Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Brigiadau clefyd mewn trydydd gwledydd

59.—(1Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall fod clefyd y cyfeirir ato yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 82/894/EEC ar hysbysu o glefydau anifeiliaid o fewn y Gymuned(1), milhaint neu glefyd arall neu ffenomen neu amgylchiad sy'n debyg o fod yn fygythiad difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd yn bresennol mewn unrhyw drydedd wlad, neu pan fydd ganddo neu ganddi seiliau rhesymol dros amau ei fod yn bresennol, caiff atal unrhyw gynnyrch o'r cyfan neu o unrhyw ran o'r drydedd wlad honno rhag cael ei gyflwyno i Gymru, neu caiff osod amodau ar ei gyflwyno, drwy ddatganiad ysgrifenedig.

(2Rhaid i ddatganiad o'r fath fod mewn ysgrifen a rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn y modd y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn dda a rhaid iddo bennu'r cynhyrchion a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.

(3Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.

(4Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

(5Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni sydd wedi'i phennu yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

(6Caniateir i ddatganiad gael ei addasu, ei atal neu ei ddirymu drwy ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, i'r graddau y mae'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.

(1)

OJ Rhif L378, 31.12.82, t.58, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 807/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.36).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill