn ysgol o'r fath ac yn un a chanddi gorff llywodraethu dros dro.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd sy'n dod o fewn paragraff (2).
(4) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn golygu ysgol gynradd neu ysgol uwchradd sydd (neu a fydd) yn ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol.
(5) Yn y Rheoliadau hyn nid yw cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y'u diffinnir ym mharagraff (1).
(6) Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at wariant yn gyfeiriadau at y gwariant hwnnw yn net o—
(a)holl grantiau penodedig perthnasol;
(b)holl ffioedd, taliadau ac incwm perthnasol; ac
(c)cyllid a dderbynnir gan Weinidogion Cymru o ran taliad unedol cynllun PFI.
(7) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at grant penodedig yn gyfeiriad at unrhyw grant a delir i awdurdod lleol o dan amodau sy'n gosod cyfyngiadau ar ddibenion penodol yr awdurdod y caniateir defnyddio'r grant ond nid yw'n cynnwys—
(a)unrhyw grant a wneir gan Weinidogion Cymru o ran cyllido chweched dosbarth; neu
(b)unrhyw grant penodedig a ddefnyddir i gefnogi gwariant drwy gyllideb ysgolion unigol.
(8) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at daliad unedol cynllun PFI yn gyfeiriad at daliad sy'n daladwy i awdurdod lleol o dan drafodiad ariannol preifat.
(9) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at drafodiad ariannol preifat yn gyfeiriad at drafodiad fel y'i diffinnir gan reoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf ) 1997(9).
(10) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at wariant cyfalaf yn golygu gwariant y mae awdurdod lleol yn bwriadu ei gyfalafu yn eu cyfrifon yn unol ag arferion priodol sef yr arferion cyfrifyddu hynny—
(a)y mae'n ofynnol i awdurdod eu dilyn yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, neu
(b)yr ystyrir eu bod yn gyffredinol, i'r graddau y maent yn gyson ag unrhyw ddeddfiad o'r fath, p'un ai drwy gyfeiriad at unrhyw God cyhoeddedig a gydnabyddir yn gyffredinol neu fel arall, yn arferion cyfrifyddu priodol i'w dilyn wrth gadw cyfrifon awdurdodau lleol, naill ai'n gyffredinol neu yn ôl y disgrifiad o dan sylw.
(11) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at CERA yn gyfeiriadau at wariant cyfalaf y mae awdurdod lleol yn disgwyl iddo gael ei dalu o gyfrif refeniw'r awdurdod o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(10).
(12) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at wariant a eithrir yn gyfeiriadau at y dosbarthiadau neu ddisgrifiadau canlynol o wariant—
(a)gwariant cyfalaf heblaw CERA;
(b)gwariant at ddibenion adran 26 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(11) (trefniadau ar gyfer hebrwng wrth groesfannau ysgol); ac
(c)gwariant a dynnir gan yr awdurdod lleol o dan adran 51A o Ddeddf 1998(12) (gwariant a dynnir at ddibenion cymunedol).
O.S. 2003/3118 (Cy.296) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/696, 2005/2913 a 2005/3238.
O.S. 2004/2506 (Cy.224) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913, 2005/3238.
2004 p.31. Gweler Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007, O.S. 2007/2316 (Cy.187).
O.S. 1997/319, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/371, 1999/1852 a 2003/515. Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2004 (O.S. 2004/533) yn cynnwys darpariaethau arbed ar gyfer rheoliad 16 o Reoliadau 1997.
Mewnosodwyd adran 51A gan adran 40 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 3 iddi, ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 9 o Atodlen 18 i Ddeddf Addysg 2005.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys