Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 787 (Cy.68)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

9 Mawrth 2007

Yn dod i rym

am 6am ar 2 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(5), 3, 5(1) a (2), 6, 8(3), 10 a 79(3) o Ddeddf Iechyd 2006(1) a pharagraff 4 o Atodlen 1 iddi a chan adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 a deuant i rym am 6am ar 2 Ebrill 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio pan fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall) —

mae “annedd breifat” (“private dwelling”) yn cynnwys llety preswyl hunangynhwysol ar gyfer defnydd dros dro neu wyliau ac unrhyw garej, tŷ allan neu strwythr arall at ddefnydd personau sy'n byw yn yr annedd yn unig;

mae “cartref gofal” (“care home”) i'w ddehongli yn unol ag adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(3);

ystyr “cerbyd preifat” (“private vehicle”) yw cerbyd a ddefnyddir yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion preifat y person sy'n berchen arno neu sydd â hawl i'w ddefnyddio nad yw'n deillio o daliad neu ymgymeriad i dalu am gael defnyddio'r cerbyd neu ei yrrwr ar gyfer taith benodol.

ystyr “dynodedig” (“designated”) yw wedi'i ddynodi yn ysgrifenedig gan y person sydd â gofal y fangre;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2006;

ystyr “hosbis i oedolion” (“adult hospice”) yw sefydliad, a'i ddiben yn llwyr neu ei brif ddiben yw darparu gofal lliniarol i bersonau heb fod o dan 18 oed sy'n preswylio yno ac sy'n dioddef o glefyd sy'n gwaethygu ac sydd yn ei gyfnodau olaf;

ystyr “uned iechyd meddwl” (“mental health unit”) yw sefydliad neu ran o sefydliad a'i brif ddiben neu ei phrif ddiben yw darparu triniaeth neu nyrsio (neu'r ddau) i bersonau sy'n dioddef o anhwylder meddwl fel y'i diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(4).

Ystyr mangre “gaeedig” a “sylweddol gaeedig”

2.—(1At ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, mae mangre yn gaeedig os oes ganddi nenfwd neu do, ac os yw hi heblaw am ddrysau, ffenestri a choridorau, yn gwbl gaeedig naill ai'n barhaol neu dros dro.

(2At ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, mae mangre yn sylweddol gaeedig os oes ganddi nenfwd neu do ac os yw cyfanswm arwynebedd unrhyw agoriadau yn y waliau yn llai na hanner arwynebedd y waliau, gan gynnwys strwythurau eraill sy'n cyflawni diben waliau.

(3Wrth benderfynu arwynebedd yr agoriadau at ddibenion paragraff (2), ni ddylid cymryd unrhyw gyfrif o agoriadau y mae drysau, ffenestri neu ffitiadau eraill ynddynt y gellir eu hagor neu eu cau.

(4Yn y rheoliad hwn mae “to” yn cynnwys unrhyw strwythur gosodedig neu symudol neu ddyfais osodedig neu symudol.

Esemptiadau i fangreoedd di-fwg

3.—(1Nid yw annedd breifat yn ddi-fwg ac eithrio unrhyw ran ohoni—

(a)a rennir gyda mangre arall (gan gynnwys unrhyw annedd breifat arall) neu

(b)a ddefnyddir yn unig fel lle gwaith heblaw gwaith sy'n cael ei eithrio gan baragraffau (2) neu (3).

(2Mae gwaith a gaiff ei wneud mewn rhan o annedd a ddefnyddir yn unig fel lle gwaith yn cael ei eithrio o baragraff (1)(b) os nad oes neb (heblaw person sy'n byw yn yr annedd) yn gweithio yn y rhan honno neu'n cael ei wahodd i ddod i'r rhan honno mewn cysylltiad â'r gwaith.

(3Eithrir o baragraff (1)(b) bob gwaith a gaiff ei wneud yn unig—

(i)er mwyn darparu gofal personol neu ofal iechyd i berson sy'n byw yn yr annedd;

(ii)er mwyn cynorthwyo gyda gwaith domestig yr aelwyd yn yr annedd;

(iii)er mwyn cynnal strwythur neu adeiladwaith yr annedd;

(iv)er mwyn gosod, arolygu, cynnal neu symud unrhyw wasanaeth a ddarperir i'r annedd er budd y personau sy'n byw ynddi.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) nid yw'r disgrifiadau canlynol o fangreoedd yn rhai di-fwg —

(a)ystafelloedd dynodedig i'w defnyddio gan y rhai sy'n 18 oed neu drosodd —

(i)mewn cartref gofal;

(ii)mewn hosbis i oedolion;

(iii)mewn uned iechyd meddwl sy'n darparu llety preswyl ar gyfer cleifion;

(b)ystafelloedd dynodedig mewn cyfleuster ymchwil neu gyfleuster cynnal profion;

(c)ystafelloedd gwely dynodedig mewn gwesty, gwesty bach, tafarn, hostel neu glwb aelodau.

(5At ddibenion paragraff (4) ystyr “ystafell ddynodedig” neu “ystafell wely ddynodedig” yn ôl y digwydd, yw ystafell —

(a)a gafodd ei dynodi gan y person sydd â gofal y sefydliad o dan sylw yn ystafell lle y caniateir ysmygu;

(b)y mae ganddi nenfwd ac sydd, heblaw am ddrysau a ffenestri, yn hollol gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o'r llawr i'r nenfwd;

(c)nad oes ganddi system awyru sy'n awyru i ran arall o'r fangre (ac eithrio unrhyw ystafelloedd dynodedig neu ystafelloedd gwely dynodedig eraill, yn ôl y digwydd);

(ch)nad oes ganddi unrhyw ddrws sy'n agor i fangre ddi-fwg ac nad yw'n cau'n fecanyddol yn union ar ôl ei ddefnyddio; a

(d)sydd wedi'i marcio'n glir yn ystafell lle y caniateir ysmygu.

(6Nid yw ystafell ddynodedig mewn cyfleuster ymchwil neu gyfleuster gynnal profion yn ystafell ddi-fwg pan fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw ymchwil neu ar gyfer cynnal profion sy'n ymwneud â—

(i)mwg a ollyngir o dybaco a chynhyrchion eraill a ddefnyddir ar gyfer ysmygu;

(ii)datblygu cynhyrchion ar gyfer ysmygu gyda llai o berygl o ran tân neu â chynnal profion tân ar ddeunyddiau sy'n ymwneud â chynhyrchion ar gyfer ysmygu;

(iii)datblygu cynhyrchion ysmygu neu fferyllol a allai olygu gweithgynhyrchu cynhyrchion llai peryglus ar gyfer ysmygu; neu

(iv)rhaglenni rhoi'r gorau i ysmygu.

Cerbydau di-fwg

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, rhaid i gerbyd fod yn ddi-fwg os caiff ei ddefnyddio —

(a)i gludo aelodau o'r cyhoedd neu garfan o'r cyhoedd (p'un ai am dâl neu dan log ai peidio); neu

(b)at ddibenion gwaith gan fwy nag un person (hyd yn oed os yw'r personau sy'n ei ddefnyddio at y cyfryw ddibenion yn gwneud hynny ar adegau gwahanol, neu ar adegau ysbeidiol yn unig).

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gerbydau a rhannau o gerbydau sy'n gaeedig.

(3Mae cerbyd neu ran o gerbyd yn gaeedig at ddibenion paragraff (2) os oes ganddo ddrysau neu ffenestri y gellir eu hagor ond nid yw'n gaeedig oni bai bod to drosto yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

(4Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob cerbyd heblaw —

(a)awyrennau; neu

(b)llongau neu hofranlongau y gellid gwneud rheoliadau ar eu cyfer o dan adran 85 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21) (diogelwch ac iechyd ar longau), gan gynnwys yr adran honno fel y'i cymhwysir gan unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 1(1)(h) o Ddeddf Hofranlongau 1968 (p.59) neu i bersonau ar unrhyw long neu hofrenlong o'r fath; neu

(c)cerbydau preifat

(5Yn y rheoliad hwn nid yw “to” yn cynnwys unrhyw do a gaiff ei roi o'r neilltu yn gyfan gwbl fel nad yw dros unrhyw ran o gerbydran y caiff personau deithio ynddi.

Arwyddion dim ysmygu: mangreoedd di-fwg

5.—(1At ddibenion adran 6 o'r Ddeddf, rhaid i unrhyw berson sy'n meddiannu mangre ddi-fwg neu'n ymwneud â'i rheoli sicrhau bod arwyddion dim ysmygu sy'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) yn cael eu harddangos yn y fangre honno yn unol â'r gofynion sydd ym mharagraff (3).

(2Rhaid i arwydd dim ysmygu —

(a)fod yn fflat, yn betryal o ran ei siâp ac yn 160 o filimetrau wrth 230 o filimetrau o leiaf o ran ei faint;

(b)cynnwys darlun graffeg o sigarét yn llosgi o fewn cylch coch sy'n 85 o filimedrau mewn diamedr o leiaf a chyda bar coch ar draws y cylch sy'n croesi symbol y sigarét;

(c)cynnwys y geiriau canlynol — “Mae ysmygu yn y fangre hon yn erbyn y gyfraith / It is against the law to smoke in these premises”.

(3Rhaid arddangos arwydd dim ysmygu sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) mewn lle amlwg wrth neu gerllaw pob mynedfa i fangre ddi-fwg.

Arwyddion dim ysmygu: cerbydau di-fwg

6.—(1Rhaid i'r person perthnasol o ran cerbyd sy'n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4 sicrhau bod arwyddion dim ysmygu sy'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) yn cael eu harddangos ar y cerbyd yn unol â'r gofynion sydd ym mharagraff (3).

(2Rhaid i arwydd dim ysmygu gynnwys darlun graffeg o sigarét yn llosgi o fewn cylch coch sy'n 75 o filimedrau mewn diamedr o leiaf a chyda bar coch ar draws y cylch sy'n croesi symbol y sigarét.

(3Rhaid arddangos arwydd dim ysmygu sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) mewn lle amlwg ym mhob cerbydran o'r cerbyd, y mae to drosti neu'n rhannol drosti, gan gynnwys cerbydran y gyrrwr.

(4Ym mharagraff (3) nid yw “to” yn cynnwys to a gaiff ei roi o'r neilltu yn gyfan gwbl fel nad yw dros unrhyw ran o gerbydran y caiff personau deithio ynddi.

(5At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 7, ystyr “person perthnasol” o ran cerbyd di-fwg yw —

(a)y gweithredydd,

(b)y gyrrwr, ac

(c)unrhyw berson mewn cerbyd sy'n gyfrifol am drefn neu am ddiogelwch arno.

Dyletswydd i atal ysmygu mewn cerbydau di-fwg

7.  Mae'n ddyletswydd ar y person perthnasol o ran cerbyd sy'n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4 beri bod person sy'n ysmygu yn y cerbyd yn stopio ysmygu.

Gorfodi: dynodi awdurdodau gorfodi

8.—(1Dynodir cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yn awdurdodau gorfodi at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan bob awdurdod gorfodi swyddogaethau gorfodi o ran y mangreoedd a'r cerbydau sydd o fewn ei ardal.

(3Os bydd mwy nag un awdurdod gorfodi yn gwneud ymchwiliadau ynglŷn â'r un person o dan y pwerau a roddir gan Bennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf, caiff yr awdurdodau o dan sylw, drwy gytundeb, drosglwyddo'r swyddogaethau gorfodi i un ohonynt neu i unrhyw awdurdod gorfodi arall.

Gorfodi; hysbysiad o gosb

9.—(1Mae'r ffurfiau hysbysiad o gosb a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn cael eu pennu o ran y tramgwyddau a ddisgrifir ynddynt.

(2Os bydd newid yn swm cosb benodedig neu swm disgownt neu yn lefel y raddfa safonol, rhaid amrywio'r ffurf berthnasol benodedig er mwyn adlewyrchu'r newid hwnnw.

(3Caiff awdurdodau gorfodi gynnwys gwybodaeth ar ffurfiau hysbysiad o gosb o ran y dull talu neu i hwyluso prosesu'r ffurflenni'n ariannol ac yn weinyddol a chaiff gynnwys ar y ffurflenni arfbeisiau, logos neu ddyfeisiadau eraill i gynrychioli'r awdurdod.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

Rhodri Morgan

Prif Wenidog Cymru

9 Mawrth 2007

Rheoliad 9(1)

YR ATODLENFfurfiau ar Hysbysiad o Gosb

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch gwahardd ysmygu mewn mangreoedd a cherbydau penodol yn unol â phwerau sydd ym Mhennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd 2006 (“y Ddeddf”).

O ran mangreoedd maent yn pennu, yn rheoliad 2, ystyr “caeedig” a “sylweddol gaeedig” at ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, sy'n darparu bod mangre yn ddi-fwg yn y mannau hynny sy'n gaeedig neu'n sylweddol gaeedig yn unig.

Maent yn pennu disgrifiadau o fangreoedd nad ydynt yn ddi-fwg ac yn pennu amgylchiadau ac amodau ac adegau pan nad yw mangreoedd penodol neu fannau penodol mewn mangreoedd yn ddi-fwg (rheoliad 3).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgrifiadau o gerbydau a'r amgylchiadau pan fydd y cyfryw gerbydau i fod yn ddi-fwg (rheoliad 4).

Mae rheoliadau 5 a 6 yn rhagnodi'r gofynion ar gyfer cynnwys ac arddangos arwyddion dim ysmygu mewn mangreoedd a cherbydau. Maent hefyd yn gosod dyletswydd i arddangos arwyddion mewn cerbydau perthnasol ar weithredwyr, gyrwyr a phersonau sy'n gyfrifol am drefn neu ddiogelwch ar y cyfryw gerbydau.

Mae rheoliad 7 yn gosod dyletswydd ar y cyfryw weithredwyr, gyrwyr a phersonau sy'n gyfrifol am ddiogelwch neu drefn i beri bod personau sy'n ysmygu mewn cerbydau di-fwg yn stopio ysmygu.

Mae rheoliad 8 yn dynodi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yn awdurdodau gorfodi ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo cyfrifoldeb rhwng awdurdodau gorfodi.

Mae rheoliad 9 yn cyflwyno'r Atodlen i'r Rheoliadau sy'n cynnwys ffurfiau hysbysiadau o gosb sydd i'w defnyddio gan awdurdodau gorfodi.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o ddrafft o'r Rheoliadau yn unol ag Erthygl 8 o'r Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/34/EC sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol a rheolau gwasanaethau y Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/48/EC (OJ Rhif L217, 5.8.1998, t.18).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill