Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd (Cymru) 2007.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2007.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys cwt, ac unrhyw ran o adeilad y mae ganddi ei system awyru ei hun ac y mae wedi'i gwahanu oddi wrth rannau eraill o'r adeilad gan bared solet;

ystyr “bridiwr cig” (“meat breeder”) yw dofednyn a gedwir i gynhyrchu wyau ar gyfer eu gori a'u deor i gynhyrchu cywion—

(a)

a gaiff eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl, neu

(b)

y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl;

ystyr “cyw” (“chick”) yw aderyn sydd yn iau na 72 awr ac nad yw wedi'i fwydo;

ystyr “dodwywr fridiwr” (“layer breeder”) yw dofednyn a gedwir er mwyn cynhyrchu wyau ar gyfer eu gori a'u deor i gynhyrchu cywion—

(a)

a gaiff eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl, neu

(b)

y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, twrcïod, gwyddau a hwyaid;

ystyr “haid” (“flock”) yw dofednod o'r un statws iechyd â'i gilydd, a gedwir ar yr un daliad neu yn yr un caeadle, sy'n un uned epidemiolegol ar ei phen ei hun, ac sy'n cynnwys, yn achos dofednod a gaiff eu lletya, bob aderyn sy'n rhannu'r un gofod awyr;

ystyr “haid fridio” (“breeding flock”) yw haid a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau ar gyfer eu gori;

ystyr “labordy a gymeradwywyd” (“approved laboratory”) yw labordy a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”), mewn perthynas ag unrhyw ddeorfa neu ddaliad, yw'r person sydd â gofal y ddeorfa neu'r daliad.

(2Mae unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.

Yr awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus a Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(1) sy'n ei ddiwygio (y cyfeirir ato, yn y Gorchymyn hwn, fel “Rheoliad y Comisiwn”); a

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gofynion ar gyfer defnyddio dulliau rheoli penodol yn fframwaith y rhaglenni cenedlaethol ar gyfer rheoli salmonela mewn dofednod(2) (y cyfeirir ato, yn y Gorchymyn hwn, fel “Rheoliad y Comisiwn 1177/2006”).

RHAN 2Hysbysu am ddeorfeydd a heidiau bridio

Hysbysu am ddeorfeydd

4.—(1Rhaid i feddiannydd deorfa ddofednod â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 1, paragraff 1 i Weinidogion Cymru—

(a)o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu

(b)yn achos y cyfryw ddeorfa a sefydlir ar ôl y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl i'r ddeorfa gael ei sefydlu.

(2Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.

(3Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.

Hysbysu am heidiau bridio

5.—(1Rhaid i feddiannydd daliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio o 250 o leiaf o ddofednod o unrhyw un rhywogaeth unigol roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 1, paragraff 2 i Weinidogion Cymru —

(a)o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu

(b)yn achos y cyfryw ddaliad a sefydlir ar ôl y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl sefydlu'r daliad.

(2Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.

(3Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi rhoi'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o dan unrhyw ddeddfiad arall.

RHAN 3Rheoli salmonela mewn Gallus gallus

PENNOD 1Dyletswyddau meddiannydd

Cymhwyso Pennod 1

6.  Mae'r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddaliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio o 250 o leiaf o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Bennod hon at feddiannydd yn gyfeiriad at feddiannydd y cyfryw ddaliad.

Hysbysu bod heidiau bridio wedi cyrraedd

7.—(1Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y disgwylir i bob haid fridio o 250 o leiaf o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus gyrraedd y daliad.

(2Rhaid ei hysbysu o leiaf ddwy wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i'r haid gyrraedd.

Hysbysu o symud ymlaen i'r cam dodwy etc.

8.—(1Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y mae'n disgwyl i bob haid fridio ar y daliad—

(a)symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy; a

(b)cyrraedd diwedd y gylchred gynhyrchu.

(2Rhaid i'r meddiannydd hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddwy wythnos cyn bod disgwyl i'r haid fridio symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy.

Samplu heidiau bridio

9.—(1Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid fridio ar y daliad ar yr adegau a ganlyn—

(a)pan fo'r adar yn yr haid yn gywion;

(b)pan fo'r adar yn yr haid yn bedair wythnos oed;

(c)dwy wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i'r haid ddechrau dodwy neu symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy; ac

(ch)bob ail wythnos yn ystod y cyfnod dodwy.

(2Rhaid i'r gwaith samplu o dan baragraff 1(a) i (c) gael ei wneud yn unol ag Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn a rhaid i waith samplu o dan baragraff 1(ch) gael ei wneud yn unol â phwynt 2.2.2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (samplu rheolaidd a digymell gan y gweithredydd).

Anfon samplau i labordy a gymeradwywyd

10.—(1Rhaid i'r meddiannydd anfon y samplau a gymerir o dan erthygl 9 i labordy a gymeradwywyd at ddibenion profi am bresenoldeb salmonela.

(2Rhaid iddo anfon y samplau o fewn—

(a)24 o oriau ar ôl eu cymryd; neu

(b)o fewn 48 o oriau ar ôl eu cymryd os yw'n gosod y samplau mewn oergell ar dymheredd rhwng 1° a 4° C cyn gynted ag y bo'n ymarferol iddo wneud hynny ar y diwrnod y'u cymerir.

(3Rhaid iddo sicrhau bod y samplau'n cael eu nodi cyn iddynt gael eu hanfon er mwyn galluogi'r labordy a gymeradwywyd i gadarnhau—

(a)enw'r meddiannydd;

(b)cyfeiriad y daliad lle y cedwir yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;

(c)y math o samplau;

(ch)y dyddiad y cymerwyd y samplau;

(d)dull adnabod yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;

(dd)oed yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;

(e)p'un ai haid o ddodwywyr fridwyr neu o fridwyr cig yw'r haid fridio y daeth y samplau ohoni; ac

(f)statws yr haid fridio y daeth y samplau ohoni yn y pyramid bridio.

Cofnodion samplau

11.—(1Rhaid i'r meddiannydd—

(a)cadw cofnod o'r wybodaeth a geir yn Atodlen 3, paragraff 1, mewn cysylltiad â phob sampl a gymerir yn unol ag erthygl 9; a

(b)erbyn 30 Mehefin a 31 Rhagfyr bob blwyddyn, roi i Weinidogion Cymru yr wybodaeth honno mewn cysylltiad â samplu yr ymgymerir ag ef yn y chwe mis cyn ei hysbysu.

(2Rhaid iddo gadw'r cofnod ym (1)(a) am ddwy flynedd ar ôl y dyddiad y cymerwyd y sampl.

Cofnodion symudiadau

12.—(1Rhaid i'r meddiannydd gadw cofnod o'r wybodaeth yn Atodlen 3, paragraff 2, mewn cysylltiad â symud i'r daliad neu o'r daliad unrhyw ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus neu eu cywion neu eu hwyau.

(2Rhaid iddo gadw'r cofnod am ddwy flynedd ar ôl dyddiad symud y ffowls.

PENNOD 2Dyletswyddau labordai a gymeradwywyd

Dyletswyddau labordy a gymeradwywyd

13.—(1Rhaid i'r person â gofal labordy a gymeradwywyd sicrhau bod y gwaith o archwilio samplau a anfonwyd iddo o dan erthygl 10 yn dechrau o fewn 48 o oriau ar ôl i'r samplau hynny ddod i law.

(2Rhaid iddo sicrhau—

(a)bod y samplau'n cael eu paratoi fel a ganlyn—

(i)rhaid paratoi leinin blychau cywion yn unol ag Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn;

(ii)rhaid paratoi samplau o swabiau o esgidiau yn unol â phwynt 3.1.2 yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn; a

(iii)rhaid paratoi unrhyw samplau eraill o ysgarthion yn unol â phwynt 3.1.3 o'r Atodiad hwnnw;

(b)bod y samplau'n cael eu profi am salmonela yn unol â'r dull a geir ym mhwynt 3.2 o'r Atodiad hwnnw; ac

(c)bod adroddiad ysgrifenedig ar ganlyniad unrhyw brawf ar unrhyw sampl yn cael ei roi i'r meddiannydd a anfonodd y sampl cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

PENNOD 3Defnyddio asiantau gwrthficrobaidd a brechlynnau

Gwahardd defnyddio asiantau gwrthficrobaidd

14.  Ni chaiff neb roi unrhyw asiant gwrthficrobaidd i unrhyw aderyn mewn haid fridio o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus fel dull penodol o reoli salmonela a hynny'n groes i Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn 1177/2006 (defnyddio asiantau gwrthficrobaidd).

Gwahardd defnyddio brechlynnau

15.  Ni chaiff neb roi unrhyw frechlyn salmonela byw i unrhyw aderyn mewn haid fridio o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus yn groes i Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn 1177/2006 (defnyddio brechlynnau).

RHAN 4Amrywiol

Cofnodion deorfeydd

16.—(1Rhaid i feddiannydd deorfa sydd â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau ac y mae ynddi ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus neu eu hwyau gadw cofnod—

(a)o'r wybodaeth a geir yn Atodlen 3, paragraff 3, mewn cysylltiad â symud unrhyw wyau ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus i'r ddeorfa ac oddi yno; a

(b)o'r wybodaeth geir yn Atodlen 3, paragraff 4, mewn cysylltiad â symud unrhyw gywion ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus o'r ddeorfa.

(2Rhaid iddo gadw'r cofnod am ddwy flynedd ar ôl dyddiad symud y cywion.

Dangos cofnodion

17.  Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan y Gorchymyn hwn ei ddangos i un o arolygwyr neu o swyddogion Gweinidogion Cymru pan ofynnir iddo wneud hynny ar unrhyw adeg resymol a rhaid iddo ganiatáu gwneud copi o'r cofnod neu o ddarn ohono.

Ymyrryd â samplau

18.  Rhaid i berson beidio ag ymyrryd â sampl neu beidio â gwneud unrhyw beth iddo sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad unrhyw brawf y mae'n ofynnol ei wneud o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn y Gorchymyn hwn.

Pwerau Gweinidogion Cymru mewn achosion o fethu â chydymffurfio

19.  Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gamau o dan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd gymryd y cyfryw gamau neu beri iddynt gael eu cymryd, a bydd yn bosibl i Weinidogion Cymru adennill ei dreuliau y mae'n rhesymol iddo eu tynnu oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio.

Gorfodi

20.—(1Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu

21.  Caiff Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd 1993(3) ei ddirymu o ran Cymru.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig, un o Wenidogion Cymru.

13 Mehefin 2007

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill