- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diddymu'r rhan honno o Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 (OS 2001/2732, Cy.231), a oedd yn honni gwneud diwygiadau i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964), ond a oedd yn cynnwys gwallau drafftio. Yr oedd y diwygiadau a wnaed i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965, fel y'u diwygiwyd eisoes) gan Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 wedi'u gwneud yn ddilys ac nid ydynt yn cael eu diddymu gan y Rheoliadau hyn.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964, fel y'i diwygiwyd eisoes) i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru. Mae Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (“y prif Orchymyn”) yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.
3. Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i'r prif Orchymyn yn adlewyrchu darpariaethau Atodiad (XI) i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar rai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1). Gosododd yr Atodiad hwnnw fesurau trosiannol mewn perthynas â thynnu deunydd risg penodedig ac fe'i mewnosodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 gan Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1326/2001 (OJ Rhif L177, 30.6.2001, t.60).
4. Yn erthygl 2 o'r prif Orchymyn, mae diffiniad o “vertebral column” yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd paragraff 1 a pharagraff 5 newydd yn cael ei ychwanegu (rheoliad 3(2) a (3)).
5. Mae erthygl 3 o'r prif Orchymyn (sy'n diffinio “specified sheep and goat material”) yn cael ei diwygio i hepgor o'r diffiniad ddeunydd sy'n deillio o ddefaid a geifr a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd (rheoliad 3(4) a (5)).
6. Mae erthygl 4 o'r prif Orchymyn (sy'n diffinio “specified bovine material”) yn cael ei ddiwygio'n sylweddol fel bod, yn benodol, deunydd sy'n deillio o anifeiliaid buchol a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd bellach y tu allan i gwmpas y diffiniad (rheoliad 3(6) i (8));
7. Mae erthygl 6 o'r prif Orchymyn (sy'n rheoli mewnforio deunydd risg penodedig) yn cael ei diwygio i osod gofynion newydd ynghylch mewnforio carcasau anifeiliaid buchol sy'n cynnwys esgyrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig, ac mae ffurf newydd ar dystysgrif fewnforio yn cael ei rhoi yn lle'r hen un yn Atodlen 2 (rheoliad 3(9) a (10)).
8. Mae mân ddiwygiadau yn cael eu gwneud i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965, fel y'u diwygiwyd eisoes) i newid cyfeiriadau anghywir at “the Minister” i “the National Assembly for Wales”.
9. Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p. 38) ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Wood Street Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: