- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
51.—(1) Ni chaiff neb symud cynnyrch a ddychwelwyd o fan archwilio ar y ffin, na pheri iddo gael ei symud, heb awdurdodiad ysgrifenedig y milfeddyg swyddogol yno.
(2) Ni chaiff neb symud cynnyrch a ddychwelwyd o fan archwilio ar y ffin oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n rhydd rhag gollyngiadau neu gyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan swyddog i'r Comisiynwyr neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin.
(3) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch a ddychwelwyd ac a symudwyd yn unol â pharagraffau (1) a (2), ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau —
(a)ei fod yn cael ei gludo'n uniongyrchol i'w sefydliad tarddiad Cymunedol yn y cynhwysydd seliedig sy'n rhydd rhag gollyngiadau neu'r cyfrwng cludo y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2); a
(b)bod y dystysgrif cliriad milfeddygol a ddyroddwyd mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd yn mynd gydag ef nes i'r cynnyrch a ddychwelwyd gyrraedd ei sefydliad tarddiad Cymunedol.
(4) Ni chaiff neb dorri'r seliau ar y cynhwysydd na'r cyfrwng cludo y mae'r cynnyrch a ddychwelwyd yn cael ei gludo ynddo, na dadlwytho'r cynnyrch a ddychwelwyd, na hollti'r llwyth na'r rhan o'r llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch a ddychwelwyd, na pheri i'r cynnyrch a ddychwelwyd gael ei drafod mewn unrhyw ffordd, nes iddo gyrraedd ei sefydliad tarddiad Cymunedol.
(5) Rhaid i weithredydd y sefydliad tarddiad Cymunedol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith fod y cynnyrch a ddychwelwyd wedi cyrraedd yno i'r milfeddyg sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth ar gyfer y sefydliad hwnnw.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: