- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
52.—(1) Codir ffi resymol a gaiff ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 53 a 54 ac Atodlen 4 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth wrth fan archwilio ar y ffin.
(2) Bydd y ffi yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, p'un bynnag sy'n gyfrifol, yn unol â rheoliadau 4 a 5, am weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn wrth y man archwilio ar y ffin lle cyflawnwyd y gwiriadau milfeddygol.
53. Rhaid i'r ffi am wiriadau milfeddygol gwmpasu'r costau a restrir yn Rhan I o Atodlen 4 a rhaid ei chyfrifo yn unol â Rhan II, III, IV neu V o Atodlen 4.
54. Caiff ffioedd a fynegir mewn ewros yn Atodlen 4 eu trosi i bunnoedd sterling yn ôl y gyfradd drosi sy'n cael chyhoeddi yng nghyfres “C” o Gylchgrawn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ym Medi'r flwyddyn galendr cyn y flwyddyn y cyflawnwyd y gwiriad milfeddygol perthnasol ynddi.
55. Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth dalu'r ffi a godwyd am y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth.
56.—(1) Os gofynnir mewn ysgrifen iddynt wneud hynny, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth ddarparu i unrhyw berson sy'n rhoi cynhyrchion yn unol â rheoliad 18, neu i unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, fanylion y cyfrifiadau y mae'n eu defnyddio i benderfynu ffioedd am wiriadau milfeddygol a rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau y gyflwynwyd gan berson neu gorff o'r fath wrth benderfynu ffioedd o'r fath.
(2) Os gofynnir mewn ysgrifen iddo wneud hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, rhaid i awdurdod lleol ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth unrhyw wybodaeth y mae arno neu arni ei hangen ynglŷn â chyfrifo ffioedd am wiriadau milfeddygol, a chopïau o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan bersonau neu gyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1).
57.—(1) Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i awdurdod lleol ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, o fewn un niwrnod ar hugain o godi'r ffi, apelio mewn ysgrifen ar y sail bod swm y ffi yn afresymol —
(a)i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'r ffi yn un am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd heblaw mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth; a
(b)i'r Asiantaeth, os yw'r ffi yn un am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth.
(2) Pan fo apêl o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth ymgynghori â'r awdurdod lleol ac, os caiff ei fodloni neu ei bodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid iddo neu iddi hysbysu'r awdurdod lleol, a rhaid i'r awdurdod lleol ailgyfrifo swm y ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth ac ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.
58.—(1) Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, cyn pen un niwrnod ar hugain ar ôl i'r ffi gael ei chodi, roi hysbysiad ysgrifenedig o'i ddymuniad i apelio i berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu pan fo'r ffi wedi'i thalu i'r Asiantaeth, i berson annibynnol a benodwyd gan yr Asiantaeth ar y sail bod swm y ffi yn afresymol.
(2) Os cafodd y ffi ei thalu i'r Asiantaeth, cyflawnir swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mharagraffau (3) i (4) gan yr Asiantaeth.
(3) Pan fydd apelydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd i'r perwyl a chael gwrandawiad ganddo—
(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol i wrando sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno sylwadau i'r person annibynnol hwnnw;
(b)rhaid i'r person a benodir felly beidio â bod yn swyddog nac yn was i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac eithrio gyda chydsyniad yr apelydd;
(c)os bydd yr apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn gyhoeddus;
(ch)rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
(d)os bydd yr apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi copi i'r apelydd o adroddiad y person annibynnol.
(4) Os caiff y person annibynnol ei fodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailgyfrifo'r ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y person annibynnol ac ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: