Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Blaenau Gwent (Cymunedau) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1503 (Cy.137)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Blaenau Gwent (Cymunedau) 2010

Gwnaed

21 Mai 2010

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) i (4)

Cyflwynwyd adroddiad i Weinidogion Cymru, dyddiedig Medi 2009, gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), ar adolygiad y Comisiwn o ffiniau cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a'i argymhellion ar gyfer y cymunedau hynny.

Penderfynodd Gweinidogion Cymru roi effaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.

Aeth mwy na chwe wythnos heibio er pan gyflwynwyd y cynigion hynny i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2):

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Blaenau Gwent (Cymunedau) 2010.

(2At unrhyw ddiben a bennir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn yn weithredol ar 1 Mehefin 2010.

(3At ddibenion cyfrifo unrhyw dreth gyngor sy'n daladwy mewn perthynas ag annedd mewn ardal a drosglwyddir o dan y Gorchymyn hwn o un gymuned i gymuned arall, rhaid ystyried bod y trosglwyddiad yn digwydd ar 1 Ebrill 2011.

(4At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2010, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyron “Map A” (“Map A”), “Map B” (“Map B”), “Map C” (“Map C”), “Map D” (“Map D”), “Map E” (“Map E”), “Map F” (“Map F”), “Map G” (“Map G”), “Map H” (“Map H”), “Map I” (“Map I”), “Map J” (“Map J”), “Map K” (“Map K”) a “Map L” (“Map L”) yw'r mapiau a farciwyd, yn eu trefn, fel mapiau A, B, C, D, E, F, G, H, I, J, K ac L o Orchymyn Blaenau Gwent (Cymunedau) 2010, ac a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu etholiadol, yw'r ardal honno fel y'i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “presennol” (“existing”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu etholiadol, yw'r ardal honno fel y mae'n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3);

  • mae unrhyw gyfeiriad at gymuned neu adran etholiadol yn gyfeiriad, yn eu trefn, at gymuned neu adran etholiadol o Fwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; ac

  • os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵ r neu nodwedd ddaearyddol debyg, rhaid ei thrin fel pe bai'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

Abertyleri a Nant-y-glo a'r Blaenau – newid yn yr ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol yn yr adran etholiadol

3.  Mae'r rhan o gymuned Nant-y-glo a'r Blaenau a ddangosir â llinellau ar Fap A—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Abertyleri;

(b)yn ffurfio rhan o ward Cwmtyleri o gymuned Abertyleri; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cwmtyleri.

Diddymu cymuned Beaufort a chreu cymunedau newydd – Badminton, Beaufort a Rasa

4.—(1Diddymir cymuned bresennol Beaufort.

(2Crëir tair cymuned newydd, a enwir Badminton, Beaufort a Rasa.

(3Mae'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap B—

(a)yn cael ei drosglwyddo i gymuned newydd Beaufort; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Beaufort.

(4Mae'r rhan o adran etholiadol Beaufort a ddangosir â llinellau ar Fap C yn ffurfio rhan o adran etholiadol Badminton.

(5Mae'r rhan o adran etholiadol Badminton a ddangosir â llinellau croes ar Fap C yn ffurfio rhan o adran etholiadol Beaufort.

(6Mae'r rhan o adran etholiadol Badminton a ddangosir â llinellau ar Fap D yn ffurfio rhan o adran etholiadol Rasa.

(7Ffurfir cymuned newydd Beaufort, ac adran etholiadol Beaufort fel y'i newidir gan baragraffau (3), (4) a (5), o'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap E.

(8Ffurfir cymuned newydd Badminton, ac adran etholiadol Badminton fel y'i newidir gan baragraffau (4), (5) a (6), o'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap F.

(9Ffurfir cymuned newydd Rasa, ac adran etholiadol Rasa fel y'i newidir gan baragraff (6), o'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap G.

Bryn-mawr a Nant-y-glo a'r Blaenau – newid yn ffiniau cymunedau a newidiadau canlyniadol mewn adrannau etholiadol

5.—(1Mae'r rhan o gymuned Bryn-mawr a ddangosir â llinellau ar Fap H—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Nant-y-glo a'r Blaenau;

(b)yn ffurfio rhan o ward Nant-y-glo o gymuned Nant-y-glo a'r Blaenau; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Nant-y-glo.

(2Mae'r rhan o gymuned Nant-y-glo a'r Blaenau a ddangosir â llinellau croes ar Fap H—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Bryn-mawr;

(b)yn ffurfio rhan o ward De Bryn-mawr o gymuned Bryn-mawr; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Bryn-mawr.

Diddymu cymuned Glynebwy a chreu cymunedau newydd – Gogledd Glynebwy a De Glynebwy

6.—(1Diddymir cymuned bresennol Glynebwy.

(2Crëir dwy gymuned newydd, a enwir Gogledd Glynebwy a De Glynebwy.

(3Mae'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap I—

(a)yn cael ei drosglwyddo i gymuned Cwm; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cwm.

(4Mae'r rhan o adran etholiadol Gogledd Glynebwy a ddangosir â llinellau ar Fap J yn ffurfio rhan o adran etholiadol De Glynebwy.

(5Mae'r rhan o adran etholiadol De Glynebwy a ddangosir â llinellau croes ar Fap J yn ffurfio rhan o adran etholiadol Gogledd Glynebwy.

(6Ffurfir cymuned newydd Gogledd Glynebwy, ac adran etholiadol Gogledd Glynebwy fel y'i newidir gan baragraffau (4) a (5) o'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap K.

(7Ffurfir cymuned newydd De Glynebwy, ac adran etholiadol De Glynebwy fel y'i newidir gan baragraffau (3), (4) a (5), o'r darn a ddangosir â llinellau ar Fap L.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

21 Mai 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i argymhellion gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”), a gyflwynodd ei adroddiad ym Medi 2009 ar ei adolygiad o ffiniau'r cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Yr oedd adroddiad y Comisiwn yn argymell newid ffiniau presennol cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiad.

Effaith y Gorchymyn hwn yw gwneud newidiadau mewn nifer o ardaloedd cymunedol a rhai newidiadau canlyniadol mewn trefniadau etholiadol. Trosglwyddir rhan o gymuned Nant-y-glo a'r Blaenau i gymuned Abertyleri. Gwneir newidiadau i'r ffin rhwng cymunedau Bryn-mawr a Nant-y-glo a'r Blaenau. Diddymir cymuned bresennol Beaufort a rhennir yr ardal honno'n dair cymuned newydd, sef Badminton, Beaufort a Rasa. Mae'r ardaloedd hyn yn ffurfio adrannau etholiadol newydd Badminton, Beaufort a Rasa. Diddymir cymuned bresennol Glynebwy, a rhennir yr ardal honno'n ddwy gymuned newydd, sef Gogledd Glynebwy a De Glynebwy, sy'n ffurfio adrannau etholiadol newydd Gogledd Glynebwy a De Glynebwy.

Mae printiau o'r mapiau sy'n dangos y ffiniau wedi eu hadneuo yn y mannau canlynol, a gellir eu harchwilio yno yn ystod yr oriau swyddfa arferol: swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy NP23 6XB a swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, yn yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol.

Mae'r Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (O.S. Rhif 1976/246), y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynglŷn ag effaith a gweithredu gorchmynion megis hwn.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac y maent bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol, ond nad yw'r diwygiadau hynny'n berthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill