Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 12Tramgwyddau a Chostau

Rhwystro

60.—(1Ni chaiff neb—

(a)rhwystro unrhyw berson yn fwriadol wrth iddo arfer pŵ er a roddwyd gan reoliad 9 neu 10 neu wrth iddo gyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall;

(b)methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd arno yn unol â rheoliad 8 neu 9, neu fethu â rhoi i unrhyw berson, sy'n arfer pŵ er a roddwyd gan y rheoliadau hynny neu sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall, unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall fod arno angen rhesymol amdano er mwyn arfer y pŵ er neu gyflawni'r swyddogaeth; neu

(c)rhoi i unrhyw berson sy'n arfer pŵ er a roddwyd gan reoliad 8 neu 9 neu sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall unrhyw wybodaeth y mae'n gwybod ei fod yn ffug neu'n gamarweiniol.

(2Ni fydd paragraff (1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu taflu bai ar y person hwnnw.

Amddiffyniad diwydrwydd dyladwy

61.—(1Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dorri un o ddarpariaethau'r rheoliadau a restrir yn Atodlen 5, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson o dan ei reolaeth.

(2Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu fethiant person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni chaiff y person a gyhuddir, heb ganiatâd y Llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y person a gyhuddir—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)os yw'r person a gyhuddir wedi ymddangos, neu wedi'i ddwyn, o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis ar ôl iddo ymddangos felly am y tro cyntaf,

wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig yn rhoi unrhyw wybodaeth sy'n dangos, neu sy'n helpu i ddangos, pwy yw'r person arall hwnnw, a honno'n wybodaeth a oedd yn ei feddiant ar y pryd.

Toriadau

62.  Bydd unrhyw berson—

(a)sy'n torri un o ddarpariaethau'r Rholiadau hyn, ac eithrio —

(i)y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn rheoliadau 8(2) a 19(3) ac sy'n cyfeirio at dalu costau; a

(ii)y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn rheoliadau 23(7), 28, 43(5), 45(2) a 55; neu

(b)sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd iddo o dan y Rheoliadau hyn,

yn euog o dramgwydd.

Cosbau

63.—(1Bydd unrhyw berson sy'n euog o'r tramgwydd o dorri rheoliad 60(1)(a) neu (b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu gyfnod yn y carchar heb fod yn fwy na thri mis, neu'r ddau.

(2Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis neu'r ddau;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod heb fod yn fwy na dwy flynedd neu'r ddau.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

64.—(1Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a'i bod wedi'i phrofi bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu oddefiad swyddog corfforaethol i'r corff corfforaethol, neu fod y tramgwydd hwnnw yn dramgwydd y gellid ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran un o swyddogion corfforaethol y corff corfforaethol, bydd y swyddog corfforaethol yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “swyddog corfforaethol” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill