- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'i wneud
14 Hydref 2003
Yn dod i rym
17 Hydref 2003
Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw mewnforio Coed Anis penodol a draddodir o wledydd nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd yn golygu bellach bod risg o niwed i iechyd ar fin digwydd;
Yn awr, gan hynny, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru, ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003 a daw i rym ar 17 Hydref 2003 a bydd yn gymwys i Gymru'n unig.
2. Caiff Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2002(2) ei ddirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Hydref 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/402) (Cy. 50) (“Gorchymyn 2002”), a oedd yn gwahardd mewnforio Coed Anis a Choed Anis Siapaneaidd i Gymru os o wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd yr oeddent yn cael eu hanfon onid oedd amodau arbennig yn cael eu bodloni. Rhoddodd Gorchymyn 2002 ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2002/75/EC sy'n pennu amodau arbennig ar fewnforio Coed Anis o drydydd gwledydd (OJ Rhif L33, 2.2.2002, t.31). Diddymwyd y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/602/EC (OJ Rhif L204, 13.8.2003, t.60).
1990 p.16; mae swyddogaethau o dan Ddeddf 1990 sy'n ymwneud â gorchmynion rheolaeth frys bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae paragraffau 11 a 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 yn diwygio adrannau 13 a 48 o Ddeddf 1990 yn y drefn honno
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys