- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, ni chaniateir i unrhyw gwch pysgota Prydeinig dynnu unrhyw lusgrwyd cregyn bylchog o fewn dyfroedd Cymru oni bai, yn achos y cyfryw lusgrwyd—
(a)nad yw unrhyw ran o'r ffrâm yn lletach nag 85 centimetr;
(b)ei bod yn cynnwys bar danheddog sbring–lwythog effeithiol, gweithredol a symudadwy;
(c)nad yw'n cynnwys unrhyw atodiadau ar ei chefn, ar ei brig nac y tu mewn iddi;
(ch)nad yw'n cynnwys plât plymio nac unrhyw ddyfais gyffelyb arall;
(d)nad yw cyfanswm pwysau'r llusgrwyd, gan gynnwys yr holl ffitiadau, yn fwy na 150 cilogram;
(dd)nad yw nifer y modrwyau bol ym mhob rhes sy'n hongian o'r bar bol yn fwy na 7;
(e)nad yw nifer y dannedd ar y bar danheddog yn fwy nag 8; ac
(f)nad oes yr un dant ar y bar danheddog sydd â'i ddiamedr yn fwy na 22 milimetr, ac nad yw ei hyd yn fwy na 110 milimetr.
(2) Yn yr erthygl hon—
(a)rhes o fodrwyau bol yw rhes o fodrwyau cydgysylltiol sengl, gyda'r fodrwy sydd yn un pen i'r rhes yn hongian, naill ai o'r bar bol neu o brif adeiledd y llusgrwyd, yn berpendicwlar i'r bar bol;
(b)bar bol yw'r bar sydd wedi ei gysylltu wrth ffrâm y llusgrwyd, yn baralel i'r bar danheddog, ac y mae'r modrwyau bol yn hongian oddi arno;
(c)bar danheddog yw'r bar â dannedd arno sydd â'u pennau yn pwyntio i waered, ac y bwriedir iddynt gyffwrdd â gwely'r môr wrth i'r llusgrwyd gael ei defnyddio;
(ch)diamedr dant yw ei led mwyaf, a fesurir i gyfeiriad llinell y bar danheddog; a
(d)hyd dant yw'r pellter rhwng ochr isaf y bar danheddog a blaen y dant.
(3) Rhaid peidio ag ystyried modrwyau bol a'r ffasninau sy'n eu cysylltu â'i gilydd ac â'r ffrâm yn atodiadau at ddiben paragraff (1)(c).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys