Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 269 (Cy.33)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010

Gwnaed

8 Chwefror 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Chwefror 2010

Yn dod i rym

1 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 3, 5, 5A, 15(3) a 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriad yn erthygl 11 o'r Gorchymyn hwn at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol i ddiogelu organebau morol ifanc(4) fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Mawrth 2010.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “bar tynnu” (“tow bar”) yw unrhyw ddyfais neu offeryn y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gosod llusgrwyd cregyn bylchog ar gwch, neu ei rhoi ynghlwm wrth gwch, er mwyn caniatáu i lusgrwyd o'r fath gael ei thynnu gan y cwch;

  • ystyr “cregyn bylchog” (“scallop”) yw pysgod cregyn o'r rhywogaeth Pecten maximus;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(5) neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(6);

  • ystyr “darpariaeth gyfatebol” (“equivalent provision”) yw darpariaeth mewn unrhyw orchymyn arall sy'n rhychwantu, neu sy'n gymwys i, unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac yn gyfystyr o ran effaith â darpariaeth o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “dyfroedd Cymru” (“Welsh waters”) yw ardaloedd môr o fewn Cymru;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;

  • ystyr “gwaelodlinau” (“baselines”) yw'r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Môr Tiriogaethol 1987(7); ac

  • mae “llusgrwyd cregyn bylchog” (“scallop dredge”) yw unrhyw gyfarpar ac iddo ffrâm anhyblyg yn enau, a lusgir drwy'r dŵr ac a weithgynhyrchwyd, a addaswyd, a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio at y diben o bysgota am gregyn bylchog.

Cyfyngiadau pysgota

3.  Ni chaniateir i unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, bysgota am, cymryd neu ladd cregyn bylchog gan ddefnyddio llusgrwyd cregyn bylchog yn nyfroedd Cymru onid yw allbwn pŵer peiriant y cwch hwnnw yn ddim mwy na 221 cilowat.

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff unrhyw berson bysgota, cymryd neu ladd cregyn bylchog yn nyfroedd Cymru yn ystod y cyfnod 1 Mai i 31 Hydref, gan gynnwys y dyddiadau hynny, ym mhob blwyddyn, drwy unrhyw ddull gan gynnwys plymio.

(2Mewn perthynas â'r flwyddyn galendr 2010 mae'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) i gychwyn ar 1 Mehefin 2010.

Cyfyngu ar y nifer o lusgrwydi cregyn bylchog ac ar eu defnyddio

5.  Ni chaniateir i unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru bysgota am, cymryd neu ladd cregyn bylchog gan ddefnyddio llusgrwyd cregyn bylchog o fewn 1 filltir forol i waelodlinau.

6.  Ni chaniateir i unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, bysgota am, cymryd neu ladd cregyn bylchog gan ddefnyddio llusgrwyd cregyn bylchog—

(a)mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sydd ymhellach nag 1 filltir forol ac o fewn 3 milltir forol i waelodlinau, onid yw hyd y cwch hwnnw o ben i ben yn ddim mwy na 10 metr, ac onid yw'n llusgo dim mwy na chyfanswm o 6 llusgrwyd cregyn bylchog;

(b)mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sydd ymhellach nag 3 milltir forol ac o fewn 6 milltir forol i waelodlinau, onid yw'r cwch hwnnw'n llusgo dim mwy na chyfanswm o 8 llusgrwyd cregyn bylchog; ac

(c)mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sydd ymhellach na 6 milltir forol ac o fewn 12 milltir forol i waelodlinau, onid yw'r cwch hwnnw'n llusgo dim mwy na chyfanswm o 14 llusgrwyd cregyn bylchog.

7.  Pan nas defnyddir yn unol â darpariaethau'r Gorchymyn hwn, rhaid storio'r holl lusgrwydi cregyn bylchog yn ddiogel y tu mewn i'r cwch.

Cyfyngiad ar faint barau tynnu

8.—(1Ni chaniateir i unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sydd ymhellach nag 1 filltir forol ac o fewn 3 milltir forol i waelodlinau, ddefnyddio bar tynnu mewn cysylltiad â physgota am, cymryd neu ladd cregyn bylchog, onid yw'r bar tynnu hwnnw—

(a)yn ddim mwy na 3 metr o hyd; a

(b)wedi ei lunio mewn ffordd nad yw'n caniatáu rhoi mwy na 3 llusgrwyd cregyn bylchog ynghlwm wrtho ar yr un pryd.

(2Ni chaniateir i unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sydd ymhellach nag 3 milltir forol ac o fewn 6 milltir forol i waelodlinau, ddefnyddio bar tynnu mewn cysylltiad â physgota am, cymryd neu ladd cregyn bylchog, onid yw'r bar tynnu hwnnw—

(a)yn ddim mwy na 4 metr o hyd; a

(b)wedi ei lunio mewn ffordd nad yw'n caniatáu rhoi mwy na 4 llusgrwyd cregyn bylchog ynghlwm wrtho ar yr un pryd.

(3Ni chaniateir i unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru sydd ymhellach na 6 milltir forol ac o fewn 12 milltir forol i waelodlinau, ddefnyddio bar tynnu mewn cysylltiad â physgota am, cymryd neu ladd cregyn bylchog, onid yw'r bar tynnu hwnnw—

(a)yn ddim mwy na 6.8 metr o hyd; a

(b)wedi ei lunio mewn ffordd nad yw'n caniatáu rhoi mwy na 7 llusgrwyd cregyn bylchog ynghlwm wrtho ar yr un pryd.

9.  Ni chaniateir i unrhyw gwch pysgota Prydeinig ar unrhyw adeg, mewn unrhyw ran o ddyfroedd Cymru, mewn cysylltiad â physgota am, cymryd neu ladd cregyn bylchog, ddefnyddio bar tynnu sydd â'i ddiamedr allanol yn fwy na 185 milimetr.

Manyleb llusgrwydi cregyn bylchog

10.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, ni chaniateir i unrhyw gwch pysgota Prydeinig dynnu unrhyw lusgrwyd cregyn bylchog o fewn dyfroedd Cymru oni bai, yn achos y cyfryw lusgrwyd—

(a)nad yw unrhyw ran o'r ffrâm yn lletach nag 85 centimetr;

(b)ei bod yn cynnwys bar danheddog sbring–lwythog effeithiol, gweithredol a symudadwy;

(c)nad yw'n cynnwys unrhyw atodiadau ar ei chefn, ar ei brig nac y tu mewn iddi;

(ch)nad yw'n cynnwys plât plymio nac unrhyw ddyfais gyffelyb arall;

(d)nad yw cyfanswm pwysau'r llusgrwyd, gan gynnwys yr holl ffitiadau, yn fwy na 150 cilogram;

(dd)nad yw nifer y modrwyau bol ym mhob rhes sy'n hongian o'r bar bol yn fwy na 7;

(e)nad yw nifer y dannedd ar y bar danheddog yn fwy nag 8; ac

(f)nad oes yr un dant ar y bar danheddog sydd â'i ddiamedr yn fwy na 22 milimetr, ac nad yw ei hyd yn fwy na 110 milimetr.

(2Yn yr erthygl hon—

(a)rhes o fodrwyau bol yw rhes o fodrwyau cydgysylltiol sengl, gyda'r fodrwy sydd yn un pen i'r rhes yn hongian, naill ai o'r bar bol neu o brif adeiledd y llusgrwyd, yn berpendicwlar i'r bar bol;

(b)bar bol yw'r bar sydd wedi ei gysylltu wrth ffrâm y llusgrwyd, yn baralel i'r bar danheddog, ac y mae'r modrwyau bol yn hongian oddi arno;

(c)bar danheddog yw'r bar â dannedd arno sydd â'u pennau yn pwyntio i waered, ac y bwriedir iddynt gyffwrdd â gwely'r môr wrth i'r llusgrwyd gael ei defnyddio;

(ch)diamedr dant yw ei led mwyaf, a fesurir i gyfeiriad llinell y bar danheddog; a

(d)hyd dant yw'r pellter rhwng ochr isaf y bar danheddog a blaen y dant.

(3Rhaid peidio ag ystyried modrwyau bol a'r ffasninau sy'n eu cysylltu â'i gilydd ac â'r ffrâm yn atodiadau at ddiben paragraff (1)(c).

Maint lleiaf cragen fylchog

11.—(1At ddibenion adran 1(3) o'r Ddeddf, maint lleiaf cragen fylchog y caniateir ei chario gan gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru yw 110 milimetr.

(2At ddibenion paragraff (1), rhaid mesur maint cragen fylchog yn unol â pharagraff 6 of Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol i ddiogelu organebau morol ifanc(8) fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Gwahardd llusgrwydo

12.  Er gwaethaf erthyglau 3 i 11 o'r Gorchymyn hwn, gwaherddir pysgota am, cymryd neu ladd cregyn bylchog gan ddefnyddio llusgrwyd cregyn bylchog gan gychod pysgota Prydeinig yn yr ardaloedd a ddynodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydain

13.—(1At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff swyddog pysgodfa fôr Brydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo yn nyfroedd Cymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, ar y cyd â phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda dyletswyddau'r swyddog hwnnw neu hebddynt, a chaiff wneud yn ofynnol bod y cwch yn aros, a gwneud unrhyw beth arall i hwyluso mynd ar ei fwrdd neu fynd oddi arno.

(3Caiff y swyddog wneud yn ofynnol bod meistr y cwch a phersonau eraill sydd ar ei fwrdd yn bresennol, a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) ac, yn benodol—

(a)caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch, ac archwilio unrhyw bysgodyn sydd ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a gwneud yn ofynnol bod personau ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff wneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sydd yn ei feddiant neu dan ei ofal ac yn ymwneud â'r cwch, neu ag unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau atodol neu ag unrhyw bersonau sydd ar fwrdd y cwch;

(c)at y diben o wybod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan y Ddeddf fel y'i darllenir ynghyd â'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r chwiliad;

(ch)archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir neu a ganfyddir ar fwrdd y cwch, ac os yw unrhyw ddogfen o'r fath wedi ei chadw gan ddefnyddio cyfrifiadur, gwneud yn ofynnol ei chynhyrchu mewn ffurf a fydd yn caniatáu ei chludo ymaith; a

(d)os yw'r cwch yn un y mae rheswm gan y swyddog i amau bod tramgwydd wedi ei gyflawni ynglŷn ag ef, o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff y swyddog, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ymafael mewn unrhyw ddogfen o'r fath a ddangoswyd neu a ganfuwyd ar fwrdd y cwch a'i chadw at y diben o alluogi defnyddio'r ddogfen yn dystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3)(d) sy'n caniatáu ymafael mewn unrhyw ddogfen a'i chadw os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith cario'r ddogfen ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fo'r cwch yn cael ei gadw'n gaeth mewn porthladd.

(5Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfa fôr Brydeinig fod tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi ei gyflawni ar unrhyw adeg mewn perthynas â chwch pysgota, caiff y swyddog—

(a)mynd â'r cwch a'i griw, neu wneud yn ofynnol bod y meistr yn mynd â'r cwch a'i griw, i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf; a

(b)cadw'r cwch yn gaeth yn y porthladd, neu wneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw'n gaeth yno.

(6Rhaid i swyddog pysgodfa fôr Brydeinig sy'n cadw cwch yn gaeth, neu'n gwneud yn ofynnol ei gadw'n gaeth, gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y cedwir y cwch yn gaeth, neu ei bod yn ofynnol ei gadw'n gaeth hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodir gan swyddog pysgodfa fôr Brydeinig.

(7Yn yr erthygl hon, ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog pysgodfa fôr Brydeinig.

Dirymu

14.  Mae'r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu, sef—

(a)Gorchymyn Gwahardd Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2009(9); a

(b)Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2010(10).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Chwefror 2010

Erthygl 12

ATODLENGwahardd llusgrwydo

Yn yr Atodlen hon, mae unrhyw grŵp o ddwy lythyren a naill ai pum neu chwe ffigur, sy'n dynodi neu sy'n gysylltiedig ag unrhyw bwynt, yn cynrychioli cyfesurynnau map y pwynt hwnnw, a amcangyfrifir i'r deng metr agosaf ar grid y system gyfeirio genedlaethol a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans ar ei fapiau a'i gynlluniau.Mynegir yr holl gyfesurynnau lledred a hydred mewn graddau, munudau a ffracsiynau degol o funud, ac y maent yn gyfesurynnau o'r System Geodetig Fyd-eang.

  • Bae Lerpwl

    Yr ardal a amgaeir gan y draethlin, y ffin rhwng dyfroedd tiriogaethol Cymru a Lloegr a llinell a dynnir rhwng y pwyntiau canlynol:

    • lle mae'r llinell hydred 3°48.40 Gn yn croesi'r lan yn Llandudno i 53°24.82 G, 3°48.40 Gn, yna i 53°24.82 G, 3°32.97 Gn i 53°27.07 G, 3°25.40 Gn i'r llinell ledred 53°27.07 G sydd yn croesi'r ffin rhwng dyfroedd tiriogaethol Cymru a Lloegr i'r gogledd o aber Afon Dyfrdwy.

  • Menai, Ynys Môn a Chonwy

    Yr holl ddyfroedd hyd at y marc penllanw cymedrig yn yr ardal a amgaeir o fewn y canlynol:

    • llinell a dynnir o 53°21.6 G, 4°15.02 Gn i 53°22.18 G, 3°46.54 Gn i 53°19.60 G, 3°46.54 Gn; a llinell a dynnir i'r gogledd ar hyd y llinell hydred 4°19.58 Gn rhwng Fort Belan a Thrwyn Abermenai.

  • Ardal Gogledd Llŷn

    Yr ardal a amgaeir rhwng y draethlin a llinell a dynnir rhwng y pwyntiau sydd â'r cyfesurynnau canlynol:

    • 52°56.909 G, 04°34.055 Gn i 52°59.858 G, 04°38.782 Gn i 52°55.455 G, 04°45.891 Gn i 52°52.928 G, 04° 41.878 Gn i 52°52.155 G, 04°43.359 Gn i 52°51.563 G, 04°42.372 Gn.

  • Pen Llŷn a'r Sarnau

    Yr ardal a amgaeir rhwng y draethlin a llinell a dynnir rhwng y pwyntiau sydd â'r cyfesurynnau canlynol:

    • Cyfeirnod Grid OS SH2964 4123 i 52°58.37G, 4°37.06Gn i 52°51.07G, 4°50.07Gn i 52°41.18G, 4°50.07Gn i 52°41.18G, 4°25.37Gn i 52°34.82G, 4°13.6Gn i 52°25.83G, 4°16.35Gn i 52°24.42G, 4°14.17Gn i SN5868 8401.

  • Bae Ceredigion

    Yr ardal a amgaeir rhwng y draethlin a llinell a dynnir rhwng y pwyntiau sydd â'r cyfesurynnau canlynol:

    • Cyfeirnod Grid OS SN47874 64087 i 52°25.10 G, 4°23.80 Gn i 52°20.09 G, 4°39.04 Gn i 52°13.00 G, 4° 34.07 Gn i 52°11.04 G, 4°41.19 Gn i 52°17.76 G, 4°46.14 Gn i 52°13.15 G, 5°00.15 Gn i Gyfeirnod Grid OS SN10438 45534.

  • Sir Benfro

    Yr ardal a amgaeir rhwng y draethlin a llinell a dynnir rhwng y pwyntiau sydd â'r cyfesurynnau canlynol

    • Cyfeirnod Grid OS SM80320 32330 i 51°56.69 G, 5°30.07 Gn i 51°48.02 G, 5°30.06 Gn i 51°48.02 G, 5° 45.06 Gn i 51°38.52 G, 5°45.06 Gn i 51°38.53 G, 5° 10.07 Gn i 51°32.02 G, 5°10.07 Gn i 51°32.02 G, 4° 48.07 Gn i Gyfeirnod Grid OS SS06267 96997.

  • Bae Caerfyrddin

    Yr ardal o'r môr sydd ar ochr y tir o linell a dynnir rhwng y pwyntiau sydd â'r cyfesurynnau canlynol:

    • Cyfeirnod Grid OS SS13336 99905 i 51°36.02 G, 4° 42.06 Gn i 51°36.02 G, 4°27.06 Gn i 51°30.03 G, 4°27.03 Gn i 51°30.02 G, 4°10.07 Gn i Gyfeirnod Grid OS SS49771 84968.

  • Gogledd Ynys Môn

    Yr ardal a amgaeir gan linell a dynnir rhwng y pwyntiau sydd â'r cyfesurynnau canlynol:

    • 53°35.19 G, 4°33.78 Gn i 53°36.41 G, 4°16.36 Gn i 53° 33.20 G, 4°33.99 Gn i 53°31.57 G, 4°16.36 Gn.

  • Gorllewin Ynys Môn

    Yr ardal a amgaeir gan linell a dynnir rhwng y pwyntiau sydd â'r cyfesurynnau canlynol:

    • 53°24.21 G, 4°59.55 Gn i 53°19.09 G, 4°51.03 Gn i 53° 17.27 G, 4°54.65 Gn i 53°22.19 G, 5°1.03 Gn.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn rheoleiddio pysgota am gregyn bylchog yn “nyfroedd Cymru” ac yn dod i rym ar 1 Mawrth 2010. At ddibenion y Gorchymyn hwn diffinnir “dyfroedd Cymru” fel yr ardaloedd morwrol sydd o fewn “Cymru” fel y'i diffinnir gan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae erthygl 3 yn cyfyngu ar faint allbwn peiriant y llongau pysgota Prydeinig y caniateir iddynt ddefnyddio llusgrwydi cregyn bylchog.

Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer tymor caeedig o ran pysgota cregyn bylchog, sef cyfnod a fydd yn cychwyn ar 1 Mehefin 2010, ac ar 1 Mai ym mhob blwyddyn ddilynol, ac yn diweddu ar 31 Hydref.

Mae erthygl 5 yn gwahardd defnyddio llusgrwydi cregyn bylchog ar unrhyw adeg o fewn un filltir forol i'r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt.

Mae erthygl 6 yn darparu terfynau ar niferoedd y llusgrwydi cregyn bylchog y caniateir eu defnyddio ar unrhyw un adeg yn yr ardaloedd rhwng 1 a 3 milltir forol, 3 i 6 milltir forol a 6 i 12 milltir forol oddi ar arfordir Cymru.

Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid storio pob llusgrwyd cregyn bylchog, pan nas defnyddir yn gyfreithlon, yn ddiogel ar fwrdd y cwch pysgota.

Mae erthygl 8 yn darparu cyfyngiadau ar faint y bariau tynnu y caniateir eu defnyddio gan gychod pysgota Prydeinig yn yr ardaloedd rhwng 1 a 3 milltir forol, 3 i 6 milltir forol a 6 i 12 milltir forol oddi ar arfordir Cymru.

Mae erthygl 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â diamedr allanol mwyaf y bar tynnu y caniateir ei ddefnyddio.

Mae erthygl 10 yn pennu manyleb y llusgrwydi cregyn bylchog y caniateir eu tynnu.

Mae erthygl 11 yn pennu maint lleiaf cragen fylchog y caniateir ei chario ar gwch pysgota Prydeinig, a'r dull a ddefnyddir i fesur cregyn bylchog.

Mae erthygl 12 yn gwahardd pysgota am gregyn bylchog drwy lusgrwydo o fewn ardaloedd dynodedig a bennir yn yr Atodlen.

Mae erthygl 13 yn darparu ar gyfer pwerau penodol i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig fynd ar fwrdd, chwilio a chadw'n gaeth llongau pysgota Prydeinig, ac archwilio, copïo a chadw dogfennau.

Mae erthygl 14 yn dirymu Gorchymyn Gwahardd Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2009 a Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2010.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o'r darpariaethau drafft a gynhwysir yn erthyglau 2, 3, 6, 8, 9, 10 ac 11 o'r Gorchymyn hwn, yn unol â gofynion Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 204, 21.7.98, t.37) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 217, 5.8.98, t.18).

Gwnaed asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn ac y mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1967 p. 84. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), adran 19(1) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21), adran 314(2) ac Atodlen 13, paragraff 38(a) a chan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820), Atodlen 2, paragraff 43(1), (2) a (3). Diwygiwyd adran 3 gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p. 86), adran 9 ac Atodlen 2, paragraff 16(1), gan Ddeddf Pysgota'r Glannau (Yr Alban) 1984 (p. 26), adran 10(1) ac Atodlen 1 a chan O.S. 1999/1820, erthygl 4 ac Atodlen 2, paragraff 43(1), (2) a (4). Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), adran 22(1), (2) a (3), gan Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p. 21), adran 314(2) ac Atodlen 13, paragraff 38(b) a chan O.S. 1999/1820, erthygl 4 ac Atodlen 2, paragraff 43(1) a (2). Mewnosodwyd adran 5A gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 103(1). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77), adran 22(1) ac Atodlen 1, paragraff 38(3) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p. 86), adran 9 ac Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, erthygl 4 ac Atodlen 2, paragraff 43(1) a (2). Gweler adran 22(2) am ddiffiniadau o “the Ministers”; diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), adrannau 19(2)(d), 45(a), (b) ac (c) a 46(2), gan O.S. 1999/1820, erthygl 4 ac Atodlen 2, paragraff 43(1) a (12) a chan Ddeddf Cyfansoddiad Gogledd Iwerddon 1973 (p. 36), adran 40 ac Atodlen 5, paragraff 8(1).

(2)

Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adrannau 1, 3, 5, 5A, 15(3) a 20 o Ddeddf 1967 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)) i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru (gan weithredu'n gyfamserol ag unrhyw Weinidog y Goron y mae'r swyddogaethau yn arferadwy ganddo o ran adran 15(3)). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(3)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) (“Deddf 2006”). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf 2006. Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi (O.S. 2005/2766) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

(4)

OJ Rhif L125, 27.4.1998, t. 1.

(8)

OJ Rhif L125, 27.4.1998, t. 1.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill