Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Protein Anifeiliaid wedi'i Brosesu (Cymru) 2001

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Bwydo protein anifeiliaid wedi'i brosesu i anifeiliaid a ffermir

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ni chaiff neb fwydo unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu i anifail a ffermir.

(2Ni fydd y gwaharddiad ym mharagraff (1) uchod yn gymwys i'r canlynol —

(a)bwydo blawd pysgod i anifeiliaid a ffermir, heblaw cilgnowyr, —

(i)os yw'r blawd pysgod hwnnw wedi'i gynhyrchu yng Nghymru ar safle sydd wedi'i gymeradwyo ac yn cael ei ddefnyddio fel y'i crybwyllir yn rheoliad 5 isod;

(ii)os yw'r blawd pysgod hwnnw wedi'i gynhyrchu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys y rhan honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno;

(iii)os yw'r blawd pysgod hwnnw wedi'i gynhyrchu mewn Aelod-wladwriaeth arall ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno; neu

(iv)os yw'r blawd pysgod hwnnw wedi'i gynhyrchu mewn trydedd wlad a'i fod, cyn ei werthu neu ei gyflenwi yng Nghymru, wedi'i ddadansoddi yn unol â Chyfarwyddeb y Comisiwn 98/88/EC(1) ac yn cael ei gludo yn uniongyrchol o'r man archwilio ar y ffin yn unol â'r amodau a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1 heb gael ei storio yn y cyfamser heblaw yn unol ag amodau paragraff 5 o Atodlen 1;

(b)bwydo gelatin sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi'r cil ar gyfer caenu ychwanegion o fewn ystyr Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC(2) ynghylch ychwanegion mewn porthiant i anifeiliaid a ffermir;

(c)bwydo dicalcium phosphate i anifeiliaid a ffermir —

(i)os yw'r dicalcium phosphate hwnnw wedi'i gynhyrchu yng Nghymru ar safle sydd wedi'i gymeradwyo ac yn cael ei ddefnyddio fel y'i crybwyllir yn rheoliad 6 isod;

(ii)os yw'r dicalcium phosphate hwnnw wedi'i gynhyrchu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys y rhan honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno; neu

(iii)os yw'r dicalcium phosphate hwnnw wedi'i gynhyrchu mewn Aelod-wladwriaeth arall ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno;

(ch)bwydo proteinau wedi'u hydroleiddio i anifeiliaid a ffermir —

(i)os yw'r proteinau wedi'u hydroleiddio wedi'u cynhyrchu yng Nghymru ar safle sydd wedi'i gymeradwyo ac yn cael ei ddefnyddio fel y'i crybwyllir yn rheoliad 7 isod;

(ii)os yw'r proteinau wedi'u hydroleiddio wedi'u cynhyrchu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys y rhan honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno; neu

(iii)os yw'r proteinau wedi'u hydroleiddio wedi'u cynhyrchu mewn Aelod-wladwriaeth arall ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno; neu

(d)bwydo llaeth a chynhrychion llaeth i anifeiliaid a ffermir.

(1)

OJ Rhif L318, 27.11.1988, t.45.

(2)

OJ Rhif L270, 14.12.1970, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 1999/70/EC (OJ Rhif L80, 25.3.1999, t.20).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill