Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2574 (Cy.214)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

Gwnaed

20 Hydref 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Hydref 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 24(2) a (3), 25, 26(2) a (3), 27, 28(3), 30, 32(1) – (4), 56 a 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal dydd (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “ADA” (“ISA”) yw Awdurdod Diogelu Annibynno(2));

  • ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy'n gwneud cais i Weinidogion Cymru i'w gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd yn unol â Rhan 2;

  • ystyr “darpariaeth chwarae mynediad agored” (“open access play provision”) yw darpariaeth o ofal dydd pan nad yw'n ofynnol—

    (a)

    trefnu ymlaen llaw gyda'r person cofrestredig i ddarparu gofal o'r fath; neu

    (b)

    bod y plant yn cael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall i'r fangre berthnasol ac oddi yno;

  • mae i “darparu gofal dydd i blant” (“provides day care for children”) yr ystyr sydd i'r ymadrodd yn adran 19 o'r Mesur(3);

  • ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad a lunnir yn unol â rheoliad 15(1);

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

  • ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw mangre lle y mae person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant, neu, yn ôl fel y digwydd, mangre lle y darperir gofal dydd gan berson cofrestredig;

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

  • ystyr “person â chyfrifoldeb” (“person in charge”,) mewn perthynas â gofal dydd, yw'r unigolyn a benodir gan y person cofrestredig i ymgymryd â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am ddarparu gofal dydd yn y fangre;

  • ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd;

  • ystyr “plentyn perthnasol” (“relevant child”) yw plentyn y mae person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant mewn perthynas ag ef, neu, yn ôl fel y digwydd, plentyn y mae person cofrestredig yn darparu gofal dydd iddo;

  • ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(4);

  • ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004(5);

  • ystyr “safonau gofynnol cenedlaethol” (“national minimum standards”) yw'r safonau a bennir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 30(03) o'r Mesur(6);

  • ystyr “sefydliad” (“organisation”) yw corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforaethol;

  • ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) yw—

    (a)

    os oes swyddfa wedi ei phennu o dan baragraff (2) mewn perthynas ag unrhyw fangre, y swyddfa honno;

    (b)

    mewn unrhyw achos arall, unrhyw swyddfa a reolir gan Weinidogion Cymru;

  • mae i “Tribiwnlys Haen Cyntaf” (“First-tier Tribunal”) yr ystyr sydd i “First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(7);

  • ystyr “tystysgrif cofnod troseddol fanylach” (“enhanced criminal record certificate”) yw tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(8), sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn cysylltiad â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno), ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio er pan ddyroddwyd y cyfryw;

  • ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”), mewn perthynas â darparu gofal dydd gan sefydliad—

    (a)

    sy'n gorff corfforaethol yw—

    (i)

    cyfarwyddwr;

    (ii)

    rheolwr;

    (iii)

    ysgrifennydd; neu

    (iv)

    swyddog arall;

    neu

    (b)

    sy'n gymdeithas anghorfforaethol, yw—

    (i)

    swyddog; neu

    (ii)

    aelod,

    o'r sefydliad hwnnw sy'n gyfrifol am oruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd;

  • ystyr “wedi ei anghymhwyso” (“disqualified”) yw—

    (a)

    bod person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur, yn unol â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 (9); neu

    (b)

    bod person yn aelod o'r un aelwyd neu'n gyflogedig yn yr un aelwyd â pherson a anghymhwyswyd yn unol â pharagraff (a);

  • ystyr “ymholiadau amddiffyn plant” (“child protection enquiries”) yw unrhyw ymholiadau a gyflawnir gan awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd gan neu o dan Ddeddf Plant 1989(10) mewn cysylltiad ag amddiffyn plant;

  • mae i “yn gweithredu fel gwarchodwr plant” (“acts as a child minder”) yr ystyr sydd i'r ymadrodd yn adran 19 o'r Mesur(11).

(2Caiff Gweinidogion Cymru bennu swyddfa a reolir ganddynt hwy fel y swyddfa briodol mewn perthynas â mangre berthnasol a leolir mewn ardal benodol yng Nghymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person pa un ai am dâl neu hebddo, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, neu rywfodd heblaw dan gontract, ac yn cynnwys caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a rhaid dehongli cyfeiriadau at berson a gyflogir yn unol â hynny.

RHAN 2CAIS I GOFRESTRU O DAN RAN 2 O'R MESUR

Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru

3.—(1Rhaid i geisydd am gofrestriad fel gwarchodwr plant—

(a)bodloni'r gofynion a ragnodir yn Rhan 1 o Atodlen 1, sy'n cynnwys y gofynion a ragnodir at ddibenion adran 24(3)(b) o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant); a

(b)cydymffurfio â'r gofynion yn Rhan 3 (personau cofrestredig).

(2Rhaid i geisydd am gofrestriad fel darparydd gofal dydd i blant—

(a)bodloni'r gofynion a ragnodir yn Rhan 2 o Atodlen 1, sy'n cynnwys y gofynion a ragnodir at ddibenion adran 26(3)(b) o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant); a

(b)cydymffurfio â'r gofynion yn Rhan 3, 4 a 5.

Gwybodaeth a dogfennau sydd i'w cyflwyno ynghyd â chais i gofrestru

4.—(1Rhaid i gais o dan adran 24(1) (ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant) o'r Mesur—

(a)bod mewn ysgrifen ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;

(b)cael ei anfon neu'i ddanfon i'r swyddfa briodol; ac

(c)cynnwys yr wybodaeth a'r dogfennau y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 2 mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yno.

(2Rhaid i gais o dan adran 26(1) (ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant) o'r Mesur —

(a)bod mewn ysgrifen ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;

(b)cael ei anfon neu'i ddanfon i'r swyddfa briodol; ac

(c)cynnwys yr wybodaeth a'r dogfennau y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o Atodlen 2 mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yno.

Tystysgrif gofrestru

5.  Rhaid i dystysgrif gofrestru a roddir i geisydd o dan adran 28(2)(b) o'r Mesur (cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau) gynnwys y manylion canlynol–

(a)enw, cyfeiriad a rhif teleffon y swyddfa briodol;

(b)enw'r person a gofrestrwyd;

(c)yn achos person a gofrestrwyd fel darparydd gofal dydd, cyfeiriad y man lle y darperir y gofal dydd;

(ch)enw'r person â chyfrifoldeb, os penodwyd un;

(d)pan fo'r cofrestriad yn ddarostyngedig i unrhyw amodau, manylion yr amodau;

(dd)y dyddiad cofrestru;

(e)datganiad i'r perwyl y caiff Gweinidogion Cymru ddiddymu'r cofrestriad, os na ddarperir y gwarchod plant neu'r gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, yn unol â'r amodau a osodwyd;

(f)datganiad i'r perwyl bod y dystysgrif yn berthynol i'r person y'i dyroddwyd iddo gan Weinidogion Cymru yn unig, ac na ellir ei throsglwyddo i unrhyw berson arall.

RHAN 3PERSONAU COFRESTREDIG

Y person cofrestredig: ei addasrwydd

6.—(1Ni chaiff person weithredu fel gwarchodwr plant na darparu gofal dydd oni bai bod y person yn addas i ofalu am blant o dan wyth oed.

(2Nid yw person yn addas felly oni bai bod y person—

(a)yn unigolyn sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy'n darparu gofal dydd ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth ag un neu ragor o bersonau, a phob unigolyn yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu

(b)mewn achos pan fo person sy'n darparu gofal dydd, yn sefydliad ac—

(i)y sefydliad wedi hysbysu'r swyddfa briodol o enw a chyfeiriad yr unigolyn cyfrifol a'i safle o fewn y sefydliad; a

(ii)yr unigolyn cyfrifol yn bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3).

(3Y gofynion yw—

(a)mewn perthynas â gwarchod plant—

(i)bod y person sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant yn bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 2 i 7 o Ran 1 o Atodlen 1; a

(ii)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r unigolyn hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 2, 16 ac 17 o Ran 1 o Atodlen 2;

(b)mewn perthynas â darparu gofal dydd—

(i)pan fo'r person yn unigolyn ac nad yw paragraff (4) yn gymwys—

(aa)bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 15 i 20 o Ran 2 o Atodlen 1; a

(bb)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 22, 39 a 40 o Ran 2 o Atodlen 2;

(ii)pan fo'r person yn unigolyn a pharagraff (4) yn gymwys—

(aa)bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 15 i 20 o Ran 2 o Atodlen 1; a

(bb)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 22(5) (b) a 39 o Ran 2 o Atodlen 2;

(iii)os y person yw'r unigolyn cyfrifol ac nad yw paragraff (4) yn gymwys–

(aa)bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 21 i 25 o Ran 2 o Atodlen 1; a

(bb)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 24(2), 3(a), a (4), 39 a 40 o Ran 2 o Atodlen 2;

(iv)os y person yw'r unigolyn cyfrifol a pharagraff (4) yn gymwys—

(aa)bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 21 i 25 o Ran 2 o Atodlen 1; a

(bb)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 24(2) a (3)(b), a 39 o Ran 2 o Atodlen 2.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi.

Penodi person â chyfrifoldeb

7.—(1Rhaid i'r person cofrestredig benodi unigolyn i fod yn person â chyfrifoldeb am ddarpariaeth gofal dydd—

(a)os yw'r person cofrestredig yn sefydliad, ac os nad yw'r unigolyn cyfrifol yn ymgymryd, neu os nad yw'n bwriadu ymgymryd, â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am y ddarpariaeth gofal dydd; neu

(b)os yw'r person cofrestredig yn unigolyn ac nad yw'n ymgymryd, neu nad yw'n bwriadu ymgymryd, â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am y ddarpariaeth gofal dydd.

(2Pan fo'r person cofrestredig yn penodi unigolyn i fod yn berson â chyfrifoldeb, rhaid i'r person cofrestredig—

(a)sicrhau bod y person â chyfrifoldeb yn addas i fod yn berson â chyfrifoldeb am ddarparu gofal dydd; a

(b)hysbysu'r swyddfa briodol ar unwaith o'r dyddiad y bydd y person â chyfrifoldeb yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwnnw.

Y person â chyfrifoldeb: ei addasrwydd

8.—(1Rhaid i berson beidio â gweithredu fel person â chyfrifoldeb am ddarpariaeth gofal dydd onid yw'n berson addas i wneud hynny.

(2Nid yw person yn addas felly onid yw'r person yn bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3).

(3Y gofynion yw fod y person—

(a)yn bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff 27 i 31 o Ran 2 of Atodlen 1; a

(b)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 25, 39 ac 40 o Ran 2 o Atodlen 2.

Y person cofrestredig: gofynion cyffredinol

9.—(1Rhaid i'r person cofrestredig, gan roi sylw —

(a)i'r datganiad o ddiben, nifer y plant perthnasol a'u hanghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n deillio o anabledd), a

(b)i'r angen i ddiogelu a hyrwyddo'u lles,

weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd (yn ôl fel y digwydd) â gofal, cymhwysedd a medrusrwydd digonol.

(2Os oes person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y person â chyfrifoldeb yn bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (1).

(3Os yw person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu yn unigolyn sy'n darparu gofal dydd, rhaid i'r person cofrestredig ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol, er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithredu fel gwarchodwr plant neu i ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd.

(4Os yw'r person cofrestredig yn sefydliad sy'n darparu gofal dydd, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol, er mwyn sicrhau bod ganddo'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.

(5Os oes person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y person â chyfrifoldeb yn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol, er mwyn sicrhau bod ganddo'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.

Hysbysu am dramgwyddau

10.—(1Os ceir y person cofrestredig, y person â chyfrifoldeb neu'r unigolyn cyfrifol yn euog o unrhyw dramgwydd troseddol, pa un ai yng Nghymru neu yn rhywle arall, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r swyddfa briodol, ar unwaith ac mewn ysgrifen, o'r canlynol—

(a)dyddiad a lleoliad y gollfarn;

(b)y tramgwydd y cafwyd y person yn euog ohono; ac

(c)y gosb a osodwyd ar y person mewn perthynas â'r tramgwydd.

(2Os cyhuddir y person cofrestredig neu'r person â chyfrifoldeb o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(12) rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r swyddfa briodol ar unwaith mewn ysgrifen, o'r tramgwydd y'i cyhuddwyd ohono, a dyddiad a lleoliad y cyhuddiad.

Marwolaeth person cofrestredig

11.—(1Os oes mwy nag un person wedi eu cofrestru mewn perthynas â darpariaeth gofal dydd, ac os bydd farw un o'r personau cofrestredig, rhaid i berson cofrestredig sy'n goroesi hysbysu'r swyddfa briodol o'r farwolaeth, mewn ysgrifen o fewn 14 diwrnod ar ôl y farwolaeth.

(2Os un person yn unig a gofrestrwyd mewn perthynas â darpariaeth gofal dydd, ac os bydd farw'r person hwnnw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu'r swyddfa briodol mewn ysgrifen—

(a)o farwolaeth y person cofrestredig o fewn 14 diwrnod ar ôl y farwolaeth honno; a

(b)o fewn 28 diwrnod ar ôl marwolaeth y person cofrestredig, o'u bwriadau ynglŷn â rhedeg y ddarpariaeth gofal dydd yn y dyfodol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff cynrychiolwyr personol person a gofrestrwyd i ddarparu gofal dydd ac a fu farw barhau i weithredu'r ddarpariaeth gofal dydd heb eu cofrestru mewn perthynas â hi—

(a)am gyfnod na fydd yn hwy nag 28 diwrnod ar ôl marwolaeth y person cofrestredig; a

(b)am unrhyw gyfnod pellach a benderfynir yn unol â pharagraff (4).

(4Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar gyfnod at ddibenion paragraff (3)(b), na fydd yn hwy nag un flwyddyn ar ôl marwolaeth y person cofrestredig, a rhaid iddynt hysbysu'r cynrychiolwyr personol o unrhyw benderfyniad o'r fath, mewn ysgrifen.

(5Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person â chyfrifoldeb i reoli'r ddarpariaeth gofal dydd yn ystod y cyfnod pan fyddant, yn unol â pharagraff (3), yn parhau i weithredu'r ddarpariaeth gofal dydd heb eu cofrestru mewn perthynas â hi.

(6Os bydd farw person a gofrestrwyd mewn perthynas â gwarchod plant, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu'r swyddfa briodol, mewn ysgrifen o fewn 14 diwrnod ar ôl marwolaeth y person cofrestredig.

RHAN 4GOFYNION CYFFREDINOL A GORFODI

Gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau

12.—(1Rhaid i berson cofrestredig—

(a)bodloni'r gofynion a bennir yn Rhan 5 fel y maent yn gymwys i'r person hwnnw; a

(b)wrth ddarparu'r gofal a ddarperir ganddo, rhoi sylw i anghenion pob plentyn unigol a warchodir neu y darperir gofal dydd iddo.

(2Bydd unrhyw fethiant ar ran y person cofrestredig—

(a)i fodloni unrhyw ofyniad perthnasol a bennir yn Rhan 5; neu

(b)i roi sylw i'r mater a bennir ym mharagraff (1)(b),

yn fater y caiff Gweinidogion Cymru ei gymryd i ystyriaeth wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur ac mewn unrhyw achos o dan y Rhan honno o'r Mesur.

Cydymffurfio â rheoliadau – mwy nag un person cofrestredig

13.  Pan fo mwy nag un person cofrestredig ar gyfer darpariaeth gofal dydd i blant perthnasol yn yr un fangre, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol iddo gael ei wneud, ei wneud o dan y Rheoliadau hyn gan y person cofrestredig, os gwnaed y peth hwnnw gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Safonau gofynnol cenedlaethol

14.—(1Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i'r safonau gofynnol cenedlaethol sy'n ymwneud â'r math o ofal a ddarperir gan y person cofrestredig.

(2Bydd unrhyw honiad bod y person cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â pharagraff (1) yn fater y caiff Gweinidogion Cymru ei gymryd i ystyriaeth wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur ac mewn unrhyw achos o dan y Rhan honno o'r Mesur.

Datganiad o ddiben

15.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio, mewn perthynas â'r gwaith gwarchod plant neu'r ddarpariaeth gofal dydd y'i cofrestrwyd ar ei gyfer neu ar ei chyfer, datganiad ar bapur (“y datganiad o ddiben”) a rhaid i'r datganiad hwnnw gynnwys —

(a)datganiad o nodau ac amcanion;

(b)datganiad ynghylch ystod oedran, rhyw a nifer y plant y bwriedir darparu gofal ar eu cyfer gan y person cofrestredig ac ynghylch yr ystod anghenion y mae'r person yn bwriadu ei diwallu;

(c)datganiad ynghylch y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu neu i'w rhoi ar gael i blant perthnasol;

(ch)datganiad ynghylch y gweithgareddau sydd i'w darparu ac ynglŷn â'r iaith neu'r ieithoedd y darperir y gweithgareddau ynddynt; a

(d)datganiad o'r telerau ac amodau y darperir gofal yn unol â hwy i blant perthnasol pan fo'r person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu'n darparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau ei fod yn gweithredu fel gwarchodwr plant, neu y darperir gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

(3Nid oes dim ym mharagraff (2) nac yn rheoliad 37 sy'n gwneud yn ofynnol bod y person cofrestredig yn torri neu'n peidio â chydymffurfio â'r canlynol, nac yn ei awdurdodi i wneud hynny—

(a)unrhyw ddarpariaeth arall o'r Rheoliadau hyn; neu

(b)yr amodau sydd mewn grym ar y pryd mewn perthynas â chofrestriad y person cofrestredig o dan Ran 2 o'r Mesur.

(4Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cadw'r datganiad o ddiben dan arolwg, a phan fo'n briodol, ei ddiwygio; a

(b)pan fo'n ymarferol, hysbysu'r swyddfa briodol ynghylch unrhyw ddiwygiad o'r fath, 28 diwrnod cyn y bo'r diwygiad i gael effaith.

Adolygu ansawdd y gofal

16.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a roddir i blant.

(2Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) darparu—

(a)ar gyfer adolygu ansawdd y gofal yn flynyddol, o leiaf; a

(b)i'r person cofrestredig gasglu safbwyntiau—

(i)plant perthnasol;

(ii)rhieni plant perthnasol;

(iii)awdurdod lleol sy'n trefnu ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol; a

(iv)personau a gyflogir i ofalu am blant perthnasol,

ynglŷn ag ansawdd y gofal a ddarperir, yn rhan o unrhyw adolygiad a ymgymerir.

(3Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig, o fewn 28 diwrnod, baratoi adroddiad ar yr adolygiad, a rhoi copi o'r adroddiad hwnnw ar gael mewn fformat priodol pan ofynnir amdano gan—

(a)rhieni plant perthnasol;

(b)awdurdod lleol sy'n trefnu ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol;

(c)personau a gyflogir i ofalu am blant perthnasol; ac

(ch)Gweinidogion Cymru.

Asesu'r gwasanaeth

17.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ofyn, ar unrhyw adeg, i'r person cofrestredig gyflawni asesiad o'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i blant perthnasol.

(2O fewn 28 diwrnod ar ôl cael cais o dan baragraff (1) rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno'r asesiad i'r swyddfa briodol yn y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw'r asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.

Hysbysiad i gydymffurfio

18.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, hysbysu'r person cofrestredig ynglŷn â pha gamau y mae'n rhaid iddo'u cymryd, ym marn Gweinidogion Cymru, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rhan 2 o'r Mesur ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhan honno.

(2Caiff Gweinidogion Cymru bennu terfyn amser ar gyfer gweithredu gan y person cofrestredig fel sy'n ofynnol o dan baragraff (1).

(3Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r swyddfa briodol pan fo unrhyw weithredu fel sy'n ofynnol dan baragraff (1) wedi ei gwblhau.

Tramgwyddau

19.  Mae person cofrestredig sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i, neu rywfodd arall yn peidio â chydymffurfio â—

(a)Rheoliadau 15 i 18; a

(b)Rhannau 3 a 5,

yn euog o dramgwydd, ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

RHAN 5GWEITHGAREDDAU PERSONAU A GOFRESTRIR O DAN RAN 2 O'R MESUR

Diogelu a hyrwyddo lles

20.—(1Rhaid i berson cofrestredig weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, mewn ffordd sy'n—

(a)hyrwyddo ac yn darparu'n briodol ar gyfer lles plant perthnasol; a

(b)yn darparu'n briodol ar gyfer gofal, addysg , goruchwyliaeth, a phan fo'n briodol, triniaeth i blant perthnasol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)yn byw yn y fangre berthnasol;

(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol (ac eithrio person a grybwyllir yn rheoliad 28); neu

(c)sydd fel arall yn bresennol yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,

yn addas i gael cyswllt o'r fath.

(3At ddibenion paragraff (2), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau wrth Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff (2)—

(a)bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(b)pan fo'n briodol(13), y person wedi ei gofrestru gydag ADA ac wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r person cofrestredig.

(5Os nad oes hawl gan y person cofrestredig i gael, mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato ym mharagraff (2), yr wybodaeth neu'r ddogfennaeth y gellir seilio'r cadarnhad sy'n ofynnol gan baragraff (4) arni, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson o'r fath yn cael ei oruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo mewn cysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.

(6Rhaid i'r person cofrestredig, at y diben o ddarparu gofal i blant perthnasol a gwneud darpariaeth briodol ar gyfer eu lles ac i'r graddau y bo'n ymarferol, ganfod a chymryd i ystyriaeth eu dymuniadau a'u teimladau.

(7Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau, tra bo plant perthnasol yng ngofal y person cofrestredig—

(a)bod eu preifatrwydd a'u hurddas yn cael eu parchu;

(b)y rhoddir sylw dyladwy i'w rhyw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol ac unrhyw anabledd sy'n effeithio arnynt.

Y bwyd a ddarperir i'r plant

21.—(1Os darperir bwyd gan y person cofrestredig i blant perthnasol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau–

(a)y darperir bwyd iddynt—

(i)a weinir mewn meintiau digonol ar adegau priodol;

(ii)sydd wedi ei baratoi'n briodol ac yn iachus a maethlon;

(iii)sy'n addas ar gyfer eu hanghenion ac yn bodloni eu hoffterau rhesymol; a

(iv)sy'n cynnwys amrywiaeth ddigonol; a

(b)y bodlonir unrhyw angen dietegol arbennig plentyn perthnasol, sy'n deillio o gyflwr iechyd, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol neu gefndir diwylliannol y plentyn.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod dŵr yfed ffres ar gael i blant perthnasol drwy gydol yr amser a dreuliant dan ofal y person cofrestredig.

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

22.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio a gweithredu polisi ysgrifenedig—

(a)sydd â'r bwriad o ddiogelu plant perthnasol rhag eu cam-drin neu'u hesgeuluso; a

(b)sy'n pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn os gwneir unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso.

(2Yn benodol, rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu ar gyfer—

(a)cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sy'n gwneud, neu a all fod yn gwneud, ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas â phlentyn perthnasol;

(b)cyfeirio yn ddi-oed unrhyw honiadau o gam-drin neu esgeuluso sy'n effeithio ar blentyn perthnasol, at yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre berthnasol ynddi;

(c)cadw cofnodion ysgrifenedig o unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso, ac o'r camau a gymerwyd wrth ymateb iddynt;

(ch)rhoi ystyriaeth ym mhob achos i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant perthnasol yn dilyn honiad o gam-drin neu esgeuluso;

(d)gofyniad bod unrhyw bersonau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch plentyn i un o'r canlynol—

(i)y person cofrestredig;

(ii)cwnstabl;

(iii)person sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 2 o'r Mesur;

(iv)un o swyddogion yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre berthnasol ynddi; neu

(v)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(dd)trefniadau sy'n caniatáu bob amser i bersonau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol gael mynediad at wybodaeth ar ffurf briodol a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre berthnasol ynddi, neu â'r swyddfa briodol, ynghylch lles neu ddiogelwch y plant hynny.

Rheoli ymddygiad, atal a disgyblu

23.—(1Ni chaniateir defnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol, yn afresymol neu'n groes i baragraff (5) ar blant perthnasol ar unrhyw adeg.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, yn unol â'r rheoliad hwn, lunio a gweithredu polisi rheoli ymddygiad ysgrifenedig sy'n rhagnodi—

(a)y mesurau rheoli, atal a disgyblu y caniateir eu defnyddio yn y fangre berthnasol; a

(b)y dull sydd i'w ddefnyddio i hyrwyddo ymddygiad priodol yn y fangre honno.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) o'r rheoliad hwn, y mesurau rheoli, atal a disgyblu hynny y darperir ar eu cyfer yn y polisi rheoli ymddygiad dywededig, yn unig, y caniateir eu defnyddio ar blant perthnasol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig cadw'r polisi rheoli ymddygiad dan arolwg, a phan fo'n briodol, ei ddiwygio a hysbysu'r swyddfa briodol ynghylch unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod ar ôl diwygio.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaniateir defnyddio'r mesurau canlynol, na bygwth defnyddio un neu ragor ohonynt ar blant perthnasol—

(a)unrhyw ffurf o gosb gorfforol;

(b)yn ddarostyngedig i ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn llys sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwng y plentyn ac unrhyw berson, unrhyw gyfyngiad ar y plentyn o ran cysylltu neu gyfathrebu â'i rieni;

(c)unrhyw gosb sy'n ymwneud â bwyta neu yfed, neu amddifadu o fwyd neu ddiod;

(ch)unrhyw ofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol neu amhriodol;

(d)defnyddio neu atal meddyginiaeth neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol fel mesur disgyblu;

(dd)atal plentyn yn fwriadol rhag cysgu;

(e)unrhyw archwiliad corfforol agos ar blentyn;

(f)gwrthod unrhyw gymhorthion neu offer y mae eu hangen ar blentyn anabl;

(ff)unrhyw fesur sy'n—

(i)cynnwys plentyn mewn gweithredu unrhyw fesur yn erbyn plentyn arall; neu

(ii)cosbi grŵp o blant am ymddygiad plentyn unigol.

(6Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n gwahardd—

(a)unrhyw weithred sydd ei hangen i ddiogelu iechyd plentyn, gan ymarferydd meddygol neu ddeintyddol cofrestredig neu'n unol â chyfarwyddiadau ymarferydd o'r fath;

(b)unrhyw weithred sydd ei hangen ar unwaith i atal niwed i unrhyw berson neu ddifrod difrifol i eiddo.

Anghenion iechyd plant

24.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hyrwyddo a diogelu iechyd plant perthnasol.

(2Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau–

(a)bod pob plentyn yn cael y cymorth unigol sy'n ofynnol yng ngoleuni unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol sydd gan y plentyn; a

(b)ar bob adeg, bod o leiaf un person sy'n gofalu am blant perthnasol yn meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf addas.

Peryglon a diogelwch

25.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, bod pob rhan o'r fangre berthnasol y gall plant perthnasol fynd iddi yn rhydd o beryglon i'w diogelwch;

(b)i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, bod unrhyw weithgareddau y mae plant perthnasol yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi; ac

(c)bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch plant perthnasol yn cael eu nodi ac yn cael eu dileu i'r graddau y mae hynny'n bosibl.

Defnyddio a storio meddyginiaethau

26.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cadw unrhyw feddyginiaeth yn y fangre berthnasol yn ddiogel.

(2Yn benodol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

(a)bod plant perthnasol yn cael eu hatal rhag cael gafael ar unrhyw feddyginiaeth heb oruchwyliaeth;

(b)bod unrhyw feddyginiaeth a bresgripsiynwyd ar gyfer plentyn perthnasol yn cael ei rhoi fel a bresgripsiynwyd i'r plentyn y'i presgripsiynwyd ar ei gyfer, ac nid i unrhyw blentyn arall; ac

(c)bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o unrhyw feddyginiaeth a roddir i blentyn perthnasol.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “presgripsiynwyd” yw—

(a)archebwyd ar gyfer claf i'w darparu i'r claf hwnnw o dan neu yn rhinwedd adran 80 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol)(14); neu

(b)mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a), presgripsiynwyd ar gyfer claf o dan adran 58 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968 (cynhyrchion meddyginiaethol ar bresgripsiwn yn unig)(15).

Staffio

27.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod nifer digonol o bersonau medrus a phrofiadol gyda chymwysterau addas yn gofalu am y plant perthnasol bob amser, o ystyried—

(a)y datganiad o ddiben a nifer y plant perthnasol a'u hanghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n deillio o unrhyw anabledd), a

(b)yr angen i ddiogelu a hybu eu hiechyd a'u lles.

Addasrwydd gweithwyr

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), rhaid i'r person cofrestredig beidio ag—

(a)cyflogi o dan gontract cyflogi person i ofalu am blant perthnasol oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(b)caniatáu i wirfoddolwr ofalu am blant perthnasol oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i ofalu am blant perthnasol oni bai—

(a)pan fo'r person hwnnw'n gweithio i warchodwr plant—

(i)bod y person yn bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 8 i 12 o Ran 1 o Atodlen 1; a

(ii)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraff 11(d) i (e) ac (g) i (h) o Ran 1 of Atodlen 2;

(b)pan fo'r person hwnnw'n gweithio i ddarparydd gofal dydd—

(i)bod y person yn bodloni'r gofynion a ragnodir ym mharagraffau 32 i 36 o Ran 2 o Atodlen 1; a

(ii)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person hwnnw, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraff 34 (d) i (e) ac (g) i (h) o Ran 2 o Atodlen 2.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol fanylach, ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod—

(a)unrhyw gynnig o gyflogaeth a wneir i berson a ddisgrifir ym mharagraff (1), neu unrhyw drefniant arall ynglŷn â gweithio yn y fangre berthnasol a wneir gyda neu mewn perthynas â pherson o'r fath, yn ddarostyngedig i gydymffurfio â gofynion perthnasol paragraff (2) mewn perthynas â'r person hwnnw; a

(b)oni fydd paragraff (5) neu (6) yn gymwys, na fydd unrhyw berson o'r fath yn cychwyn gweithio yn y fangre berthnasol hyd nes cydymffurfir â gofynion perthnasol paragraff (2) mewn perthynas â'r person hwnnw.

(5Pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, caiff y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn, neu at ddibenion, y fangre berthnasol er gwaethaf y darpariaeth ym mharagraffau (1) a (4)(b)–

(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir ym mharagraff (2) fel y mae'n gymwys i'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw rai o'r materion a restrir yn—

(i)paragraff 11 (d), (dd) ac (h) o Ran 1 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i warchodwr plant, neu

(ii)paragraff 34 (d), (dd) ac (h) o Ran 2 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i ddarparydd gofal dydd;

yn anghyflawn;

(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi ei chael mewn perthynas â'r materion a bennir yn—

(i)paragraff 11 o Ran 1 o Atodlen 1 a pharagraff 11(g) ac (ng) o Ran 1 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i warchodwr plant, neu

(ii)paragraff 35 o Ran 2 o Atodlen 1 a pharagraff 34(g) ac (ng) o Ran 2 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i ddarparydd gofal dydd;

(c)ym marn resymol y person cofrestredig, bod yr amgylchiadau'n eithriadol; ac

(ch)bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law a chyn bodloni ei hunan mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.

(6Pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, caiff y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn, neu at ddibenion, y fangre berthnasol er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—

(a)bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;

(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi ei chael mewn perthynas â'r materion a bennir yn—

(i)paragraffau 8 i 10 a 12 o Ran 1 o Atodlen 1 a pharagraff 11(d) i (e) ac (g) i (h) o Ran 1 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i warchodwr plant; neu

(ii)paragraffau 32 i 34 a 36 o Ran 2 o Atodlen 1 a pharagraff 34(d) i (e) ac (g) i (h) o Ran 2 o Atodlen 2, mewn perthynas â pherson y bwriedir iddo weithio neu sy'n gweithio i ddarparydd gofal dydd;

(c)bod y person wedi darparu datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y cafwyd y person yn euog ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau a ddihysbyddwyd, o fewn yr ystyr a roddir i “spent conviction” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(16) ac y ceir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(17), neu y rhybuddiwyd y person mewn cysylltiad â hwy;

(ch)bod y person cofrestredig o'r farn, yn rhesymol, na fodlonir buddiannau'r gwasanaeth oni ellir penodi'r person; a

(d)bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3) a chyn bodloni ei hunan mewn perthynas â hi, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.

Cyflogi staff

29.—(1Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu sydd, yn benodol—

(a)yn darparu ar gyfer atal cyflogai dros dro, a chymryd camau eraill heb fynd mor bell ag atal dros dro, mewn perthynas â chyflogai pan fo hynny'n briodol er lles neu ddiogelwch plant perthnasol; a

(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod i berson priodol am ddigwyddiad o gam-drin, neu amheuaeth o gam-drin, plentyn perthnasol, yn sail ar gyfer cychwyn achos disgyblu.

(2At ddibenion paragraff (1)(b), person priodol yw—

(a)y person cofrestredig,

(b)person sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 2 o'r Mesur,

(c)un o swyddogion yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre perthnasol ynddi,

(ch)cwnstabl, neu

(d)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob cyflogai sy'n gofalu am blant perthnasol—

(a)yn cael ei hyfforddi, ei oruchwylio a'i gwerthuso'n briodol; a

(b)yn cael cyfle o bryd i'w gilydd i sicrhau cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae yn ei gyflawni.

Cadw cofnodion

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cadw'r cofnodion ynglŷn â'r materion a bennir yn Atodlen 3 a thra bo'r plant perthnasol yn derbyn gofal gan y person cofrestredig, rhaid cadw'r cofnodion hynny yn y fangre berthnasol;

(b)dal gafael ar bob cofnod yn y cofnodion a bennir ym mharagraffau 1 i 9 o'r Atodlen honno am gyfnod o dair blynedd o'r dyddiad pan wnaed y cofnod olaf; ac

(c)rhoi'r cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnant amdanynt.

(2Nid yw'n ofynnol bod person cofrestredig sy'n darparu gofal dydd drwy gyfrwng darpariaeth chwarae mynediad agored yn cadw'r cofnodion a bennir ym mharagraffau 5, 6 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag oriau presenoldeb) a 9 o'r Atodlen honno.

(3Os yw person cofrestredig yn peidio â gweithredu fel gwarchodwr plant neu'n peidio â darparu gofal dydd, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y delir gafael yn ddiogel ar y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff (1) a rhaid iddo drefnu y bydd y cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnant amdanynt.

Darparu gwybodaeth

31.—(1Rhaid i berson cofrestredig hysbysu'r swyddfa briodol os digwydd unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4, a rhaid iddo, yr un pryd, ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a bennir yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw.

(2Rhaid hysbysu—

(a)o flaen llaw'r digwyddiad, pan fo'n rhesymol ymarferol i wneud hynny; a

(b)ym mhob achos arall, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ond ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y digwyddiad.

(3Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu rhiant plentyn perthnasol yn ddi-oed ynghylch unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol sy'n effeithio ar les y plentyn a rhaid iddo drefnu bod y cofnodion a gedwir yn unol â rheoliad 18, i'r graddau y maent yn ymwneud â phlentyn perthnasol, ar gael i'w harchwilio gan riant y plentyn hwnnw, ac eithrio pan nad fyddai hynny'n rhesymol ymarferol neu os byddai'n peryglu lles y plentyn.

(4Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, os gofynnant amdani, y bydd ei hangen arnynt ynglŷn â'r ddarpariaeth o ofal i blant perthnasol, gan gynnwys gwybodaeth ariannol a chadarnhad o'r diogelwch yswiriant a drefnwyd rhag unrhyw atebolrwydd a all ddod i ran y person cofrestredig mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.

Cwynion

32.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cwynion (“y weithdrefn gwynion”) a fynegir wrth y person cofrestredig gan blant perthnasol neu ar eu rhan.

(2Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn addas ar gyfer anghenion plant.

(3Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion ynghylch y person cofrestredig.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn gwybod am fodolaeth y weithdrefn gwynion, a chymryd pob cam rhesymol i roi copi o'r weithdrefn gwynion mewn fformat priodol, neu ba bynnag fformat y gofynnir amdano, i'r canlynol—

(a)plant perthnasol;

(b)eu rhieni; ac

(c)awdurdod lleol sy'n trefnu ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff a gyflogir i ofalu am blant perthnasol yn cael gwybod am y weithdrefn gwynion, yn cael copi ohoni ac yn cael hyfforddiant priodol ar gyfer ei gweithredu.

(6Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a rhif teleffon y swyddfa briodol; a

(b)manylion y weithdrefn (os oes un) yr hysbyswyd y person cofrestredig ohoni gan Weinidogion Cymru, ar gyfer mynegi cwynion wrth Weinidogion Cymru.

(7Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol yn gynnar, pan fo'n briodol.

(8Pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth honno gael ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(9Ni roddir cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (8) oni fydd y weithdrefn gwynion yn darparu yr ymgymerir â'r ystyriaeth ffurfiol gan berson sy'n annibynnol o'r ddarpariaeth o ofal i blant perthnasol.

Ymdrin â chwynion

33.—(1Rhaid gweithredu'r weithdrefn gwynion a baratoir yn unol â rheoliad 32 yn unol â'r egwyddor o ddiogelu a hyrwyddo lles y plentyn, a rhaid rhoi sylw i ddymuniadau a theimladau canfyddadwy'r plentyn.

(2Os gwneir cwyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod hawl ganddo, ar unrhyw adeg, i gwyno wrth Weinidogion Cymru neu, pan fo'n berthnasol, wrth yr awdurdod lleol a drefnodd ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y tybia'r person cofrestredig y gallent fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo'n berthnasol, a'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig ddweud wrth yr achwynydd fod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i'r achwynwyr, a bod rhaid iddo, yn benodol, gynnig help i gael eiriolwr.

(4Caiff y person cofrestredig, mewn unrhyw achos pan fo'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu gymorth arall at y diben o ddatrys y gŵyn.

(5Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gŵyn, canlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw weithredu fel ymateb.

(6Os gofynnir amdano gan Weinidogion Cymru, rhaid i'r person cofrestredig gyflenwi datganiad i'r swyddfa briodol, a fydd yn cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.

Datrys yn lleol

34.—(1Rhaid i gwynion yr ymdrinnir â hwy'n lleol(18) gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a beth bynnag o fewn 14 diwrnod.

(2Os datrysir y gŵyn o gan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu cadarnhad ysgrifenedig i'r achwynydd o'r datrysiad a gytunir.

(3Rhaid i'r person cofrestredig, os gofynnir iddo gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol a drefnodd ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol, roi cadarnhad bod cwyn wedi ei datrys yn lleol.

(4Ceir estyn y terfyn amser ym mharagraff (1) am hyd at 14 diwrnod ychwanegol os yw'r achwynydd yn cydsynio.

Ystyriaeth ffurfiol

35.—(1Rhaid i gwynion yr ymdrinnir â hwy drwy ystyriaeth ffurfiol(19) gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a beth bynnag o fewn 35 diwrnod gwaith ar ôl gwneud cais am ystyriaeth ffurfiol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig roi cadarnhad ysgrifenedig o ganlyniad yr ystyriaeth ffurfiol i'r achwynydd, ynghyd â chrynodeb o natur a sylwedd y gŵyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.

(3Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gŵyn i'r swyddfa briodol ac at unrhyw awdurdod lleol a drefnodd ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol.

(4Ceir estyn y terfyn amser ym mharagraff (1) os yw'r achwynydd yn cydsynio.

(5Os na fydd y gŵyn wedi ei datrys o fewn 35 diwrnod ar ôl gwneud y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r swyddfa briodol ynglŷn â'r gŵyn a'r rhesymau dros yr oedi cyn ei datrys.

Cwynion sy'n destun ystyriaeth gydamserol

36.—(1Pan fo cwyn yn ymwneud ag unrhyw fater—

(a)y mae'r achwynydd wedi datgan mewn ysgrifen ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys yn ei gylch, neu

(b)y mae'r person cofrestredig yn codi, neu'n bwriadu codi achos disgyblu yn ei gylch, neu

(c)yr hysbyswyd y person cofrestredig bod ymchwiliad yn cael ei gynnal yn ei gylch, gan unrhyw berson neu gorff, gan ystyried achos troseddol, neu

(ch)y cynullwyd cyfarfod yn ei gylch sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion mewn cysylltiad ag amddiffyn plant neu oedolion hyglwyf, neu

(d)yr hysbyswyd y person cofrestredig yn ei gylch bod ymchwiliadau ar droed gan ystyried dwyn achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (tynnu ymaith etc. o'r gofrestr)(20), neu

(dd)yr hysbyswyd y person cofrestredig yn ei gylch bod awdurdod lleol wedi cychwyn, neu yn cychwyn, ymholiadau amddiffyn plant,

rhaid i'r person cofrestredig ystyried, gan ymgynghori â'r achwynydd, ac unrhyw berson neu gorff arall yr ystyria'n briodol ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gŵyn. At ddibenion y rheoliad hwn, cyfeirir at gwynion o'r fath fel “cwynion sy'n destun ystyriaeth gydamserol”.

(2Ceir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n destun ystyriaeth gydamserol os yw'n ymddangos i'r person cofrestredig, ar unrhyw adeg, y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.

(3Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan paragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.

(4Pan fo'r person cofrestredig wedi peidio â pharhau i ystyried unrhyw gŵyn o dan baragraff (2), ceir ailddechrau ystyried y gŵyn ar unrhyw adeg.

(5Pan fo ystyriaeth o gŵyn wedi peidio o dan baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig ymgyfarwyddo â hynt yr ystyriaeth gydamserol, a hysbysu'r achwynydd pan ddaw'r ystyriaeth honno i ben.

(6Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn os peidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol, neu os cwblheir yr ystyriaeth honno, a'r achwynydd yn gwneud cais am i'r gŵyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.

Addasrwydd y fangre

37.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio mangre ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, oni fydd ei lleoliad, ei dyluniad a'i chynllun ffisegol yn addas ar gyfer cyrraedd y nodau ac amcanion a bennir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob rhan o'r fangre berthnasol a ddefnyddir gan blant perthnasol—

(a)wedi ei goleuo, ei gwresogi a'i hawyru'n ddigonol;

(b)yn ddiogel rhag mynediad diawdurdod;

(c)wedi ei dodrefnu a'i chyfarparu'n addas;

(ch)o adeiladwaith cadarn, a gedwir mewn cyflwr adeileddol da yn fewnol ac allanol;

(d)yn lân ac wedi ei haddurno a'i chynnal yn rhesymol; ac

(dd)wedi ei chyfarparu â'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, ac wedi ei haddasu yn ôl yr angen, i ddiwallu'r anghenion sy'n deillio o anabledd unrhyw blentyn perthnasol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y cedwir y fangre berthnasol yn rhydd o arogleuon annymunol a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a chlinigol.

(4Pan ddarperir gofal mewn mangre dan do rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod digon o'r cyfleusterau canlynol yn y fangre berthnasol, y gall blant perthnasol eu defnyddio o dan amodau sy'n caniatáu preifatrwydd priodol —

(a)nifer digonol o fasnau ymolchi gyda chyflenwad o ddŵr rhedegog poeth ac oer, a

(b)nifer digonol o doiledau addas sy'n addas i blant perthnasol,

ar gyfer nifer a rhyw'r plant perthnasol.

(5Pan ddarperir bwyd mewn safle dan do, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau a chyfarpar addas a digonol ar gyfer paratoi, storio a bwyta bwyd yn y fangre berthnasol.

Rhagofalon tân

38.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig, mewn perthynas â mangre berthnasol—

(a)cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynnwys darparu cyfarpar atal a chanfod tân;

(b)darparu dulliau boddhaol ar gyfer dianc os digwydd tân;

(c)gwneud trefniadau digonol ar gyfer—

(i)canfod, cyfyngu a diffodd tanau;

(ii)rhoi rhybuddion tân;

(iii)gwacáu'r adeilad os digwydd tân;

(iv)cynnal a chadw'r holl offer atal a chanfod tân; a

(v)adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer atal a chanfod tân, fesul cyfnod priodol;

(ch)gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol mewn mangre berthnasol gael hyfforddiant addas mewn atal tân;

(d)sicrhau, drwy gynnal driliau ac ymarferion tân fesul cyfnod priodol, fod y personau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y plant perthnasol, yn gyfarwydd â'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân; ac

(dd)ymgynghori â'r awdurdod tân ac achub ynghylch y materion a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (d).

(2Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (21) yn gymwys i'r fangre berthnasol—

(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys; a

(b)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y cydymffurfir â gofynion y Gorchymyn hwnnw ac unrhyw reoliadau a wneir odano, ac eithrio erthygl 23 (dyletswyddau cyflogeion), mewn perthynas â'r fangre.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw'r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(22), ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre berthnasol ynddi.

RHAN 6ATAL COFRESTRIAD PERSON DROS DRO O DAN RAN 2 O'R MESUR

Dehongli

39.  Yn y Rhan hon—

  • ystyr “ataliad dros dro” (“suspension”) yw ataliad dros dro gan Weinidogion Cymru o gofrestriad person ar y gofrestr gwarchod plant neu, yn ôl fel y digwydd, y gofrestr gofal dydd i blant a gynhelir o dan Ran 2 o'r Mesur, o dan y Rheoliadau hyn. Nid yw'n cynnwys ataliad gwirfoddol dros dro o dan reoliad 46; a rhaid dehongli “atal dros dro” (“suspend”) ac “ataliwyd dros dro” (“suspended”) yn unol â hynny;

  • ystyr “seiliau” (“grounds”) yw'r rhesymau neu'r amgylchiadau sy'n peri i Weinidogion Cymru gredu y byddai parhau darpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd i blant gan berson cofrestredig yn gadael, neu y gallai adael, un neu ragor o'r plant y darperir, neu y gellid darparu gofal o'r fath iddynt yn agored i risg o niwed.

Y pŵer i atal cofrestriad dros dro

40.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, yn unol â rheoliadau 41, 42, 43 44 a 46(8) atal dros dro gofrestriad unrhyw berson sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy'n darparu gofal dydd i blant—

(a)os oes ganddynt sail resymol dros gredu y byddai i'r person hwnnw barhau i ddarparu gofal o'r fath yn gadael, neu y gallai adael, un neu ragor o'r plant y gofelid amdanynt gan y person hwnnw yn agored i risg o niwed; a

(b)os pwrpas yr ataliad dros dro yw un neu'r ddau o'r dibenion a bennir ym mharagraff (2).

(2Ddibenion yr atal dros dro yw—

(a)rhoi amser i ymchwilio i'r amgylchiadau a oedd yn ysgogi cred Gweinidogion Cymru; a

(b)rhoi amser i weithredu er mwyn lleihau neu ddileu'r risg o niwed.

Cyfnod yr atal dros dro

41.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer i atal cofrestriad unrhyw berson dros dro o dan y Rholiadau hyn, bydd cyfnod yr atal dros dro yn dechrau ac yn gorffen ar y dyddiadau hynny a bennir yn yr hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi i'r person cofrestredig o dan reoliadau 42 a 43.

(2Ni chaiff y dyddiad a bennir fel y dyddiad y daw'r cyfnod atal dros dro i ben fod yn fwy na 6 wythnos ar ôl dyddiad dechrau'r cyfnod.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ni fydd arfer pŵer Gweinidogion Cymru i atal cofrestriad person dros dro yn eu rhwystro rhag arfer y pŵer hwnnw ymhellach, ar unrhyw adeg, pa un ai yn ystod cyfnod presennol o ataliad dros dro neu wedi iddo ddod i ben, ar yr un seiliau neu seiliau gwahanol.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru arfer eu pŵer i atal cofrestriad person dros dro, ar yr un seiliau neu'r un i raddau sylweddol, mewn modd a fydd yn ysgogi cyfnod o ataliad cyfanredol sy'n hwy na 12 wythnos o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis ac eithrio—

(a)pan na fu'n rhesymol ymarferol (am resymau tu hwnt i reolaeth Gweinidogion Cymru) i gyflawni'r ymchwiliad neu gymryd y camau o dan is-baragraffau (2)(a) neu (2)(b), yn eu trefn, o reoliad 40; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi cychwyn achos yn erbyn y person cofrestredig o dan adran 34 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad) ond nad yw'r cais eto wedi ei benderfynu gan y llys.

Yr hysbysiad o'r ataliad dros dro, etc

42.  Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol â rheoliad 43, roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person cofrestredig o unrhyw ataliad dros dro, a rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath—

(a)cynnwys y rhesymau dros y penderfyniad;

(b)cynnwys manylion am hawl y person cofrestredig i apelio yn erbyn yr ataliad dros dro; ac

(c)os yw rheoliad 41(4) yn gymwys, datgan y ffaith honno, a nodi pa un o'r amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwnnw sy'n gymwys.

Darpariaethau'r hysbysiad

43.—(1Ceir rhoi hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn i'r person cofrestredig—

(a)drwy ei ddanfon at y person cofrestredig;

(b)drwy ei anfon drwy'r post; neu

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (3), drwy ei drosglwyddo yn electronig.

(2Bernir y bydd hysbysiad i berson cofrestredig o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyfeirio'n briodol os cyfeirir ef at y person cofrestredig yn y cyfeiriad olaf yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru ohono gan y person cofrestredig, naill ai yn y cais i gofrestru neu'n ddiweddarach.

(3Os trosglwyddir yr hysbysiad yn electronig at ddibenion paragraff (1)—

(a)rhaid i'r person cofrestredig fod wedi datgan wrth Weinidogion Cymru ei barodrwydd i gael hysbysiadau a drosglwyddir mewn dull electronig, ac wedi darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw;

(b)rhaid anfon yr hysbysiad i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person cofrestredig; ac

(c)ystyrir y bydd unrhyw hysbysiad a anfonir yn unol â'r paragraff hwn wedi ei gael gan y person cofrestredig ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod y'i hanfonir.

Diddymu'r ataliad dros dro

44.—(1Heb leihau effaith rheoliad 41(2), pan fydd Gweinidogion Cymru wedi atal cofrestriad person dros dro, rhaid iddynt ddiddymu'r ataliad dros dro ar unrhyw adeg, pa un a wnaed cais ysgrifenedig o dan baragraff (2) ai peidio, os na fydd achos rhesymol ganddynt bellach dros gredu bod y seiliau ar gyfer yr ataliad dros dro yn gymwys.

(2Caiff person y mae ei gofrestriad wedi'i atal dros dro yn unol â'r Rheoliadau hyn wneud cais ysgrifenedig i swyddfa briodol Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg i gael diddymu'r ataliad dros dro.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu diddymu neu beidio â diddymu'r ataliad dros dro ar gofrestriad person, rhaid iddynt, o fewn 2 ddiwrnod gwaith ac yn unol â rheoliad 43, anfon hysbysiad o'u penderfyniad at y person cofrestredig.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â diddymu'r ataliad dros dro ar gofrestriad person, rhaid i'r hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (3) gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad a manylion am hawl y person cofrestredig i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(5Bydd unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddiddymu'r ataliad dros dro yn effeithiol o ddyddiad penodol, a rhaid nodi'r dyddiad hwnnw yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3).

Hawliau i apelio

45.—(1Ac eithrio pan fo cofrestriad person wedi ei atal yn wirfoddol o dan reoliad 46, caiff person y mae ei gofrestriad wedi ei atal dros dro o dan y Rheoliadau hyn apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru i—

(a)atal cofrestriad y person hwnnw;

(b)gwrthod diddymu'r ataliad hwnnw yn dilyn cais am iddynt wneud hynny, yn unol â rheoliad 44(2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mewn apêl o dan baragraff (1), caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf–

(a)cadarnhau penderfyniad Gweinidogion Cymru i atal cofrestriad dros dro neu, yn ôl y digwydd, wrthod diddymu'r ataliad dros dro;

(b)cyfarwyddo bod yr ataliad i beidio â chael effaith, ac

er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mewn unrhyw achos pan fo'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn arfer ei bŵer o dan (a) caiff hefyd arfer ei bŵer o dan (b) os yw'n fodlon, ar yr adeg y mae'n gwneud ei benderfyniad, na fodlonir bellach yr amodau ar gyfer ataliad dros dro.

(3Os nad yw'r ataliad dros dro o gofrestriad person, y gwnaed apêl yn ei erbyn o dan baragraff (1), bellach yn effeithiol, rhaid i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf wrthod yr apêl.

Atal dros dro yn wirfoddol

46.—(1Caiff person cofrestredig roi hysbysiad i Weinidogion Cymru i atal dros dro ei gofrestriad ar y gofrestr gwarchod plant neu, yn ôl fel y digwydd, y gofrestr gofal dydd i blant a gynhelir o dan Ran 2 o'r Mesur (“hysbysiad o ataliad gwirfoddol”) (“a voluntary suspension notice”).

(2Rhaid i hysbysiad o ataliad gwirfoddol—

(a)bod mewn ysgrifen;

(b)cynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(i)y dyddiad y bydd y cyfnod o ataliad gwirfoddol yn cychwyn (“ y dyddiad dod i rym”) (“the effective date”),

(ii)pan fo'n hysbys, y dyddiad y bwriedir i'r cyfnod o ataliad gwirfoddol ddod i ben (“y dyddiad terfynu”) (“the termination date”),

(iii)y rheswm pam y gofynnir am y cyfnod o ataliad gwirfoddol;

(c)cael ei anfon neu'i ddanfon i'r swyddfa briodol ddim llai na 5 diwrnod cyn y dyddiad dod i rym, neu ba bynnag gyfnod byrrach cyn y dyddiad hwnnw y cytunir iddo gan Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i berson cofrestredig ddarparu pa bynnag wybodaeth arall, neu ddogfennau eraill, y gofynnir amdani neu amdanynt yn rhesymol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r ataliad gwirfoddol dros dro.

(4Os yw person cofrestredig—

(a)yn rhoi hysbysiad yn unol â pharagraffau (1) neu (8)(b); a

(b)yr hysbysiad o ataliad gwirfoddol hwnnw yn cydymffurfio â'r gofynion ym mharagraff (2),

yna, oni fydd paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru atal dros dro gofrestriad y person hwnnw, neu estyn cyfnod atal ei gofrestriad, ar y gofrestr gwarchod plant neu, yn ôl fel y digwydd, y gofrestr gofal dydd i blant (“ataliad gwirfoddol” (“voluntary suspension”)).

(5Ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu'n unol â pharagraff (4)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon at y person cofrestredig, neu wedi ei hysbysu ynghylch, eu penderfyniad i atal cofrestriad y person hwnnw dros dro yn unol â rheoliad 40; neu

(b)yn achos person y mae ei gofrestriad wedi ei atal dros dro gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 40 a'r person hwnnw–

(i)wedi gwneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddiddymu'r ataliad a'r cais hwnnw heb ei benderfynu eto; neu

(ii)wedi apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn unol â rheoliad 45 a'r apêl honno heb ei phenderfynu eto.

(6Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gweithredu yn unol â pharagraff (4), rhaid iddynt anfon at y person cofrestredig gadarnhad ysgrifenedig bod ei gofrestriad ar y gofrestr gwarchod plant neu, yn ôl fel y digwydd, y gofrestr gofal dydd i blant, wedi ei atal dros dro yn unol â'r hysbysiad o ataliad gwirfoddol.

(7Nid oes hawl apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru i beidio â gweithredu mewn perthynas â hysbysiad o ataliad gwirfoddol a roddwyd gan y person cofrestredig.

(8Caiff person cofrestredig yr ataliwyd ei gofrestriad yn wirfoddol, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad terfynu, roi i Weinidogion Cymru hysbysiad ysgrifenedig, sy'n cydymffurfio pan fo'n berthnasol â gofynion paragraff (2), i'r perwyl bod yn ofynnol ganddo—

(a)ddiddymu'r ataliad gwirfoddol cyn y dyddiad terfynu; neu

(b)estyn cyfnod yr atalid gwirfoddol am ba bynnag gyfnod pellach a bennir ganddo yn yr hysbysiad.

(9Nid yw'r faith bod cofrestriad person wedi ei atal yn wirfoddol yn unol â'r rheoliad hwn yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag arfer eu pŵer i atal cofrestriad y person hwnnw dros dro yn unol â rheoliad 40.

RHAN 7DIWYGIO, DIRYMU AC ARBED

Diwygio Rheoliadau 2002

47.  Diwygir Rheoliadau 2002 yn unol ag Atodlen 5.

Dirymu

48.  Dirymir yr offerynnau a restrir yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 6 (sydd â'r cyfeiriadau wedi eu rhestru yng ngholofn (2)), i'r graddau a ddynodir yng ngholofn (3).

Arbed

49.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni fydd dirymu Rheoliadau 2004 yn effeithio ar—

(a)unrhyw benderfyniad sydd wedi ei wneud;

(b)unrhyw hysbysiad o ataliad dros dro;

(c)unrhyw gyfnod o atal dros dro neu o gyfyngu neu o amser; neu

(ch)unrhyw benderfyniad sydd wedi ei wneud gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf,

(d)o dan neu'n unol â Rheoliadau 2004.

(2Mewn perthynas â dirymu Rheoliadau 2004, ceir dwyn achosion cyfreithiol, neu osod a gorfodi rhwymedïau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd a gyflawnwyd o dan, mewn cysylltiad â, neu'n groes i unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan Reoliadau 2004 cyn y dyddiad perthnasol, fel pe na bai'r dirymiad yn rheoliad 48 wedi ei wneud.

Huw Lewis

Y Dirprwy Weinidog dros Blant, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

20 Hydref 2010

Rheoliadau 3, 6, 8, 20 a 28

ATODLEN 1Y GOFYNION RHAGNODEDIG AR GYFER COFRESTRU O DAN RAN 2 O'R MESUR

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—

(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a

(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.

RHAN 1Y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: gwarchod plant

Gofynion mewn perthynas â'r ceisydd

2.  Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

3.  Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.

4.  Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

5.  Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

6.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru—

(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach; a

(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.

7.  Pan fo'n briodol(23), bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: staff

8.  Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

9.  Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 8 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

10.  Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

11.  Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 8.

12.  Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arall

13.—(1Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 8) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)yn byw yn y fangre berthnasol,

(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu

(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol, ac yn dod,

neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

(3Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).

(4Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

RHAN 2Y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: darparwyr gofal dydd

Gofynion mewn perthynas â'r ceisydd: unigolyn

14.  Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 15 i 20 yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.

15.  Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

16.  Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.

17.  Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

18.  Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

19.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru —

(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach; a

(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.

20.  Pan fo'n briodol, bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.

Gofynion mewn perthynas â'r unigolyn cyfrifol pan fo'r ceisydd yn sefydliad

21.  Pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac wedi penodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol–

(a)bod yr unigolyn cyfrifol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; neu

(b)pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant o dan wyth mlwydd oed.

22.  Bod gan yr unigolyn cyfrifol y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer y rôl y mae'n ei chyflawni mewn perthynas â gofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

23.  Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ymgymryd â'i rôl mewn perthynas â gofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

24.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru —

(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â'r unigolyn cyfrifol; a

(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.

25.  Pan fo'n briodol, bod yr unigolyn cyfrifol wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA yr unigolyn cyfrifol i Weinidogion Cymru.

Gofynion mewn perthynas â'r person â chyfrifoldeb

26.  Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 27 i 31 yn gymwys pan fo'r ceisydd wedi penodi neu'n bwriadu penodi person i ymgymryd â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am ddarparu gofal dydd yn y fangre (“y person â chyfrifoldeb”).

27.  Bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

28.  Bod gan y person â chyfrifoldeb y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

29.  Bod y person â chyfrifoldeb yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

30.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru —

(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â'r person â chyfrifoldeb; a

(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.

31.  Pan fo'n briodol, bod y person â chyfrifoldeb wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA person â chyfrifoldeb i Weinidogion Cymru.

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: staff

32.  Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraffau 21 neu 26) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

33.  Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 32 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

34.  Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

35.  Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 32.

36.  Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arall

37.—(1Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 21, 26 neu 32) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac —

(a)yn byw yn y fangre berthnasol,

(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu

(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol, ac

yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

(3Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).

(4Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Rheoliadau 4, 6, 8, 20 a 28

ATODLEN 2GWYBODAETH A DOGFENNAU SY'N OFYNNOL AR GYFER COFRESTRU O DAN RAN 2 O'R MESUR

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—

(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a

(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.

RHAN 1Gwybodaeth a dogfennau sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru: gwarchodwr plant

Gwybodaeth am y ceisydd

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unigolyn sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant.

(2Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

(4Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol.

(5Enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—

(a)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd;

(b)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; ac

(c)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.

(6Manylion unrhyw fusnes a gynhelir, neu a gynhaliwyd, gan y ceisydd.

Gwybodaeth am y gofal a ddarperir

3.  Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”), ynghyd â disgrifiad o'r fangre a'r cyfleusterau a ddarperir, neu sydd i'w darparu, ar gyfer plant perthnasol.

4.  Y datganid o ddiben.

5.  Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel gwarchodwr plant.

6.  Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.

7.  Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion—

(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a

(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.

8.  Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.

9.  Nifer y plant y gofelir amdanynt, a'u hoedrannau.

Gwybodaeth am bersonau eraill: staff

10.  Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant neu blentyn perthnasol—

(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;

(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.

11.  Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant perthnasol—

(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;

(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno;

(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;

(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;

(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;

(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);

(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—

(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,

(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath, a

(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant o dan wyth mlwydd oed a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;

(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;

(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;

(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;

(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;

(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—

(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,

(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person, a

(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn ymwneud â phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben

Gwybodaeth ynghylch personau eraill: pob person arall

12.—(1Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 10 ac 11) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

13.  Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a, dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol, ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.

14.  Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac sydd rywfodd arall yn bresennol yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol.

Y dogfennau sydd i'w cyflenwi

15.  Tystysgrif geni'r ceisydd.

16.  Prawf o hunaniaeth y ceisydd, gan gynnwys ffotograff diweddar.

17.  Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed.

18.  Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r gwarchod plant arfaethedig.

19.—(1Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—

(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant a warchodir, bod–

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(ii)pan fo'n briodol(24), cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a

(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau–—

(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14, bod—

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a

(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

(3Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.

20.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

(2Os nad oes modd i'r ceisydd gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), datganiad gan y ceisydd ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.

RHAN 2Gwybodaeth a dogfennau sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru: darparydd gofal dydd

Dehongli

21.  Yn Rhan hon—

  • ystyr “perthynas” (“relative”) mewn perthynas ag unrhyw berson yw—

    (a)

    priod neu bartner sifil y person hwnnw;

    (b)

    unrhyw riant, taid, nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person neu briod neu bartner sifil y person;

    (c)

    priod neu bartner sifil unrhyw berthynas y cyfeirir ato yn is-baragraff (b),

    (ch)

    ac at y diben o benderfynu ynghylch unrhyw berthynas o'r fath, rhaid trin llysblentyn person fel plentyn y person, ac y mae cyfeiriadau at “briod” mewn perthynas ag unrhyw berson yn cynnwys cyn–briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel gŵr neu wraig, ac y mae cyfeiriadau at “bartner sifil” yn cynnwys cyn-bartner sifil.

Gwybodaeth am y ceisydd: unigolyn

22.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.

(2Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

(4Manylion unrhyw fusnes a gynhelir neu a gynhaliwyd gan y ceisydd.

(5Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—

(i)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd,

(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; a

(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.

Gwybodaeth am y ceisydd: sefydliad

23.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad.

(2Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y ceisydd.

(3Yn achos ceisydd sefydliadol sy'n gwmni, ei swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni, ei rif cofrestru ac, yn achos ceisydd sefydliadol sy'n elusen gofrestredig, ei rif elusen gofrestredig.

(4Os yw'r sefydliad yn is-gwmni cwmni daliannol, enw a chyfeiriad y cwmni daliannol, ei swyddfa gofrestredig neu'i brif swyddfa ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.

(5Yn yr Atodlen hon rhaid dehongli'r geiriau “cwmni daliannol” (“holding company”) ac “is–gwmni” (“subsidiary”) yn unol â'r dehongliad o “subsidiary” a “holding company” yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(25).

Gwybodaeth am yr unigolyn cyfrifol pan fo'r ceisydd yn sefydliad

24.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac, fel y cyfryw, wedi penodi unigolyn cyfrifol.

(2Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) yr unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol yr unigolyn gyfrifol a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i—

(a)darparu gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed,

(b)pan fo paragraff 25 yn gymwys, goruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed.

(4Ac eithrio pan fo paragraff 25 yn gymwys, manylion am hanes cyflogaeth yr unigolyn cyfrifol–

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —

(i)nad ydynt yn berthnasau i'r unigolyn cyfrifol,

(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd yr unigolyn cyfrifol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; ac

(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf yr unigolyn cyfrifol.

Gwybodaeth am y person â chyfrifoldeb

25.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi.

(2Enw llawn (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol) y person â chyfrifoldeb, ac os nad y person hwnnw hefyd yw'r ceisydd neu'r unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person â chyfrifoldeb a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ddarparu gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed.

(4Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —

(i)nad ydynt yn berthnasau i'r person,

(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y person i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; ac

(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y person.

Gwybodaeth am y gofal a ddarperir

26.  Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”) ynghyd â disgrifiad o'r cyfleusterau a ddarperir neu sydd i'w darparu i blant y gofelir amdanynt, gan gynnwys datganiad pa un a yw'r fangre wedi ei hadeiladu'n bwrpasol neu wedi ei throsi i'w defnyddio fel mangre lle y gofelir am blant.

27.  Y datganiad o ddiben.

28.  Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel darparydd gofal dydd i blant.

29.  Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.

30.  Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion —

(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a

(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.

31.  Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.

32.  Nifer y plant y bwriedir darparu gofal iddynt, a'u hoedrannau.

Gwybodaeth am bersonau eraill: staff

33.  Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—

(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;

(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.

34.  Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—

(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;

(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno gyda'r ceisydd;

(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;

(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;

(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;

(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);

(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—

(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,

(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath,

(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant o dan wyth mlwydd oed a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;

(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;

(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;

(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;

(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;

(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—

(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,

(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person;

(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben.

Gwybodaeth ynghylch personau eraill: pob person arall

35.  Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 24, 25 a 33) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.

36.  At ddibenion paragraff 35 mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

37.  Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), a dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.

Y dogfennau sydd i'w cyflenwi

38.  Tystysgrif geni'r ceisydd, a phan fo'n berthnasol tystysgrifau geni'r unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb.

39.  Prawf o hunaniaeth y ceisydd, a phan fo'n briodol, o hunaniaeth yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb gan gynnwys ffotograffau diweddar.

40.  Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed.

41.  Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth arfaethedig o ofal dydd.

42.—(1Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—

(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant y darperir gofal dydd iddynt, bod–

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(ii)cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a

(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—

(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37, bod—

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a

(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

(3Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.

43.  Os yw'r ceisydd yn sefydliad, copïau o'r ddau adroddiad blynyddol diwethaf yr oedd yn ofynnol eu paratoi.

44.  Pan fo'r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, y ddau adroddiad blynyddol diwethaf (os oes rhai) ar gyfer y cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.

45.  Cyfrifon blynyddol diwethaf y sefydliad, os oes rhai.

46.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.

(2Os nad oes modd i berson a grybwyllir yn is-baragraff (1) gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw, datganiad gan y person hwnnw ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.

Rheoliad 30

ATODLEN 3Y COFNODION SYDD I'W CYNNAL

1.  Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y person cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a phob person arall sy'n byw, yn gweithio neu a gyflogir yn y fangre berthnasol .

2.  Enw, cyfeiriad cartref a rhif teleffon unrhyw berson arall a ddaw i gysylltiad â'r plant perthnasol yn rheolaidd heb oruchwyliaeth.

3.  Enw, cyfeiriad cartref, dyddiad geni a rhyw pob plentyn perthnasol.

4.  Mewn perthynas â phob plentyn perthnasol, enw, cyfeiriad a rhif teleffon rhiant.

5.  Mewn perthynas â phob plentyn perthnasol, enw a chyfeiriad yr ymarferydd meddygol cofrestredig y cofrestrwyd y plentyn gydag ef.

6.  Cofnod dyddiol o enwau'r plant perthnasol, oriau eu presenoldeb ac enwau'r personau a fu'n gofalu amdanynt.

7.  Cofnod o ddamweiniau, salwch difrifol a digwyddiadau arwyddocaol eraill a ddigwyddodd yn fangre berthnasol ac a effeithiodd ar les plant perthnasol.

8.  Cofnod o unrhyw gynnyrch meddyginiaethol a gafodd ei weini i blentyn perthnasol ar y fangre berthnasol, gan gynnwys y dyddiad a'r amgylchiadau a chan bwy y cafodd y feddyginiaeth ei gweini, a chan gynnwys unrhyw gynhyrchion meddyginiaethol y caniateir i'r plentyn eu gweini ei hunan, ynghyd â chofnod o ganiatâd y rhiant.

9.  Unrhyw anghenion dietegol arbennig, neu anghenion iechyd arbennig neu alergedd unrhyw blentyn perthnasol.

10.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân neu ddamwain.

11.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os oes gan riant gwyn ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir gan y person cofrestredig.

12.  Datganiad o'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer amddiffyn plant perthnasol, gan gynnwys trefniadau i'w diogelu rhag eu cam-drin neu'u hesgeuluso a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn os gwneir honiadau o gam-drin neu esgeuluso.

13.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd i blentyn perthnasol fynd ar goll neu beidio â chael ei gasglu.

14.  Enw, cyfeiriad cartref a rhif teleffon pob aelod cyfredol o'r pwyllgor neu gorff llywodraethu ceisydd sy'n gymdeithas anghorfforedig.

Rheoliad 31

ATODLEN 4DIGWYDDIADAU Y MAE'N OFYNNOL HYSBYSU GWEINIDOGION CYMRU YN EU CYLCH

1.—(1Yn achos gwarchod plant, newid yn y personau canlynol—

(a)unrhyw berson sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, neu

(b)unrhyw berson sy'n byw neu a gyflogir yn y fangre honno.

(2Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.

2.—(1Yn achos gofal dydd, newid yn y personau canlynol—

(a)unrhyw berson â chyfrifoldeb,

(b)unrhyw un sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol,

(c)unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre honno (ar yr amod nad yw personau i'w trin fel pe baent yn gweithio yn y fangre at ddibenion y paragraff hwn os na wnânt ddim o'u gwaith yn y rhan o'r fangre lle y gofelir am blant, neu os nad ydynt yn gweithio yn y fangre ar yr adeg y gofelir am blant yno), ac

(ch)pan ddarperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd neu'r Trysorydd (neu berson sy'n dal swydd gymaradwy yn y sefydliad).

(2Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.

3.  Unrhyw newid—

(a)yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu'r personau hynny a ddisgrifir ym mharagraff 1(1) neu baragraff 2(1)(a) i (c); neu

(b)yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, pan fo'r person cofrestredig yn sefydliad.

4.  Unrhyw newid yn y math o ofal a ddarperir gan y person cofrestredig.

5.  Yn achos gofal dydd, unrhyw newid yn y cyfleusterau sydd i'w defnyddio ar gyfer gofal dydd yn y fangre berthnasol, gan gynnwys newidiadau yn nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân ar gyfer gweithwyr sy'n oedolion a mynediad i'r fangre ar gyfer ceir.

6.  Unrhyw newid yn yr oriau pan ddarperir gofal dydd neu pan warchodir plant.

7.  Unrhyw achos yn y fangre berthnasol o glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gweld plentyn neu berson arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i adrodd amdano felly, neu anaf difrifol, neu salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre.

8.  Unrhyw honiadau o niwed difrifol a wnaed i blentyn, gan unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu gan unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio, neu a gyflogir, yn y fangre, neu unrhyw gamdriniaeth yr honnir iddi ddigwydd yn y fangre.

9.  Unrhyw ddigwyddiad arall a allai effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio neu a gyflogir yn y fangre, i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.

10.  Unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre.

Rheoliad 47

ATODLEN 5DIWYGIO RHEOLIADAU 2002

1.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau 2002–

(a)hepgorer y diffiniad o “the 1989 Act”;

(b)yn y diffiniad o “appropriate office of the National Assembly” hepgorer paragraff (d);

(c)yn y diffiniad o “organisation” hepgorer y geiriau “and” ymlaen i'r diwedd;

(ch)hepgorer y diffiniad o “the Part XA Regulations”;

(d)hepgorer y diffiniad o “person in charge”;

(dd)yn y diffiniad o “registration” hepgorer y geiriau “or Part XA” ymlaen i'r diwedd;

(e)yn y diffiniad o “statement of purpose” hepgorer paragraff (d).

Rheoliad 48

ATODLEN 6DIRYMIADAU

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Offeryn a ddirymwydCyfeirnodMaint y dirymiad
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002OS 2002/812 (Cy.92)Y cyfan o'r Rheoliadau
Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002OS 2002/919 (Cy. 107)Rheoliadau 16, 17 ac 18 ac Atodlenni 7 ac 8.
Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002OS 2002/2622 (Cy.254)Rheoliad 6
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003OS 2003/2708 (Cy.259)Y cyfan o'r Rheoliadau
Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004OS 2004/3282 ( Cy.285)Y cyfan o'r Rheoliadau (gydag arbedion)
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004OS 2004/2414 (Cy.222)Rheoliad 7
Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005OS 2005/118 (Cy.10)Y cyfan o'r Rheoliadau
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006OS 2006/3251 (Cy.295)Rheoliad 4
Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) (Diwygio) 2008OS 2008/2689 (Cy.238)Y cyfan o'r Rheoliadau
Rheoliadau Deddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2009OS 2009/2541 (Cy.205)Rheoliad 2
Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2009OS 2009/3265 (Cy.286)Rheoliad 2

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gydag addasiadau y Rheoliadau canlynol—

  • Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002, i'r graddau y maent yn ymwneud â gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd i blant (“Rheoliadau 2002”);

  • Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002; a

  • Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”),

sydd i gyd wedi eu gwneud o dan bwerau yn Rhan XA o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989 Act”). Diddymir y pwerau yn Rhan XA o Ddeddf 1989 mewn Gorchymyn ar wahân, sydd hefyd yn gwneud arbedion a darpariaeth drosiannol.

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”); mae'r pwerau yn Rhan 2 o'r Mesur yn cydweddu'n fras â'r pwerau yn Rhan XA o Ddeddf 1989. Yn Rhan 2 o'r Mesur darperir ar gyfer cofrestru ac arolygu gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd yng Nghymru gan Weinidogion Cymru, a chynhwysir pwerau hefyd i wneud rheoliadau i lywodraethu gweithgareddau personau o'r fath. Mae adran 30 o'r Mesur yn cynnwys pŵer newydd sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a fydd yn galluogi parhau i ddarparu gofal dydd mewn amgylchiadau rhagnodedig ar ôl marwolaeth y person cofrestredig.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant neu'n darparu gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed (“darparwyr gofal dydd”) mewn mangreoedd yng Nghymru.

Yn rheoliad 3 ac Atodlen 1 pennir y gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i gais am gofrestriad gael ei ganiatáu gan Weinidogion Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaeth ynghylch addasrwydd y darparydd a phersonau eraill a fydd yn gofalu am blant perthnasol, neu mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd. Yn rheoliad 4 ac Atodlen 2, rhagnodir yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys ynghyd â chais am gofrestriad. Mae'r gofynion ar gyfer gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd yn wahanol.

Ar hyn o bryd, mae Rheoliadau 2002 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chofrestru gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd; ac y maent hefyd yn darparu ar gyfer cofrestru ac arolygu amrediad eang o sefydliadau ac asiantaethau sy'n ymwneud â darparu gofal mewn amrywiaeth o leoliadau. Diwygir y Rheoliadau hynny gan Ran 7 ac Atodlenni 5 a 6, i adlewyrchu'r ffaith bod y ddarpariaeth ar gyfer cofrestru gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd wedi ei chynnwys bellach yn y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 3 (rheoliadau 6 i 11) yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd personau i weithredu fel gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd, ac yn gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth ar gael ynglŷn â'r materion a bennir yn Atodlen 1. Os yw darparydd gofal dydd yn sefydliad rhaid iddo enwebu unigolyn cyfrifol, y bydd yr wybodaeth ragnodedig ar gael mewn perthynas ag ef. Mae rheoliad 9 yn gosod gofynion cyffredinol ynglŷn â darparu gofal gan bersonau cofrestredig ac ynglŷn â hyfforddiant. Mae rheoliad 10 yn cynnwys gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru ynghylch collfarnu person am dramgwyddau troseddol a'i gyhuddo o rai tramgwyddau penodedig. Mae rheoliad 11 yn rhagnodi amgylchiadau pan ganiateir i gynrychiolwyr personol barhau i ddarparu gofal dydd yn dilyn marwolaeth y person cofrestredig.

Mae Rhan 4 (rheoliadau 12 i 19) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gofynion cyffredinol sy'n gymwys i bersonau a gofrestrir o dan Ran 2 o'r Mesur, ac ar gyfer gorfodi. Yn benodol, mae rheoliadau 12 ac 14 yn gwneud yn ofynnol bod personau cofrestredig yn cydymffurfio â gofynion Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn ac yn rhoi sylw i safonau gofynnol cenedlaethol, ac yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur ac mewn achosion cyfreithiol o dan y Rhan honno, gymryd i ystyriaeth, yn eu trefn, bod person cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â Rhan 5 neu wedi peidio â rhoi sylw i'r safonau perthnasol. Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer llunio, gan bersonau cofrestredig, datganiad o ddiben a fydd yn cynnwys nodau ac amcanion a materion perthnasol eraill ynglŷn â'r gwasanaeth sydd i'w ddarparu i blant o dan ofal y person cofrestredig. Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer tramgwyddau am fynd yn groes i, neu beidio â chydymffurfio â Rhan 5.

Mae Rhan 5 (rheoliadau 20 i 38) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gweithgareddau personau a gofrestrir o dan Ran 2 o'r Mesur. Mae rheoliadau 20 i 26 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â lles a datblygiad plant perthnasol sydd o dan ofal personau cofrestredig ac, yn benodol, ynglŷn â hyrwyddo lles plant o'r fath, darparu bwyd a darparu a gweithredu polisïau ar amddiffyn plant a rheoli ymddygiad.

Mae rheoliadau 27 i 29 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â niferoedd, cymwysterau, profiad ac addasrwydd y rhai sy'n gweithio i bersonau cofrestredig, gan gynnwys darpariaeth ynglŷn â'r wybodaeth sy'n ofynnol ynglŷn â gweithwyr, cyn y cânt weithio i warchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd.

Mae rheoliadau 30 a 31 yn darparu ar gyfer cadw cofnodion a darparu gwybodaeth, i rieni plant perthnasol y gofelir amdanynt gan warchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd, ac i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliadau 32 i 36 yn gwneud darpariaeth ar gyfer paratoi a dilyn gweithdrefn gwynion gan bersonau cofrestredig.

Mae rheoliadau 37 a 38 yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd mangreoedd lle y darperir gofal, y cyfarpar a'r cyfleusterau a ddarperir ar y mangreoedd hynny ac ynglŷn â rhagofalon tân.

Yn Rhan 6, pennir o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru atal cofrestriad person dros dro, a darperir ar gyfer hawl apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf (a sefydlir yn unol â Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007).

Mae'r Rhan hon hefyd yn darparu ar gyfer gwneud cais gan berson cofrestredig am atal ei gofrestriad dros dro yn wirfoddol, drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru; nid oes hawl apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod gweithredu ar ôl cael hysbysiad o ataliad gwirfoddol dros dro.

Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer diwygio, dirymu ac gwneud arbedion. Mae rheoliad 47 ac Atodlen 5 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 2002. Mae rheoliad 48 ac Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth sy'n dirymu rheoliadau penodedig ac y mae rheoliad 49 yn darparu ar gyfer arbedion.

(1)

2010 mccc 1 (“y Mesur”). Gweler adran 71 o'r Mesur am y diffiniadau o “rhagnodi” a “rheoliadau”.

(2)

Yr Awdurdod Diogelu Annibynnol yw enw gweithredol y Bwrdd Gwahardd Annibynnol, sef corff cyhoeddus anadrannol a sefydlwyd yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (2006 p.47).

(3)

Mae adran 19(4) o'r Mesur yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i ddarparu drwy orchymyn yr amgylchiadau pan nad yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant at ddibenion Rhan 2 o'r Mesur. Gweler Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

(4)

O.S. 2002/919 (Cy.107); gwnaed diwygiad perthnasol gan OS 2009/3265 (Cy.286).

(6)

Mae copïau o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(10)

1989 p.41.

(11)

Mae adran 19(4) o'r Mesur yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i ddarparu drwy orchymyn yr amgylchiadau pan nad yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant at ddibenion Rhan 2 o'r Mesur. Gweler Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

(12)

2000 p.43.

(13)

Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.

(14)

2006 p.42.

(15)

1968 p.67.

(16)

1974 p.53.

(18)

Rhaid dehongli'r termau “lleol” a “datrys yn lleol” yn unol â'r egwyddorion a bennir yn Gwrando a Dysgu: canllawiau ar ddelio â chwynion a sylwadau yng ngwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru (ISBN 0 - 11- 091240 - 3) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005.

(19)

Rhaid dehongli “ystyriaeth ffurfiol” yn unol â'r egwyddorion a bennir yn Gwrando a Dysgu: canllawiau ar ddelio â chwynion a sylwadau yng ngwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru (ISBN 0 - 11- 091240 - 3) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005.

(20)

2000 p.14.

(22)

2004 p.21.

(23)

Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.

(24)

Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.

(25)

2006 p.46.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill