Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 453 (Cy.49)

ARBED YNNI, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

24 Chwefror 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Chwefror 2010

Yn dod i rym

22 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990(1), sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy o ran Cymru(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2010.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mawrth 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007(3).

Diwygio'r prif Reoliadau

2.  Diwygir y prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 3 i 7.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)

3.—(1Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o “HEES” a'r diffiniad o “HEES a Mwy”.

(2Yn rheoliad 2, yn y mannau priodol, mewnosoder y diffiniadau canlynol—

  • ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007 (O.S. 2007 Rhif 991);;

  • mae i “cyfraddiad ased” yr ystyr a roddir i “asset rating” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2007;.

Ychwanegu rheoliad 2A newydd

4.  Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—

2A  Ystyr “HEES” a “HEES a Mwy”

(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ystyr “HEES” (“HEES”) yw darparu gweithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1)(a) i (f).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ystyr “HEES a Mwy” (“HEES Plus”) yw darparu gweithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1)(a) i (h).

(3Yn achos annedd—

(a)sydd mewn perchnogaeth breifat neu sy'n cael ei rhentu'n breifat; a

(b)y mae'r asiantaeth ardal yn fodlon bod y cyfraddiad ased ar ei chyfer yn 38 neu lai,

  • ystyr “HEES” (“HEES”) yw darparu gweithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1); ac ystyr “HEES a Mwy” (“HEES Plus”) yw darparu gweithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1).

Diwygio rheoliad 5 (personau a gaiff wneud cais am grant)

5.—(1Yn rheoliad 5(1)(c) ac (ch), yn lle “£15,460” rhodder “£16,040”.

(2Yn lle rheoliad 5(4)(ch) rhodder—

“(ch)pensiwn anabledd rhyfel fel y'i diffinnir gan adran 159B(6) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 neu bensiwn am anabledd o dan Ran II o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006, neu unrhyw ddyfarniad o bensiwn anabledd rhyfel y mae ei effaith yn parhau yn rhinwedd Atodlen 4, paragraff 8 i'r Gorchymyn hwnnw ynghyd ag—

(i)tâl atodol o ran symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (gan gynnwys y cyfryw dâl atodol sy'n daladwy yn rhinwedd cymhwyso'r erthygl honno gan unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan Erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Dinasyddion Preifat) 1983 (gan gynnwys yr erthygl honno fel y'i cymhwysir gan erthygl 48A o'r cynllun hwnnw), neu daliad a fwriedir fel iawndal am fethiant i dalu tâl atodol o'r fath; neu

(ii)taliad o dan reoliadau a wnaed o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf 1992 (lwfans gweini cyson).

Diwygio rheoliad 6 (y dibenion y caniateir cymeradwyo grant ar eu cyfer)

6.—(1Yn rheoliad 6(1)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle “.”, rhodder “;”.

(b)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

(j)darparu inswleiddiad waliau solet..

(2Yn rheoliad 6(2)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (b), yn lle “.”, rhodder “;”.

(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)y fath fân weithfeydd at ddibenion—

(a)gwella inswleiddiad thermol annedd; neu

(b)lleihau neu atal fel arall wastraff ynni mewn annedd,

sydd ym marn yr asiantaeth ardal mewn unrhyw achos penodol yn ymarferol, yn gost-effeithiol ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau..

Diwygio rheoliad 7 (uchafswm y grant)

7.—(1Yn rheoliad 7(1) yn lle “Ni chaiff asiantaeth ardal”, rhodder—

  • Yn ddarostyngedig i baragraff (1A), ni chaiff asiantaeth ardal.

(2Ar ôl rheoliad 7(1) mewnosoder—

(1A) Yn achos cais gweithfeydd o dan HEES neu HEES a Mwy sy'n cyfeirio at annedd o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 2A(3), uchafswm y grant y caniateir ei dalu ar gyfer unrhyw un annedd o'r fath yw £12,000..

(3Yn rheoliad 7(3) yn lle “baragraffau (1) a (2)” rhodder “baragraffau (1) i (2)”.

Darpariaeth drosiannol

8.  Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i gais gweithfeydd a wneir cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, os yw'r penderfyniad i gymeradwyo'r cais hwnnw neu i'w wrthod i fod i gael ei wneud ar ôl y dyddiad hwnnw.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

24 Chwefror 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007 (O.S. 2007/375 (Cy. 35)). Mae Rheoliadau 2007 yn sefydlu dau gynllun grant: y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (“HEES”) a'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref a Mwy (“HEES a Mwy”). Yn ychwanegol at fân ddiwygiadau, mae'r diwygiadau o sylwedd a ganlyn yn cael eu gwneud i Reoliadau 2007

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “HEES” a “HEES a Mwy” fel bod y categorïau o weithfeydd sydd ar gael o dan bob Cynllun bellach wedi'u gosod yn y Rheoliadau; ac er mwyn i'r categorïau o weithfeydd y caniateir i grant gael ei dalu ar eu cyfer mewn amgylchiadau penodol gael eu hymestyn i gynnwys yr holl weithfeydd sy'n cael eu disgrifio yn Rheoliadau 2007.Bydd y categorïau gweithfeydd estynedig ar gael o dan HEES a HEES a Mwy os yw'r annedd sy'n destun cais gweithfeydd mewn perchnogaeth breifat neu'n cael ei rhentu'n breifat ac os yw'r asiantaeth ardal wedi'i bodloni y cyfrifwyd, gan ddefnyddio'r fethodoleg a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Adeiladu 2000 (O.S. 2000/2531), fod gan yr annedd gyfraddiad perfformiad ynni isel; hynny yw, cyfraddiad ased o 38 neu lai.

Mae rheoliad 6 yn ychwanegu inswleiddio waliau solet at y disgrifiad o weithfeydd y caniateir i grant gael ei dalu ar eu cyfer. Mae rheoliad 6 hefyd yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2007 fel bod modd, os oes cais am grant wedi'i gymeradwyo ar gyfer unrhyw un o'r prif weithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1), cymeradwyo grant hefyd ar gyfer mân weithfeydd ychwanegol i leihau neu atal gwastraff ynni mewn annedd. I fod yn gymwys am y grant rhaid bod y mân weithfeydd o fath y mae'r asiantaeth ardal o'r farn eu bod yn ymarferol, yn gost-effeithiol ac yn rhesymol o dan amgylchiadau'r achos penodol dan sylw.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2007, sy'n ymdrin ag uchafswm y grant sydd ar gael o dan y cynlluniau. Effaith y diwygiad yw rhagnodi mai £12,000 yw uchafswm y grant y caniateir ei roi ar gyfer unrhyw un annedd. Dim ond ar gyfer annedd sydd mewn perchnogaeth breifat neu sy'n cael ei rhentu'n breifat y mae'r uchafswm grant newydd yn gymwys ac os yw'r asiantaeth ardal yn fodlon y cyfrifwyd, gan ddefnyddio'r fethodoleg a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Adeiladu 2000 (O.S. 2000/2531), fod gan yr annedd gyfraddiad perfformiad ynni sy'n wael; hynny yw, cyfraddiad ased o 38 neu lai.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel bod y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i gais am grant sy'n cael ei wneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, os yw'r penderfyniad i gymeradwyo'r cais o dan sylw neu i'w wrthod i fod i gael ei wneud ar ôl y dyddiad hwnnw.

(1)

1990 p. 27; diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53).

(2)

Cyfarwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fod y swyddogaethau o dan adran 15 i fod yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr un pryd â'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p. 32), mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill