Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Rhagor o Adnoddau

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1434 (Cy.147)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

25 Mai 2004

Yn dod i rym

1 Medi 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 69, 74, 78 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1), ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol(2) mewn perthynas â Chymru, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004 ac mae'n dod i rym ar 1 Medi 2004.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Gorchymyn 1995” yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995(3).

Diwygiadau i Orchymyn 1995

2.  Yn erthygl 1(2) o Orchymyn 1995 (dehongli)—

(a)ar ôl y diffiniad o “outline planning permission”, rhowch—

“planning obligation” means an obligation entered into by agreement or otherwise by any person interested in land pursuant to section 106 of the Act(4);; a

(b)ar ôl y diffiniad o “reserved matters”, rhowch—

“Secretary of State” shall be construed, in relation to Wales, as meaning the National Assembly for Wales;

“section 278 agreement” means an agreement entered into pursuant to section 278 of the Highways Act 1980(5);.

3.  Yn erthygl 22(1)(a) o Orchymyn 1995 (hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad neu ddyfarniad sy'n ymwneud â chais cynllunio), ar ôl “condition imposed”, rhowch—

, specifying all policies and proposals in the development plan which are relevant to the decision.

4.  Yn erthygl 23 o Orchymyn 1995 (apelau), ar ôl paragraff (3), rhowch—

(4) The Secretary of State may refuse to accept a notice of appeal from an applicant if the documents required under paragraphs (1) and (3) are not served on him within the time limit specified in paragraph (2)..

5.  Yn erthygl 25 o Orchymyn 1995 (cofrestr o geisiadau)—

(a)dilëwch baragraff (3) a rhoi yn ei le—

(3) Part I of the register shall contain in respect of each such application and any application for approval of reserved matters made in respect of an outline planning permission granted on such an application, made or sent to the local planning register authority and not finally disposed of—

(a)a copy (which may be photographic) of the application together with any accompanying plans and drawings;

(b)a copy (which may be photographic) of any planning obligation or section 278 agreement proposed or entered into in connection with the application;

(c)a copy (which may be photographic) of any other planning obligation or section 278 agreement entered into in respect of the land which is the subject of the application and which the applicant considers relevant; and

(d)particulars of any modification to any planning obligation or section 278 agreement included in Part I of the register in accordance with sub-paragraphs (b) and (c) above.;

(b)ar ôl paragraff (4)(e), rhowch—

(f)a copy (which may be photographic) of any planning obligation or section 278 agreement entered into in connection with any decision of the local planning authority or the Secretary of State in respect of the application;

(g)a copy (which may be photographic) of any other planning obligation or section 278 agreement taken into account by the local planning authority or the Secretary of State when making the decision; and

(h)particulars of any modification to or discharge of any planning obligation or section 278 agreement included in Part II of the register in accordance with sub-paragraphs (f) and (g) above and paragraph (5) below.; ac

(c)ym mharagraff (5), ar ôl “effect of the Secretary of State’s decision”, rhowch—

  • together with a copy (which may be photographic) of—

    (a)

    any planning obligation or section 278 agreement entered into in connection with the decision; and

    (b)

    any other planning obligation or section 278 agreement taken into account by the National Assembly for Wales when making the decision..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mai 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, erthyglau 1, 22, 23 a 25 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (“Gorchymyn 1995”).

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn i erthygl 22 o Orchymyn 1995 (hysbysiad ysgrifenedig i'w roi gan yr awdurdod cynllunio lleol pan wneir penderfyniad neu ddyfarniad sy'n ymwneud â chais cynllunio) yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod cynllunio lleol roi gwybodaeth ychwanegol sy'n ymwneud â pholisïau a chynigion yn y cynllun datblygu sy'n berthnasol i'r penderfyniad (erthygl 3).

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn i erthygl 23 o Orchymyn 1995 (gweithdrefn cychwyn apêl) yn rhoi disgresiwn datganedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drin hysbysiad apêl fel pe bai heb gael ei roi o fewn y terfyn amser perthnasol os na ddarperir y dogfennau y mae angen eu cyflwyno ar y cyd â'r ffurflen angenrheidiol o fewn y terfyn amser hwnnw (erthygl 4).

Mae angen y prif newidiadau i erthygl 25 o Orchymyn 1995 (cofrestr o geisiadau) er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cynllunio lleol gynnwys yn y gofrestr o geisiadau, yn ogystal â'r manylion a gofnodwyd eisoes yn y gofrestr, yr wybodaeth a nodir yn erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn, sef:

(a)yn Rhan I, manylion unrhyw rwymedigaeth gynllunio, cytundeb adran 278 sydd wedi ei wneud neu wedi ei gynnig mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl ac unrhyw rwymedigaeth gynllunio berthnasol neu gytundeb adran 278 arall mewn cysylltiad â'r tir sy'n destun y cais; a

(b)yn Rhan II, manylion unrhyw rwymedigaeth a chytundeb adran 278 a wneir mewn cysylltiad â phenderfyniad cynllunio gan awdurdod cynllunio lleol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 arall a gymerwyd i ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad ynghyd â manylion am unrhyw addasu neu ryddhau unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 o'r fath.

Mae'r materion canlynol i'w nodi ynglŷn â'r diwygiadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer Lloegr—

  • Mewnosodwyd y diffiniadau o “planning obligation” a “section 278 agreement” yn erthygl 1 o Orchymyn 1995 mewn perthynas â Lloegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Lloegr) 2002 (O.S. 2002/828).

  • Mewnosodwyd erthygl 22(1) newydd ar gyfer Lloegr yng Ngorchymyn 1995 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Lloegr) (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/2047). Er hynny, mae erthygl 22(1) o Orchymyn 1995 yn parhau mewn grym ar ei ffurf wreiddiol mewn perthynas â Chymru ac mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Gorchymyn hwn yn cael effaith felly mewn perthynas â'r erthygl 22(1) wreiddiol o Orchymyn 1995.

  • Mae'r paragraff (4) newydd sydd wedi'i mewnosod yn erthygl 23 o Orchymyn 1995 yr un fath â'r paragraff (4) a fewnosodwyd ar gyfer Lloegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Lloegr) (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/1627).

  • Mae'r diwygiadau a wnaed gan erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn yr un fath â'r rhai a wnaed ar gyfer Lloegr gan O.S. 2002/828, ond nid ydynt yn cynnwys y diwygiadau pellach a wnaed ar gyfer Lloegr gan Orchymyn Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Lloegr) 2003 (O.S. 2003/956).

(1)

1990 p.8: y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, ac maent yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy. 5), ac Atodlen 3 iddo.

(3)

O.S. 1995/419, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(4)

Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34).

(5)

1980 p.66; amnewidiwyd yr adran hon gan adran 23 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill