Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Protein Anifeiliaid wedi'i Brosesu (Cymru) 2001

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

rheoliadau 4(2)(a) a 5

ATODLEN 1Yr amodau ar gyfer cludo blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr

1.  Rhaid i flawd pysgod sy'n cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall neu o drydedd wlad i'w ddefnyddio i weithgynhyrchu bwyd i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr gael ei gludo'n uniongyrchol o'r safle archwilio ar y ffin i'r sefydliad sy'n gweithgynhyrchu'r bwyd anifeiliaid drwy gyfrwng cerbyd nad yw'n cael ei ddefnyddio i gludo deunyddiau bwyd eraill ar yr un pryd.

2.  Os oes cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i gludo blawd pysgod sy'n cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth eraill neu o drydedd wlad i'w ddefnyddio i weithgynhyrchu bwyd i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr yn cael ei ddefnyddio wedyn i gludo cynhyrchion eraill, rhaid ei lanhau'n drwyadl a'i archwilio cyn cludo'r blawd pysgod ac ar ôl hynny.

3.  Rhaid i flawd pysgod i'w ddefnyddio wrth weithgynhyrchu bwyd i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr gael ei gludo'n uniongyrchol o'r safle lle mae'r blawd pysgod yn cael ei gynhyrchu i'r safle sy'n gweithgynhyrchu'r bwyd anifeiliaid drwy gyfrwng cerbyd nad yw'n cael ei ddefnyddio ar yr un pryd i gludo deunyddiau bwyd eraill.

4.  Os oes cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i gludo blawd pysgod i'w ddefnyddio i weithgynhyrchu bwyd i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr yn cael ei ddefnyddio wedyn i gludo cynhyrchion eraill, rhaid ei lanhau'n drwyadl a'i archwilio cyn cludo'r blawd pysgod ac ar ôl hynny.

5.  Dim ond os gwneir hynny mewn safleoedd storio neilltuedig y caniateir storio blawd pysgod yn y cyfamser.

rheoliad 6

ATODLEN 2Yr amodau ar gyfer cynhyrchu dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir

1.  Rhaid i dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir gael ei gynhyrchu o esgyrn sydd wedi'u diseimio.

2.  Rhaid i'r dicalcium phosphate ddeillio o esgyrn o anifeiliaid sy'n ffit i bobl eu bwyta a hynny yn sgîl archwiliad ante mortem ac archwiliad post mortem.

3.  Rhaid i'r dicalcium phosphate gael ei gynhyrchu drwy broses sy'n sicrhau y caiff holl ddeunydd yr esgyrn ei falu'n fân a'i ddiseimio â dwr poeth a'i drin â hydrochloric acid gwanhaëdig (sef crynodiad o 4% o leiaf a pH<1.5) dros gyfnod o ddau ddiwrnod o leiaf gan drin y toddiant ffosfforig a geir drwy wneud hyn â chalch, sy'n arwain at waddod o dicalcium phosphate gyda pH 4 i 7, sy'n derfynol yn cael ei sychu ag aer wedyn gyda thymheredd wrth y fewnfan o 65°C — 325°C a thymheredd yn y pen draw rhwng 30°C—65°C neu drwy gyfrwng proses gynhyrchu gyfatebol a gymeradwyir yn unol â'r weithdrefn yn erthygl 17 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/662/EEC(1) ynghylch gwiriadau milfeddygol yn y fasnach o fewn y Gymuned gyda golwg ar gwblhau'r farchnad fewnol.

rheoliad 7

ATODLEN 3Yr amodau ar gyfer cynhyrchu protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir

1.  Rhaid i brotein wedi'i hydroleiddio o grwyn —

(a)tarddu o grwyn a gafwyd oddi ar anifeiliaid sydd wedi'u cigydda mewn lladd-dy ac y cafwyd bod eu carcasau'n ffit i bobl eu fwyta ar ôl archwiliad ante mortem ac archwiliad post mortem; a

(b)cael ei gynhyrchu drwy gyfrwng proses gynhyrchu sy'n cynnwys mesurau priodol i gadw halogiad y crwyn i'r lleiaf posibl, gan baratoi'r deunydd crai drwy ei halltu, ei galchu, a'i olchi'n drwyadl ac wedyn datguddio'r deunydd i pH o >11 am > 3 awr ar dymheredd >80°C ac wedyn ei drin â gwres ar >140°C am 30 munud ar >3.6 bar; neu drwy gyfrwng proses gynhyrchu gyfatebol a gymeradwyir yn unol â'r weithdrefn yn erthygl 17 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/662/EEC ynghylch gwiriadau milfeddygol yn y fasnach o fewn y Gymuned gyda golwg ar gwblhau'r farchnad fewnol.

2.  Rhaid i'r protein wedi'i hydroleiddio o bysgod, plu a chrwyn gael ei samplu ar ôl ei brosesu a chael bod ei bwysau molecylaidd o dan 10000 Dalton.

(1)

OJ Rhif L395, 30.12.1989, t.13, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 1992/118/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.1993, t.49).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill