Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 2544 (Cy.206)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009

Gwnaed

17 Medi 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Medi 2009

Yn dod i rym

12 Hydref 2009

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 342(2), (4) a (5) ac adran 569 o Ddeddf Addysg 1996(1), a chan adran 21(5) a (6), adran 138(7) ac (8), adran 72 ac adran 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 12(3), adran 19(3), adran 34(5), adran 35(4) a (5), adran 36(4) a (5), adran 136(c), adran 157(1), adran 168(1) a (2), adran 210(7) ac adran 214(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002(3), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994(4) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

(ba)a direction under section 142(8) of the Education Act 2002(5);; a

(b)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) The Welsh Ministers may withdraw their approval for a school on the ground that, in the case of that school, it has employed a person who is barred from regulated activity relating to children in accordance with section 3(2) of the Safeguarding Vulnerable Groups Act 2006(6)..

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001

3.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001(7) fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 5 o Atodlen 2—

(a)yn is-baragraff (1), ar ôl “cyfyngir ar eu cyflogi”, mewnosoder “, neu pan yw'n destun cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(8), neu wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(9).”.

Diwygio Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003

4.—(1Diwygir Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003(10) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol briodol”—

(a)ar ôl “adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”;

(b)ar ôl “adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”; ac

(c)hepgorer y geiriau “ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno;”.

(3Yn yr Atodlen, yn is-baragraff (d) o baragraff 4, yn lle'r geiriau “yn gwneud gwaith” rhodder “wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(11) neu'n gwneud gwaith,”.

Diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003

5.—(1Diwygir Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003(12) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol briodol”—

(a)ar ôl “adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”;

(b)ar ôl “adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”; ac

(c)hepgorer y geiriau “ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno;”.

(3Yn lle paragraff (2) o reoliad 2, rhodder—

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau at berson a gyflogir mewn ysgol yn gyfeiriad at berson—

(a)sy'n darparu addysg—

(i)mewn ysgol;

(ii)mewn sefydliad addysg bellach;

(iii)o dan gontract cyflogaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau pan fo'r parti arall yn y contract yn awdurdod addysg lleol neu'n berson sy'n arfer swyddogaeth ynglŷn â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol;

(b)sy'n cymryd rhan mewn rheoli ysgol annibynnol; neu

(c)sy'n ymgymryd â gwaith—

(i)sy'n dod â'r person hwnnw i gysylltiad yn rheolaidd â phlant, a

(ii)a gyflawnir ar gais neu gyda chydsyniad cyflogwr perthnasol (pa un ai dan gontract ai peidio).

(3) At ddibenion paragraff (2), ystyr “cyflogwr perthnasol” (“relevant employer”) yw—

(a)awdurdod addysg lleol;

(b)person sy'n arfer swyddogaeth ynglŷn â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol;

(c)perchennog ysgol; neu

(ch)corff llywodraethu sefydliad addysg bellach..

Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

6.  Yn Atodlen 5 i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(13)

(a)ar ôl is-baragraff (b) o baragraff 9, mewnosoder—

(ba)wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (14);

(bb)yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002(15);; a

(b)ym mharagraff 12, yn lle “113” rhodder “113B”.

Diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006

7.—(1Diwygir Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(16) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer y diffiniad o “datganiad o addasrwydd plant”; a

(ii)yn y man priodol, mewnosoder—

  • mae i “tystysgrif cofnod troseddol fanwl” yr ystyr a roddir i “enhanced criminal record certificate” yn adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997, sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno;; a

(b)yn is-baragraff (c) o baragraff (3), yn lle “heb fod yn”, rhodder “heb ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(17) neu os nad yw'n”.

(3Ym mharagraff (2) o reoliad 9A a pharagraff (2) o reoliad 20A, hepgorer “, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath”.

(4Yn rheoliad 15A—

(a)yn is-baragraff (a)(ii) o baragraff (1), hepgorer “ynghyd â datganiad o addasrwydd plant”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “llai” rhodder “mwy”; ac

(c)ym mharagraff (6) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)gwiriad i ganfod a yw person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;.

(5Yn rheoliadau 18A a 26A, hepgorer “, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath”.

(6Yn rheoliad 24A—

(a)yn is-baragraff (a)(ii) o baragraff (1), hepgorer “ynghyd â datganiad o addasrwydd plant”; a

(b)ym mharagraff (2), yn lle “llai” rhodder “mwy”.

Diwygio Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007

8.—(1Diwygir Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007(18) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer y diffiniad o “datganiad addasrwydd plant”, a

(ii)yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol fanwl”, ar ôl “1997”, mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2)(19) o'r Ddeddf honno”, a

(iii)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Er mwyn gwneud gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol, rhaid i berson wneud cais am, a chael, tystysgrif cofnod troseddol fanwl..

(3Ym mharagraff (ch) o reoliad 5, ar ôl “gwirio a”, mewnosoder “yw wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(20) neu'n”.

(4Yn rheoliad 13, hepgorer “bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a”.

(5Yn is-baragraff (ii) o baragraff (b) o reoliad 17, hepgorer “bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a”.

(6Ym mharagraff (ch) o reoliad 18, ar ôl “gwiriad i gadarnhau a”, mewnosoder “yw wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”.

(7Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 3 o Ran 1, yn lle “a yw'r person yn”, rhodder “a yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”, a

(b)ym mharagraff 2 o Ran 2—

(i)yn is-baragraff (b), yn lle “a yw'r person yn”, rhodder “a yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”, a

(ii)yn is-baragraff (dd)(ii), yn lle “wedi'i gwneud a bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno” rhodder “wedi ei wneud”.

Jane Hutt

Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

17 Medi 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i wahanol setiau o reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Addysg 1996 (p.56), Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.38), a Deddf Addysg 2002 (p.32) i adlewyrchu newidiadau a fydd yn digwydd o ganlyniad i gychwyn (ar 12 Hydref 2009) y darpariaethau gwahardd yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) (“y DDGH”) a chychwyn darpariaethau newydd (a fewnosodwyd gan y DDGH) yn Neddf yr Heddlu 1997 (p.50).

Hyd at 12 Hydref 2009, bydd gwybodaeth pa un a waharddwyd person ai peidio rhag gweithio gyda phlant ar gael gyda thystysgrif cofnod troseddol, safonol neu fanylach. Nid yw'r wybodaeth wahardd a gynhwysir mewn tystysgrif cofnod troseddol ar hyn o bryd yn nodi a yw person wedi ei gynnwys ai peidio ar y rhestr wahardd ar gyfer plant a sefydlwyd o dan adran 2 o'r DDGH. Sefydlir a chynhelir y rhestr wahardd ar gyfer plant gan yr Awdurdod Diogelu Annibynnol (“ADA”) (Independent Safeguarding Authority (“ISA”)); cyfeirir at yr ADA yn y DDGH fel yr “Independent Barring Board” (neu “IBB”) ond mae'n debygol y diwygir hynny mewn deddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol agos, ac y gosodir cyfeiriad at yr ADA yn ei le.

Mewn rhai o'r rheoliadau a ddiwygir, mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyfeiriad pa un a waharddwyd person rhag gweithio gyda phlant o dan y DDGH, at y cyfeiriadau gwahardd a oedd yn rhagflaenu'r DDGH. Yn ychwanegol, mae'r diwygiadau yn rheoliadau 2(2) a 3(2) yn ychwanegu cyfeiriad pa un a yw person yn destun cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002, at y cyfeiriadau gwahardd a oedd yn rhagflaenu'r DDGH, oherwydd gall personau fod yn destun cyfarwyddyd o'r fath pan nad oes penderfyniad wedi ei wneud i'w hychwanegu at y rhestr o bobl a waherddir rhag gweithio gyda phlant o dan y DDGH.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cysoni darpariaethau yn y rheoliadau a ddiwygir (ynglŷn â gwiriadau gwahardd) â darpariaethau newydd yn Neddf yr Heddlu 1997 (a fewnosodwyd gan y DDGH) a fydd yn gymwys o 12 Hydref 2009 ymlaen. Er enghraifft, gwneir diwygiadau i ddileu cyfeiriadau at “ddatganiad o addasrwydd plant” (“children’s suitability statement”) ac i ddiweddaru'r rheoliadau a ddiwygir pan fo angen gyda chyfeiriadau at “wybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant” (“suitability information relating to children”) o fewn ystyr adran 113BA(2) o Ddeddf yr Heddlu 1997.

O 12 Hydref 2009 ymlaen, bydd gwybodaeth pa un a waharddwyd person rhag gweithio gyda phlant yn cael ei darparu gyda thystysgrif cofnod troseddol fanylach yn yr achosion hynny, yn unig, a ragnodir o dan adran 113BA o Ddeddf yr Heddlu 1997. Mae diwygiadau i rai o'r rheoliadau wedi eu cynnwys i adlewyrchu hynny, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a gafwyd eisoes, i'r perwyl bod person wedi ei wahardd, yn parhau ar gael o 12 Hydref 2009 ymlaen.

O 12 Hydref 2009 ymlaen, bydd tystysgrif sy'n datgan bod rhywun wedi ei wahardd rhag gweithio gyda phlant yn golygu bod y person hwnnw naill ai ar un o'r rhestrau gwahardd cyfredol neu wedi ei wahardd rhag gweithio gyda phlant o dan y cynllun DDGH newydd. Bydd yn dal yn ofynnol gwirio gyferbyn â'r rhestrau cyfredol yn ogystal â'r rhestr wahardd newydd ar gyfer plant o dan y DDGH am gyfnod ar ôl 12 Hydref 2009, hyd nes bo'r ADA wedi penderfynu, ym mhob achos perthnasol, ynglŷn â throsglwyddo unigolyn i'r rhestr wahardd ar gyfer plant. Achosion perthnasol yw achosion lle mae unigolyn yn parhau ar un o'r rhestrau presennol, neu achosion y parheir i'w penderfynu (at ddibenion cyfyngedig) o dan yr hen drefn ar ôl 12 Hydref 2009.

(1)

1996 p.56. Amnewidiwyd adran 342 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140(1), Atodlen 30, paragraff 82.

(2)

1998 p.31. Diwygiwyd adran 72 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32) ond nid yw'r diwygiad yn berthnasol. Diwygiwyd adran 138 gan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), adran 175, Atodlen 17, paragraff 3(1) a (4); gwnaed diwygiadau eraill i adran 138 gan y Ddeddf honno, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Gwnaed diwygiadau hefyd i adran 138 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32) a chan Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ond nid yw'r diwygiadau yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

2002 p.32. Diwygiwyd adran 157 gan adran 47(1) a (2) o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21) a Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25), adran 169, Atodlen 1, Rhan 1, paragraffau 13 ac 16 ac Atodlen 2. Diwygir adran 210 gan adran 21(1), (3)(a) ac (c)(i) a (ii) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Gwneir diwygiadau pellach i adran 210, gan y Mesur hwnnw a chan Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21) ond nid oes yr un o'r diwygiadau hynny yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

O.S. 1994/652. Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu dirymu i'r graddau y maent yn gymwys i Loegr ond yn parhau mewn grym i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

(5)

2002 p.32; diddymir adran 142 gan adran 63(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) ac Atodlen 10 i'r Ddeddf honno a bwriedir i'r diddymiad ddod i rym ar 12 Hydref 2009.

(8)

2002 p.32; diddymir adran 142 gan adran 63(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) ac Atodlen 10 i'r Ddeddf honno a bwriedir i'r diddymiad ddod i rym ar 12 Hydref 2009.

(11)

2006 p.47. Mae O.S. 2009/1797 yn pennu, at ddibenion adran 3(2)(b), bod y rhestr a gynhelir o dan Erthygl 6(1)(a) o Orchymyn Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2007 (O.S. 2007/1351 (G.I. 11)) (h.y. y rhestr wahardd ar gyfer plant yng Ngogledd Iwerddon) yn rhestr sy'n cyfateb i'r rhestr wahardd ar gyfer plant a sefydlwyd ac a gynhelir o dan adran 2(1)(a) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

(12)

O.S 2003/3230 (Cy.310), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/947 (Cy.81).

(14)

2006 p.47.

(15)

Mewnosodwyd adran 167A gan adran 169 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), ond nid yw eto mewn grym. Bwriedir i adran 169 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ddod i rym ar 12 Hydref 2009.

(16)

O.S. 2006/873 (Cy.81), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/944 (Cy.80).

(17)

2006 p.47.

(19)

Mewnosodwyd adran 113BA gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47), adran 63(1), Atodlen 9, Rhan 2, paragraff 14(1) a (4) ac fe'i diwygiwyd gan adran 170(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) a Deddf Addysg a Sgiliau 2008, adran 169, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 12(a) a (b).

(20)

2006 p.47.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill