Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diddymu'r rhan honno o Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 (OS 2001/2732, Cy.231), a oedd yn honni gwneud diwygiadau i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964), ond a oedd yn cynnwys gwallau drafftio. Yr oedd y diwygiadau a wnaed i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965, fel y'u diwygiwyd eisoes) gan Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 wedi'u gwneud yn ddilys ac nid ydynt yn cael eu diddymu gan y Rheoliadau hyn.

Diwygiadau i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964, fel y'i diwygiwyd eisoes) i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru. Mae Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (“y prif Orchymyn”) yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.

3.  Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i'r prif Orchymyn yn adlewyrchu darpariaethau Atodiad (XI) i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar rai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1). Gosododd yr Atodiad hwnnw fesurau trosiannol mewn perthynas â thynnu deunydd risg penodedig ac fe'i mewnosodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 gan Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1326/2001 (OJ Rhif L177, 30.6.2001, t.60).

4.  Yn erthygl 2 o'r prif Orchymyn, mae diffiniad o “vertebral column” yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd paragraff 1 a pharagraff 5 newydd yn cael ei ychwanegu (rheoliad 3(2) a (3)).

5.  Mae erthygl 3 o'r prif Orchymyn (sy'n diffinio “specified sheep and goat material”) yn cael ei diwygio i hepgor o'r diffiniad ddeunydd sy'n deillio o ddefaid a geifr a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd (rheoliad 3(4) a (5)).

6.  Mae erthygl 4 o'r prif Orchymyn (sy'n diffinio “specified bovine material”) yn cael ei ddiwygio'n sylweddol fel bod, yn benodol, deunydd sy'n deillio o anifeiliaid buchol a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd bellach y tu allan i gwmpas y diffiniad (rheoliad 3(6) i (8));

7.  Mae erthygl 6 o'r prif Orchymyn (sy'n rheoli mewnforio deunydd risg penodedig) yn cael ei diwygio i osod gofynion newydd ynghylch mewnforio carcasau anifeiliaid buchol sy'n cynnwys esgyrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig, ac mae ffurf newydd ar dystysgrif fewnforio yn cael ei rhoi yn lle'r hen un yn Atodlen 2 (rheoliad 3(9) a (10)).

Diwygiadau i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997

8.  Mae mân ddiwygiadau yn cael eu gwneud i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965, fel y'u diwygiwyd eisoes) i newid cyfeiriadau anghywir at “the Minister” i “the National Assembly for Wales”.

9.  Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p. 38) ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Wood Street Caerdydd, CF10 1EW.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill