- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r rheol hon yn gymwys i berson sy'n bodloni amod cymhwyster ac sy'n ymddeol ar ôl cyrraedd yr oedran ymddeol arferol neu oedran pensiwn y wladwriaeth.
(2) Nid yw'r rheol hon yn gymwys i aelod-ddiffoddwr tân y mae ei hysbysiad ymddeol yn datgan ei fod yn ymddeol er mwyn dechrau cyflogaeth gydag awdurdod arall.
(3) Daw person y mae'r rheol hon yn gymwys iddo, pan fo'n ymddeol, yn un y mae ganddo hawlogaeth i gael pensiwn cyffredin a gyfrifir, yn ddarostyngedig i baragraff (4), drwy luosi ei wasanaeth pensiynadwy â'i dâl pensiynadwy terfynol a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(4) Pan ddaw person y mae'r rheol hon yn gymwys iddo, adeg ei ymddeoliad, yn un y mae ganddo hawlogaeth i gael pensiwn mewn perthynas â gwasanaeth fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, mae pensiwn cyffredin y person hwnnw i'w gyfrifo drwy luosi ei dâl pensiynadwy terfynol â'i wasanaeth pensiynadwy wrth gefn neu ei wasanaeth pensiynadwy gwirfoddol a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(5) Pan fo hawlogaeth gan aelod-ddiffoddwr tân i fwy nag un pensiwn cyffredin, nid yw'r pensiynau hynny i'w hagregu oni fydd rheol 7(6) yn gymwys.
2.—(1) Mae'r rheol hon yn gymwys i aelod-ddiffoddwr tân sy'n gadael ei gyflogaeth oherwydd anabledd parhaol(1) (sefyllfa y cyfeirir ati yn y Cynllun hwn fel “ymddeoliad oherwydd afiechyd”).
(2) Mae hawlogaeth gan bob aelod-ddiffoddwr tân y mae'r rheol hon yn gymwys iddo ac sy'n bodloni amod cymhwyster, adeg ei ymddeoliad, i gael pensiwn afiechyd haen is a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Atodiad 1 i'r Cynllun hwn.
(3) Mae gan aelod-ddiffoddwr tân—
(a)y mae ganddo hawlogaeth i gael pensiwn afiechyd haen is,
(b)y mae ganddo o leiaf bum mlynedd o wasanaeth cymhwysol, ac
(c)y mae ymarferydd meddygol cymwysedig annibynnol wedi datgan amdano y farn, a gafwyd yn unol â rheol 2(2) o Ran 8, fod yr aelod-ddiffoddwr tân hwnnw wedi'i anablu'n barhaol rhag ymgymryd â chyflogaeth reolaidd,
hawlogaeth hefyd, wedi iddo ymddeol, i gael pensiwn afiechyd haen uwch yn unol â pharagraff 2 neu 3 o Atodiad 1, fel y bo angen yn ôl ei amgylchiadau.
3.—(1) Mae'r rheol hon yn gymwys i aelod-ddiffoddwr tân sydd—
(a)yn bodloni amod cymhwyster; a
(b)cyn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol—
(i)yn ymddiswyddo neu'n cael ei ddiswyddo o gyflogaeth yr awdurdod; neu
(ii)yn gwneud dewisiad cyfraniadau.
(2) Mae gan berson y mae'r rheol hon yn gymwys iddo hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig sydd, yn ddarostyngedig i baragraff (4) a rheol 5, yn dod yn daladwy o'r oedran buddion arferol.
(3) Mae pensiwn gohiriedig i'w gyfrifo drwy luosi gwasanaeth pensiynadwy'r person â'i dâl pensiynadwy terfynol a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(4) Yn ddarostyngedig i reol 4 o Ran 9 (atal talu pensiwn gohiriedig yn gynnar), pan fo—
(a)person y mae'r rheol hon yn gymwys iddo yn rhoi i'r awdurdod y cyflogwyd y person hwnnw ganddo ddiwethaf hysbysiad ysgrifenedig yn gofyn bod pensiwn gohiriedig y person yn cael ei dalu'n gynnar; a
(b)yr awdurdod wedi'i fodloni, ar ôl cael barn ymarferydd meddygol cymwysedig annibynnol yn unol â rheol 2(2) o Ran 8, fod y person wedi'i anablu'n barhaol rhag ymgymryd â chyflogaeth reolaidd,
rhaid i'r awdurdod dalu'r pensiwn gohiriedig o ddyddiad anabledd y person neu, os nad oes modd darganfod y dyddiad hwnnw, dyddiad archiad y person hwnnw am gael taliad cynnar.
(5) Pan fo pensiwn gohiriedig yn cael ei dalu'n gynnar yn unol â pharagraff (4), bydd yn ddarostyngedig i adolygiad o dan reol 1(2) o Ran 9 (adolygu pensiwn afiechyd).
(6) Bydd hawlogaeth person i gael pensiwn gohiriedig yn peidio pan fo'n cyfarwyddo'r awdurdod i ddileu'r pensiwn hwnnw o dan reol 4.
4.—(1) Pan—
(a)na fo pensiwn gohiriedig a ddyfarnwyd o dan reol 3 yn cael ei dalu; a
(b)bo'r person y mae ganddo hawlogaeth i'w gael yn cael ei gyflogi eto gan awdurdod mewn rôl sy'n rhoi hawlogaeth i'r person ailymuno â'r Cynllun hwn, ac
(c)bo'r person yn ailymuno â'r Cynllun,
caiff y person hwnnw, ar unrhyw bryd cyn gadael cyflogaeth yr awdurdod, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r awdurdod, gyfarwyddo'r awdurdod i ddileu'i bensiwn gohiriedig.
(2) Pan fo awdurdod yn dileu pensiwn gohiriedig, rhaid iddynt ychwanegu at y gwasanaeth pensiynadwy a ddefnyddir i gyfrifo'r pensiwn y bydd gan y person hawlogaeth i'w gael pan fydd yn gadael y gyflogaeth, y gwasanaeth pensiynadwy a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r pensiwn gohiriedig.
(3) Os nad yr awdurdod y mae person yn cael ei gyflogi ganddo (“yr awdurdod cyflogi”) yw'r awdurdod y mae gan y person hwnnw hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig oddi wrtho (“yr awdurdod cyntaf”), rhaid i'r person hwnnw drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r awdurdod cyntaf ei gyfarwyddo—
(a)i ddileu'r pensiwn gohiriedig, a
(b)i wneud trefniadau gyda'r awdurdod cyflogi ar gyfer trosglwyddo ei wasanaeth pensiynadwy yn unol â rheol 12 o Ran 12.
5.—(1) Mae'r rheol hon yn gymwys i aelod-ddiffoddwr tân—
(a)sy'n bodloni amod cymhwyster; a
(b)y dyfernir pensiwn gohiriedig iddo cyn iddo gyrraedd yr oedran buddion arferol.
(2) Caiff person y mae'r rheol hon yn gymwys iddo, ar neu ar ôl pen blwydd y person hwnnw yn hanner cant a phump oed, drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod ofyn i'w bensiwn gohiriedig gael ei dalu'n gynnar.
(3) Caiff yr awdurdod wrthod archiad o dan baragraff (2) os bydd cyfradd y pensiwn (ar ôl y lleihad actiwaraidd a grybwyllir ym mharagraff (4)(b) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (5)(b)), yn debyg o fod yn llai na'r pensiwn â lleiafswm gwarantedig a fyddai'n daladwy o oedran pensiwn y wladwriaeth ymlaen.
(4) Mae pensiwn gohiriedig a delir cyn yr oedran buddion arferol i aelod-ddiffoddwr tân y mae ei wasanaeth yn un fel diffoddwr tân rheolaidd i'w gyfrifo drwy—
(a)lluosi gwasanaeth pensiynadwy'r aelod-ddiffoddwr tân â'i dâl cyfeirio terfynol a rhannu'r swm canlyniadol â 60, a
(b)cymhwyso i'r swm a ganfyddir yn unol ag is-baragraff (a) y ffactor lleihad actiwaraidd priodol a hysbyswyd gan Actiwari'r Cynllun.
(5) Mae pensiwn gohiriedig sy'n cael ei dalu cyn yr oedran buddion arferol i aelod-ddiffoddwr tân y mae ei wasanaeth fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol i'w gyfrifo drwy—
(a)lluosi ei wasanaeth pensiynadwy sy'n wasanaeth wrth gefn neu'n wasanaeth gwirfoddol â'i dâl pensiynadwy terfynol fel y'i dyfernir yn rheol 2(6) o Ran 11 a rhannu'r swm canlyniadol â 60, a
(b)cymhwyso i'r swm a ganfyddir yn unol ag is-baragraff (a) y ffactor lleihad actiwaraidd priodol a hysbyswyd gan Actiwari'r Cynllun.
6.—(1) Caiff awdurdod, gan ystyried—
(a)y dull darbodus, effeithiol ac effeithlon o reoli eu swyddogaethau, a
(b)y costau sy'n debyg o gael eu tynnu yn yr achos penodol,
ddyfarnu y dylid diswyddo ar bensiwn o gyflogaeth yr awdurdod unrhyw aelod-ddiffoddwr tân sy'n 55 oed o leiaf ond sydd o dan yr oedran ymddeol arferol.
(2) Mae pensiwn person y mae dyfarniad amdano wedi'i wneud o dan baragraff (1) i'w gyfrifo yn unol â rheol 1.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae hawlogaeth gan aelod-ddiffoddwr tân—
(a)sy'n bodloni amod cymhwyster; a
(b)sydd, ar ôl dechrau rôl wahanol o fewn yr awdurdod neu ddod yn un y mae ganddo hawlogaeth i gael cyfradd dâl wahanol yn ei rôl bresennol, yn dioddef gan leihad yn swm y tâl pensiynadwy gyda'r canlyniad bod y swm sydd i'w gymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo'r pensiwn y bydd gan yr aelod hawlogaeth i'w gael adeg yr oedran ymddeol arferol yn llai nag y byddai wedi bod fel arall,
i gael dau bensiwn.
(2) Mae'r pensiynau i'w cyfrifo yn y modd a grybwyllir ym mharagraffau (3) a (4) ac yn dod yn daladwy yn y modd a grybwyllir ym mharagraff (5).
(3) Swm y pensiwn cyntaf yw'r swm a geir drwy luosi gwasanaeth pensiynadwy'r aelod hyd at (ond heb gynnwys) y diwrnod y bydd paragraff (1) yn gymwys am y tro cyntaf i'r aelod â'r tâl pensiynadwy terfynol y byddai wedi bod gan yr aelod hawlogaeth i'w gael pe bai wedi ymddeol y diwrnod hwnnw, a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(4) Swm yr ail bensiwn yw'r swm a geir drwy luosi gwasanaeth pensiynadwy'r aelod ar neu ar ôl y diwrnod y bydd paragraff (1) yn gymwys am y tro cyntaf i'r aelod â'r tâl pensiynadwy terfynol y mae gan yr aelod hawlogaeth i'w gael y diwrnod hwnnw, a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), daw'r pensiynau yn daladwy ar y dyddiad y byddai pensiwn wedi dod yn daladwy i'r aelod ym mha un bynnag o'r amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheolau 1, 2, 3, 5 a 6 sy'n gymwys yn achos yr aelod.
(6) Caiff aelod y mae ganddo hawlogaeth i gael dau bensiwn o dan y rheol hon, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'w awdurdod cyflogi, cyn gadael y gyflogaeth honno, gyfarwyddo'r awdurdod i wneud dyfarndal unigol y mae'n rhaid ei gyfrifo yn unol â pharagraff (7).
(7) Mae'r dyfarndal unigol o dan baragraff (6) i'w gyfrifo drwy—
(a)lluosi cyfanred y cyfnodau o wasanaeth pensiynadwy a ddefnyddir at ddibenion paragraffau (3) a (4) â'r tâl pensiynadwy terfynol a ddefnyddir at ddibenion paragraff (4), a
(b)rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(8) Os bydd yr aelod yn gwneud dewisiad cyfraniadau, mae gan yr aelod hawlogaeth i gael pensiwn unigol, a gyfrifir yn y modd a grybwyllwyd ym mharagraff (3); a rhaid trin y pensiwn hwnnw at ddibenion rheol 3(4) i (6) a rheol 4 fel petai'n bensiwn gohiriedig yr oedd gan yr aelod hawlogaeth i'w gael o dan reol 3.
8.—(1) Mae hawlogaeth gan aelod-ddiffoddwr tân sydd—
(a)yn gadael cyflogaeth awdurdod heb fodloni amod cymhwyster; neu
(b)yn aros yng nghyflogaeth yr awdurdod ond sy'n gwneud dewisiad cyfraniadau cyn iddo gronni tri mis o wasanaeth cymhwysol,
i gael ad-daliad o gyfraniadau pensiwn cyfanredol yr aelod-ddiffoddwr tân namyn
(i)swm unrhyw dreth y mae'n ofynnol ei ddidynnu, a
(ii)y rhan o unrhyw bremiwm sy'n gyfwerth â chyfraniadau a dalwyd ar gyfer yr aelod fel a ganiateir gan neu o dan adran 61 o Ddeddf 1993.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “cyfraniadau pensiwn cyfanredol” (“aggregate pension contributions”) yw'r holl daliadau a wnaed gan yr aelod i'w awdurdod cyflogi ar ffurf cyfraniadau pensiwn.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff person y mae ganddo hawlogaeth neu hawlogaeth ragolygol i gael unrhyw bensiwn o dan y Rhan hon gymudo cyfran ohono (“y gyfran a gymudwyd”) am gyfandaliad.
(2) Mae'r cyfandaliad i'w gyfrifo drwy luosi â 12 swm pensiwn y person, sef y gyfran a gymudwyd ar y dyddiad ymddeol.
(3) Ni chaiff person sy'n ymddeol oherwydd afiechyd gymudo unrhyw gyfran o bensiwn afiechyd haen uwch.
(4) Rhaid i'r gyfran a gymudwyd beidio â bod yn fwy—
(a)mewn achos y mae rheol 5(4) neu (5) yn gymwys iddo, un chwarter o swm y pensiwn a gyfrifir yn unol â'r paragraff hwnnw;
(b)mewn unrhyw achos arall, un chwarter o'r swm y mae gan y person hawlogaeth i'w gael ar ffurf pensiwn.
(5) Er mwyn cymudo cyfran o bensiwn rhaid i berson, a hynny—
(a)heb fod yn gynharach na phedwar mis cyn y dyddiad y mae'r person yn bwriadu ymddeol, ond
(b)heb fod yn hwyrach na'r diwrnod cyn y diwrnod y dechreuir talu'r pensiwn,
roi i'r awdurdod hysbysiad ysgrifenedig o'r cymudo, gan bennu'r gyfran a gymudwyd.
(6) Daw'r hysbysiad cymudo yn effeithiol ar y diwrnod y mae'r person yn ymddeol (“y diwrnod effeithiol”).
(7) Rhaid i'r awdurdod—
(a)lleihau, o'r dyddiad effeithiol, bensiwn y person â'r gyfran a gymudwyd, a
(b)talu'r cyfandaliad, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad effeithiol.
(8) O ran —
(a)pensiwn gohiriedig,
(b)pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod,
(c)pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod, neu
(ch)y naill neu'r llall o'r ddau bensiwn y cyfeirir atynt yn rheol 7 neu'r ddau ohonynt,
mae paragraffau (6) a (7) o'r rheol hon yn effeithiol fel petai'r cyfeiriadau at y diwrnod ymddeol a'r dyddiad effeithiol yn gyfeiriadau at y dyddiad y dechreuir talu'r pensiwn.
(9) At ddibenion y rheol hon—
(a)rhaid ystyried mai swm y pensiwn ar ôl ei leihau yn unol â rheol 12 yw pensiwn aelod â debyd pensiwn; a
(b)rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gynnydd o dan reol 2 neu 3 o Ran 7 o'r Cynllun Iawndal mewn dyfarndal i aelod o'r lluoedd arfog.
10.—(1) Pan na fo swm unrhyw bensiwn sy'n daladwy o dan y Rhan hon i aelod sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, ynghyd ag unrhyw bensiwn y mae gan yr aelod hawlogaeth i'w gael o dan reol 1 o Ran 6 ac unrhyw gynnydd o dan Ddeddf Pensiynau (Cynnydd) 1971(2), yn fwy na'r terfyn cymudo a bennir at ddibenion Rhan 1 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004 (y rheol ynghylch cyfandaliadau)(3) caiff yr awdurdod gymudo'r pensiwn o dan y Rhan hon am gyfandaliad.
(2) Cyfwerth actiwaraidd y pensiwn yw swm cyfandaliad o dan y rheol hon, a'r cyfwerth hwnnw yn cael ei gyfrifo o dablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun.
(3) Pan fo gan aelod hawlogaeth i gael mwy nag un pensiwn o dan y Rhan hon, rhaid trin y pensiynau fel un at ddibenion y rheol hon.
(4) Ar y diwrnod y caiff pensiwn ei gymudo o dan y rheol hon, caiff pob hawlogaeth arall sydd gan yr aelod o dan y Rhan hon ei dileu.
11.—(1) Caiff aelod-ddiffoddwr tân, yn unol â pharagraffau (6) a (7), ond yn ddarostyngedig i—
(a)adran 214 o Ddeddf Cyllid 2004 a pharagraffau (4) a (5) isod, a
(b)pan fo'r aelod dros 74 oed, i baragraffau 16A i 16C o Atodlen 28 i Ddeddf Cyllid 2004(4),
ddyrannu hyd at draean o unrhyw bensiwn y mae gan yr aelod hawlogaeth neu hawlogaeth ragolygol i'w gael o dan y Rhan hon.
(2) Y personau y caniateir i gyfran o bensiwn gael ei dyrannu iddynt yw—
(a)priod, partner sifil neu bartner enwebedig yr aelod-ddiffoddwr tân, neu
(b)gyda chydsyniad yr awdurdod, unrhyw berson arall sy'n dibynnu'n sylweddol ar yr aelod-ddiffoddwr tân.
(3) Caiff yr awdurdod wrthod cydsynio o dan baragraff (2)(b) os na chaiff ei fodloni bod y person yn dibynnu'n sylweddol ar yr aelod-ddiffoddwr tân.
(4) At ddibenion paragraff (1), mae awdurdod i anwybyddu unrhyw gynnydd o dan reol 2 neu 3 o Ran 7 o'r Cynllun Iawndal (dyfarndaliadau i filwyr, neu yn sgil eu marwolaeth) mewn —
(a)dyfarndaliadau i —
(i)personau wrth gefn, neu
(ii)personau wrth gefn nad ydynt yn ailddechrau gwasanaeth gyda'u cyn awdurdod; a
(b)dyfarndaliadau a delir o dan y Cynllun Iawndal.
(5) Pan fo mwy nag un gyfran o bensiwn penodol yn cael ei dyrannu o dan y rheol hon, rhaid i gyfanswm cyfrannau dyranedig y pensiwn hwnnw beidio â bod yn fwy na chyfran y pensiwn hwnnw sy'n cael ei chadw gan yr aelod-ddiffoddwr tân.
(6) Rhaid i'r aelod-ddiffoddwr tân—
(a)bodloni'r awdurdod bod yr aelod-ddiffoddwr tân hwnnw mewn iechyd da a bod ganddo ddisgwyliad oes arferol; a
(b)rhoi i'r awdurdod hysbysiad ysgrifenedig o'r dyraniad, gan bennu—
(i)y gyfran,
(ii)enw a chyfeiriad y buddiolwr arfaethedig, a
(iii)rhyw y buddiolwr.
(7) Rhaid i'r hysbysiad o'r dyraniad, y caniateir ei anfon drwy'r post, gael ei roi—
(a)os yw'r pensiwn yn bensiwn gohiriedig, heb fod yn gynharach na deufis cyn y dechreuir talu'r pensiwn;
(b)mewn unrhyw achos arall, heb fod yn gynharach na deufis cyn ymddeoliad arfaethedig yr aelod-ddiffoddwr tân.
(8) Pan fo'r awdurdod wedi'i fodloni—
(a)bod yr aelod-ddiffoddwr tân wedi cydymffurfio â pharagraffau (6) a (7), a
(b)bod modd gwneud y dyraniad a gynigir gan yr aelod-ddiffoddwr tân heb fynd yn groes i adran 214 o Ddeddf Cyllid 2004 neu, yn ôl y digwydd, paragraffau 16A i 16C o Atodlen 28 i'r Ddeddf honno,
rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad yr aelod o'r dyraniad, hysbysu'r aelod yn ysgrifenedig ei fod wedi derbyn ei gynnig.
(9) Pan fo cynnig yn cael ei dderbyn, daw'r hysbysiad o'r dyraniad yn weithredol o dan yr amodau canlynol yn unig—
(a)os yw'n cyfeirio at bensiwn gohiriedig, pan fo'r pensiwn yn dechrau cael ei dalu o fewn deufis i'r dyddiad y daeth yr hysbysiad i law;
(b)mewn unrhyw achos arall, pan fo'r aelod-ddiffoddwr tân y mae ganddo hawlogaeth i gael y pensiwn yn ymddeol o fewn deufis i'r dyddiad y daeth yr hysbysiad i law.
(10) Os yw hysbysiad o ddyraniad yn dod yn weithredol, mae'n weithredol ar y diwrnod y dechreuir talu'r pensiwn neu, yn ôl y digwydd, ar y diwrnod y mae'r aelod yn ymddeol.
(11) Pan fo—
(a)hysbysiad o ddyraniad wedi dod yn weithredol,
(b)y pensiwn y mae'n ymwneud ag ef wedi dod yn daladwy, ac
(c)y buddiolwr yn goroesi'r pensiynwr,
rhaid i'r awdurdod, o ddyddiad marwolaeth y pensiynwr, dalu i'r buddiolwr bensiwn sy'n gyfwerth actiwaraidd y gyfran a ddyrannwyd.
(12) Pan fo mwy nag un gyfran wedi'i dyrannu o dan y rheol hon, rhaid gwneud cyfrifiad ar wahân o dan baragraff (13) mewn perthynas â phob dyraniad.
(13) Rhaid cyfrifo cyfwerth actiwaraidd cyfran a ddyrannwyd yn unol â thablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun ac sydd mewn grym pan ddaw'r hysbysiad o ddyraniad yn weithredol; a rhaid gwneud y cyfrifiad drwy gyfeirio at oedran y pensiynwr ac oedran y buddiolwr ar y dyddiad y cafodd yr hysbysiad o ddyraniad ei roi.
(14) Pan fo—
(a)hysbysiad o ddyraniad wedi dod yn weithredol, a
(b)y buddiolwr yn marw cyn y pensiynwr,
rhaid i'r awdurdod dalu i'r pensiynwr (gan wahaniaethu rhwng y gyfran o'r pensiwn ac unrhyw bensiwn arall sy'n daladwy i'r pensiynwr) y gyfran o bensiwn yr oedd y pensiynwr wedi'i dyrannu (“pensiwn y dyraniad a fethodd”).
(15) Pan fo paragraff (14) yn gymwys, nid oes gan y pensiynwr hawlogaeth i adennill oddi wrth yr awdurdod swm unrhyw ddidyniad a wnaed mewn perthynas â phensiwn y dyraniad a fethodd.
12. Pan fo gan aelod â debyd pensiwn hawlogaeth i gael dyfarndal o dan y Rhan hon—
(a)mae'r dyfarndal i'w gyfrifo drwy gyfeirio at hawliau'r aelod o dan y Cynllun hwn fel y bônt yn cael eu lleihau yn rhinwedd adran 31 o Ddeddf 1999 ac yn unol â thablau a'r canllawiau eraill a ddarperir at y diben gan Actiwari'r Cynllun, a
(b)bydd rheolau 9 i 11 yn effeithiol yn unol â hynny.
Gweler rheol 3 o Ran 1.
O ran “y rheol ynghylch cyfandaliadau”, gweler adran 166 o Ddeddf Cyllid 2004 (p.12). O ran y terfyn cymudo, gweler paragraff 7(4) o Ran 1 o Atodlen 29 i'r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd paragraffau 16 i 16C gan Ddeddf Cyllid 2005 (p.7), Atodlen 10, paragraff 28.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys