Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben

1.  Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003; mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn dod i rym ar 4 Mawrth 2003 a bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Awst 2003.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;

mae i “ardal i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 4(3)(c);

ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle sef—

(a)

gwerthiant,

(b)

sioe neu arddangosfa,

(c)

llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen i'w cigydda o fewn Prydain Fawr, neu

(ch)

llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr i'w pesgi neu i'w gorffen,

ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw'r anifeiliaid hynny dros dro;

mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys llociau a chlwydi; ac

ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 (1) sydd o'r cryfder sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol”.

Eithriadau

3.  Nid yw darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys os—

(a)yr un person sy'n berchen ar yr holl anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid ac os yr un ceidwad sydd ganddynt, a

(b)bod yr anifeiliaid i'w crynhoi ar safle y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arno neu y mae'n ei feddiannu.

Defnyddio safle ar gyfer crynoadau anifeiliaid

4.—(1Mae gwaharddiad ar ddefnyddio safle gan unrhyw berson ar gyfer crynhoi anifeiliaid arno onid yw'r safle hwnnw wedi'i drwyddedu at y diben hwnnw gan arolygydd milfeddygol.

(2Rhaid i drwydded o dan yr erthygl hon—

(a)bod yn ysgrifenedig,

(b)bod yn un y gellir ei diwygio, ei hatal dros dro, neu ei dirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan arolygydd milfeddygol, a

(c)bod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol fod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r safle trwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y safle trwyddedig neu'r tu allan iddo.

(3Rhaid i drwydded bennu—

(a)enw'r trwyddedai,

(b)y safle lle y caniateir crynhoi anifeiliaid, ac

(c)yr ardal y caniateir i'r anifeiliaid fynd arni (“yr ardal i anifeiliaid”).

Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar grynhoi anifeiliaid mewn un lle

5.  Mae gwaharddiad ar bob crynhoad anifeiliaid ar safle lle y cafodd anifeiliaid eu cadw a hynny hyd nes bydd 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y diwrnod—

(a)y gadawodd yr anifail olaf y safle hwnnw, a

(b)ar ôl i'r anifail olaf adael y safle, pan fydd yr holl gyfarpar a ddefnyddiwyd gan yr anifeiliaid wedi ei lanhau fel nad oes unrhyw arwydd weledol ei fod wedi'i halogi.

Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gyfer safle ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu

6.—(1Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 5 yn gymwys os—

(a)oes ar y safle ardal i anifeiliaid ac iddi arwyneb o sement, concrid, asffalt neu ddeunydd caled anhydrin arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol, a

(b)os yw'r ardal i anifeiliaid wedi'i glanhau a'i diheintio, a bod unrhyw ddeunydd gwastraff ar yr ardal i'r anifeiliaid wedi cael ei symud a'i waredu, yn unol â'r erthygl hon.

(2O ran y gwaith glanhau a diheintio—

(a)rhaid peidio â chychwyn arno hyd nes bydd yr holl anifeiliaid wedi'u symud o'r rhan o'r ardal i anifeiliaid a lanheir ac a ddiheintir, a

(b)rhaid ei orffen ar ôl i'r anifail olaf adael y safle trwyddedig.

(3Rhaid gwaredu o'r ardal i anifeiliaid yr holl borthiant y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef, pob sarn (llaesodr), yr holl garthion, pob deunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid a'r holl halogion eraill —

(a)a'u distrywio,

(b)eu trin fel nad oes perygl o drosglwyddo clefyd, neu

(c)eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt.

(4Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

(5Yn dilyn y tro olaf y cafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, os bydd yn cael ei baeddu â charthion anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid, yna mae'n rhaid glanhau a diheintio'r ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi'u baeddu yn y modd hwn, a rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd gwastraff, yn unol â'r erthygl hon, cyn crynhoi anifeiliaid yno.

Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid

7.  Pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle (ac eithrio at ddiben sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion mewn cysylltiad â chrynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.

Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid

8.—(1Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys unwaith y bydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y safle trwyddedig.

(2Ni chaiff unrhyw berson ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y safle trwyddedig hyd nes bydd pob cyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef wedi'i lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi.

(3Ni chaiff unrhyw berson symud o'r safle trwyddedig unrhyw gyfarpar y daeth anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef—

(a)oni chaiff y cyfarpar ei lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi a bod cyfnod o 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers i'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid adael y safle trwyddedig, neu

(b)oni chafodd y cyfarpar ei ysgubo a'i grafu'n lân, ei lanhau drwy olchi a'i ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925

9.  Nid yw Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (2) yn gymwys tra bod y Gorchymyn hwn mewn grym.

Gorfodi

10.  Caiff y Gorchymyn hwn ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Dirymu

11.  Dirymir y canlynol—

(a)Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(3);

(b)Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002(4);

(c)Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002(5));

(ch)Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003(6).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

D.Elis-Thomas

Y Llywydd

3 Mawrth 2003

Whitty

Is-ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

3 Mawrth 2003

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill