- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(1);
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “y Rheoliadau Anghymhwyso” (“the Disqualification Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010(2).
2. Yn ddarostyngedig i erthyglau 3, 4 a 5, mae'r darpariaethau o'r Mesur a bennir yn Atodlen 1 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.
3. Er gwaethaf diddymu adrannau 79C(2) a (3) a 79M o Ddeddf 1989, mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 yn parhau i gael effaith hyd nes gwneir rheoliadau o dan adran 38 o'r Mesur (anghymhwyso rhag cofrestru).
4. Mae Atodlenni 2 a 3, sy'n gwneud arbedion a darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â chychwyn gan y Gorchymyn hwn y darpariaethau a bennir yn Atodlen 1 yn cael effaith ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.
Huw Lewis
Dirprwy Weinidog dros Blant, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
20 Hydref 2010
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys