- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
65.—(1) Caniateir i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Asiantaeth neu swyddog gorfodi gael ei gyflwyno i berson drwy—
(a)ei ddanfon i'r person hwnnw;
(b)ei adael ym mhriod gyfeiriad y person hwnnw; neu
(c)ei bostio i briod gyfeiriad y person hwnnw.
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd i'w gyflwyno i gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforaethol ac eithrio partneriaeth gael ei gyflwyno'n briodol i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw neu i swyddog tebyg arall.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd i'w gyflwyno i bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) gael ei gyflwyno'n briodol i bartner neu berson a chanddo rheolaeth ar y busnes partneriaeth.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad hysbys diwethaf y person fydd priod gyfeiriad unrhyw berson y mae hysbysiad i'w gyflwyno iddo, ac eithrio'r ffaith mai'r canlynol fydd y priod gyfeiriad—
(a)yn achos corff corfforaethol neu ei ysgrifennydd neu ei glerc, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y corff corfforaethol;
(b)yn achos cymdeithas anghorfforaethol (ac eithrio partneriaeth) neu ei hysgrifennydd neu ei chlerc, cyfeiriad prif swyddfa'r gymdeithas; ac
(c)yn achos partneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) neu berson a chanddo reolaeth ar y busnes partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth.
(5) Pan fo'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yn gwmni sydd wedi'i gofrestru, neu'n bartneriaeth sy'n cynnal busnes, y tu allan i'r Deyrnas Unedig, a bod gan y cwmni neu'r bartneriaeth swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig, prif swyddfa'r cwmni hwnnw neu'r bartneriaeth honno at ddibenion paragraff 4 fydd ei brif swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig.
(6) Os yw'r person y mae unrhyw hysbysiad o'r fath i'w gyflwyno iddo wedi rhoi i'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno drwyddo gyfeiriad yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, ymdrinnir â'r cyfeiriad hwnnw fel priod gyfeiriad y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo at ddibenion y rheoliad hwn.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “postio” hysbysiad yw ei anfon drwy ddull rhagdaledig drwy wasanaeth post sy'n ceisio danfon dogfennau drwy'r post o fewn y Deyrnas Unedig heb fod yn ddiweddarach na'r diwrnod gwaith nesaf ym mhob achos neu ran amlaf, a danfon dogfennau drwy'r post y tu allan i'r Deyrnas Unedig o fewn y cyfnod sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: