- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
29 Tachwedd 2001
Yn dod i rym
18 Rhagfyr 2001
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17(1), 45 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1) sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno ag unrhyw gyrff y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli buddianau y mae'r Rheoliadau hyn yn debygol o effeithio'n sylweddol arnynt; ac (i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gosod taliadau mewn perthynas â monitro gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(3)), gan ei fod wedi'i ddynodi(4)) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(5) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau Canlynol:
1. Bydd y Rheoliadau hyn, y gellir cyfeirio atynt fel Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001, yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 18 Rhagfyr 2001.
2.—(1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) 1998(6)) yn cael eu diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn.
(2) Yn y diffiniad o “occupier” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) mae'r geiriau “, cold store or a re-packaging centre,” yn cael eu gosod yn lle'r geiriau “or a cold store,”.
(3) Yn y diffiniad o “premises” ym mharagraff (1) o reoliad 2, mae'r geiriau “, cold store or re-packaging centre” yn cael eu gosod yn lle'r geiriau “or cold store”.
(4) Yn y tabl ym mharagraff (2) o reoliad 2, mae'r geiriau “re-packaging centre” yn cael eu mewnosod o dan y geiriau “cold store” ym mhob un o golofnau (1) a (2).
(5) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (taliadau) mae'r geiriau “slaughterhouse, cutting premises, cold store and repackaging centre” yn cael eu gosod yn lle'r geiriau “slaughterhouse, cutting premises and cold store”.
(6) Mae'r rheoliad canlynol yn cael ei fewnosod rhwng rheoliad (3) a rheoliad (4) (gwybodaeth)—
3A. Where the Food Standards Agency has had judgment entered against an occupier for any sum which is recoverable by the Food Standards Agency as a debt from that occupier under regulation 3(4) above and the occupier fails within a reasonable time thereafter to satisfy the judgment the Food Standards Agency may (regardless of any other legal remedy open to it) refuse to carry out any further inspections at the premises in respect of which the debt accrued until the judgment has been satisfied.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).
D. Elis-Thomas
Llywydd y CynulliadCenedlaethol
29 Tachwedd 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) 1998 (OS 1998/2095) fel y maent yn gymwys i Gymru. Gweithredodd y Rheoliadau hynny, ym Mhrydain Fawr, y darpariaethau ynghylch taliadau archwiliadau cig a geir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC, y ceir testun diwygiedig a chyfnerthedig ohoni yn atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC (OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1).
2. Effaith y diwygiadau yw caniatáu i daliadau gael eu gwneud am gynnal archwiliadau iechyd mewn canolfannau ail-becynnu (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 (OS 1995/539, fel y'u diwygiwyd)).
3. Mae'r diwygiadau hefyd yn caniatáu i'r Asiantaeth Safonau Bwyd dynnu gwasanaethau archwilio yn ôl os yw meddiannydd safle trwyddedig yn methu â chydymffurfio â gorchymyn llys sy'n ei gwneud yn ofynnol i daliadau archwilio cael eu talu y mae'r meddiannydd yn gorfod eu talu o dan OS 1998/2095.
4. Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Y Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street Cardiff CF10 1EW.
1990 .16. Cafodd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo I Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1998/2095, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/224; mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud hefyd gan O.S. 2000/656.
O.S. 1998/2095, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/224; mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud hefyd gan O.S. 2000/656.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys