Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3302 (Cy.256)

PARTNERIAETH SIFIL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

29 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

5 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 259 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Rhagfyr 2005 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Y diwygiadau i is-ddeddfwriaeth

2.  Mae'r Atodlen (sy'n cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth) yn cael effaith.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Tachwedd 2005

YR ATODLENY DIWYGIADAU I OFFERYNNAU STATUDOL

Rheoliadau Awdurdod Datblygu Cymru (Iawndal) 1976

1.  Yn Rheoliadau Awdurdod Datblygu Cymru (Iawndal) 1976 (3), yn rheoliadau 22, 23, 24, 28 a 31, mewnosoder “, surviving civil partner,” ar ôl “widow” bob tro.

Gorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977

2.  Yng Ngorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977(4), Yn Atodlen 3, ym mharagraff 17, yn lle “husband or wife” rhodder “spouse or a civil partner”.

Rheoliadau Dyfarndaliadau'r Wladwriaeth (Bwrsarïau'r Wladwriaeth ar gyfer Addysg Oedolion) (Cymru) 1979

3.  Yn Rheoliadau Dyfarndaliadau'r Wladwriaeth (Bwrsarïau'r Wladwriaeth ar gyfer Addysg Oedolion) (Cymru) 1979(5), yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 1(2)(a) a (b) ar ôl “his spouse” mewnosoder “ or civil partner or;”; a

(b)ym mharagraff (4)(1)(b) ar ôl “the spouse,” mewnosoder “civil partner,”.

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988

4.  Yn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988(6), yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “partner”, yn is-baragraff (a) ar ôl “unmarried couple” mewnosoder “or of a civil partnership”; a

(b)ar ôl “that couple” mewnosoder “or civil partnership (as the case may be)”.

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd i Ymwelwyr Tramor) 1989

5.  Yn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd i Ymwelwyr Tramor) 1989(7), yn rheoliadau 4(4), 4A(2), 5(b) ac (e) ar ôl “spouse” mewnosoder “, civil partner, ” bob tro.

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio a Thâl Cymunedol 1989

6.  Yn Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio a Thâl Cymunedol 1989(8), yn rheoliadau 9(1)(f), 23(2) a 42(3) ar ôl “spouse” mewnosoder “or civil partner” bob tro.

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) 1992

7.  Yn Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) 1992(9)

(a)yn rheoliad 3(1), yn y paragraff ynghylch Dosbarth E, ar ôl “spouse” mewnosoder “, civil partner”; a

(b)ar ddiwedd paragraff (a) o is-baragraff (1) o baragraff 4 o'r Atodlen, dileër y gair “or” ac, ar ôl y paragraff hwnnw, mewnosoder—

(aa)that person is the civil partner of the other or they live together as if they were civil partners; or.

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992

8.  Yng Ngorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992(10)

(a)Yn erthygl 2(5)—

(i)yn is-baragraff (a) ar ôl “spouse” mewnosoder “or civil partner”;

(ii)yn is-baragraff (i) ar ôl “marriage” mewnosoder “or civil partnership”;

(iii)yn is-baragraff (ii)—

(aa)ar ôl “marriage”, mewnosoder “and a relationship between two persons of the same sex living together as if they were civil partners is to be treated as a relationship by civil partnership;” a

(bb)ar y diwedd, dileër y gair “and”;

(iv)ar ôl is-baragraff (iii), mewnosoder—

and

(v)the child of the civil partner of a person (here “A”) shall be treated as A’s child.;

(b)Yn erthygl 3, yn y paragraff ynghylch Dosbarth N, yn is-baragraff (2)(a)(ii)—

(i)ar ôl “spouse” mewnosoder “, civil partner,”; a

(ii)yn lle “either”, rhodder “each”.

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992

9.  Yn Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(11),

(a)yn Rheoliad 32(1), yn y diffiniad o “net earnings”, yn is-baragraff (c)(ii) ar ôl “widows” mewnosoder “widowers, surviving civil partners”; a

(b)yn rheoliad 58(1)(b) ar ôl “spouse” mewnosoder “or civil partner”.

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995

10.  Yn Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995(12), yn rheoliadau 7(1)(f), 23(2) a 42(3), ar ôl “spouse” mewnosoder “or civil partner”.

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996

11.  Yn Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996(13)

(a)Yn rheoliad 2(1)—

(i)yn y diffiniad o “close relative” ar ôl “spouse” mewnosoder “or civil partner”;

(ii)yn y diffiniad o “family”—

(aa)ym mharagraffau (a) a (b) ar ôl “married or unmarried couple”, mewnosoder “or both members of a civil partnership” bob tro;

(bb)ym mharagraff (c) ar ôl “married or unmarried couple”, mewnosoder “or of a civil partnership”;

(iii)yn y diffiniad o “member of a couple” ar ôl “unmarried couple” mewnosoder “or of a civil partnership”;

(iv)yn y diffiniad o “partner”, ym mharagraff (a), ar ôl “married or unmarried couple” mewnosoder “or of a civil partnership”;

(v)yn y diffiniad o “unmarried couple” ar ôl “Schedule 3” hepgorer weddill y diffiniad ac yn ei le rodder y canlynol—

(a)a man and woman who are not married to each other but are living together as husband and wife; or

(b)two persons of the same sex who are not civil partners but are living together as if they were civil partners;

(b)Yn Atodlen 1, ym mharagraff 10A(1)(b), ar ôl “spouse” mewnosoder “or civil partner”; ac

(c)Yn Atodlen 4, ym mharagraff 65 ar ôl “deceased spouse” mewnosoder “or deceased civil partner” bob tro.

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) 1998

12.  Yn Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) 1998(14), yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 1(1) yn lle “or for his spouse by reason of the spouse’s employment” rhodder “or for his spouse or civil partner by reason of their employment”; a

(b)ym mharagraffau 2(1), (2) a (3) ar ôl “spouse” mewnosoder “or civil partner”;

(c)ym mharagraff 3, ychwaneger ar y diwedd—

; and references to the civil partner of a person are to be taken to include references to a person of the same sex who is living with the other as if they were that person’s civil partner.

Rheoliadau Addysg (Llywodraeth Ysgol) (Cymru) 1999

13.  Yn Rheoliadau Addysg (Llywodraeth Ysgol) (Cymru) 1999(15), yn Atodlen 7—

(a)ym mharagraff 1 mewnosoder yr is-baragraff newydd canlynol ar ôl is-baragraff 1(c)—

(d)to a person’s civil partner includes someone living with that person as if he or she were that person’s civil partner; a

(b)ym mharagraff 2(4), ar ôl “spouse” mewnosoder “or civil partner”.

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2000

14.  Yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2000(16), yn Atodlen 1, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “eligible child”, yn is-baragraff (c)(ii), ar ôl “married” mewnosoder “or entered into civil partnership with”.

Rheoliadau'r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000

15.  Yn Rheoliadau'r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000(17), yn rheoliad 5(1)(a), 5(1)(b), 5(2)(a), 5(2)(b), 5(2)(ch), a 5(6) ar ôl “phriod” mewnosoder “neu bartner sifil”.

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

16.  Yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(18), yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “aelod annibynnol”, ym mharagraff (c) ar ôl “yn briod ag aelod neu swyddog” rhodder “yn bartner sifil i aelod neu swyddog”.

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

17.  Yn Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(19)

(a)yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “perthynas”—

(i)ym mharagraffau (a), (b), (c), ac (ch), ar ôl “priod” neu “briod”, yn ôl y digwydd, mewnosoder “neu bartner sifil”;

(ii)ar ôl “plentyn iddo,” dileer “a”;

(iii)ar ôl “gwraig” mewnosoder “, ac mae cyfeiriadau at “bartner sifil” yn cynnwys partner sifil blaenorol.” ; a

(b)Yn Atodlen 3, ym mharagraff 3(a) ar ôl “statws priodasol” mewnosoder “neu statws partneriaeth sifil”.

Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002

18.  Yn Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002(20), yn Atodlen 3, yn Rhan II, ym mharagraff 1(a) ar ôl “statws priodasol,” mewnosoder “neu statws partneriaeth sifil”.

Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

19.  Yn Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(21), yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “relative”—

(a)yn is-baragraffau (a), (b), ac (c), ar ôl “spouse” mewnosoder “or civil partner”;

(b)ar ôl “the person’s child,” dileër “and”; ac

(c)ar ôl “wife” mewnosoder “, and references to a “civil partner” include a former civil partner.”

Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003

20.  Yn Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003(22), yn rheoliad 15(5), ar ôl “ (p'un a ydynt o wahanol ryw neu beidio),” mewnosoder “neu fel partneriaid sifil”.

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

21.  Yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(23) yn rheoliad 24(10)—

(a)ym mharagraff (a) ar ôl “yn briod” mewnosoder “neu'n bartner sifil”;

(b)ym mharagraff (c) ar ôl “yn briod iddo” mewnosoder “neu'n berson y cofrestrodd Person B bartneriaeth sifil gydag ef”;

(c)yn Atodlen 3, ym mharagraff 2—

(i)ar ôl “priodasol” mewnosoder “neu bartneriaeth sifil”; a

(ii)ar ôl “briodas” mewnosoder “, partneriaeth sifil”.

Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

22.  Yn Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003(24), yn Atodlen 4, ym mharagraff 2(a) ar ôl “statws priodasol” mewnosoder “neu statws partneriaeth sifil”.

Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004

23.  Yn Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(25), yn Rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “perthynas”—

(a)yn is-baragraffau (a), (b), ac (c) ar ôl “priod” neu “briod”, yn ôl y digwydd, mewnosoder “neu bartner sifil”;

(b)ar ôl “fel plentyn iddo,” dileër “ac”; ac

(c)ar ôl “yn wraig i'r person” mewnosoder “, ac mae cyfeiriadau at “bartner sifil” yn cynnwys partner sifil blaenorol.”

Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004

24.  Yn Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004(26), yn Atodlen 1, yn Rhan 1 (Memorandwm Cymdeithasu), ym mharagraff 4(ph) ar ôl “gweddw” mewnosoder “, partner sifil, partner sifil a oroesodd, ”.

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004

25.  Yn Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004(27), yn rheoliad 8(4), yn is-baragraff (b) (sy'n diffinio “partner” at ddibenion y rheoliad hwnnw), ar ôl “priod” mewnosoder “neu bartner sifil”.

Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004

26.  Yn Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004(28), yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “perthynas agos” ar ôl “priod” mewnosoder “, partner sifil”.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2004

27.  Yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2004(29), yn Atodlen 3—

(a)yn Nhabl 2, yn y cofnod ynghylch adran 61 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(30), yng ngholofn (2), is-adran (4), ar ôl “wife, mewnosoder “civil partner”; a

(b)yn Nhabl 3, yn y cofnod ynghylch Rheol 29 o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986(31), yng ngholofn (2), ym mharagraff (2B), ar ôl “wife” mewnosoder “partner sifil” bob tro.

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004

28.  Yn Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004(32) yn rheoliadau 7(2)(a), (b), (ch) a (d) ar ôl “priod” neu “briod”, yn ôl y digwydd, mewnosoder “neu bartner sifil” bob tro.

Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004

29.  Yn Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(33), yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “perthynas”—

(a)yn y paragraffau sydd wedi eu mewnoli (a), (b), (c) ac (ch) ar ôl “priod” neu “briod”, yn ôl y digwydd, mewnosoder “neu bartner sifil” bob tro; a

(b)yn y paragraff olaf ar ôl “gwraig” mewnosoder, “ac mae cyfeiriadau at “bartner sifil” yn cynnwys partner sifil blaenorol”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwneud diwygiadau i ddarpariaethau amrywiol is-ddeddfwriaeth. Daw'r diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33) (“y Ddeddf”). Mae'r Ddeddf, sy'n dod i rym ar yr un dyddiad â'r Gorchymyn hwn, yn galluogi cyplau o'r un rhyw i ffurfio partneriaeth sifil drwy gofrestru fel partneriaid sifil i'w gilydd (a gellir trin perthnasoedd tramor a gofrestrwyd dramor fel partneriaethau sifil). Mae'r Ddeddf yn darparu i bartneriaid sifil gael eu trin yn yr un modd â phobl briod o ran buddiannau a rhwymedigaethau.

Mae'r Atodlen yn diwygio is-ddeddfwriaeth amrywiol.

Mae paragraff 1 yn diwygio Rheoliadau Awdurdod Datblygu Cymru (Iawndal) 1976 (O.S. 1976/2107). Diwygir rheoliadau 22, 23, 24, 28 a 31 (sy'n ymwneud â thalu iawndal ymddeol i swyddogion pensiwnadwy ac i weddwon a dibynyddion y cyfryw swyddogion) er mwyn cynnwys cyfeiriad at bartneriaid sifil sy'n goroesi.

Mae paragraff 2 yn diwygio paragraff 17 o Atodlen 3 i Orchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977 (O.S. 1977/204). Mae paragraff 17 yn ddarpariaeth dehongli ac mae'n diffinio “relative” at ddibenion Atodlen 3, sy'n ymwneud â symud cerrig beddau a chofebion eraill a lefelu beddau. O dan Atodlen 3, os bydd perthynas yn gwrthwynebu cynigion i symud carreg fedd neu gofeb arall neu i lefelu bedd, ni chaiff awdurdod claddu fynd yn ei flaen o ran y garreg fedd honno neu'r bedd hwnnw, oni cheir mewn amgylchiadau penodol gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Effaith y diwygiad yw cynnwys partner sifil yn y diffiniad o berthynas.

Mae paragraff 3 yn diwygio Rheoliadau Dyfarndaliadau'r Wladwriaeth (Bwrsarïau'r Wladwriaeth ar gyfer Addysg Oedolion) (Cymru) 1979 (O.S. 1979/333), i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil yn hytrach na'r term “spouse” pan fo'r term yn digwydd yn y Rheoliadau hyn.

Mae paragraff 4 yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 (O.S. 1988/551). Yn rheoliad 2(1) diwygir y diffiniad o “partner” i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 5 yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd i Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S. 1989/306) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil yn hytrach na'r term “spouse” pan fo'r term yn digwydd yn y Rheoliadau hyn.

Mae paragraff 6 yn diwygio Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Ffurflenni Cymraeg) 1989 (O.S. 1989/429). Mae Ffurflen 2 yn Atodlen 1 yn bapur dirprwy i'w ddefnyddio os bydd etholwr yn penodi rhywun arall i bleidleisio ar ei ran mewn etholiadau seneddol yng Nghymru. Diwygir nodyn 4 i Ffurflen 2 (sy'n darparu na chaiff y person sy'n pleidleisio fel dirprwy, bleidleisio fel dirprwy i fwy na dau etholwr nad yw'r person hwnnw yn berthynas o un o'r categorïau a bennir yno) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 7 yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio a Thâl Cymunedol 1989 (O.S. 1989/439) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil yn hytrach na'r term “spouse” pan fo'r term yn digwydd yn y Rheoliadau hyn.

Mae paragraff 8 yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) 1992 (O.S. 1992/552). Mae rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn yn gosod dosbarthiadau amrywiol o berson at ddibenion Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) ( sy'n darparu y caiff dosbarthiadau rhagnodedig o berson eu diystyru at ddibenion disgownt y dreth gyngor). Yn rheoliad 3(1), diwygir is-baragraff (a) o Ddosbarth E i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Diwygir paragraff 4(1) o'r Atodlen i gynnwys cyfeiriad at gyplau sy'n cyd-fyw fel pe baent yn bartneriaid sifil.

Mae paragraff 9 yn diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 (O.S. 1992/558). Diwygir erthygl 2(5) (sy'n ddarpariaeth dehongli) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil, partneriaeth sifil, ac at gyplau sy'n cyd-fyw fel pe baent yn bartneriaid sifil. Yn erthygl 3, diwygir Dosbarth N i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 10 yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (O.S. 1992/613). Yn rheoliad 32 (sy'n ymwneud â dehongli a chymhwyso Rhan VI o'r Rheoliadau hynny), diwygir y diffiniad o “net earnings” (enillion net) ym mharagraff (1) i gynnwys cyfeiriad at wŷr gweddw neu bartneriaid sifil sy'n goroesi. Mae hyn yn golygu bod y diffiniad o enillion net yn cael ei ddiwygio i hepgor taliadau megis blwydd-daliadau i bersonau penodol gan gynnwys partner sifil sy'n goroesi. Diwygir rheoliad 58(1)(b) (sy'n ymwneud â rhwymedigaethau dyledus ar farwolaeth), i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae hyn yn golygu y caiff awdurdod trethu adennill rhwymedigaethau treth gyngor dyledus pan fydd farw'r sawl sy'n talu'r dreth gyngor (pan fydd y sawl sy'n talu'r dreth gyngor yn atebol yn unigol ac ar y cyd am dalu treth gyngor fel partner sifil) a hynny oddi wrth ei ysgutor neu ei weinyddwr. Yn y cyd-destun hwn, mae'r cyfeiriad at bartner sifil yn cynnwys person sy'n byw gyda pherson arall o'r un rhyw fel pe baent yn bartneriaid sifil, yn rhinwedd y cyfeiriad yn rheoliad 58 at adran 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14). Diwygiwyd adran 9 gan baragraff 140 o Atodlen 27 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33) i gynnwys cyfeiriad at bersonau sy'n cyd-fyw fel pe baent yn bartneriaid sifil. Mae'r diwygiadau i reoliad 58 yn adlewyrchu darpariaeth sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gwŷr a gwragedd.

Mae paragraff 11 yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995 (O.S.1995/3056). Diwygir paragraffau 7(1)(f), 23(2) a 42(3) i gynnwys cyfeiriad at bartneriaid sifil. Mae paragraff 7(1)(f) yn darparu bod person yn cael ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod o dribiwnlys, neu rhag parhau'n aelod, os daw ei briod neu ei bartner sifil yn gyflogai i'r tribiwnlys hwnnw. Mae paragraff 23(2) yn darparu bod person yn cael ei anghymhwyso rhag cymryd rhan mewn gwrandawiad neu benderfyniad o apêl, neu weithredu fel clerc neu swyddog tribiwnlys o ran apêl, os yw'r apelydd yn briod iddo neu'n bartner sifil iddo, neu os yw'r person hwnnw'n cefnogi'r apelydd yn ariannol. Diwygir paragraff 42(3) (sy'n darparu bod person yn cael ei anghymhwyso rhag cymryd rhan fel aelod mewn gwrandawiad neu benderfyniad o apêl, neu weithredu fel clerc neu swyddog tribiwnlys o ran apêl mewn amgylchiadau penodol) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraph 12 yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890). Yn rheoliad 2(1) diwygir y diffiniad o “close relative”, “family”, “member of a couple”, “partner”, ac “unmarried couple” i gynnwys cyfeiriad at bartneriaeth sifil. Mae paragraff 10A(1)(b) yn Atodlen 1 (sy'n gosod yr amod y mae'n rhaid ei fodloni er mwyn i rywun fod yn gymwys i gael premiwm profedigaeth) i gynnwys cyfeiriad at farwolaeth partner sifil a fu farw ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001. Diwygir paragraff 65 yn Atodlen 4 (sy'n darparu bod taliadau penodol a wnaed i ddigolledu bod person perthnasol, neu eraill sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw a oedd yn llafurwr caethwasaidd, a oedd yn cael ei orfodi i lafurio'n gaethwasaidd, a oedd wedi dioddef colled i eiddo neu anaf personol neu a oedd yn rhiant i blentyn a fu farw) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil a phartner sifil a fu farw.

Mae paragraff 13 yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) 1998 (O.S. 1998/105). Yn yr Atodlen, diwygir paragraffau 1(1) a 2(1), (2), a (3) (sy'n darparu bod annedd yn mynd gyda swydd mewn amgylchiadau penodol) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Diwygir paragraff 3 i gyfeirio at gyplau sy'n cyd-fyw fel pe baent yn bartneriaid sifil.

Mae paragraff 14 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Llywodraeth Ysgol) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2242). Mae Atodlen 7 i'r Rheoliadau hynny'n gosod cyfyngiadau ar bersonau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion cyrff llywodraethu neu eu pwyllgorau. Diwygir paragraff 1 (y ddarpariaeth dehongli) i gynnwys is-baragraff (d) newydd i gyfeirio at bersonau sy'n cyd-fyw fel pe baent yn bartneriaid sifil. Mae paragraff 2(4) o'r Atodlen honno (sy'n darparu y caiff person ei drin fel pe bai ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall pe bai perthynas sydd yn byw gydag ef, yn ôl ei wybodaeth, wedi cael ei drin neu a fyddai'n cael ei drin fel pe bai ganddo fuddiant o'r fath, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 15 yn diwygio Rheoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1410). Diwygir is-baragraff (c)(iii) yn y diffiniad o “eligible child” i gynnwys cyfeiriad at blentyn mabwysiedig partner sifil.

Mae paragraff 16 yn diwygio Rheoliadau'r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000 (O.S. 2000/2959 (Cy. 190)). Yn rheoliad 5 (sy'n darparu pwy a all wneud cais am grant), diwygir rheoliadau 5(1)(a), 5(1)(b), 5(2)(a), 5(2)(b), 5(2)(ch), a 5(6) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 17 yn diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2283 (Cy.172)). Yn rheoliad 2, diwygir is-baragraff (c) yn y diffiniad o “aelod annibynnol” ac is-baragraff (b) yn y diffiniad o “aelod panel lleyg” i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 18 yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 (O.S.2002/324 (Cy.37)). Diwygir y diffiniad o “perthynas” yn rheoliad 2(1) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraph 19 yn diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 (O.S. 2002/325 (Cy.38)). Yn Rhan II o Atodlen 3, diwygir paragraff 1 (sy'n pennu'r manylion y mae'n rhaid eu cynnwys yng nghofrestri cleifion) i gynnwys cyfeiriad at statws partneriaeth sifil.

Mae paragraff 20 yn diwygio Rheoliadau Cofrestu Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 (O.S. 919 (Cy.107)). Diwygir y diffiniad o “relative” yn rheoliad 2(1) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 21 yn diwygio Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/149 (Cy.19)). Diwygir rheoliad 15(5) (sy'n darparu y caiff aelod o fwrdd iechyd lleol ei drin fel pe bai ganddo fuddiant anuniongyrchol ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall os yw'r aelod hwnnw neu unrhyw enwebai gan yr aelod hwnnw yn dod o fewn y naill neu'r llall o'r categorïau a nodir yn is-baragraffau (a) a (b)) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 22 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 (O.S. 2003/237 (Cy.35)). Mae rheoliad 24(9)(d) yn darparu na ddylid penodi person yn aelod annibynnol o banel maethu os yw'r person, yn achos asiantaeth faethu, yn perthyn i gyflogai gan y darparydd cofrestredig, neu i unrhyw berson sy'n ymwneud â rheoli'r asiantaeth faethu. Diwygir rheoliad 24(10) (sy'n diffinio'r ymadrodd “perthyn” at ddibenion Rheoliad 24(9) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Yn Atodlen 3 (sy'n pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu ei chael i gydymffurfio â'i rwymedigaeth o dan reoliad 27(2)(a)), diwygir paragraff 2 i gynnwys cyfeiriad at bartneriaeth sifil.

Mae paragraff 23 yn diwygio Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 (O.S. 2003/781 (Cy.92)). Yn Atodlen 4, diwygir paragraff 2(a) (sy'n pennu manylion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cofrestri preswylwyr) i gynnwys cyfeiriad at statws partneriaeth sifil.

Mae paragraff 24 yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 (O.S. 219 (Cy.23)).l Yn rheoliad 2(1), diwygir y diffiniad o “perthynas” i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 25 yn diwygio Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/675 (Cy. 64)). Mae rheoliad 2(1) yn darparu bod memorandwm cymdeithasu cwmni RTM (“Hawl i Reoli”), i fod ar y ffurf a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn ac i gynnwys y darpariaethau sydd ynddi. Yn Rhan 1 o'r Atodlen honno, mae paragraff 4 yn nodi'r pwerau amrywiol a fydd gan y cwmni er mwyn hybu ei amcanion. Diwygir paragraff 4(ph) (sy'n darparu y caiff y cwmni roi neu ddyfarnu pensiynau, dyfarndaliadau, blwydd-daliadau, arian rhodd, a phensiynau ymddeol neu lwfansau neu fudd-daliadau eraill neu gymorth elusennol ac yn gyffredinol darparu manteision, cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer unrhyw un sydd neu a fu yn un o gyfarwyddwyr neu yn un o gyflogeion y cwmni, a'u perthnasau perthnasol a'u dibynyddion) i gynnwys cyfeiriad at bartneriaid sifil a phartneriaid sifil sy'n goroesi.

Mae paragraff 26 yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/683 (Cy.71)). Yn rheoliad 8 (sy'n darparu na chodir ffioedd neu ostwng ffioedd mewn achosion penodol, gan roi sylw i amgylchiadau'r ceisydd a phartner y ceisydd ) diwygir y diffiniad o “partner” ym mharagraff 4 i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 27 yn diwygio Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/684 (Cy.72)). Yn rheoliad 2(1), diwygir y diffiniad o “perthynas agos” i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 28 yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/870 (Cy. 85)). Mae'r darpariaethau yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso, gydag addasiadau, Ddeddfau ac offerynnau statudol penodol. Yn Nhabl 1 o'r Atodlen honno (sy'n cymhwyso darpariaethau o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p.2)) diwygir y cofnod sy'n ymwneud ag adran 61(4) o'r Ddeddf honno, i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Yn Nhabl 3 o'r Atodlen honno (sy'n cymhwyso darpariaethau yn Atodlen 2 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986, diwygir y cofnod sy'n ymwneud â Rheol 29 o'r rheolau hynny (cwestiynau i'w rhoi i etholwyr) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 29 yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1748 (Cy.185)). Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i daliadau i gael eu gwneud yn uniongyrchol i fathau penodol o geiswyr er mwyn iddynt allu talu am fathau penodol o wasanaethau. Mae rheoliad 7(1) yn darparu, mewn gwirionedd, os yw darparydd y gwasanaeth yn berson a grybwyllir yn rheoliad 7(2), bydd y taliad uniongyrchol yn ddarostyngedig i'r naill amod neu'r llall a bennir ym mharagraffau (a) a (b) yn eu trefn o reoliad 7(1). Yn rheoliad 7(2), diwygir paragraffau (a), (b), (ch) a (d) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil.

Mae paragraff 30 yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1756 (Cy.188)). Diwygir y diffiniad o “perthynas” yn rheoliad 2(1) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil a phartner sifil blaenorol.

Ni luniwyd arfarniad rheoliadol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'r offeryn yn effeithio o gwbl ar gostau busnesau, elusennau, cyrff gwirfoddol nac unrhyw gyrff cyhoeddus ar wahân i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 ei hunan. Cyhoeddwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer partneriaeth sifil ynghyd â Deddf Partneriaeth Sifil 2004 a gellir ei weld yn http://www.dti.gov.uk/access/ria/index.htm#equality

(5)

O.S. 1979/333 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(6)

O.S. 1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/410, O.S. 2003/975 (Cy.134), O.S. 2003/2561 (Cy. 250); mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(8)

O.S. 1989/439, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/439, mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(9)

O.S. 1992/552, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/657; mae diwygiadau eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(10)

O.S. 1992/558, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/150 ac O.S. 1997/656; mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(11)

O.S. 1992/613, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(13)

O.S. 1996/2890, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/977, 1998/808, 1999/1523, 2000/973 (Cy. 43), 2001/2073 (Cy.145), 2002/2798 (Cy.266), a 2004/253 (Cy. 28), mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(14)

O.S. 1998/105, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(15)

O.S. 1999/2242, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2263 (Cy.164). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(16)

O.S. 2000/1410, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(19)

O.S. 2002/ 324 (Cy. 37), a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/2935 (Cy. 277); mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(20)

O.S. 2002/ 325 (Cy. 38), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(21)

O.S. 2002/ 919 (Cy. 107), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(22)

O.S. 2003/ 149 (Cy. 19), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(24)

O.S. 2003/781 (Cy.92) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(25)

O.S. 2004/219 (Cy.23) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(30)

1983 p. 2, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), Atodlenni 2 a 5 a chan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29), Atodlen 3, paragraffau 1 a 10.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill