Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Safonau dŵr

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 4 Chwefror 2010.

Cwmpas

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cyflenwadau preifat o ddŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl; ac at y dibenion hyn, ystyr “dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl” (“water intended for human consumption”) yw—

(a)pob dŵr, naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin, a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu ddibenion domestig eraill, beth bynnag fo'i darddiad a pha un a'i cyflenwir o rwydwaith dosbarthu, neu o dancer neu mewn poteli neu gynwysyddion;

(b)pob dŵr a ddefnyddir mewn unrhyw ymgymeriad cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl.

Esemptiadau

3.  Nid yw'r rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag —

(a)dŵr y mae'r Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007(1) yn gymwys iddo;

(b)dŵr sy'n gynnyrch meddyginiaethol yn yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn Neddf Meddyginiaethau 1968(2); neu

(c)dŵr a ddefnyddir yn unig ar gyfer golchi cnwd ar ôl ei gynaeafu, ac nad yw'n effeithio ar addasrwydd y cnwd, nac unrhyw fwyd neu ddiod sy'n tarddu o'r cnwd, ar gyfer ei fwyta neu ei yfed gan bobl.

Iachusrwydd

4.  Mae dŵr yn iachus os bodlonir pob un o'r amodau canlynol —

(a)nad yw'n cynnwys unrhyw ficro-organeb, parasit neu sylwedd mewn crynodiad neu werth a fyddai, ar ei ben ei hunan neu ar y cyd ag unrhyw sylwedd arall, yn creu perygl posibl i iechyd dynol;

(b)ei fod yn cydymffurfio â'r crynodiadau a'r gwerthoedd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1; ac

(c)yn y dŵr:

Diheintio

5.—(1Pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i'r person perthnasol (fel y'i diffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(3))—

(a)cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw unrhyw halogi gan sgil-gynhyrchion dihentio mor isel ag y bo modd,

(b)cyflawni'r broses honno heb beryglu perfformiad y broses o ddiheintio,

(c)sicrhau y cynhelir perfformiad y broses o ddiheintio,

(ch)er mwyn gwirio perfformiad y broses o ddiheintio, cadw cofnodion o'r gwaith cynnal a gyflawnir i gydymffurfio â gofynion y broses ddiheintio, a

(d)cadw copïau o'r cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan yr awdurdod lleol, am gyfnod o hyd at bum mlynedd.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “diheintio” yw proses o drin dŵr er mwyn—

(a)tynnu ymaith; neu

(b)gwneud yn ddiniwed i iechyd dynol,

pob micro-organeb pathogenig a pharasit pathogenig a fyddai, fel arall, yn bresennol yn y dŵr.

Gofyniad i gynnal asesiad risg

6.—(1Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg, o fewn pum mlynedd o'r adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym, ac wedyn bob pum mlynedd (neu'n gynharach os ystyrir hynny'n angenrheidiol, neu os yw o'r farn bod yr asesiad risg blaenorol yn annigonol) o bob cyflenwad preifat sy'n cyflenwi dŵr i unrhyw fangre yn ei ardal (ac eithrio cyflenwad sy'n cyflenwi dŵr i annedd breifat sengl yn unig, ac nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol).

(2Rhaid iddo hefyd gynnal asesiad risg o gyflenwad preifat i annedd breifat sengl yn ei ardal os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.

(3Rhaid i'r asesiad risg benderfynu a oes risg sylweddol o gyflenwi dŵr a fyddai'n achosi perygl posibl i iechyd dynol.

RHAN 2Monitro

Monitro

7.  Rhaid i awdurdod lleol fonitro'r holl gyflenwadau preifat yn unol â'r Rhan hon wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 77(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(4).

Dosbarthu ymhellach cyflenwadau a geir gan ymgymerwyr dŵr neu gyflenwyr dŵr trwyddedig

8.  Pan gyflenwir dŵr gan ymgymerwr dŵr neu gyflenwr dŵr trwyddedig ac yna dosberthir y dŵr hwnnw ymhellach gan berson nad yw'n ymgymerwr dŵr nac yn gyflenwr dŵr trwyddedig, rhaid ymgymryd ag unrhyw fonitro y dangosir ei fod yn angenrheidiol yn yr asesiad risg.

Cyflenwadau mawr a chyflenwadau i fangreoedd masnachol neu gyhoeddus

9.  Yn achos cyflenwad preifat (ac eithrio cyflenwad fel a nodir yn rheoliad 8) sydd —

(a)yn cyflenwi cyfaint dyddiol cyfartalog o 10m3 neu ragor o ddŵr, neu

(b)yn cyflenwi dŵr i fangre lle y defnyddir y dŵr ar gyfer gweithgaredd masnachol, neu i fangre gyhoeddus,

rhaid i'r awdurdod lleol fonitro yn unol ag Atodlen 2 a chyflawni unrhyw fonitro ychwanegol y mae'r asesiad risg yn dangos ei fod yn angenrheidiol.

Cyflenwadau preifat eraill

10.—(1Ym mhob achos arall ac eithrio cyflenwad preifat i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol, neu gyflenwad sy'n gymwys o dan reoliadau 8 a 9, rhaid i'r awdurdod lleol fonitro ar gyfer—

(a)dargludedd;

(b)enterococi;

(c)Escherichia coli (E. coli);

(ch)y crynodiad ïonau hydrogen;

(d)cymylogrwydd;

(dd)unrhyw baramedr yn Atodlen 1 y nodir, yn yr asesiad risg, bod risg y gallai beidio â chydymffurfio â'r crynodiadau neu'r gwerthoedd yn yr Atodlen honno; ac

(e)unrhyw beth arall y nodir yn yr asesiad risg y gallai greu perygl posibl i iechyd dynol.

(2Rhaid iddo fonitro o leiaf bob pum mlynedd a chyflawni monitro ychwanegol os yw'r asesiad risg yn dangos bod hynny'n angenrheidiol.

(3Yn achos cyflenwad preifat i annedd breifat sengl nas defnyddir ar gyfer gweithgarwch masnachol, caiff awdurdod lleol fonitro'r cyflenwad yn unol â'r rheoliad hwn, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y perchennog neu'r meddiannydd.

Samplu a dadansoddi

11.—(1Pan fo awdurdod lleol yn monitro cyflenwad preifat, rhaid iddo gymryd sampl—

(a)os cyflenwir y dŵr at ddibenion domestig, o dap a ddefnyddir fel rheol i ddarparu dŵr i'w yfed gan bobl, ac os oes mwy nag un tap, o dap sy'n gynrychiadol o'r dŵr a gyflenwir i'r fangre;

(b)os defnyddir y dŵr mewn ymgymeriad cynhyrchu bwyd, o'r pwynt lle y'i defnyddir yn yr ymgymeriad;

(c)os cyflenwir y dŵr o dancer, o'r pwynt lle mae'n dod allan o'r tancer;

(ch)mewn unrhyw achos arall, o bwynt addas.

(2Rhaid iddo sicrhau wedyn y dadansoddir y sampl.

(3Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â samplu a dadansoddi.

Cynnal cofnodion

12.  Rhaid i awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion mewn perthynas â phob cyflenwad preifat yn ei ardal yn unol ag Atodlen 4.

Cyflwyno gwybodaeth

13.  Erbyn 31 Gorffennaf 2010, ac erbyn 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ddilynol, rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)anfon copi o'r cofnodion a nodir yn Atodlen 4 at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru; a

(b)anfon copi o'r cofnodion hynny at Weinidogion Cymru os gofynnir amdano.

RHAN 3Gweithredu yn dilyn methiant

Darparu gwybodaeth

14.  Os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod cyflenwad preifat yn ei ardal yn creu perygl posibl i iechyd dynol, rhaid iddo gymryd camau priodol i sicrhau bod y bobl sy'n debygol o yfed dŵr ohono—

(a) yn cael gwybod bod y cyflenwad yn creu perygl posibl i iechyd dynol;

(b)pan fo modd, yn cael gwybod pa mor ddifrifol yw'r perygl posibl; ac

(c)yn cael cyngor i'w galluogi i leihau unrhyw berygl posibl o'r fath.

Ymchwilio

15.  Rhaid i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad i ganfod yr achos os yw'n amau bod y cyflenwad yn afiachus neu nad yw paramedr dangosydd yn cydymffurfio â'r crynodiadau neu'r gwerthoedd yn Rhan 2 o Atodlen 1.

Gweithdrefn yn dilyn ymchwiliad

16.—(1Unwaith y bydd awdurdod lleol wedi cynnal ymchwiliad ac wedi canfod achos afiachusrwydd y dŵr, rhaid iddo weithredu yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Os yw achos y dŵr afiachus yn y pibwaith o fewn annedd sengl, rhaid iddo roi gwybod yn ddi-oed i'r bobl a wasanaethir a chynnig cyngor iddynt ynghylch y mesurau sy'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd dynol.

(3Fel arall, os na all yr awdurdod lleol ddatrys y broblem yn anffurfiol—

(a)caiff yr awdurdod lleol, os gwneir cais, ganiatáu awdurdodiad yn unol â rheoliad 17(2) os bodlonir yr amodau yn y rheoliad hwnnw; a

(b)os nad yw'n caniatáu awdurdodiad, rhaid i'r awdurdod lleol (neu, yn achos cyflenwad i annedd breifat sengl, caiff yr awdurdod lleol) gyflwyno hysbysiad, naill ai'n unol ag adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(5) neu o dan reoliad 18 os bodlonir yr amodau yn y rheoliad hwnnw.

Awdurdodi safonau gwahanol

17.—(1Caiff unrhyw berson wneud cais i awdurdod lleol am ganiatáu awdurdodiad o dan y rheoliad hwn.

(2Caiff awdurdod lleol ganiatáu awdurdodiad ar gyfer safonau gwahanol o dan y rheoliad hwn —

(a)os yr unig achos sy'n peri bod y dŵr yn afiachus yw na chydymffurfir â pharamedr yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1 (paramedrau cemegol);

(b)os yw'r awdurdod lleol wedi ymgynghori gyda'r holl ddefnyddwyr dŵr y mae'r awdurdodiad yn effeithio arnynt a chyda'r Asiantaeth Diogelu iechyd ar gyfer yr ardal, ac wedi cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth;

(c)os nad yw caniatáu'r awdurdodiad yn achosi risg i iechyd dynol; ac

(d)os na ellir cynnal y cyflenwad dŵr drwy unrhyw ddull rhesymol arall.

(3Rhaid i awdurdodiad wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn gweithredu dros gyfnod o amser i sicrhau y cydymffurfir â'r paramedrau angenrheidiol, a rhaid iddo nodi —

(a)y person y caniateir yr awdurdodiad iddo;

(b)y cyflenwad sydd dan sylw;

(c)y sail ar gyfer caniatáu'r awdurdodiad;

(ch)y paramedrau sydd dan sylw, y canlyniadau monitro perthnasol blaenorol a'r gwerthoedd uchaf a ganiateir o dan yr awdurdodiad;

(d)yr ardal ddaearyddol, amcangyfrif o faint y dŵr a gyflenwir bob diwrnod, nifer y personau y cyflenwir dŵr iddynt, a pha un a effeithir ai peidio ar unrhyw fenter cynhyrchu bwyd;

(dd)cynllun monitro priodol ynghyd â chynnydd yn amlder y monitro pan fo angen;

(e)crynodeb o'r cynllun i weithredu'r mesurau unioni angenrheidiol, gan gynnwys amserlen ar gyfer cyflawni'r gwaith, amcangyfrif o'r gost, a darpariaethau ar gyfer adolygu cynnydd; ac

(f)cyfnod parhad yr awdurdodiad.

(4Os yw awdurdod lleol yn caniatáu awdurdodiad, a'r person y'i caniateir iddo yn gweithredu yn unol â'r amserlen gwaith a bennir yn yr awdurdodiad, ni chaiff yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 ynglŷn â'r materion a bennir yn yr awdurdodiad heb yn gyntaf ddiwygio neu ddirymu'r awdurdodiad.

(5Rhaid i gyfnod parhad yr awdurdodiad fod mor fyr ag y bo modd, ac ni chaiff beth bynnag fod yn hwy na thair blynedd.

(6Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y bobl a wasanaethir yn cael gwybod mewn da bryd am yr awdurdodiad ac amodau'r awdurdodiad, a phan fo angen, rhaid iddo sicrhau y rhoddir cyngor i grwpiau penodol a allai fod dan risg arbennig oherwydd yr awdurdodiad.

(7Os yw'r cyflenwad yn fwy na 1,000 mΔ y diwrnod ar gyfartaledd, neu'n gwasanaethu mwy na 5,000 o bersonau, rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r awdurdodiad at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru ac at Weinidogion Cymru o fewn un mis.

(8Rhaid i'r awdurdod lleol gadw hynt y gwaith unioni dan arolwg.

(9Os oes angen, gyda chaniatâd ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, caiff yr awdurdod lleol ganiatáu ail awdurdodiad am hyd at dair blynedd ychwanegol, ond os yw'n gwneud hynny rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi o'r awdurdodiad ynghyd â sail y penderfyniad at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru ac at Weinidogion Cymru.

(10Caiff yr awdurdod lleol ddirymu neu ddiwygio'r awdurdodiad ar unrhyw adeg, ac yn benodol, caiff ei ddiddymu neu ei amrywio os na chedwir at yr amserlen ar gyfer y gwaith unioni.

RHAN 4Gweithdrefn hysbysu

Hysbysiadau

18.—(1Os yw unrhyw gyflenwad preifat o ddŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl yn creu perygl posibl i iechyd dynol, rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn gyflwyno hysbysiad i'r person perthnasol (“relevant person”) (fel a ddiffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(6)) o dan y rheoliad hwn, yn hytrach na hysbysiad o dan yr adran honno.

(2Rhaid i'r hysbysiad—

(a)nodi'r cyflenwad preifat y mae'n ymwneud ag ef;

(b)datgan y sail dros gyflwyno'r hysbysiad;

(c)gwahardd defnyddio neu gyfyngu ar y defnydd o'r cyflenwad hwnnw; ac

(ch)pennu pa gamau eraill y mae angen eu cymryd i ddiogelu iechyd dynol.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r defnyddwyr yn ddi-oed ynglŷn â'r hysbysiad, a darparu pa bynnag gyngor sydd ei angen.

(4Ceir gwneud yr hysbysiad yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei ddiwygio ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach.

(5Rhaid i'r awdurdod lleol ddirymu'r hysbysiad ar unwaith pan nad oes bellach unrhyw berygl posibl i iechyd dynol.

(6Mae torri neu beidio â chydymffurfio â hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn yn dramgwydd.

Apelau

19.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad a roddir o dan reoliad 18 apelio i lys ynadon o fewn 28 diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

(2Mae'r weithdrefn apelio a ddilynir mewn llys ynadon ar gyfer apêl o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, ac y mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(7) yn gymwys i'r achosion.

(3Bydd hysbysiad yn parhau mewn grym oni chaiff ei atal gan y llys.

(4Mewn apêl, caiff y llys naill ai ddileu'r hysbysiad neu ei gadarnhau, gydag addasiad neu heb addasiad.

Cosbau

20.—(1Mae person a geir yn euog o dramgwydd o dan reoliad 18 yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na thri mis neu'r ddau, neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(2Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a phan brofir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, un o'r canlynol—

(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall cyffelyb y corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath,

mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd.

(3At ddibenion paragraff (2) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

RHAN 5Amrywiol

Ffioedd

21.  Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd.

Dirymu

22.  Dirymir Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 1991(8) o ran Cymru.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

13 Ionawr 2010

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill