Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 4(1)(c)

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.

2.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.

3.  Nifer, cymwysterau a phrofiad perthnasol y staff sy'n gweithio yn y cartref gofal.

4.  Strwythur trefniadol y cartref gofal.

5.  Ystod oedran a rhyw y defnyddwyr gwasanaeth y bwriedir darparu llety ar eu cyfer.

6.  Ystod yr anghenion y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.

7.  A gaiff gwasanaeth nyrsio ei ddarparu.

8.  Unrhyw feini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau (os oes rhai) y cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys.

9.  Y trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth ymgymryd â gweithgareddau cymdeithasol, hobïau a diddordebau hamdden.

10.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch gweithredu'r cartref gofal.

11.  Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref gofal.

12.  Y trefniadau a wneir i'r defnyddwyr gwasanaeth fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis.

13.  Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng y defnyddwyr gwasanaeth a'u perthnasau, eu cyfeillion a'u cynrychiolwyr.

14.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.

15.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).

16.  Nifer a maint yr ystafelloedd yn y cartref gofal.

17.  Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.

18.  Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas defnyddwyr gwasanaeth.

19.  Y trefniadau a wneir i ryddhau ymrwymiad person cofrestredig o dan reoliad 12 (4)(b).

20.  Manylion—

(a)polisi'r cartref gofal ar reoli ymddygiad a defnyddio dulliau o atal;

(b)y dulliau rheoli a all gael eu defnyddio yn y cartref (os o gwbl) a'r amgylchiadau y defnyddir hwy ynddynt a chan bwy y defnyddir hwy.

Rheoliadau 7, 9, 19

ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I FOD AR GAEL MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SYDD AM REDEG NEU REOLI CARTREFI GOFAL NEU WEITHIO YNDDO

1.  Prawf cadarnhaol o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(1)), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997(2), tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi,

gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(3).

3.  Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diweddaraf, os oes un.

4.  Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol resymol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.

7.  Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol—

(a)y cafwyd y person yn euog ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(4) ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (fel y diwygir y Gorchymyn hwnnw o dro i dro) (5); neu

(b)y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd y person wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.

Rheoliad 17(1)(a)

ATODLEN 3Y COFNODION SYDD I'W CADW MEWN CARTREF GOFAL MEWN PERTHYNAS Å PHOB DEFNYDDIWR GWASANAETH

1.  Y dogfennau canlynol mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth—

(a)yr asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 14(1);

(b)y cynllun defnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).

2.  Ffotograff diweddar o'r defnyddiwr gwasanaeth.

3.  Cofnod o'r materion canlynol mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth—

(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a statws priodasol pob defnyddiwr gwasanaeth;

(b)enw, cyfeiriad a rhif ffôn perthynas agosaf y defnyddiwr gwasanaeth neu enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran;

(c)enw, cyfeiriad a rhif ffôn ymarferydd cyffredinol y defnyddiwr gwasanaeth ac enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw swyddog i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol sydd o dan ddyletswydd i oruchwylio lles y defnyddiwr gwasanaeth;

(ch)y dyddiad y daeth y defnyddiwr gwasanaeth i'r cartref gofal;

(d)y dyddiad yr ymadawodd y defnyddiwr gwasanaeth â'r cartref gofal a'r lle yr aeth iddo;

(dd)os bu farw'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, dyddiad, amser ac achos y farwolaeth;

(e)enw a chyfeiriad unrhyw awdurdod, mudiad neu gorff arall a drefnodd i'r defnyddiwr gwasanaeth gael ei dderbyn i'r cartref gofal;

(f)cofnod o'r holl feddyginiaethau a gedwir yn y cartref gofal ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth, a dyddiad eu rhoi i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(ff)cofnod o unrhyw ddamwain sy'n effeithio ar y defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal ac o unrhyw ddigwyddiad arall yn y cartref gofal sy'n andwyol i iechyd neu les y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys natur, dyddiad ac amser y ddamwain neu'r digwyddiad, a oedd angen triniaeth feddygol ac enw'r personau a oedd â gofal y cartref gofal ac yn goruchwylio'r defnyddiwr gwasanaeth yn eu tro;

(g)cofnod o unrhyw wasanaeth nyrsio a ddarparwyd ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys cofnod o'i anhwylder ac unrhyw driniaeth neu ymyriad llawfeddygol;

(ng)manylion unrhyw anghenion arbennig o ran cyfathrebu sydd gan y defnyddiwr gwasanaeth a'r dulliau cyfathrebu a all fod yn briodol i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(h)manylion unrhyw gynllun sy'n ymwneud â'r defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â meddyginiaeth, nyrsio, gofal iechyd arbenigol neu faethiad;

(i)cofnod o fynychder briwiau pwysedd ac o'r driniaeth ganlynol a roddir i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(j)cofnod o godymau ac o'r driniaeth ganlynol a roddir i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(l)cofnod o unrhyw ataliadau corfforol a ddefnyddir ar y defnyddiwr gwasanaeth;

(ll)cofnod o unrhyw gyfyngiadau y cytunwyd arnynt gyda'r defnyddiwr gwasanaeth ynghylch rhyddid y defnyddiwr gwasanaeth i ddewis, rhyddid i symud a phŵ er i wneud penderfyniadau.

4.  Copïau o ohebiaeth y cartref gofal sy'n ymwneud â phob defnyddiwr gwasanaeth.

Rheoliad 17(2)

ATODLEN 4COFNODION ERAILL SYDD I'W CADW MEWN CARTREF GOFAL

1.  Copi o'r datganiad o ddiben.

2.  Copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth.

3.  Cofnod o'r holl gyfrifon a gedwir yn y cartref gofal.

4.  Copi o bob adroddiad arolygu.

5.  Copi o unrhyw adroddiad a wneir o dan reoliad 27(4)(c).

6.  Cofnod o'r holl bersonau a gyflogir yn y cartref gofal, a fydd yn cynnwys y materion canlynol mewn perthynas â phob unigolyn a ddaw o dan reoliad 19(1)—

(a)ei enw llawn, ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni, ei gymwysterau a'i brofiad;

(b)copi o'i dystysgrif eni a'i basport (os oes un);

(c)copi o bob tystlythyr a gafwyd mewn perthynas ag ef;

(ch)y dyddiadau y mae'n dechrau cael ei gyflogi ac yn gorffen cael ei gyflogi;

(d)y swydd sydd ganddo yn y cartref gofal, y gwaith y mae'n ei gyflawni a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos;

(dd)gohebiaeth, adroddiadau, cofnodion camau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.

7.  Copi o roster dyletswyddau'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal, a chofnod i ddweud a gafodd y roster ei weithio mewn gwirionedd.

8.  Cofnod o'r ffioedd a godir gan y cartref gofal ar y defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n daladwy am wasanaethau ychwanegol nad yw'r ffioedd hynny'n talu amdanynt, a'r symiau a dalwyd gan pob defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef.

9.  Cofnod o'r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a adneuwyd gan ddefnyddiwr gwasanaeth i gael eu cadw'n ddiogel neu a dderbyniwyd ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo—

(a)datgan dyddiad adneuo neu dderbyn yr arian neu'r pethau gwerthfawr, dyddiad dychwelyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr i ddefnyddiwr gwasanaeth neu eu defnyddio, ar gais y defnyddiwr gwasanaeth, ar ei ran ac, os yw'n gymwys, at ba ddiben y cafodd yr arian neu'r pethau gwerthfawr eu defnyddio; a

(b)cynnwys cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu'r pethau gwerthfawr wedi'u dychwelyd.

10.  Cofnod o bob dodrefnyn y daeth y defnyddiwr gwasanaeth ag ef i'r ystafell y mae'n lletya ynddi.

11.  Cofnod o bob cwyn a wneir gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu gynrychiolwyr neu berthnasau i'r defnyddwyr gwasanaeth neu gan bersonau sy'n gweithio yn y cartref gofal ynghylch gweithredu'r cartref gofal, a'r camau a gymerwyd gan y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw gŵ yn o'r fath.

12.  Cofnod o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol sy'n digwydd yn y cartref gofal—

(a)unrhyw ddamwain;

(b)unrhyw ddigwyddiad sy'n andwyol i iechyd neu les defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys brigiad clefyd heintus yn y cartref gofal;

(c)unrhyw anaf neu salwch;

(ch)unrhyw dân;

(d)ac eithrio pan wneir cofnod o dan baragraff 14, unrhyw achlysur pan weithredir y larwm tân;

(dd)unrhyw ladrad neu fwrgleriaeth.

13.  Cofnodion o'r bwyd a ddarparwyd ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, yn ddigon manwl i alluogi unrhyw berson sy'n archwilio'r cofnod i ganfod a yw'r ddeiet yn foddhaol, mewn perthynas â maethiad ac fel arall, ac unrhyw ddeiet arbennig sydd wedi'i pharatoi ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth unigol.

14.  Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf offer tân (gan gynnwys offer larymau tân) a gynhelir yn y cartref gofal ac unrhyw gamau a gymerir i gywiro diffygion yn yr offer tân.

15.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, neu os rhoddir larwm tân.

16.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd damweiniau neu os aiff defnyddiwr gwasanaeth ar goll.

17.  Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref gofal, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr.

Rheoliadau 4 a 30

ATODLEN 5GWYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN PAN FYDD PLANT YN CAEL EU LLETYA

1.  Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, y tu mewn a'r tu allan i'r cartref, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

2.  Y manylion canlynol—

(a)eu hystod oedran, eu rhyw a nifer y plant y bwriedir rhoi llety iddynt;

(b)a oes bwriad i letya plant anabl, a oes ganddynt anghenion arbennig neu unrhyw nodweddion arbennig eraill;

(c)ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.

3.  Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref gofal yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).

4.  Os yw'r cartref gofal yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref gofal o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref gofal, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yno, ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n codi yn sgil maint y cartref.

5.  Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref a'r sail damcaniaethol neu therapiwtig i'r gofal a ddarperir.

6.  Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.

7.  Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.

8.  Y trefniadau ar gyfer annog plant i gymryd rhan mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.

9.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ynghylch ei weithredu.

10.  Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.

11.  Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref gofal nad yw wedi'i awdurdodi.

12.  Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig a wnaed ar gyfer plant yn y cartref.

13.  Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.

14.  Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.

15.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.

16.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynlluniau lleoliadau.

17.  Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y mae plant i rannu ystafelloedd gwely.

18.  Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.

19.  Manylion polisi'r cartref gofal ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu mewn perthynas â phlant a hawliau plant.

Rheoliadau 25 a 36(a)

ATODLEN 6MATERION SYDD I'W MONITRO MEWN CARTREF GOFAL Y MAE PLANT YN CAEL EU LLETYA YNDDO

1.  Cydymffurfedd ag unrhyw gynllun ar gyfer gofal y plentyn a baratowyd gan yr awdurdod lleoli a chynllun lleoliad pob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal.

2.  Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a drosglwyddyd er mwyn eu cadw'n ddiogel.

3.  Bwydlenni dyddiol.

4.  Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan y plant sy'n cael eu lletya yno.

5.  Unrhyw salwch y mae'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn ei gael.

6.  Cwynion mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal a'u canlyniadau.

7.  Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.

8.  Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref gofal.

9.  Ymwelwyr â'r cartref gofal ac â'r plant yn y cartref gofal.

10.  Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5 i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002.

11.  Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gofal gan blentyn sy'n cael ei letya yno.

12.  Defnyddio unrhyw fesurau disgyblu mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.

13.  Defnyddio ataliadau corfforol mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.

(1)

Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.

(2)

Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw o fath sydd wedi'i bennu mewn rheoliadau ac yn golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.

(3)

Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.

(5)

O.S. 1975/1023. Ar y dyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym, mae'r offerynnau canlynol yn gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; O.S. 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill