Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1387 (Cy.136)), Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/3230 (Cy.307)), a Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/976 (Cy.135)), ac yn gwneud nifer o ddiwygiadau pellach.

Mae'r prif ddiwygiadau fel a ganlyn—

  • gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC sy'n nodi'r rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth fannau archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (OJ Rhif L121, 8.5.2002, t.6) (y diffiniad o 'product' yn rheoliad 2(1));

  • y gofyniad bod cynhyrchion y gwrthodwyd iddynt ddod i mewn i'r Gymuned (ac nad ydynt wedi'u hailanfon) yn cael eu gwaredu yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1) (fel y'i diwygiwyd) sydd wedi diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/667/EEC (OJ Rhif L363, 27.12.1990, t.51) (rheoliadau 21, 22, 24, 25, 26 a 43);

  • y gofyniad bod cyflenwadau arlwyo na ddefnyddiwyd mohonynt o gyfryngau cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol yn cael eu gwaredu'n unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 (rheoliad 29);

  • pan fydd cyflenwadau arlwyo o'r fath na ddefnyddiwyd mohonynt yn cael eu gwaredu drwy eu claddu ar safle tirlenwi, y gofyniad mai dim ond ar safle tirlenwi a gymeradwywyd yn unol â rheoliad 30 y dylid eu gwaredu;

  • cynnwys Rhan 5 newydd sy'n nodi (1) y mecanwaith ar gyfer cymeradwyo safleoedd tirlenwi sy'n cael cyflenwadau arlwyo na ddefnyddiwyd mohonynt, (2) y rhwymedigaethau ar weithredwyr safleoedd tirlenwi a gymeradwywyd, (3) y weithdrefn ar gyfer diwygio, atal a dirymu cymeradwyaethau o'r fath, a (4) y weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn diwygiad neu ataliad;

  • diwygio'r weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn ffioedd milfeddygol a dalwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd (rheoliad 58), sef y weithdrefn sy'n ei gwneud yn ofynnol ymhlith pethau eraill fod rhaid i'r person annibynnol beidio â bod yn swyddog nac yn was i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth (oni bai bod yr apelydd yn cydsynio â hynny), a bod rhaid i'r gwrandawiad, os yw'r apelydd yn gofyn am hynny, fod yn gyhoeddus a bod rhaid darparu copi o adroddiad y person annibynnol i'r apelydd; a

  • diwygio Atodlen 2.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu ar gyfer Cymru Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ Rhif L24, 30.1.98, t.9). Mae'r Gyfarwyddeb yn gymwys i gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid — cig, pysgod (gan gynnwys cregynbysgod), llaeth, a chynhyrchion sydd wedi'u gwneud o'r rhain, ynghyd â chynhyrchion ŵ y a nifer mawr o sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys casinau, crwyn, esgyrn a gwaed — o drydydd gwledydd.

Mae'r cynhyrchion y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt wedi'u diffinio yn rheoliad 2(1) ac mae'r gofynion y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â hwy wedi'u rhestru, drwy gyfeirio at y ddeddfwriaeth Gymunedol berthnasol, yn Atodlen 2. Mae samplau masnachol a chynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu harddangos neu eu hastudio neu eu dadansoddi yn esempt rhag y Rheoliadau (rheoliad 3(1)). Mae cynhyrchion sydd wedi'u bwriadu at ddefnydd personol ac sy'n cydymffurfio â'r amodau yn rheoliad 3(3), yn esempt rhag pob un ond ychydig o'r Rheoliadau.

Mae rheoliadau 4 ac 16 yn diffinio'r awdurdodau sy'n gorfodi'r Rheoliadau. Wrth fannau archwilio ar y ffin, awdurdodau iechyd porthladd sy'n penodi milfeddygon swyddogol ac archwilwyr pysgod swyddogol i gynnal gwiriadau milfeddygol wrth bob man archwilio ar y ffin yn eu hardal, fydd y rhain (rheoliad 6). Mae rheoliadau 7, 8 a 9 yn rhoi'r pwerau gorfodi angenrheidiol. Mae'r Comisiynwyr Tollau Tramor a Chartref yn gorfodi rheoliad 16 wrth bwyntiau mynediad eraill.

Mae Rhan 3 yn sefydlu'r system archwilio a fydd yn gymwys i'r mwyafrif o gynhyrchion. Gwaherddir cyflwyno i Gymru gynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion Atodlen 2, oni bai eu bod yn cael eu cludo ar draws Gymru (rheoliad 15). Rhaid cyflwyno cynhyrchion wrth fannau archwilio ar y ffin, rhaid hysbysu ymlaen llaw y byddant yn cael eu cyflwyno, a rhaid trefnu iddynt fod ar gael i'w harchwilio, ynghyd â'r dogfennau gofynnol, wrth fan archwilio ar y ffin (rheoliadau 16 i 19). Mae rheoliadau 21 i 28 yn ymdrin â chynhyrchion sy'n cael eu gwrthod yn ystod archwiliad, sy'n cael eu cyflwyno'n anghyfreithlon, neu sy'n peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd.

Mae Rhannau 4 i 9 yn gosod darpariaethau arbennig sy'n gymwys i gategorïau cynnyrch penodol (cyflenwadau arlwyo ar y cyfrwng cludo, cynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer cylchrediad rhydd yn y Gymuned, cynhyrchion sydd ar eu taith ar draws Cymru, cynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu rhoi mewn warws o dan gyfundrefnau tollau penodol, a chynhyrchion sydd wedi'u hallforio o'r Gymuned ac sydd wedi'u dychwelyd wedyn iddi).

Mae Rhan 10 yn ymdrin â chyfrifo a thalu ffioedd am y gwiriadau milfeddygol y darparwyd ar eu cyfer yn y Rheoliadau; mae Rhan 11 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd wahardd cynhyrchion rhag cael eu cyflwyno i Gymru o wledydd nad ydynt yn wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ac sy'n wledydd lle mae clefyd anifeiliaid wedi brigo; mae Rhan 12 yn sefydlu tramgwyddau a chostau; ac mae Rhan 13 yn ymdrin â chyflwyno hysbysiadau a hysbysu o benderfyniadau.

Mae arfarniad rheoliadol mewn perthynas â Rhan 5 (Claddu Cyflenwadau Arlwyo na Ddefnyddiwyd Mohonynt sydd ar y Cyfrwng Cludo ar Safleoedd Tirlenwi) wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Fel arall nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill