Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN IMATERION RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005, deuant i rym ar 1 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol, yn rhinwedd rheoliad 5, dros orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid;

ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau'r Gymuned a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(1);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;

mae i “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) a “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yr ystyr a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;

ystyr “y Rheoliadau Hylendid” (“the Hygiene Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau'r Gymuned;

ystyr “Rheoliadau'r Gymuned” (“the Community Regulations”) yw Rheoliad 852/2004, Rheoliad 853/2004 a Rheoliad 854/2004; ac

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau Hylendid.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf, yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yn ôl y digwydd.

(4Pan fyddai unrhyw gyfnod o lai na saith niwrnod a bennir yn y Rheoliadau hyn, ar wahân i'r paragraff hwn, yn cynnwys unrhyw ddiwrnod sydd—

(a)yn ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig neu'n ddydd Gwener y Groglith; neu

(b)yn ddiwrnod sy'n wyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2)

hepgorir y diwrnod hwnnw o'r cyfnod.

Rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl

3.—(1Mae'r paragraffau canlynol yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid rhagdybio, hyd nes y profir y gwrthwyneb, fod unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl, os yw wedi'i roi ar y farchnad neu wedi'i gynnig, wedi'i arddangos neu wedi'i gadw i'w roi ar y farchnad, wedi cael ei roi ar y farchnad neu, yn ôl y digwydd, y bwriadwyd neu y bwriedir ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl.

(3Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir y canlynol, sef —

(a)unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre a ddefnyddir ar gyfer paratoi neu storio'r bwyd hwnnw neu ar gyfer ei roi ar y farchnad; a

(b)unrhyw eitem neu sylwedd a ddefnyddir yn gyffredin i weithgynhyrchu bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre a ddefnyddir ar gyfer paratoi neu storio'r bwyd hwnnw neu ar gyfer ei roi ar y farchnad

ar gyfer ei roi ar y farchnad, neu ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd i'w roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl.

(4Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir unrhyw eitem neu sylwedd y mae modd ei defnyddio neu ei ddefnyddio i fod yn gyfansoddyn unrhyw fwyd neu i baratoi unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre lle mae'r bwyd hwnnw'n cael ei baratoi, ar gyfer defnydd o'r fath.

Yr awdurdod cymwys

4.  Yr Asiantaeth yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau'r Gymuned ac eithrio pan fo wedi dirprwyo cymwyseddau fel y darperir ar ei gyfer yn y Rheoliadau hynny.

Gorfodi

5.—(1O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 yn gymwys i'w weithrediadau ond nad yw Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddynt —

(a)rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodiad I i Reoliad 852/2004 heblaw'r gweithrediadau cysylltiedig a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) ac (c) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y maent yn ymwneud ag anifeiliaid hela gwyllt; a

(b)rhaid i'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfodi a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).

(2O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 a Rheoliad 853/2004 ill dau yn gymwys i'w weithrediadau —

(a)rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gweithrediadau mewn perthynas â'r sefydliadau a'r gweithgareddau canlynol —

(i)lladd-dai,

(ii)sefydliadau sy'n trin anifeiliaid hela,

(iii)safleoedd torri sy'n rhoi cig ffres ar y farchnad, a

(iv)gweithgareddau mewn perthynas ag wyau fel y'u nodir ym Mhennod I Adran X o Atodiad III i Reoliad 853/2004; a

(b)rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gweithrediadau mewn perthynas ag unrhyw sefydliad neu weithgaredd nas pennir yn is-baragraff (a) ac a reoleiddir gan Reoliad 853/2004.

(3O ran —

(a)canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu gelatin a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â pharagraff 5 o Bennod I Adran XIV o Atodiad III i Reoliad 853/2004; a

(b)canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â pharagraff 5 o Bennod I Adran XV o Atodiad III i Reoliad 853/2004,

rhaid i'r awdurdod bwyd y lleolir y ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan —

(a)Atodlenni 3 i 5; a

(b)Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl ac eithrio llaeth buchod crai.

(5Rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl.

RHAN IIY PRIF DDARPARIAETHAU

Hysbysiadau gwella hylendid

6.—(1Os bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi seiliau rhesymol dros gredu bod gweithredydd busnes bwyd yn methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid, caiff y swyddog drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person hwnnw (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwella hylendid”) —

(a)datgan seiliau'r swyddog dros gredu bod y gweithredydd busnes bwyd yn methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid;

(b)pennu'r materion sy'n golygu bod y gweithredydd busnes bwyd wedi methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid;

(c)pennu'r mesurau y mae'n rhaid i'r gweithredydd busnes bwyd eu cymryd, ym marn y swyddog, i sicrhau ei fod yn cydymffurfio; ac

(ch)ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredydd busnes bwyd gymryd y mesurau hynny, neu'r mesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn unrhyw gyfnod (heb fod yn llai na 14 diwrnod) a bennir yn yr hysbysiad.

(2Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella hylendid yn euog o dramgwydd.

Gorchmynion gwahardd at ddibenion hylendid

7.—(1Os —

(a)y caiff gweithredydd busnes bwyd ei gollfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)y caiff y llys y collfarnwyd y gweithredydd felly ganddo neu ger ei fron ei fodloni bod yr amod ynglyn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran y busnes bwyd o dan sylw,

bydd y llys yn gosod y gwaharddiad priodol drwy orchymyn.

(2Bodlonir yr amod ynglyn â risg iechyd mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd os yw unrhyw un o'r canlynol yn cynnwys risg o niwed i iechyd (gan gynnwys unrhyw nam, boed hwnnw'n barhaol neu dros dro), sef —

(a)defnyddio at ddibenion y busnes unrhyw broses neu driniaeth;

(b)adeiladu unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes, neu ddefnyddio at y dibenion hynny unrhyw gyfarpar; ac

(c)sefyllfa neu gyflwr unrhyw fangre neu gyfarpar a ddefnyddir at ddibenion y busnes.

(3Y gwaharddiad priodol yw —

(a)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a) o baragraff (2), gwaharddiad ar ddefnyddio proses neu driniaeth at ddibenion y busnes;

(b)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar ddefnyddio'r fangre neu'r cyfarpar at ddibenion y busnes neu unrhyw fusnes bwyd arall o'r un dosbarth neu ddisgrifiad; ac

(c)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar ddefnyddio'r fangre neu'r cyfarpar at ddibenion unrhyw fusnes bwyd.

(4Os —

(a)y bydd gweithredydd busnes bwyd yn cael ei gollfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)y bydd y llys y cafodd y gweithredydd ei gollfarnu felly ganddo neu ger ei fron yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos,

caiff y llys, drwy orchymyn, osod gwaharddiad a fyddai'n atal y gweithredydd busnes bwyd rhag cymryd rhan yng ngwaith rheoli unrhyw fusnes bwyd, neu unrhyw fusnes bwyd o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn.

(5Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) neu (4) (gorchymyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid”), rhaid i'r awdurdod gorfodi —

(a)cyflwyno copi o'r gorchymyn i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol; a

(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), gosod copi o'r gorchymyn mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd ac y mae'n barnu ei bod yn briodol,

a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i orchymyn o'r fath yn euog o dramgwydd.

(6Bydd gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol —

(a)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), pan fydd yr awdurdod gorfodi wedi dyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd mesurau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglyn â risg iechyd yn cael ei fodloni mwyach mewn perthynas â'r busnes bwyd; a

(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (4), pan fydd y llys yn rhoi cyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw.

(7Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan is-baragraff (a) o baragraff (6) cyn pen tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni yn y modd a grybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw; ac ar gais gan y gweithredydd busnes bwyd am dystysgrif o'r fath, rhaid i'r awdurdod —

(a)penderfynu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod, a yw wedi'i fodloni felly neu beidio; a

(b)os bydd yn penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, rhoi hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(8Rhaid i'r llys roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (b) o baragraff (6) os yw'r llys, ar ôl cael cais gan y gweithredydd busnes bwyd, yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys yn benodol ymddygiad y gweithredydd busnes bwyd ers gwneud y gorchymyn; ond ni fydd unrhyw gais o'r fath yn cael ei ystyried os yw'n cael ei wneud —

(a)cyn pen chwe mis ar ôl gwneud y gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid; neu

(b)cyn pen tri mis ar ôl i'r gweithredydd busnes bwyd wneud cais blaenorol am gyfarwyddyd o'r fath.

(9Pan fo llys ynadon yn gwneud gorchymyn o dan baragraff (2) o reoliad 8 mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd, bydd paragraff (1) yn gymwys fel petai'r gweithredydd busnes bwyd wedi'i gollfarnu gan y llys o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(10Pan fo'r ffaith bod tramgwydd wedi'i gyflawni gan weithredydd busnes bwyd yn arwain at gollfarnu person arall yn unol â rheoliad 10, bydd paragraff (4) yn gymwys o ran y person arall hwnnw yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran y gweithredydd busnes bwyd a dehonglir unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (5) neu (8) at y gweithredydd busnes bwyd yn unol â hynny.

Hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys at ddibenion hylendid

8.—(1Os yw swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi'i fodloni bod yr amod ynglyn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran unrhyw fusnes bwyd, caiff y swyddog osod y gwaharddiad priodol drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid”) .

(2Os yw llys ynadon wedi'i fodloni, ar gais swyddog o'r fath, fod yr amod ynglyn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran unrhyw fusnes bwyd, rhaid i'r llys, drwy orchymyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid”), osod y gwaharddiad priodol.

(3Ni chaiff swyddog o'r fath wneud cais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid oni bai bod y swyddog, o leiaf un diwrnod cyn dyddiad y cais, wedi cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol o'i fwriad i wneud cais am y gorchymyn.

(4Bydd paragraffau (2) a (3) o reoliad 7 yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw, ond fel petai'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at risg o niwed i iechyd yn gyfeiriad at risg agos o niwed.

(5Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid, rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi osod copi o'r hysbysiad mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd ag y mae'n barnu ei bod yn briodol; a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r hysbysiad hwnnw yn euog o dramgwydd.

(6Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid, rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi —

(a)cyflwyno copi o'r gorchymyn i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol; a

(b)gosod copi o'r gorchymyn mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd y mae'r swyddog yn barnu ei bod yn briodol,

a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r gorchymyn hwnnw yn euog o dramgwydd.

(7Bydd hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol —

(a)os na wneir unrhyw gais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid o fewn y cyfnod o dri diwrnod gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw; neu

(b)os gwneir cais o'r fath felly, adeg penderfynu neu ollwng y cais.

(8Bydd hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol pan fydd yr awdurdod gorfodi yn dyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd mesurau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglyn â risg iechyd yn cael ei fodloni mwyach o ran y busnes bwyd.

(9Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (8) cyn pen tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni yn y modd a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw; a phan fydd y gweithredydd busnes bwyd yn cyflwyno cais am dystysgrif o'r fath, rhaid i'r awdurdod —

(a)penderfynu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod a yw wedi'i fodloni felly neu beidio; a

(b)os yw'n penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, rhoi hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(10Pan fo hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid yn cael ei gyflwyno i weithredydd busnes bwyd, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r swyddog am unrhyw golled a gafwyd oherwydd y ffaith bod y swyddog wedi cydymffurfio â'r hysbysiad —

(a)oni chaiff cais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid ei wneud o fewn y cyfnod o dri diwrnod gan ddechrau ar ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad; a

(b)oni fydd y llys yn datgan ei fod wedi'i fodloni, ar ôl gwrando'r cais, fod yr amod ynglyn â risg iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas â'r busnes bwyd adeg cyflwyno'r hysbysiad,

a gellir penderfynu drwy gymrodeddu unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw.

Hysbysiadau camau cywiro a hysbysiadau cadw

9.—(1Pan fo'n ymddangos i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi mewn perthynas â sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004—

(a)bod unrhyw un o ofynion y Rheoliadau Hylendid yn cael ei dorri; neu

(b)bod arolygiad o dan y Rheoliadau Hylendid yn cael ei lesteirio,

caiff y swyddog, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad camau cywiro”)—

(c)gwahardd defnyddio unrhyw gyfarpar neu unrhyw ran o'r sefydliad a bennir yn yr hysbysiad;

(ch)gosod amodau ar gyflawni unrhyw broses neu wahardd cyflawni unrhyw broses;

(d)ei gwneud yn ofynnol i'r gyfradd weithredu gael ei lleihau i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad, neu i gael ei stopio'n gyfan gwbl.

(2Rhaid cyflwyno hysbysiad camau cywiro cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan nodi'r rheswm pam y mae'n cael ei gyflwyno.

(3Os yw'n cael ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo enwi'r toriad a'r camau y mae eu hangen i'w gywiro.

(4Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog awdurdodedig yr hysbysiad camau cywiro gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni bod y camau hynny wedi'u cymryd, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd.

(5Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi, mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw (hysbysiad y cyfeirir ato yn y rheoliad hyn fel “hysbysiad cadw”) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail neu fwyd gael ei gadw at ddibenion archwilio (gan gynnwys cymryd samplau).

(6Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog yr hysbysiad cadw gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni nad oes angen cadw'r anifail neu'r bwyd mwyach, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw.

(7Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â hysbysiad camau cywiro neu hysbysiad cadw yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau oherwydd bai person arall

10.  Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy

11.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.

(2Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir —

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir,

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny.

RHAN IIIGWEINYDDU A GORFODI

Caffael samplau

12.  Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi —

(a)prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;

(b)cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd —

(i)sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn fwyd neu'n sylwedd y bwriedir ei roi ar y farchnad neu y bwriadwyd ei roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl, neu

(ii)a geir gan swyddog ar neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan neu o dan reoliad 14;

(c)cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, a geir gan y swyddog ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac

(ch)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd a geir gan swyddog ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdani neu amdano fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.

Dadansoddi etc samplau

13.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 12 —

(a)os yw o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi, ei chyflwyno i gael ei dadansoddi —

(i)gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal y cafodd y sampl ei chaffael ynddi, neu

(ii)gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal sydd wedi'i ffurfio o ardal yr awdurdod neu sy'n ei chynnwys;

(b)os yw o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio, ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

(2Caiff person, nad yw'n swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono —

(a)i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal y prynwyd y bwyd neu'r sylwedd ynddi; neu

(b)i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

(3Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.

(4Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl y digwydd, anfon y sampl i unrhyw ddadansoddydd bwyd arall neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.

(5Rhaid i ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio —

(a)os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a

(b)os yw'r sampl wedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi,

caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.

(6Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno drwyddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.

(7Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.

(8Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos —

(a)dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu

(b)dogfen a ddarparwyd iddo gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,

yn dystiolaeth ddigonol i'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw fel tyst.

(9Yn y rheoliad hwn, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus yn cael eu penodi ar gyfer unrhyw ardal, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal honno fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.

Pwerau mynediad

14.—(1Mae gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi heblaw'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol —

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal, neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau Hylendid yn cael neu wedi cael ei thorri;

(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn neu'r tu allan i ardal neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno neu'r dosbarth hwnnw; ac

(c)i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel ty annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(2Mae gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn —

(a)darganfod a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau Hylendid yn cael neu wedi cael ei thorri;

(b)darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath; ac

(c)i'r Asiantaeth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel ty annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i ddod i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(3Os yw ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai —

(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y synhwyrir y caiff ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(4Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(6Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig —

(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.

(7Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bwer a roddwyd gan baragraff (6) —

(a)cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(8Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

(9Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(3), i fynd i mewn i unrhyw fangre —

(a)lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio ar yr anifail neu'r aderyn hwnnw; a

(b)sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath.

Rhwystro, etc. swyddogion

15.—(1Bydd unrhyw berson sydd —

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau Hylendid ar waith; neu

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau Hylendid ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd yn is-baragraph (b) o baragraff (1)—

(a)yn darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b)yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau

16.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad o dan y Rheoliadau hyn am dramgwydd y gellir ei gosbi o dan is-baragraff (2) o reoliad 17 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben —

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Tramgwyddau a chosbau

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 15 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

(4Ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004, neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen gyda pharagraff 4 Pennod IV o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw (swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi'u neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd) ar yr amod bod gofynion Atodlen 3 yn cael eu bodloni.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

18.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol, sef—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Yn is-baragraff (a) o baragraff (1) ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd

19.  Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Yr hawl i apelio

20.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan —

(a)penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad gwella hylendid; neu

(b)penderfyniad awdurdod gorfodi i wrthod dyroddi tystysgrif o dan baragraff (6) o reoliad 7 neu baragraff (8) o Reoliad 8; neu

(c)penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad camau cywiro,

apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980(4) fydd yn gymwys i'r achos cyfreithiol.

(3Y cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) yw —

(a)un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person a oedd yn dymuno apelio; neu

(b)yn achos apêl yn erbyn penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwella hylendid, y cyfnod a bennir yn is-baragraff (a) neu, os yw'n fyrrach, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6,

a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

Apelau i Lys y Goron

21.  Caiff berson a dramgwyddir gan —

(a)y ffaith bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan baragraff (1) o reoliad 20; neu

(b)unrhyw benderfyniad gan y llys hwnnw i wneud gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid,

apelio i Lys y Goron.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gwella hylendid a hysbysiadau camau cywiro

22.—(1Pan apelir yn erbyn hysbysiad gwella hylendid neu hysbysiad camau cywiro, caiff y llys ganslo neu gadarnhau'r hysbysiad, ac os yw'n ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda'r addasiadau y mae'r llys yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau.

(2Pan fyddai unrhyw gyfnod a bennir mewn hysbysiad gwella hylendid yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6 yn cynnwys fel arall unrhyw ddiwrnod y mae apêl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw yn yr arfaeth, ni fydd y diwrnod hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cyfnod hwnnw.

(3Ystyrir bod unrhyw apêl yn yr arfaeth at ddibenion paragraff (2) hyd nes y penderfynir arni yn derfynol, y tynnir hi'n ôl, neu hyd nes y caiff ei dileu oherwydd diffyg erlyniad.

Cymhwyso adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

23.  Mae adran 9 o'r Ddeddf (arolygu bwyd amheus a chymryd meddiant ohono)(5) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad ei bod yn gymwys o ran swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd.

RHAN IVDARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL

Pwer i ddyroddi codau arferion a argymhellir

24.—(1Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyroddi codau arferion a argymhellir o ran gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau Hylendid i fod yn ganllawiau i awdurdodau bwyd.

(2Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.

(3Drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt gan neu o dan y Rheoliadau Hylendid, rhaid i bob awdurdod bwyd —

(a)rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â'r cod hwnnw.

(4Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.

(5Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).

(6Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll

25.—(1Ni fydd swyddog i awdurdod gorfodi yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo —

(a)wrth weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Hylendid; a

(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Hylendid yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod gorfodi rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion awdurdodedig.

(3Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod gorfodi mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog hwnnw—

(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Hylendid; ond

(b)y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,

caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

(4Ymdrinnir â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y swyddog yn benodiad amser-cyfan neu beidio.

Dirymu dynodiadau a phenodiadau a'u hatal dros dro

26.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff yr Asiantaeth ar unrhyw bryd ddirymu neu atal dros dro —

(a)penodi milfeddyg swyddogol;

(b)dynodi milfeddyg cymeradwy; neu

(c)penodi cynorthwy-ydd swyddogol,

os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth fod y person o dan sylw yn anffit i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r swydd honno o dan y Rheoliadau Hylendid.

(2Pan fo'r Asiantaeth yn dirymu neu'n atal dros dro ddynodiad neu benodiad o dan baragraff (1), rhaid i'r Asiantaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi i'r person y mae ei ddynodiad neu ei benodiad wedi'i ddirymu neu wedi'i atal dros dro hysbysiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y dirymiad neu'r ataliad dros dro a rhoi i'r person hwnnw gyfle —

(a)i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Asiantaeth ynglŷn â'r dirymiad neu'r ataliad dros dro; neu

(b)i gael gwrandawiad gan berson a enwir gan yr Asiantaeth at y diben yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff (5).

(3Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (2) roi gwybod i'r person y caiff ei roi iddo —

(a)am ei hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig;

(b)ym mha ddull ac o fewn pa amser (heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad) y caniateir i'r sylwadau hynny gael eu cyflwyno;

(c)am ei hawl i gael gwrandawiad; ac

(ch)ym mha ddull ac o fewn pa amser (heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad) y caniateir iddo wneud cais am gyfle i gael gwrandawiad.

(4Os bydd y person y mae ei ddynodiad neu ei benodiad wedi'i ddirymu neu wedi'i atal dros dro yn cyflwyno unrhyw sylwadau (boed ar lafar neu mewn ysgrifen) o dan baragraff (3), rhaid i'r Asiantaeth ailystyried a yw'r person hwnnw'n anffit i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r swydd y mae'n ei dal o dan y Rheoliadau Hylendid a rhaid iddi ailystyried cyn gynted ag y bo'n ymarferol ei phenderfyniad i ddirymu neu atal dros dro'r dynodiad neu'r penodiad o dan baragraff (1) yng ngoleuni'r sylwadau hynny.

(5Pan fo person yn gofyn am gyfle i gael gwrandawiad yn unol ag is-baragraff (6) o baragraff (2) —

(a)rhaid i'r Asiantaeth enwi person i benderfynu'r mater o'r rhestr a sefydlwyd o dan baragraff (6);

(b)rhaid i'r person a enwir felly gyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gofyn am gyfle i gael gwrandawiad ac i'r Asiantaeth, yn rhoi gwybod iddynt am amser y gwrandawiad (a'r amser hwnnw heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad); ac

(c)rhaid i'r person a enwir felly hysbysu o fewn 21 niwrnod i'r gwrandawiad y person sy'n gofyn am gyfle i gael gwrandawiad a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.

(6Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwi at ddibenion y rheoliad hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli milfeddygon swyddogol, milfeddygon cymeradwy a chynorthwywyr swyddogol gan gynnwys unrhyw berson ar y rhestr.

Bwyd nad yw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid

27.—(1Wrth arolygu unrhyw fwyd, caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi ardystio nad yw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid.

(2Pan fo unrhyw fwyd yn cael ei ardystio fel a grybwyllwyd ym mharagraff (1), ymdrinnir ag ef at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

(3Pan fo unrhyw fwyd a ardystiwyd fel a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, rhaid i'r holl fwyd yn y swp, y lot neu'r llwyth, hyd nes y profir ei fod wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu neu wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid, gael ei drin at ddibenion paragraff (2) fel bwyd sydd wedi'i ardystio felly.

Cyflwyno dogfennau

28.—(1Caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i weithredydd busnes bwyd gael ei chyflwyno —

(a)drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;

(b)yn achos cwmni corfforaethol neu gorff corfforaethol, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y cwmni neu'r corff hwnnw, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno; neu

(c)yn achos unrhyw weithredydd busnes bwyd arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at y gweithredydd yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.

(2Pan fo dogfen i'w chyflwyno i weithredydd busnes bwyd o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo mangre'r gweithredydd busnes bwyd heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y gweithredydd busnes bwyd o dan sylw yn ei swyddogaeth fel meddiannydd y fangre honno (gan ei henwi), ac

(a)drwy ei thrâddodi i ryw berson arall yn y fangre; a

(b)os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen, neu gopi ohoni, ar ryw ran amlwg o'r fangre.

Swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr

29.  Mae Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr) yn effeithiol.

Gofynion rheoli tymheredd

30.  Mae Atodlen 4 (gofynion rheoli tymheredd) yn effeithiol.

Y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm

31.  Mae Atodlen 5 (y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm) yn effeithiol.

Cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl a diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

32.—(1Mae Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl) yn effeithiol.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(6) dileer y geiriau “Subject to paragraph (3) of this regulation, and except” a rhoi'r gair “Except” yn eu lle.

(3Ym mharagraff (2) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 dileer y geiriau “Subject to paragraph (3) of this regulation, in” a rhoi'r gair “In” yn eu lle.

(4Ym mharagraffau (1) a (2) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996, yn union ar ôl y geiriau “harmful to health.” rhodder y geiriau “The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.”.

(5Dileer paragraff (3) o reoliad 31.

Dirymiadau

33.  Dirymir yr offerynnau a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 7 i'r graddau a bennir yng Ngholofn 3 o'r Atodlen honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Tachwedd 2005

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill