- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Mawrth 2007
Yn dod I rym
31 Mawrth 2007
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004(3) yn cael eu diwygio fel y gosodir yn y Rheoliadau hyn.
3. Yn rheoliad 2(1) (Dehongli)—
(a)yn lle'r diffiniad o “agri-environment commitment” rhodder—
““agri-environment commitment” means a commitment under—
a scheme established under Council Regulation (EC) No 2078/92 on agricultural production methods compatible with the requirements of the protection of the environment and the maintenance of the countryside(4), as last amended by Council Regulation (EC) No 2772/95(5);
a scheme established under Articles 22, 23, 24 or 31 of Council Regulation (EC) No 1257/1999 on support for rural development from the European Agricultural Guidance and Guarantee Fund (EAGGF)(6), as last amended by Council Regulation (EC) No 583/2004(7);
a management agreement entered into with the Countryside Council, pursuant to section 15 of the Countryside Act 1968(8);
a management agreement entered into with the Countryside Council, pursuant to section 16 of the National Parks and Access to the Countryside Act 1949(9);
an approved project in respect of which financial assistance is paid under the Energy Crops Regulations 2000(10); or
a measure listed in Article 36 of Council Regulation (EC) No 1698/2005”;
(b)yn y diffiniad o “authorised person”, ar ôl y geiriau “any person authorised by the National Assembly” mewnosoder “or the Secretary of State”;
(c)yn y diffiniad o “the Commission Regulation”, yn lle “Commission Regulation (EC) No 1187/2006” rhodder “Commission Regulation (EC) No 2025/2006(11)”.
(ch)yn y diffiniad o “the Council Regulation”, yn lle “Commission Regulation (EC) No 1156/2206” rhodder “Council Regulation (EC) No 2013/2006(12)”.
(d)ar ôl y diffiniad o “the Council Regulation”, mewnosoder—
“Council Regulation (EC) No 1698/2005” means Council Regulation (EC) No 1698/2005 on support for rural development by the European Agricultural Fund for Rural Development (EAFRD)(13).
4. Ar ôl rheoliad 2(1) (dehongli) mewnosoder—
“(2) Any reference in these Regulations to a Community instrument is a reference to that instrument as amended from time to time.”.
5. Yn rheoliad 6(2) (awdurdodau rheolaethu cymwys), yn lle “numbers 10, 13, 14 and 15” rhodder “numbers 10 and 13 to 18”.
6. Yn rheoliad 7(3) (pwerau personau awdurdodedig)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “examination” mewnosoder “, measurement”;
(b)yn is-baragraff (d), yn lle “or kept on it” rhodder “, or any livestock or any other thing kept on it”;
(c)yn is-baragraffau (f) a (g), yn lle “records” (bob tro yr ymddengys) rhodder “documents or records”;
(ch)yn is-baragraff (g), yn lle “record” (bob tro yr ymddengys) rhodder “document or record”;
(d)ar y diwedd, ychwaneger—
“;
remove a carcass found on the land for the purpose of carrying out a post-mortem examination on it;
take a photograph of anything on the land; and
remove anything which he or she reasonably believes to be evidence of any non-compliance.”.
7. Yn lle paragraff 2(1)(c) o'r Atodlen, rhodder—
“(c)the land is prepared as a seedbed for a crop, and
(i)the crop is sown within a period of 10 days beginning with the day after final seedbed preparation, or
(ii)if sowing within that 10-day period would mean breaching the requirement in paragraph 3(1), the crop is sown as soon as is practicable after it ceases to be waterlogged, or
(iii)if there are severe weather conditions making it impracticable to sow within that 10- day period, the crop is sown as soon as is practicable after the severe weather conditions cease;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(14)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 (O.S 2004/3280 (Cy. 284)). Mae'r Rheoliadau hynny yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi traws-gydymffurfio o dan Reoliad (EC) Rhif 1782/2003 (OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1) (“Rheoliad y Cyngor ”) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 (OJ Rhif L141, 30.04.2004, t.18) (“Rheoliad y Comisiwn”) mewn perthynas â'r gyfundrefn o gynlluniau cymorth incwm a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2005.
Mae'r Rheoliadau hyn:
(a)yn diffinio'r rhestr o ymrwymiadau amaeth-amgylchedd (sy'n cael blaenoriaeth dros safonau a gofynion traws-gydymffurfio) i gynnwys pob ymrwymiad perthnasol (rheoliad 3(a));
(b)yn diwygio'r diffiniad o “authorised person” (rheoliad 3(b));
(c)yn diweddaru'r diffiniadau o Reoliadau'r Cyngor a'r Comisiwn i gymryd ystyriaeth o ddiwygiadau i'r Rheoliadau hynny, ac yn ychwanegu diffiniad o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2006 (rheoliad 3(c — e));
(ch)yn diwygio'r darpariaethau dehongli fel bod cyfeiriad at offeryn Cymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y dichon gael ei ddiwygio ar unrhyw adeg yn y dyfodol (rheoliad 4),
(d)yn dynodi'r Ysgrifennydd Gwladol fel yr awdurdod rheolaethu cymwys mewn perthynas â gofynion rheoli statudol Rhif 16 i 18 o Atodiad III o Reoliad y Cyngor ar les anifeiliaid (rheoliad 5);
(dd)yn ychwanegu at bwerau arolygwyr er mwyn darparu ar gyfer arolygiadau mewn perthynas â gofynion lles anifeiliaid sy'n gymwys i ffermwyr o 1 Ionawr 2007 (rheoliad 5);
(e)yn diwygio'r darpariaethau ynghylch rheoli tir ar ôl cynhaeaf (rheoliad 6).
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer yr offeryn hwn. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
O.J. L 215, 30.07.1992, t.85. Cafodd y Rheoliad hwn gan y Cyngor ei ddiddymu ond erys ymrwymiadau amaeth-amgylchedd a wnaed oddi tano mewn bod.
O.J. L 288, 01.12.1995, t. 35.
O.J. L 160, 26.06.1999, t.80. Diddymwyd y Rheoliad hwn gan y Cyngor, gyda'r diddymiad yn effeithiol ar 1 Ionawr 2007, ac eithrio bod darpariaethau penodol yn parhau mewn grym y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw.
O.J. L 91, 30.03.2004, t.1.
O.S. 2000/3042, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/3900.
O.J. L 384, 29.12.2006, t. 81.
O.J. L 384, 29.12.2006, t. 13.
O.J. Rhif L277, 20.09.2005, t.1.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys