Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 824 (Cy.87)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

Gwnaed

16 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Medi 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru(1) gan adrannau 45A, 45AC, 47, 48, 49 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 1(7) a 2B o Atodlen 14 iddi(2) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(3), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Cafodd drafft o'r Rheoliadau hyn eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'u cymeradwyo drwy benderfyniad ganddo(4).

RHAN 1 —Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Dirymir Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003(5), Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004(6) a Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004(7) mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “cyfnod cyllido” (“funding period”) yw blwyddyn ariannol;

  • ystyr “y Cynllun Plant a Phobl Ifanc” (“the Children and Young People’s Plan”) yw cynllun sy'n ofynnol o dan reoliadau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004(8);

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(9);

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(10);

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(11);

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(12);

  • ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth sy'n cael addysg lawnamser neu ran-amser sy'n addas yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgol feithrin a gynhelir, ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, yn cynnwys ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) a fydd, ar ôl gweithredu cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol o dan unrhyw ddeddfiad, yn ysgol o'r fath ac yn un a chanddi gorff llywodraethu dros dro.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd sy'n dod o fewn paragraff (2).

(4Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn golygu ysgol gynradd neu ysgol uwchradd sydd (neu a fydd) yn ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol.

(5Yn y Rheoliadau hyn nid yw cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y'u diffinnir ym mharagraff (1).

(6Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at wariant yn gyfeiriadau at y gwariant hwnnw yn net o—

(a)holl grantiau penodedig perthnasol;

(b)holl ffioedd, taliadau ac incwm perthnasol; ac

(c)cyllid a dderbynnir gan Weinidogion Cymru o ran taliad unedol cynllun PFI.

(7Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at grant penodedig yn gyfeiriad at unrhyw grant a delir i awdurdod lleol o dan amodau sy'n gosod cyfyngiadau ar ddibenion penodol yr awdurdod y caniateir defnyddio'r grant ond nid yw'n cynnwys—

(a)unrhyw grant a wneir gan Weinidogion Cymru o ran cyllido chweched dosbarth; neu

(b)unrhyw grant penodedig a ddefnyddir i gefnogi gwariant drwy gyllideb ysgolion unigol.

(8Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at daliad unedol cynllun PFI yn gyfeiriad at daliad sy'n daladwy i awdurdod lleol o dan drafodiad ariannol preifat.

(9Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at drafodiad ariannol preifat yn gyfeiriad at drafodiad fel y'i diffinnir gan reoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf ) 1997(13).

(10Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at wariant cyfalaf yn golygu gwariant y mae awdurdod lleol yn bwriadu ei gyfalafu yn eu cyfrifon yn unol ag arferion priodol sef yr arferion cyfrifyddu hynny—

(a)y mae'n ofynnol i awdurdod eu dilyn yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, neu

(b)yr ystyrir eu bod yn gyffredinol, i'r graddau y maent yn gyson ag unrhyw ddeddfiad o'r fath, p'un ai drwy gyfeiriad at unrhyw God cyhoeddedig a gydnabyddir yn gyffredinol neu fel arall, yn arferion cyfrifyddu priodol i'w dilyn wrth gadw cyfrifon awdurdodau lleol, naill ai'n gyffredinol neu yn ôl y disgrifiad o dan sylw.

(11Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at CERA yn gyfeiriadau at wariant cyfalaf y mae awdurdod lleol yn disgwyl iddo gael ei dalu o gyfrif refeniw'r awdurdod o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(14).

(12Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at wariant a eithrir yn gyfeiriadau at y dosbarthiadau neu ddisgrifiadau canlynol o wariant—

(a)gwariant cyfalaf heblaw CERA;

(b)gwariant at ddibenion adran 26 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(15) (trefniadau ar gyfer hebrwng wrth groesfannau ysgol); ac

(c)gwariant a dynnir gan yr awdurdod lleol o dan adran 51A o Ddeddf 1998(16) (gwariant a dynnir at ddibenion cymunedol).

RHAN 2 —Cyllideb AALl, Cyllideb Ysgolion a Chyllideb Ysgolion Unigol

Cyllideb AALl

4.—(1Rhagnodir y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod lleol a bennir yn Atodlen 1 at ddibenion adran 45A(1) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb AALl awdurdod lleol, ac eithrio i'r graddau y mae gwariant o'r fath yn wariant a eithrir neu'n dod o fewn paragraff (2).

(2Daw gwariant o fewn y paragraff hwn os yw'n wariant—

(a)sydd, yn rhinwedd cynllun yr awdurdod (o fewn ystyr adran 48(5) o Ddeddf 1998) neu unrhyw ddeddfiad, i'w dynnu o gyfran ysgol o'r gyllideb; neu

(b)sy'n dod o fewn is-baragraff (1) o baragraff 1 o Atodlen 2.

Penderfyniad cychwynnol cyllideb ysgolion

5.—(1Cyn 14 Chwefror yn union cyn dechrau cyfnod cyllido rhaid i awdurdod lleol—

(a)gwneud penderfyniad cychwynnol ar ei gyllideb ysgolion ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw; a

(b)hysbysu ei benderfyniad i Weinidogion Cymru, i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo.

(2Os bydd awdurdod lleol yn ailbenderfynu ei gyllideb ysgolion, rhaid iddo hysbysu'r ailbenderfyniad hwnnw i Weinidogion Cymru ac i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl ailbenderfynu.

Cyllideb ysgolion

6.—(1Rhagnodir y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod lleol a bennir ym mharagraff (2) at ddibenion adran 45A(2) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb ysgolion awdurdod lleol.

(2Dyma'r dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod lleol—

(a)gwariant ar ddarparu a chynnal a chadw ysgolion a gynhelir ac ar addysg y disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion hynny;

(b)gwariant ar addysg disgyblion mewn ysgolion annibynnol, ysgolion arbennig nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, yn y cartref ac yn yr ysbyty, ac ar unrhyw drefniadau eraill ar gyfer darparu addysg gynradd ac uwchradd i ddisgyblion heblaw mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol; ac

(c)pob gwariant arall a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â darparu addysg gynradd ac uwchradd, i'r graddau nad yw gwariant o'r fath yn dod o fewn paragraff (a) neu (b),

ond dim ond i'r graddau nad yw gwariant o'r fath—

(a)yn dod o fewn dosbarth neu ddisgrifiad o wariant a ragnodir gan reoliad 4 at ddibenion adran 45A(1) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb AALl awdurdod lleol, a

(b)yn wariant a eithrir.

Cyllideb ysgolion unigol

7.  Cyn 14 Chwefror yn union cyn dechrau cyfnod cyllido, rhaid i awdurdod lleol ddidynnu o'i gyllideb ysgolion unrhyw un neu'r cyfan o'r dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant cynlluniedig a nodir yn Atodlen 2, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, er mwyn cyrraedd ei gyllideb ysgolion unigol ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw.

RHAN 3 —Cyfrannau ysgolion o'r gyllideb

Dyrannu cyllideb ysgolion unigol

8.—(1Rhaid i awdurdod lleol ddyrannu ym mhob cyfnod cyllido yn unol â'r Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, y cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw fel cyfrannau'r ysgolion a gynhelir ganddo o'r gyllideb.

(2Ar y cychwyn nid oes raid i awdurdod lleol ddyrannu'r cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol ar ffurf cyfrannau o'r gyllideb ar ddechrau cyfnod cyllido, ac yn lle hynny caniateir iddo ddal ei afael ar swm ar gyfer ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau ond rhaid i'r swm hwnnw gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw neu gael ei ddosbarthu i ysgolion yn unol â gofynion paragraff (1) cyn diwedd y cyfnod cyllido hwnnw.

Amseru a hysbysu penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau ysgolion o'r gyllideb

9.—(1Cyn 31 Mawrth yn union cyn dechrau cyfnod cyllido, rhaid i awdurdod lleol—

(a)gwneud penderfyniad cychwynnol ar swm cyfran ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw, a

(b)hysbysu cyrff llywodraethu'r ysgolion a gynhelir ganddo o gyfran pob ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw.

(2Rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1)(b) gynnwys esboniad ar sut y penderfynwyd cyfran yr ysgol o'r gyllideb ac amcangyfrif o gyfrannau'r ysgol o'r gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod cyllido sy'n dilyn ond nid yw'r amcangyfrif hwnnw'n rhwymo'r awdurdod o ran y penderfyniadau gwirioneddol a wneir ganddo ar gyfer y ddau gyfnod cyllido sy'n dilyn.

Y fformiwla ar gyfer penderfynu cyfrannau o'r gyllideb

10.—(1Rhaid i awdurdod lleol benderfynu cyn dechrau cyfnod cyllido, ac ar ôl yr ymgynghori y cyfeirir ato yn rheoliad 11, y fformiwla y bydd yn ei defnyddio i benderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb yn y cyfnod cyllido hwnnw gan roi sylw i'r ffactorau, y meini prawf a'r gofynion a nodir yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol i fformiwla o'r fath fod yn syml, yn wrthrychol, yn fesuradwy, yn rhagweladwy o ran ei heffaith ac wedi'i mynegi'n glir.

(3Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio ffactorau neu feini prawf yn ei fformiwla sy'n rhoi lwfans, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ar gyfer unrhyw swm a ddyrennir i'r ysgol o unrhyw grant a delir i'r awdurdod gan Weinidogion Cymru.

(4Yn ddarostyngedig i reoliad 25 (trefniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru) rhaid i awdurdod lleol ddefnyddio'r fformiwla a benderfynwyd o dan baragraff (1) ym mhob penderfyniad ac ailbenderfyniad o gyfrannau o'r gyllideb.

Ymgynghori

11.—(1O ran ei fformiwla ar gyfer cyfnod cyllido, yn ychwanegol at ymgynghori â'r fforwm ysgolion ar gyfer ei ardal, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â chorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol y mae'n ei chynnal am unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ffactorau a'r meini prawf a gymerwyd i ystyriaeth, neu'r dulliau, yr egwyddorion a'r rheolau a fabwysiadwyd yn ei fformiwla yn y cyfnod cyllido blaenorol (gan gynnwys unrhyw ffactorau, meini prawf, dulliau, egwyddorion neu reolau newydd).

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i newidiadau a wneir yn unol â rheoliadau 8(2), 19(4) neu 22.

(3Rhaid bod ymgynghori o dan y rheoliad hwn yn digwydd mewn digon o amser i ganiatáu i'r canlyniad gael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu fformiwla'r awdurdod ac wrth wneud penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau ysgolion o'r gyllideb.

(4Rhaid i awdurdod lleol hysbysu pob un o'r rhai yr ymgynghorwyd â hwy o ganlyniad yr ymgynghori.

Ysgolion newydd

12.—(1Rhaid i ysgol newydd gael cyllideb ddirprwyedig o'r dyddiad pan fydd yr ysgol yn derbyn disgyblion gyntaf.

(2Ond caiff fforwm ysgolion awdurdod lleol ar gais yr awdurdod—

(a)amrywio'r dyddiad hwnnw i un a gynigir gan yr awdurdod,

(b)ei amrywio i ddyddiad gwahanol, neu

(c)gwrthod amrywio'r dyddiad.

(3Os yw'r fforwm ysgolion yn amrywio'r dyddiad i un gwahanol neu'n gwrthod ei amrywio, caiff yr awdurdod lleol wneud cais i Weinidogion Cymru i amrywio'r dyddiad.

(4Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)amrywio'r dyddiad hwnnw i un a gynigir gan yr awdurdod,

(b)ei amrywio i ddyddiad gwahanol, neu

(c)gwrthod amrywio'r dyddiad.

Niferoedd disgyblion

13.—(1Wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir ganddynt, rhaid i awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny ar unrhyw ddyddiadau a benderfynir gan yr awdurdod, a'r nifer hwnnw wedi'i bwysoli os yw'r awdurdod o'r farn bod hynny'n briodol yn unol â pharagraff (7).

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw nifer y disgyblion cofrestredig yn cynnwys—

(a)disgyblion y mae grant yn daladwy ar eu cyfer i'r awdurdod gan Weinidogion Cymru o dan adran 36 o Ddeddf 2000;

(b)disgyblion mewn lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu (ac eithrio pan fo'r awdurdod lleol yn dewis peidio ag arfer ei ddisgresiwn o dan reoliad 15 mewn perthynas â phlant mewn dosbarthiadau meithrin) ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin.

(3Pan fo'r awdurdod yn penderfynu un dyddiad yn unig at ddibenion paragraff (1), rhaid iddo fod yn ddyddiad sy'n dod—

(a)cyn dechrau'r cyfnod cyllido o dan sylw; a

(b)yn y flwyddyn ysgol y digwydd dechrau'r cyfnod cyllido o dan sylw ynddi.

(4Pan fo'r awdurdod yn penderfynu ar fwy nag un dyddiad at ddibenion paragraff (1), yna—

(a)rhaid i un o'r dyddiadau hynny fodloni paragraff (3);

(b)o ran y dyddiad arall neu'r dyddiadau eraill—

(i)ni chaiff unrhyw ddyddiad fod yn gynt na dechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r cyfnod cyllido o dan sylw yn digwydd ynddi, a

(ii)caiff yr awdurdod benderfynu dyddiad neu ddyddiadau sydd yn y dyfodol ac amcangyfrif nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny.

(5Nid yw'r cyfyngiadau ar y dyddiadau ym mharagraffau (3) a (4) yn gymwys o ran disgyblion mewn dosbarthiadau meithrin neu ddosbarthiadau derbyn y mae'r awdurdod yn cymryd i ystyriaeth o dan baragraff (1).

(6Caiff awdurdod, wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion arbennig, neu ar gyfer ysgolion cynradd neu uwchradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin, gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla—

(a)nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion arbennig hynny; neu

(b)nifer y disgyblion yn y lleoedd hynny sydd wedi'u cadw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd;

ar y dyddiad neu'r dyddiadau y penderfynwyd arnynt at ddibenion paragraff (1) (wedi'i bwysoli os yw'r awdurdod o'r farn bod hynny'n briodol yn unol â pharagraff (7)).

(7Caiff awdurdod lleol bwysoli niferoedd disgyblion yn ôl unrhyw un neu bob un o'r ffactorau canlynol—

(a)oedran, gan gynnwys pwysoliad yn ôl cyfnod allweddol neu grŵp blwyddyn;

(b)a yw disgybl yn cael addysg feithrin gan ysgol;

(c)yn achos disgyblion o dan bump oed, eu hunion oedran wrth gael eu derbyn i'r ysgol;

(ch)yn achos disgyblion o dan bump oed, yr oriau y maent yn bresennol;

(d)anghenion addysgol arbennig;

(dd)a yw disgybl mewn ysgol yn mynychu sefydliad hefyd o fewn y sector addysg bellach; a

(e)a yw disgybl yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9)—

(a)os bydd ysgol gynradd yn gweithredu polisi o dderbyn plant i ddosbarthiadau meithrin neu ddosbarthiadau derbyn yn nhymor yr haf, a

(b)os bydd yn derbyn disgyblion i'r cyfryw ddosbarthiadau yn nhymor yr haf yn union ar ôl y dyddiad neu'r dyddiadau y penderfynwyd arnynt o dan baragraff (1),

caiff awdurdod lleol benderfynu nifer sy'n cynrychioli nifer y disgyblion a gaiff eu derbyn yn y tymor haf hwnnw, a chymryd y cyfryw nifer i ystyriaeth yn ei fformiwla.

(9O ran awdurdod lleol, wrth iddo benderfynu'r nifer o ddisgyblion y bydd yn ei gymryd i ystyriaeth o dan baragraff (8)—

(a)rhaid iddo beidio â phenderfynu unrhyw nifer sy'n fwy na nifer y disgyblion a dderbyniwyd yn nhymor yr haf yn union cyn y dyddiad neu'r dyddiadau a benderfynwyd o dan baragraff (1), a

(b)rhaid iddo wneud unrhyw benderfyniad o'r fath cyn dechrau'r cyfnod cyllido pan fydd y disgyblion yn cael eu derbyn.

(10Rhaid i awdurdod lleol gynnwys darpariaeth yn ei fformiwla a fyddai'n ei alluogi i addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran ysgol o'r gyllideb pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, waharddiad parhaol disgybl o'r ysgol neu dderbyn disgybl yn dilyn gwaharddiad parhaol y disgybl hwnnw o ysgol arall a gynhelir gan awdurdod lleol.

Niferoedd disgyblion : Cofrestru Deuol

14.  Pan fo disgybl, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 434 o Ddeddf 1996(17), yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag un ysgol, yna rhaid trin y disgybl hwnnw fel un sy'n ddisgybl llawnamser ym mhob ysgol o'r fath oni bai bod yr awdurdod yn darparu'n bendant fel arall yn ei fformiwla.

Lleoedd

15.—(1Wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb caiff awdurdod lleol ystyried yn ei fformiwla nifer y lleoedd y mae'n dymuno eu cyllido mewn—

(a)ysgolion arbennig;

(b)ysgolion cynradd neu uwchradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;

(c)ysgolion cynradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin; neu

(ch)ysgolion meithrin a gynhelir.

(2Wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb caiff awdurdod lleol ystyried yn ei fformiwla natur unrhyw anghenion addysgol arbennig pan fydd yn cyllido lleoedd mewn ysgolion arbennig neu leoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion cynradd neu uwchradd.

(3Rhaid i awdurdod lleol ddarparu, os bydd unrhyw leoedd mewn ysgolion arbennig yn cael eu cymryd i ystyriaeth yn unol â pharagraff (1), na fydd y nifer yn llai na nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad neu'r dyddiadau a benderfynir at ddibenion rheoliad 13(1).

Ysgolion o ddisgrifiad penodol

16.  Pan fo awdurdod lleol yn didynnu o'i gyllideb ysgolion wariant cynlluniedig sy'n ymwneud ag ysgolion a gynhelir o ddisgrifiad penodol, rhaid iddo gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformiwla o ran y gwariant cynlluniedig hwnnw, mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiad hwnnw.

Cyllid gwahaniaethol

17.  Rhaid i awdurdod lleol beidio â defnyddio yn ei fformwla unrhyw ffactorau neu feini prawf sy'n gwahaniaethu rhwng ysgolion yn ôl eu categori o dan Ddeddf 1998 ac eithrio lle bo gwahaniaethau yn swyddogaethau cyrff llywodraethu ysgolion o wahanol gategorïau yn cyfiawnhau gwahaniaethu o'r fath.

Ffactorau neu feini prawf ychwanegol

18.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 16 a 17, caiff awdurdod lleol, wrth benderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb, gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla, yn ôl yr hyn sy'n briodol yn ei farn, unrhyw un neu bob un o'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir yn Atodlen 3, fel y darperir ar ei gyfer yn yr Atodlen honno.

(2Rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd y mae'n eu cynnal, gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla ffactor neu ffactorau a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru ym mhob ysgol o'r fath.

(3Nid yw ffactor sydd wedi'i gynnwys mewn fformiwla awdurdod yn unol â pharagraff 19 o Atodlen 3, at ddiben paragraff (2), yn ffactor a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol.

(4Oni nodir yn wahanol yn Atodlen 3, ni chaniateir i'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir yn yr Atodlen honno gael eu cymryd i ystyriaeth gan awdurdod lleol ar sail y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig.

(5Pan fo awdurdod lleol yn cymryd i ystyriaeth ffactorau neu feini prawf newydd yn ei fformiwla neu'n dileu ffactorau o'i fformiwla neu'n penderfynu ar fformiwla sy'n sylweddol wahanol neu'n gyfan gwbl wahanol i'r cyfnod cyllido blaenorol, caniateir iddo wneud unrhyw ddarpariaeth drosiannol y mae'n credu ei bod yn rhesymol.

Cyllid ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol

19.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 21 (addasu cyfran o'r gyllideb) rhaid i'r gyfran o'r gyllideb ar gyfer ysgol uwchradd neu ysgol arbennig sy'n darparu addysg addas ar gyfer gofynion personau dros oedran ysgol gorfodol gynnwys swm (“y Swm”) o ran disgyblion yr ysgol honno sydd dros oedran ysgol gorfodol.

(2Rhaid i'r Swm gynnwys, ar sail net—

(a)dyraniad gan yr awdurdod lleol ar gyfer darpariaeth yr ysgol honno i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol yn unol ag amodau'r grant sy'n daladwy i'r awdurdod lleol gan Weinidogion Cymru o dan adran 36 o Ddeddf 2000 (“y Grant”);

(b)unrhyw swm y mae'r awdurdod lleol yn ei ddarparu ar gyfer addysg disgyblion dros oedran addysg gorfodol.

(3I'r graddau nad yw'r Swm yn ddarostyngedig i'r amodau yn y Grant, rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ddefnyddio ffactor sy'n dyrannu cyllid ar gyfer disgyblion dros oedran addysg gorfodol.

(4Rhaid ailbenderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer cyfnod cyllido cyn diwedd y cyfnod cyllido hwnnw os yw'r awdurdod yn cael hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru o ddyraniad y Grant neu ddyraniad diwygiedig o'r Grant.

Ad-drefnu ysgol

20.—(1Yn achos ysgol a gynhelir sydd—

(a)yn ysgol newydd y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 3(2);

(b)yn ysgol (ac eithrio ysgol newydd) nad yw cynigion ar gyfer ei sefydlu o dan unrhyw ddeddfiad wedi'u gweithredu'n llawn;

(c)yn ysgol sy'n destun cynigion ar gyfer newid rhagnodedig o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 1998 neu adran 113A o Ddeddf 2000;

(ch)yn ysgol feithrin a gynhelir sydd i'w therfynu yn y cyfnod cyllido o dan sylw,

rhaid i'r awdurdod lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformiwla a fyddai'n ei alluogi i benderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb er mwyn cymryd i ystyriaeth anghenion penodol yr ysgol; ac yn benodol, os bydd y cyfnod cyllido o dan sylw yn dod cyn y cyfnod cyllido y mae ysgol yn derbyn disgyblion gyntaf, caiff benderfynu mai sero yw swm y gyfran o'r gyllideb.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cynigion ar gyfer sefydlu ysgol wedi'u gweithredu'n llawn pan fydd nifer y disgyblion sy'n cael eu derbyn i'r ysgol ym mhob grŵp oedran wedi cyrraedd, ym marn yr awdurdod lleol—

(a)y nifer hwnnw o ddisgyblion a nodwyd, pan gafodd cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol eu cyhoeddi, fel y nifer o ddisgyblion i'w derbyn i bob grŵp oedran pan fyddai'r cynigion wedi'u gweithredu'n llawn; neu

(b)os na nodwyd unrhyw nifer o'r fath, y nifer hwnnw y caiff yr awdurdod ei benderfynu.

Addasu cyfran o'r gyllideb

21.—(1I'r graddau yr oedd cyfran ysgol o'r gyllideb am gyfnod cyllido—

(a)wedi'i phenderfynu yn ôl amcangyfrif o nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddyddiad neu ddyddiadau penodol; a

(b)bod gwahaniaethau rhwng nifer amcangyfrifedig y disgyblion ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny a nifer gwirioneddol y disgyblion yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny heb gael eu cymryd i ystyriaeth mewn ailbenderfyniad ar gyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw,

rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido sy'n dilyn er mwyn cymryd y gwahaniaethau hynny i ystyriaeth.

(2Caiff awdurdod lleol benderfynu cyfran ysgol o'r gyllideb ar gyfer cyfnod cyllido fel y gellir cymryd i ystyriaeth unrhyw newid arall yn ystod y cyfnod cyllido blaenorol yn y data y penderfynwyd cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido blaenorol drwy gyfeirio ato, os na chymrwyd y newidiadau hynny i ystyriaeth wrth ailbenderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido blaenorol hwnnw.

(3Caiff awdurdod lleol addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran ysgol o'r gyllideb ar gyfer cyfnod cyllido pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol—

(a)unrhyw ostyngiad neu gynnydd yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y cyfnod cyllido blaenorol sy'n codi o wahardd disgybl yn barhaol o'r ysgol neu dderbyn i'r ysgol ddisgybl a waharddwyd yn barhaol o ysgol arall a gynhelir; neu

(b)unrhyw gynnydd yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y cyfnod cyllido blaenorol sy'n codi o gynnydd mewn niferoedd disgyblion yn ystod y cyfnod cyllido hwnnw.

(4Rhaid i awdurdod lleol gynnwys yn ei fformiwla ffactorau neu feini prawf sy'n bodloni gofynion y rheoliad hwn.

Disgyblion a waharddwyd neu a dderbyniwyd ar ôl gwaharddiad

22.—(1Os bydd disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol o ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yn ystod cyfnod cyllido, rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw yn unol â pharagraff (2).

(2Mae cyfran yr ysgol o'r gyllideb i'w gostwng â'r swm A × (B/52) ac—

  • A yw'r swm, yn y cyfnod cyllido y mae'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ynddo, yn ôl penderfyniad yr awdurdod yn unol â'r Rheoliadau hyn sydd i'w briodoli am y cyfnod cyllido llawn i ddisgybl cofrestredig sydd o'r un oedran ac y mae ganddo'r un nodweddion â'r disgybl o dan sylw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod;

  • At ddibenion y diffiniad hwn y swm sydd i'w briodoli i ddisgybl cofrestredig yw cyfanswm y symiau a benderfynwyd yn unol â fformiwla'r awdurdod neu reoliad 25 yn ôl niferoedd disgyblion yn hytrach nag yn ôl nifer y lleoedd yn yr ysgol neu unrhyw ffactor arall neu feini prawf eraill nad ydynt yn dibynnu ar niferoedd disgyblion; a

  • B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y cyfnod cyllido o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol:

  • AC EITHRIO os yw'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn blwyddyn ysgol ac ar ei diwedd y mae disgyblion, sydd o'r un oedran neu'r un grŵp oedran â'r disgybl o dan sylw, yn ymadael fel rheol â'r ysgol honno cyn cael eu derbyn i ysgol arall a chanddi ddisgyblion o ystod oedran gwahanol, B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ysgol honno o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol.

(3Pan fo disgybl a gafodd ei wahardd yn barhaol o ysgol a gynhelir yn cael ei dderbyn yn ystod yr un cyfnod cyllido i ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol (“yr ysgol sy'n derbyn”), rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran yr ysgol sy'n derbyn o'r gyllideb yn unol â pharagraff (4).

(4Mae cyfran yr ysgol o'r gyllideb i'w chynyddu â swm na chaniateir iddo fod yn llai na'r swm D × (E/F) a—

  • D yw'r swm y mae'r awdurdod yn ei ddefnyddio i ostwng cyfran yr ysgol o'r gyllideb y gwaharddwyd y disgybl yn barhaol ohoni neu y byddai wedi'i ddefnyddio i'w gostwng petai'r ysgol honno wedi'i chynnal gan yr awdurdod;

  • E yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y cyfnod cyllido y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn yr ysgol sy'n derbyn;

  • F yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y cyfnod cyllido o'u cyfrif o'r dyddiad perthnasol.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr y dyddiad perthnasol yw'r ystyr a ragnodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 494 o Ddeddf 1996(18).

(6Os caiff disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol ei dderbyn yn ôl yn ddiweddarach gan gorff llywodraethu'r ysgol neu gan banel apêl a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52 o Ddeddf 2002(19), rhaid cynyddu cyfran yr ysgol o'r gyllideb gan swm nad yw'n llai nag G × (H/I) ac—

  • G yw'r swm y mae'r awdurdod wedi'i ddefnyddio i ostwng cyfran yr ysgol o'r gyllideb;

  • H yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y cyfnod cyllido y caiff y disgybl ei dderbyn yn ôl ynddo; ac

  • I yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y cyfnod cyllido o'u cyfrif o'r dyddiad perthnasol.

(7Mae paragraffau (1) a (2) hefyd yn gymwys os yw disgybl yn gadael ysgol a gynhelir am resymau heblaw gwaharddiad parhaol, ac y mae'n derbyn addysg sy'n cael ei gyllido gan awdurdod lleol heblaw mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw.

Canran o gyllid “sy'n cyfeirio at niferoedd disgyblion”

23.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod ei fformiwla yn darparu bod o leiaf 70 y cant o swm ei gyllideb ysgolion unigol yn cael ei ddyrannu mewn un neu ragor o'r dulliau canlynol—

(a)yn unol â rheoliad 13(1) neu (6);

(b)yn unol ag unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill gan ddefnyddio niferoedd disgyblion sy'n darparu ar gyfer yr un cyllid i ddisgyblion o'r un oedran ni waeth beth fo natur yr ysgol y maent yn mynd iddi;

(c)i leoedd mewn ysgolion cynradd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin;

(ch)ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig nad oes ganddynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig ond hyd at 5 y cant yn unig o'r cyfanswm a ddyrannwyd gan yr awdurdod i ysgolion cynradd ac uwchradd o'i gyllideb ysgolion unigol;

(d)i leoedd mewn ysgolion cynradd neu uwchradd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;

(dd)ar gyfer disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig pan fo cyllid ar gyfer disgyblion o'r fath yn ffurfio rhan o gyllidebau dirprwyedig ysgolion.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid peidio â chynnwys yng nghyllideb ysgolion unigol awdurdod lleol gyfrannau ysgolion o'r gyllideb sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol yn unig, cyfrannau ysgolion arbennig o'r gyllideb nac unrhyw ran o'r gyllideb ysgolion unigol y daliwyd gafael arni yn unol â rheoliad 8(2) at ddibenion ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau.

Cywiro gwallau

24.  Caiff awdurdod lleol ailbenderfynu ar unrhyw bryd yn ystod cyfnod cyllido gyfran ysgol o'r gyllideb am y cyfnod cyllido hwnnw er mwyn cywiro gwall mewn penderfyniad neu ailbenderfyniad o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'n codi o wall ynglŷn â nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol neu fel arall.

Trefniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru

25.  Caiff Gweinidogion Cymru, pan fo'n ymddangos iddynt ei bod yn hwylus i wneud hynny, awdurdodi awdurdod lleol i benderfynu neu ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb, ar unrhyw adeg ac i'r graddau hynny y gallant eu pennu, yn unol â threfniadau a gymeradwywyd ganddynt yn lle'r trefniadau y darparwyd ar eu cyfer mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.

RHAN 4 —Cynlluniau Ariannol

Y cynnwys sy'n ofynnol mewn cynlluniau

26.  Rhaid i gynllun a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998 ymdrin â'r materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

Dull cyhoeddi

27.  At ddibenion paragraff 1(7) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (dull rhagnodedig i gyhoeddi cynlluniau) rhaid i gynllun gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod lleol dan sylw wrth iddo ddod i rym fel y'i diwygiwyd o dan yr Atodlen honno drwy—

(a)rhoi copi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a

(b)trefnu bod copi ar gael er mwyn cyfeirio ato ar bob adeg resymol yn ddi-dâl—

(i)ym mhrif swyddfa addysg yr awdurdod; a

(ii)ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod neu ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod y gall y cyhoedd fynd ati.

Cymeradwyaeth gan y fforwm ysgolion neu Weinidogion Cymru o gynigion i ddiwygio cynlluniau

28.—(1Os bydd awdurdod lleol yn cyflwyno cynigion i ddiwygio ei gynllun i'w fforwm ysgolion ar gyfer cymeradwyaeth ganddynt yn unol â pharagraff 2A o Atodlen 14 i Ddeddf 1998, caiff y fforwm ysgolion—

(a)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath;

(b)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath yn ddarostyngedig i addasiadau; neu

(c)gwrthod cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath.

(2Os bydd y fforwm ysgolion yn cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun, caiff bennu'r dyddiad y mae unrhyw gynllun diwygiedig i ddod i rym.

(3Os bydd y fforwm ysgolion yn gwrthod cymeradwyo cynigion a gyflwynir o dan baragraff 2A o Atodlen 14 i Ddeddf 1998, neu'n cymeradwyo bod unrhyw gynigion o'r fath yn ddarostyngedig i addasiadau nad ydynt yn dderbyniol i'r awdurdod lleol, caiff yr awdurdod wneud cais i Weinidogion Cymru am gymeradwyaeth o gynigion o'r fath.

(4Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath;

(b)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath yn ddarostyngedig i addasiadau; neu

(c)gwrthod cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath.

(5Os bydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun, cânt bennu'r dyddiad y mae unrhyw gynllun diwygiedig i ddod i rym.

(6Ni chaiff unrhyw gynllun diwygiedig ddod i rym oni chymeradwywyd ef gan y fforwm ysgolion neu gan Weinidogion Cymru yn unol â'r rheoliad hwn.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

16 Mawrth 2010

Rheoliad 4

ATODLEN 1Dosbarthiadau neu Ddisgrifiadau o Wariant Cynlluniedig a Ragnodwyd at Ddibenion Cyllideb AALl yr Awdurdod Lleol

Mae gwariant o ddosbarth neu ddisgrifiad y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon yn cynnwys gwariant ar gostau gweinyddol cysylltiedig a gorbenion

Anghenion dysgu ychwanegol

1.  Gwariant ar wasanaethau a roddir gan seicolegwyr addysgol.

2.  Gwariant mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adrannau 321 i 331 o Ddeddf 1996 (swyddogaethau sy'n ymwneud ag adnabod ac asesu plant ag anghenion addysgol arbennig a llunio, cynnal ac adolygu datganiadau ar gyfer y plant hynny).

3.  Gwariant ar fonitro'r ddarpariaeth i ddisgyblion mewn ysgolion (os cynhelir hwy gan yr awdurdod neu beidio) at ddibenion lledaenu arferion da mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig a gwella ansawdd y ddarpariaeth addysgol ar eu cyfer.

4.  Gwariant ar gydweithio â chyrff statudol a gwirfoddol eraill i ddarparu cefnogaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig.

5.  Gwariant mewn cysylltiad ag—

(a)darparu gwasanaethau partneriaeth â rhieni neu ganllawiau a gwybodaeth arall i rieni disgyblion ag anghenion addysgol arbennig sydd, mewn perthynas â disgyblion mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, yn ychwanegol at yr wybodaeth a ddarperir fel arfer gan gyrff llywodraethu ysgolion o'r fath; neu

(b)trefniadau a wneir gan yr awdurdod er mwyn osgoi neu ddatrys anghytundebau â rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig.

6.  Gwariant a dynnir o ran paratoi unrhyw ran o Gynllun Plant a Phobl Ifanc gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag addysg plant ag anawsterau ymddygiad.

Iechyd ac amddiffyn plant

7.  Gwariant ar gyflawni swyddogaethau'r awdurdod o ran amddiffyn plant o dan Ddeddf Plant 1989(20) ac o dan adran 175 o Ddeddf 2002 a swyddogaethau eraill sy'n ymwneud ag amddiffyn plant.

8.  Gwariant a dynnir wrth ymrwymo i drefniant neu a dynnir wedyn yn unol â threfniant o dan adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999(21) neu reoliadau a wneir o dan adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(22).

9.  Gwariant wrth ddarparu cymorth meddygol arbennig ar gyfer disgyblion unigol i'r graddau na thelir gwariant o'r fath gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Bwrdd Iechyd Lleol neu Weinidogion Cymru.

Gwelliannau mewn ysgolion

10.  Gwariant a dynnir gan yr awdurdod mewn perthynas â chamau i gefnogi gwella safonau yn ysgolion yr awdurdod, gan gynnwys, yn benodol—

(a)gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan adran 197 o Ddeddf 2002 (cytundebau partneriaeth);

(b)gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag ymrwymo i gontract yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 63 o Ddeddf 2002(23) (contractau i sicrhau gwasanaethau o natur gynghorol mewn perthynas ag ysgolion â gwendidau difrifol neu ysgolion y mae angen mesurau arbennig arnynt);

(c)gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan adran 14 i 17 o Ddeddf 1998(24) (pwerau ymyrryd, penodi llywodraethwyr ychwanegol ac atal cyllidebau a ddirprwywyd mewn ysgolion sy'n peri pryder); a

(ch)gwariant ar benodi a thalu aelodau gweithredol interim o dan adran 16A o Ddeddf 1998(25).

Mynediad i addysg

11.  Gwariant o ran y materion canlynol—

(a)rheoli rhaglen gyfalaf yr awdurdod gan gynnwys paratoi ac adolygu cynllun rheoli asedau a thrafod a rheoli trafodion cyllid preifat;

(b)swyddogaethau'r awdurdod o ran gwahardd disgyblion o ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion, heb gynnwys unrhyw ddarpariaeth addysg i'r disgyblion hynny, ond gan gynnwys cyngor i rieni disgybl a waharddwyd;

(c)gweinyddu'r system i dderbyn disgyblion i ysgolion (gan gynnwys apelau derbyn ac ymgynghori o dan adran 89(2) o Ddeddf 1998(26));

(ch)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 85A o Ddeddf 1998(27) (sy'n darparu ar gyfer sefydlu a chynnal a chadw fforymau derbyn);

(d)swyddogaethau'r awdurdod o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(28);

(dd)swyddogaethau'r awdurdod o dan adrannau 510 a 514 o Ddeddf 1996 (darparu a gweinyddu grantiau dilladu a grantiau byrddio), ac yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 518(1) o Ddeddf 1996(29).

12.  Gwariant ar y Gwasanaeth Lles Addysg a gwariant arall sy'n deillio o swyddogaethau'r awdurdod o dan Bennod 2 o Ran 6 o Ddeddf 1996 (presenoldeb yn yr ysgol).

13.  Gwariant ar ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr o dan adran 1(1) o Ddeddf Addysg 1962(30) ac o dan adran 22 o Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(31).

14.  Gwariant ar grantiau disgresiynol o dan adran 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962 (dyfarndaliadau ar gyfer cyrsiau dynodedig a chyrsiau eraill).

15.  Gwariant ar dalu lwfansau i bobl dros oedran ysgol gorfodol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 518(1)(b) o Ddeddf 1996.

16.  Gwariant ar dalu lwfansau i bobl dros oedran ysgol gorfodol mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant a wneir o dan adran 14 o Ddeddf 2002 neu'n unol â rheoliadau a wneir o dan adran 181(1) o Ddeddf 2002.

Addysg, hyfforddiant a gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion

17.  Gwariant ar ddarparu addysg a hyfforddiant a gweithgaredd amser hamdden wedi'i drefnu a darpariaeth arall o dan adrannau 15A a 15B o Ddeddf 1996(32).

18.  Gwariant ar y ddarpariaeth gan yr awdurdod lleol o dan adrannau 15A a 508 o Ddeddf 1996(33) o adloniant a hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol, ac ar ddarpariaeth yr awdurdod o wasanaethau o dan adran 123 o Ddeddf 2000 i annog a galluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant.

19.  Gwariant o ran swyddogaethau'r awdurdod lleol mewn cysylltiad â'r cwricwlwm lleol o dan adrannau 116A i 116O o Ddeddf 2002(34) ac adrannau 33J i 33L o Ddeddf 2000(35).

Rheoli strategol

20.  Gwariant yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol o ran—

(a)swyddogaethau'r Prif Swyddog Addysg a'i staff personol;

(b)cynllunio ar gyfer y gwasanaeth addysg yn ei gyfanrwydd gan gynnwys—

(i)cynllunio a rheoli cyflenwad lleoedd mewn ysgolion, a swyddogaethau ynghylch sefydlu, newid neu gau ysgolion yn unol â Phennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 1998 neu adran 113A o Ddeddf 2000 ac Atodlen 7A iddi;

(ii)paratoi unrhyw ran o Gynllun Plant a Phobl Ifanc yr awdurdod ynghylch trefniadaeth ysgolion a gwella ysgolion;

(iii)ymateb i ddatganiadau polisi a phapurau ymgynghori;

(c)swyddogaethau'r awdurdod o dan Ran I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(36) (Gwerth Gorau) neu Ran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(37) (gwella llywodraeth leol) a darparu cyngor i gynorthwyo cyrff llywodraethu i gaffael nwyddau a gwasanaethau er mwyn gwella'n barhaus ar y dulliau yr arferir swyddogaethau'r cyrff llywodraethu hynny, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd;

(ch)paratoi cyllideb refeniw; paratoi gwybodaeth am incwm a gwariant ynghylch addysg, i'w hymgorffori yn natganiad cyfrifon blynyddol yr awdurdod; archwiliad allanol i geisiadau am grantiau a'r ffurflenni a ddychwelir sy'n ymwneud ag addysg a swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 44 o Ddeddf 2002;

(d)gweinyddu grantiau i'r awdurdod (gan gynnwys paratoi ceisiadau), swyddogaethau a osodir gan neu o dan Bennod 4 o Ran 2 o Ddeddf 1998 ac, os yw'n ddyletswydd ar yr awdurdod i wneud hynny, sicrhau'r taliadau o ran y dreth, yswiriant gwladol a chyfraniadau blwydd-daliadau;

(dd)awdurdodi a monitro—

(i)gwariant na thelir mohono o gyfrannau ysgolion o'r gyllideb; a

(ii)gwariant o ran ysgolion sydd heb gyllidebau dirprwyedig,

a phob gweinyddu ariannol cysylltiedig;

(e)monitro gan yr awdurdod o gydymffurfedd â gofynion ei gynllun ariannol a gynhelir o dan adran 48 o Ddeddf 1998(38);

(f)swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 27 o Ddeddf 2002 (darparu cyfleusterau cymunedol gan gyrff llywodraethu);

(ff)tasgau sy'n angenrheidiol i gyflawni cyfrifoldebau prif swyddog cyllid yr awdurdod o dan adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(39);

(g)recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff a gyllidir o wariant na thelir amdano o gyfrannau ysgolion o'r gyllideb ac a delir am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â swyddogaethau a gwasanaethau'r awdurdod y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon;

(ng)ymchwiliadau a wneir gan yr awdurdod ar gyflogeion neu gyflogeion posibl yr awdurdod neu gyrff llywodraethu ysgolion, neu bersonau a gymerir ymlaen fel arall neu sydd i'w cymryd ymlaen (gyda thâl neu'n ddi-dâl) i weithio yn yr ysgolion neu drostynt;

(h)swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â blwydd-daliadau, gan gynnwys gweinyddu pensiynau athrawon, ar wahân i swyddogaethau a gafodd eu dirprwyo i gyrff llywodraethu ysgolion;

(i)aelodaeth ôl-weithredol o gynlluniau pensiwn ac etholiadau ôl-weithredol a wneir mewn perthynas â phensiynau pan na fyddai'n briodol disgwyl i gorff llywodraethu ysgol dalu'r gost o gyfran yr ysgol o'r gyllideb;

(j)cyngor, yn unol â swyddogaethau statudol yr awdurdod, i gyrff llywodraethu mewn perthynas â staff a delir, neu sydd i'w talu, i weithio mewn ysgol, a chyngor mewn perthynas â rheoli'r holl staff ar y cyd mewn unrhyw ysgol unigol (“gweithlu'r ysgol”), gan gynnwys yn benodol y cyngor o ran newidiadau mewn cyflog, amodau gwasanaeth a chyd-gyfansoddiad a chyd-drefniadaeth gweithlu ysgol o'r fath;

(l)penderfynu amodau gwasanaeth ar gyfer y staff nad ydynt yn addysgu a chynghori'r ysgolion ar raddau'r cyfryw staff;

(ll)swyddogaethau'r awdurdod ynghylch penodi neu ddiswyddo cyflogeion;

(m)ymgynghori, a swyddogaethau yn barod ar gyfer ymgynghori gan neu â chyrff llywodraethu, disgyblion a phobl a gyflogir mewn ysgolion neu eu cynrychiolwyr, neu gyrff eraill sydd â buddiant;

(n)cydymffurfio â dyletswyddau'r awdurdod o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974(40) a'r darpariaethau statudol perthnasol fel y'u diffinnir yn adran 53(1) o'r Ddeddf honno i'r graddau na ellir cael cydymffurfedd yn rhesymol drwy'r tasgau a ddirprwyir i gyrff llywodraethu ysgolion; ond gan gynnwys gwariant a dynnir gan yr awdurdod wrth fonitro perfformiad y tasgau hynny gan gyrff llywodraethu ac os oes angen rhoi cyngor iddynt;

(o)ymchwilio i gwynion a'u datrys gan gynnwys camau a gymerir i gynorthwyo corff llywodraethu wrth drafod cwyn;

(p)gwasanaethau cyfreithiol ynghylch swyddogaethau statudol yr awdurdod;

(ph)paratoi ac adolygu cynlluniau sy'n ymwneud â chydweithio â gwasanaethau eraill awdurdod lleol neu gydweithio â chyrff cyhoeddus neu wirfoddol;

(r)paratoi a chyhoeddi unrhyw ran o Gynllun Plant a Phobl Ifanc yr awdurdod ynghylch datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant a darparu partneriaeth datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant (ond nid y gwariant a awdurdodir ganddi) o dan adran 119 o Ddeddf 1998;

(rh)darparu gwybodaeth ar gyfer neu ar gais Gweinidogion Cymru, adran o'r llywodraeth neu unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau ar ran y Goron a darparu gwybodaeth arall y mae'r awdurdod o dan ddyletswydd i drefnu ei bod ar gael;

(s)dyletswyddau'r awdurdod o dan Erthygl 4(2) a (5) o Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001(41);

(t)talu'r ffioedd sy'n daladwy i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 4(4) a 9(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y Cyngor yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 12 o'r Ddeddf honno(42);

(th)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 12 o Ddeddf 2002 (awdurdodau'n goruchwylio cwmnïau a ffurfiwyd gan gyrff llywodraethu); a

(u)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(43) i'r graddau na ellir cael cydymffurfedd yn rhesymol drwy'r tasgau a ddirprwyir i gyrff llywodraethu ysgolion; ond gan gynnwys gwariant a dynnir gan yr awdurdod wrth fonitro perfformiad y tasgau hynny gan gyrff llywodraethu ac os oes angen rhoi cyngor iddynt.

21.  Gwariant mewn cysylltiad â monitro perfformiad ysgolion, monitro rheolaeth cyllidebau dirprwyedig ac mewn cysylltiad â monitro rheolaeth ysgolion a llywodraethu ysgolion.

22.  Gwariant ar sefydlu a chynnal systemau cyfrifiadurol electronig, gan gynnwys storio data, i'r graddau y maent yn cysylltu, neu'n hwyluso cysylltiad yr awdurdod â'r ysgolion a gynhelir ganddo, rhwng ysgolion o'r fath â'i gilydd neu rhwng ysgolion o'r fath â phobl neu sefydliadau eraill.

23.  Gwariant ar fonitro trefniadau asesu'r Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n ofynnol gan orchmynion a wneir o dan adran 108 o Ddeddf 2002.

24.  Gwariant mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â Chyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol a ffurfiwyd gan yr awdurdod o dan adran 390 o Ddeddf 1996 neu wrth ailystyried a pharatoi maes llafur cytûn ar gyfer addysg grefyddol yn unol ag Atodlen 31 i Ddeddf 1996.

25.  Gwariant mewn perthynas â diswyddo neu ymddeoliad cynamserol unrhyw berson neu at ddibenion trefnu ymddiswyddiad, neu mewn perthynas â gweithredoedd sy'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw berson.

26.  Gwariant mewn perthynas â thaliadau athrawon o dan adran 19(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

27.  Gwariant ar wneud taliadau pensiwn, heblaw mewn perthynas â staff a gyflogir mewn ysgolion.

28.  Gwariant yn unol â chytundeb rhwymol, os awdurdod lleol yw'r parti arall, neu os yw'r partïon eraill yn cynnwys un neu fwy o awdurdodau lleol, o ran gweithrediad cyfleusterau a ddarperir yn rhannol ond nid yn unswydd at ddefnydd ysgolion.

29.  Gwariant mewn perthynas â swyddogaethau corff priodol o dan reoliadau yn unol ag adran 19(2)(g) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(44).

30.  Gwariant ar benodi llywodraethwyr, gwneud offerynnau llywodraeth, talu treuliau y mae gan lywodraethwyr hawl i'w cael nad ydynt yn daladwy o gyfran ysgol o'r gyllideb a darparu gwybodaeth i lywodraethwyr.

31.  Unrhyw wariant ar yswiriant heblaw am atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion neu fangreoedd ysgol.

32.  Gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 47A o Ddeddf 1998 (sefydlu a chynnal a chadw fforymau ysgolion ac ymgynghori â hwy).

Rheoliad 7

ATODLEN 2Dosbarthiadau neu Ddisgrifiadau o Wariant Cynlluniedig y ceir ei Ddidynnu o Gyllideb Ysgolion Awdurdod Lleol

Mae gwariant o ddosbarth neu ddisgrifiad y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon yn cynnwys gwariant ar gostau gweinyddol cysylltiedig a gorbenion

Gwariant ar gyfer cynnal grantiau

1.—(1Gwariant (heblaw gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon neu unrhyw baragraff o Atodlen 1) y mae'n rhaid i'r awdurdod ei dynnu fel un o amodau grant penodol a delir i'r awdurdod ac a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu swm grant penodol o'r fath.

(2Unrhyw swm y mae'n rhaid i'r awdurdod drefnu ei fod ar gael fel amod o'r grant a delir o dan adran 14 o Ddeddf 2002 neu o dan adran 484 o Ddeddf 1998 ac a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu swm grant o'r fath, y dirprwyir penderfyniadau ynghylch ei wariant i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.

Anghenion dysgu ychwanegol

2.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 3 a 4, gwariant a dynnir wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig ac eithrio os yw'r disgybl—

(a)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arbennig a gynhelir gan yr awdurdod; neu

(b)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol feithrin, ysgol gynradd neu ysgol uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cymryd un o nifer o leoedd yn yr ysgol honno ac y mae'r awdurdod yn cydnabod bod y lleoedd hynny'n lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig.

3.  Os daw disgybl o fewn paragraff 2(a) neu (b) a bod cost y ddarpariaeth a bennir yn natganiad y disgybl o anghenion addysgol arbennig yn sylweddol yn fwy na'r gost gyfartalog am ddarparu ar gyfer y disgyblion eraill yn yr ysgol arbennig neu'r disgyblion eraill sydd yn y lleoedd hynny sydd wedi'u cadw yn yr ysgol o dan sylw, o ba faint y mae'r gost honno'n fwy.

4.  Gwariant wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig os daw'r disgybl o fewn paragraff 2(b) ond bod y lleoedd a gydnabyddir gan yr awdurdod fel lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig ar gyfer y cyfryw ddisgyblion â nam ar eu golwg, eu clyw, eu lleferydd neu eu hiaith neu nam cyfathrebu arall.

5.  Gwariant mewn perthynas â chefnogaeth arbenigol a roddir i gynorthwyo cyrff llywodraethu ysgolion i fodloni anghenion penodol disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig neu sydd o fewn ystod Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy fel y'i disgrifir yn y Cod Ymarfer a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996(45) (sef gwariant na fyddai'n briodol disgwyl iddo gael ei dalu o gyfran yr ysgol o'r gyllideb).

6.  Gwariant (sef gwariant na fyddai'n briodol disgwyl iddo gael ei dalu o gyfran yr ysgol o'r gyllideb) at ddibenion sy'n gysylltiedig ag annog—

(a)cydweithredu rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir i alluogi plant ag anghenion addysgol arbennig i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir;

(b)addysg plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir; ac

(c)cael plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol gyda phlant nad oes ganddynt anghenion addysgol arbennig.

7.  Gwariant mewn perthynas ag addysg heblaw yn yr ysgol o dan adran 19 o Ddeddf 1996 neu mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion fel y'i diffinnir yn yr adran honno.

8.  Gwariant a dynnir (heblaw gwariant a dynnir o dan Atodlen 1 neu unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon) ar wasanaethau sy'n ymwneud ag addysg plant ag anawsterau ymddygiad ac ar weithgareddau eraill at ddibenion osgoi gwahardd disgyblion o ysgolion.

9.  Gwariant ar dalu ffioedd mewn perthynas â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig—

(a)mewn ysgolion annibynnol neu mewn ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt gan yr awdurdod lleol, o dan adran 348 o Ddeddf 1996; neu

(b)mewn sefydliad y tu allan i Gymru a Lloegr, o dan adran 320 o Ddeddf 1996.

10.  Gwariant ar daliadau i awdurdod lleol arall yn unol ag adran 493 neu 494 o Ddeddf 1996 neu adran 207 o Ddeddf 2002 (adennill rhwng awdurdodau lleol).

Staff

11.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, menyw sydd ar seibiant mamolaeth neu berson ar seibiant mabwysiadu.

12.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, personau—

(a)sy'n cyflawni dyletswyddau undeb llafur neu'n ymgymryd â hyfforddiant o dan adrannau 168 a 168A o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992(46);

(b)sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur o dan adran 170 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992;

(c)sy'n cyflawni dyletswyddau cyhoeddus o dan adran 50 o Ddeddf Hawliau Cyflogi 1996(47);

(ch)sy'n gwasanaethu ar reithgor;

(d)sy'n gynrychiolwyr diogelwch o dan Reoliadau Cynrychiolwyr Diogelwch a Phwyllgorau Diogelwch 1977(48);

(dd)sy'n gynrychiolwyr diogelwch cyflogeion o dan Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Ymgynghori â Chyflogeion) 1996(49);

(e)sy'n gynrychiolwyr cyflogeion at ddibenion Pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992 fel y'i diffinnir yn adran 196 o'r Ddeddf honno neu Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(50);

(f)sy'n cymryd amser i ffwrdd ar gyfer gofal cynenedigol o dan adran 55 o Ddeddf Hawliau Cyflogi 1996;

(ff)sy'n cyflawni dyletswyddau fel aelodau o'r lluoedd wrth gefn fel y'u diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf Lluoedd Wrth Gefn 1996(51);

(g)a ataliwyd rhag gweithio mewn ysgol;

(ng)sy'n aelodau o Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu bwyllgor iddo; neu

(h)a benodwyd yn gynrychiolwyr dysgu i'r undebau llafur, er mwyn iddynt ddadansoddi'r gofynion hyfforddi neu ddarparu neu hybu cyfleoedd hyfforddi, a chyflawni gwaith ymgynghori neu baratoi mewn cysylltiad â swyddogaethau o'r fath.

13.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, person sydd ar secondiad ar sail llawnamser am gyfnod o dri mis neu fwy heblaw i awdurdod lleol neu i gorff llywodraethu ysgol.

14.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, personau sydd wedi bod yn absennol o'r gwaith yn ddi-dor oherwydd salwch am 21 o ddiwrnodau neu fwy.

15.  Gwariant, nad yw'n dod o fewn Atodlen 1, mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff sy'n cael eu cyllido o wariant na thelir mohono o gyfrannau ysgolion o'r gyllideb.

Gwariant arall

16.  Gwariant ar ddarparu hyfforddiant mewn offerynnau cerdd neu hyfforddiant corawl (naill ai i unigolion neu i grwpiau).

17.  Gwariant ar gefnogi theatrau teithiol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer gwariant o'r fath.

18.  Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysgu'r Gymraeg gan athrawon a gyflogir i weithio heblaw mewn ysgol unigol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer gwariant o'r fath.

19.  Gwariant ar ddarparu mangreoedd a chyfleusterau i ysgolion ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau y tu allan (gan gynnwys mangreoedd a ddarperir ar safle ysgol er budd y gymuned gyfan).

20.  Gwariant yn unol ag adran 512, 512ZA, 512ZB neu 513 o Ddeddf 1996 sydd o ran ysgolion uwchradd yn ymwneud â darparu llaeth ac, o ran unrhyw ysgol arall, yn ymwneud â darparu llaeth neu brydau bwyd a lluniaeth arall.

21.  Gwariant ar drwsio a chynnal a chadw cegin ysgol os didynnir y gwariant ar brydau bwyd mewn perthynas â'r ysgol o dan sylw o gyllideb ysgolion yr awdurdod yn unol â pharagraff 20.

22.  Gwariant ar benderfynu cymhwyster disgybl i gael prydau bwyd ysgol yn ddi-dâl.

23.  Gwariant yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1996 wrth wneud unrhyw grant neu daliad arall mewn perthynas â ffioedd neu dreuliau (o ba natur bynnag) sy'n daladwy mewn cysylltiad â phresenoldeb disgyblion mewn ysgol nas cynhelir gan unrhyw awdurdod lleol.

24.  Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysg feithrin ac eithrio os gwneir y ddarpariaeth honno mewn ysgol a gynhelir.

25.  Gwariant ar yswiriant mewn perthynas ag atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion a mangreoedd ysgol ac eithrio i'r graddau y mae cyrff llywodraethu yn derbyn cyllid ar gyfer yswiriant fel rhan o'u cyfrannau ysgolion o'r gyllideb.

26.  Gwariant ar ffi trwyddedau neu danysgrifiadau a delir ar ran ysgolion ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.2 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

27.  Gwariant a dynnir wrth ymateb i adroddiad arolygiad o dan adran 28 o Ddeddf Addysg 2005.

28.  Gwariant ar wasanaethau llyfrgell a gwasanaethau amgueddfa ar gyfer ysgolion.

29.  Gwariant y byddai addysg disgyblion mewn ysgol hebddo yn cael ei handwyo'n ddifrifol ac na fyddai'n rhesymol disgwyl i'r corff llywodraethu ei dalu o gyfran yr ysgol o'r gyllideb oherwydd naill ai—

(a)ei faint a'i natur annisgwyl; neu

(b)ei faint a'i natur anochel.

30.  Gwariant ar ychwanegiadau at gyfran yr ysgol o'r gyllideb y mae'r ysgol â hawl iddynt yn rhinwedd fformiwla'r awdurdod neu ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb o dan awdurdod Gweinidogion Cymru neu wariant ar gywiro gwallau.

31.  Gwariant at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.1 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

32.  CERA a dynnir at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon neu Atodlen 1.

33.  Gwariant a dynnir yn unol ag adran 22 o Ddeddf Addysg 2002 wrth hyfforddi llywodraethwyr i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol i'r graddau na ddarperir ar ei gyfer gan grantiau penodedig.

34.  Gwariant a dynnir o ran hyfforddiant clercod i'r cyrff llywodraethu i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.

Rheoliad 18

ATODLEN 3Ffactorau neu Feini Prawf Ychwanegol y caniateir eu Cymryd i Ystyriaeth mewn Fformiwla Awdurdod Lleol o dan Reoliad 18

1.  Anghenion addysgol arbennig disgyblion wedi eu penderfynu mewn ffordd y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol fel modd i asesu anghenion o'r fath.

2.  Disgyblion nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

3.  Trosiant disgyblion ac eithrio fel rhan o'r broses derbyniadau cyffredinol mewn ysgol.

4.  I ba raddau y mae'r awdurdod yn talu costau trefniadau derbyn mewn ysgol ac eithrio o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol.

5.  Maint a chyflwr adeiladau a thiroedd ysgol o'u cymharu â rhai ysgolion eraill a gynhelir gan yr awdurdod: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfeydd a gyhoeddir gan yr awdurdod sy'n adlewyrchu (i'r graddau y mae hynny'n briodol) ddyletswyddau statudol cyrff llywodraethu o ran mangreoedd ysgolion a'u cymhwyster i gael grant gan Weinidogion Cymru neu unrhyw adran o'r llywodraeth.

6.  Ysgol a chanddi safle wedi'i rannu: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â meini prawf a gyhoeddir gan yr awdurdod.

7.  Cyfleusterau, ar gyfer addysgu disgyblion, a geir mewn rhai ysgolion yn unig.

8.  Ardrethi sy'n daladwy am fangre pob ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

9.  Y ffioedd am ddŵr a charthffosiaeth (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

10.  Defnydd ysgolion o ynni.

11.  Y rhent sy'n daladwy am fangre ysgol neu daliadau am ddefnydd ysgol o gyfleusterau nad ydynt wedi'u meddiannu gan yr ysgol honno'n unig (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

12.  Glanhau mangre ysgol.

13.  Cludiant yn ôl ac ymlaen i weithgareddau y tu allan i fangre ysgol sy'n ffurfio rhan o gwricwlwm yr ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

14.  Llogi cyfleusterau y tu allan i fangre ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

15.  Mewn achosion lle mae swm ar gyfer yswiriant i'w gynnwys mewn cyfran ysgolion o'r gyllideb—

(a)pan fo'r awdurdod yn yswirio, y rhan briodol o wariant cynlluniedig yr awdurdod ar yswiriant; neu,

(b)pan nad yw'r awdurdod yn yswirio, y rhan briodol o'r swm y byddai'r awdurdod wedi'i wario pe bai wedi yswirio,

i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod y mae'n rhaid iddo roi sylw i nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol.

16.  Taliadau mewn perthynas â thrafodiad cyllid preifat (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

17.  Symiau sy'n daladwy i ysgol sydd, yn sgil cau un neu ragor o ysgolion a gynhelir, naill ai'n ysgol sy'n cael ei sefydlu neu, yn unol â Phennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 1998, yn destun addasiadau rhagnodedig, i adlewyrchu i ba raddau y mae ysgol sydd wedi'i chau wedi gwario mwy na'i chyfran o'r gyllideb neu nad yw wedi gwario'r cyfan ohoni mewn unrhyw gyfnod cyllido. Rhaid i unrhyw ffactor neu feini prawf o'r fath ddarparu bod rhaid i unrhyw swm a ddidynnir beidio â bod yn fwy na'r swm y mae'r ysgol yn ei gael yn ystod y cyfnod cyllido fel rhan o'i chyfran o'r gyllideb am ei bod yn ysgol newydd.

18.  A yw'r ysgol i gael ei chau yn ystod y cyfnod cyllido o dan sylw neu yn y cyfnod cyllido sy'n dilyn.

19.  Llaeth ysgol, prydau bwyd a lluniaeth arall: ni chaiff yr awdurdod drin unrhyw elfen o'r gwariant hwn yn wariant â gwerth negyddol.

20.  Cyflogau mewn ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig): rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.

21.  Diogelu cyflogau yn unol â gorchmynion sy'n cael eu gwneud o bryd i'w gilydd o dan adran 122 o Ddeddf 2002 neu ddiogelu cyflogau eraill.

22.  Lwfansau blaenoriaeth gymdeithasol yn unol â Dogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol sy'n cael effaith yn unol â gorchymyn a wneir o dan adran 122 o Ddeddf 2002 (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

23.  Yr angen i daliadau sengl gael eu dyrannu i ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion arbennig, neu unrhyw gyfuniad o ysgolion o'r fath, ni waeth beth fo'u maint.

24.  Yr angen i daliadau gael eu dyrannu i ysgolion y mae eu maint wedi'i bennu gan yr awdurdod ac sy'n bodloni amodau eraill a bennwyd ganddo.

25.  Ysgolion y câi eu cyfrannau o'r gyllideb eu gostwng fel arall flwyddyn ar ôl blwyddyn â mwy na phump y cant: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.

26.  Contractau y mae corff llywodraethu ysgol yn rhwym iddynt yn rhinwedd darpariaeth yng nghynllun yr awdurdod (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

27.  Costau gweinyddu cyflogres: rhaid i'r cyllid fod wedi'i seilio ar nifer y staff yn yr ysgol, oni ddefnyddir ffactorau a ganiateir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.

28.  Unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill nad ydynt fel arall yn dod o dan yr Atodlen hon, ar yr amod nad yw'r cyfanswm a ddyrannwyd yn unol â fformiwla'r awdurdod, o ystyried ffactorau neu feini prawf o'r fath, yn fwy nag un y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

29.  Effaith trethi ar ysgolion.

30.  Mynychder disgyblion o leiafrifoedd ethnig y mae eu lefelau cyrhaeddiad academaidd mewn perthynas â disgyblion eraill yn ardal yr awdurdod yn is na'r cyfartaledd, a hynny i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod.

31.  Mynychder dosbarthiadau a lleoedd meithrin sy'n cael eu cydnabod gan yr awdurdod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

32.  Mynychder Athrawon sydd Newydd Gymhwyso.

33.  Datblygiad tai neu symudiadau lluoedd arfog sy'n arwain at gynnydd neu ostyngiad o 20% o leiaf yn y niferoedd ar y gofrestr mewn ysgol yn y cyfnod cyllido o dan sylw.

34.  Cyrhaeddiad blaenorol disgyblion sy'n dechrau mewn ysgol.

35.  Meintiau dosbarthiadau babanod y cyfyngwyd arnynt drwy Reoliadau a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf 1998: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwariant a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i'r Rheoliadau hynny.

36.  Meintiau dosbarthiadau iau y cyfyngwyd ar y nifer ynddynt i uchafswm o 30 o ddisgyblion: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwariant a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i amodau sydd wedi'u cynnwys mewn unrhyw grant arbennig a wnaed yn unol ag adran 88A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 neu unrhyw drefniadau am gymorth ariannol a ddarperir yn unol ag adran 14 o Ddeddf 2002 sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael gwelliant mewn safonau ysgol drwy ostwng maint y dosbarthiadau.

Rheoliad 26

ATODLEN 4Cynnwys y Cynlluniau Ariannol

Mae'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 26, sef materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol ac y mae'n ofynnol ymdrin â hwy yng nghynllun yr awdurdod lleol, fel a ganlyn:

1.  Cario drosodd wargedau a diffygion sy'n codi o ran cyfrannau ysgolion o'r gyllideb o un cyfnod cyllido i gyfnod cyllido arall.

2.  Symiau y gellir codi amdanynt yn erbyn cyfrannau ysgolion o'r gyllideb.

3.  Symiau a dderbyniwyd gan ysgolion y caiff eu cyrff llywodraethu eu dal a'r dibenion y ceir defnyddio'r symiau hynny ar eu cyfer.

4.  Gosod amodau, drwy neu o dan y cynllun, y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â hwy o ran rheoli eu cyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i gyrff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig, gan gynnwys amodau sy'n rhagnodi rheolaethau a gweithdrefnau ariannol.

5.  Y telerau y mae'r awdurdod yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau odanynt i ysgolion a gynhelir ganddo.

6.  Talu llog gan neu i'r awdurdod.

7.  Yr adegau pan drefnir y bydd symiau sy'n hafal i gyfanswm cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gael i gyrff llywodraethu a pha ran o'r gyfran o'r gyllideb fydd ar gael ar bob adeg o'r fath.

8.  Y trosglwyddiad rhwng penawdau cyllideb o fewn y gyllideb ddirprwyedig.

9.  Yr amgylchiadau y caiff awdurdod ddirprwyo i'r corff llywodraethu y pŵer i wario unrhyw ran o gyllideb AALl yr awdurdod neu ei gyllideb ysgolion yn ychwanegol at y rhai a nodir yn adran 49(4)(a) i (c)(52) o Ddeddf 1998.

10.  Y defnydd o gyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i'r corff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig.

11.  Benthyca gan gyrff llywodraethu.

12.  Trefniadau bancio y gall fod cyrff llywodraethu yn eu gwneud.

13.  Datganiad o ran atebolrwydd personol y llywodraethwyr mewn perthynas â chyfrannau ysgolion o'r gyllideb gan ystyried adran 50(7) o Ddeddf 1998.

14.  Datganiad o ran y lwfansau sy'n daladwy i lywodraethwyr ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig yn unol â'r cynllun a wnaed gan yr awdurdod at ddibenion adran 519 o Ddeddf 1996(53).

15.  Cadw cofrestr o unrhyw fuddiannau busnes y llywodraethwyr a'r pennaeth.

16.  Darparu gwybodaeth gan y corff llywodraethu a darparu gwybodaeth iddo.

17.  Cynnal a chadw stocrestrau o asedau.

18.  Cynlluniau gwario corff llywodraethu.

19.  Datganiad o ran y defnydd y mae corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud o warged yn y fantolen ysgol sy'n fwy na 5% o gyfran yr ysgol o'r gyllideb neu £10,000, pa swm bynnag yw'r mwyaf.

20.  Darpariaeth y caiff awdurdod wneud y canlynol oddi tani—

(a)cyfarwyddo'r corff llywodraethu sut i wario gwarged yn y fantolen ysgol ar gyfer cyfnod cyllido,—

(i)os yw'r gwarged, yn achos ysgol gynradd, yn £50,000 neu'n fwy, a

(ii)os yw'r gwarged, yn achos ysgol uwchradd neu ysgol arbennig, yn £100,000 neu'n fwy;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu, os nad yw'r corff llywodraethu'n cydymffurfio â chyfarwyddyd o'r fath, dalu'r gwarged cyfan neu ran ohono i'r awdurdod i'w ddefnyddio fel rhan o'i gyllideb ysgolion am y cyfnod cyllido o dan sylw.

21.  Datganiad o ran trethu'r symiau a dalwyd neu a gafwyd gan gorff llywodraethu.

22.  Yswiriant.

23.  Defnyddio cyllidebau dirprwyedig gan gyrff llywodraethu fel y byddant yn bodloni dyletswyddau'r awdurdod a osodwyd gan neu o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974(54).

24.  Darparu cyngor cyfreithiol i'r corff llywodraethu.

25.  Cyllid ar gyfer materion amddiffyn plant.

26.  Prydau ysgol.

27.  At bwy yn yr awdurdod y dylid anfon cwynion a wneir gan bobl sy'n gweithio yn yr ysgol neu gan lywodraethwyr ysgol ynghylch rheoli ariannol neu briodoldeb ariannol yn yr ysgol a sut y byddir yn ymdrin â chwynion o'r fath.

28.  Gwariant a dynnir gan gorff llywodraethu wrth arfer y pŵer a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg 2002.

29.  Y ddarpariaeth gan gyrff llywodraethu o ffurflenni a gwybodaeth at ddibenion pensiynau athrawon.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003, Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 a Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004 mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011. Maent yn darparu ar gyfer cyllido ysgolion a gynhelir yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd ariannol hynny.

Mae Rhan 1 yn cynnwys y darpariaethau cyflwyno, dehongli a dirymu.

Mae Rhan 2 yn ymwneud â chyllideb AALl, y gyllideb ysgolion a'r gyllideb ysgolion unigol.

Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn nodi'r gwariant sy'n cyfansoddi cyllideb AALl.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol wneud penderfyniad cychwynnol ar y gyllideb ysgolion cyn 14 Chwefror cyn dechrau cyfnod cyllido. Mae rheoliad 6 yn diffinio'r gyllideb ysgolion. Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gyllideb ysgolion unigol gael ei phenderfynu cyn 14 Chwefror yn union cyn cyfnod cyllido. Cyfnod cyllido yw blwyddyn ariannol. Diffinnir y gyllideb ysgolion unigol yn rheoliad 7 ac Atodlen 2.

Mae Rhan 3 yn ymwneud â chyfrannau ysgolion o'r gyllideb. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod y gyllideb ysgolion unigol i'w dyrannu fel cyfrannau o'r gyllideb i ysgolion. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol bod penderfyniad cychwynnol ar swm cyfran ysgol o'r gyllideb yn cael ei wneud erbyn diwedd y mis Mawrth cyn cyfnod cyllido a bod yr awdurdod yn hysbysu cyrff llywodraethu ysgolion o swm eu cyfrannau o'r gyllideb ynghyd â gwybodaeth ynghylch sut y cyfrifwyd y gyfran o'r gyllideb ac amcangyfrifon o'r cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod cyllido sy'n dilyn.

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod benderfynu fformiwla ar gyfer y cyfrannau o'r gyllideb. Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol bod ymgynghori ar unrhyw newidiadau a wneir i'r fformiwla ers y cyfnod cyllido blaenorol.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyllideb ddirprwyedig ysgol newydd.

Mae rheoliadau 13 i 23 ac Atodlen 3 yn nodi'r ffactorau a'r meini prawf i'w cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb.

Mae rheoliad 24 yn caniatáu i awdurdod lleol ailbenderfynu cyfran ysgol o'r gyllideb er mwyn cywiro gwallau, ac mae rheoliad 25 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gymeradwyo trefniadau amgen i benderfynu cyfrannau o'r gyllideb.

Mae Rhan 4 yn ymwneud â chynlluniau ariannol yr awdurdod lleol. Mae rheoliad 26 ac Atodlen 4 yn pennu'r materion y mae'n rhaid ymwneud â hwy mewn cynlluniau. Mae rhain yn cynnwys darpariaeth newydd a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol gyfarwyddo cyrff llywodraethu sut i wario gwarged sy'n £50,000 neu'n fwy yn achos ysgol gynradd a £100,000 neu'n fwy yn achos ysgol uwchradd neu ysgol arbennig, ac os ydynt yn methu â gwneud hynny, adennill y gwargedau hynny a'u defnyddio fel rhan o'u cyllideb ysgolion.

Mae rheoliad 27 yn nodi sut y mae rhoi cyhoeddusrwydd i gynlluniau diwygiedig ac mae rheoliad 28 yn ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddiwygiadau i'w cymeradwyo gan y fforwm ysgolion neu gan Weinidogion Cymru.

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 45A, 45AC, 47, 48, 49 a 138 ac Atodlen 14 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 119 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ac adran 180 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40).

(2)

1998 p.31. Mewnosodwyd adran 45A gan adran 41(1) o Ddeddf Addysg 2002 a'i diwygio gan baragraff 3 o Atodlen 16 i Ddeddf Addysg 2005. Mewnosodwyd adran 45AC gan baragraff 4 o Atodlen 16 i Ddeddf Addysg 2005. Diwygiwyd adran 47 gan baragraff 6 o Atodlen 16 i Ddeddf Addysg 2005. Diwygiwyd adran 48 gan adran 40 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 2 o Atodlen 3 iddi, gan adran 117 o Ddeddf Addysg 2005 a pharagraff 7 o Atodlen 18 iddi a pharagraff 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006. Diwygiwyd adran 49 gan baragraff 100 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 a chan baragraff 4 o Atodlen 5 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006. Amnewidiwyd paragraffau 1(7) a 2B o Atodlen 14 gan baragraff 5 o Atodlen 5 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).

(3)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

Yn unol â pharagraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac adran 138(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 8 o Atodlen 16 i Ddeddf Addysg 2005.

(8)

2004 p.31. Gweler Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007, O.S. 2007/2316 (Cy.187).

(10)

1998 p.31.

(11)

2000 p.21.

(12)

2002 p.32.

(13)

O.S. 1997/319, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/371, 1999/1852 a 2003/515. Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2004 (O.S. 2004/533) yn cynnwys darpariaethau arbed ar gyfer rheoliad 16 o Reoliadau 1997.

(14)

2003 p.36.

(15)

1984 p.27.

(16)

Mewnosodwyd adran 51A gan adran 40 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 3 iddi, ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 9 o Atodlen 18 i Ddeddf Addysg 2005.

(17)

Gweler Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995, O.S. 1995/2089 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2624, 1999/2267, 2001/1109, 2003/3227 a 2005/2913.

(18)

Mae adran 494(5) o Ddeddf 1996, a amnewidiwyd gan baragraff 128 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998, yn darparu y caiff rheoliadau ragnodi pa bryd y dylid barnu bod gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol. Mae Rheoliadau Addysg (Swm i Ddilyn Disgybl sydd wedi'i Wahardd yn Barhaol) 1999 (O.S. 1999/495) yn darparu bod gwaharddiad parhaol yn digwydd ar y dyddiad perthnasol sef “relevant date” fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hynny, a diwygiadau iddynt yn Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3227).

(19)

Gweler Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, O.S. 2003/3227 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1805, a Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3246), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1805.

(20)

1989 p.41.

(21)

1999 p.8.

(22)

2006 p.42.

(23)

Diwygiwyd adran 63 gan adran 61 o Ddeddf Addysg 2005 a chan adran 71 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac Atodlen 7 iddi.

(24)

1998 p.31. Diwygiwyd adrannau 14 i 17 gan adrannau 55 i 57 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 5 a pharagraffau 92 i 94 o Atodlen 21 iddi, a chan baragraffau 14 i 18 o Atodlen 9 i Ddeddf Addysg 2005.

(25)

Mewnosodwyd adran 16A gan adran 57 o Ddeddf Addysg 2002.

(26)

Amnewidiwyd adran 89(2) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 5 o Atodlen 4 iddi ac fe'i diwygiwyd gan adran 45 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(27)

Mewnosodwyd adran 85A gan adran 46 o Ddeddf Addysg 2002 ac fe'i diwygiwyd gan adran 41 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(29)

Amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(30)

1962 p.12.

(31)

1998 p.30.

(32)

Mewnosodwyd adran 15A gan adran 140 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 63 o Atodlen 30 iddi, ac fe'i diwygiwyd gan adran 149 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a pharagraff 54 o Atodlen 9 iddi. Mewnosodwyd adran 15B gan adran 149 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a pharagraff 55 o Atodlen 9 iddi.

(33)

Diwygiwyd adran 508 gan adran 137 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, ac adran 6(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(34)

Mewnosodwyd adrannau 116A i 116O o Ddeddf 2002 gan adrannau 4 i 18 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).

(35)

Mewnosodwyd adrannau 33J i 33L o Ddeddf 2000 gan adrannau 31 i 33 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

(36)

1999 p.27.

(38)

Diwygiwyd adran 48 gan adran 40 o Ddeddf 2002 a pharagraff 2 o Atodlen 3 iddi, gan adran 117 o Ddeddf 2005 a pharagraff 7 o Atodlen 18 iddi a chan adrannau 57 a 184 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 a pharagraff 3 o Atodlen 5 a Rhan 6 o Atodlen 18 iddi.

(39)

1972 p.70.

(40)

1974 p.37.

(42)

1998 p.30. Diwygiwyd adran 12 gan adrannau 148 a 215 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8 o Atodlen 12 a pharagraff 81 o Atodlen 21 i'r Ddeddf honno.

(43)

1995 p.50.

(44)

Gweler Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005, O.S. 2005/1818.

(45)

Diwygiwyd adran 313 gan adran 140 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 72 o Atodlen 30 iddi, a chan adrannau 195 a 215 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 18 a pharagraff 36 o Atodlen 21 iddi.

(46)

1992 p.52.

(47)

1996 p.18.

(51)

1996 p.14.

(52)

Diwygiwyd adran 49 gan baragraff 100(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.

(53)

Diwygiwyd adran 519 gan baragraffau 57 a 139 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.

(54)

1974 p.37.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill